Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD SAITH

Gobaith Sicr ar Gyfer Eich Anwyliaid Sydd Wedi Marw

Gobaith Sicr ar Gyfer Eich Anwyliaid Sydd Wedi Marw
  • Sut rydyn ni’n gwybod y bydd yr atgyfodiad yn sicr o ddigwydd?

  • Sut mae Jehofa yn teimlo ynglŷn ag atgyfodi’r meirw?

  • Pwy fydd yn cael ei atgyfodi?

1-3. Pa elyn sydd yn dynn ar sodlau pob un ohonon ni, a pham y bydd ystyried dysgeidiaeth y Beibl yn dod â rhyddhad inni?

DYCHMYGWCH eich bod chi’n ffoi rhag gelyn milain. Mae’n llawer cryfach a chyflymach na chi. Fe wyddoch ei fod yn greulon oherwydd ei fod eisoes wedi lladd rhai o’ch ffrindiau. Waeth pa mor gyflym yr ydych chi’n rhedeg, mae’n dod yn nes ac yn nes. Mae’r sefyllfa’n edrych yn anobeithiol. Yn fwyaf sydyn, mae rhywun yn ymddangos wrth eich ochr i’ch achub. Mae ef yn gryfach o lawer na’r gelyn, ac mae’n addo eich helpu chi. Dyna ichi ryddhad!

2 Ar un ystyr, dyna’n union sy’n digwydd. Mae pob un ohonon ni’n cael ein hymlid gan elyn. Fel rydyn ni wedi dysgu yn y bennod flaenorol, mae’r Beibl yn dweud mai gelyn yw marwolaeth. Does neb yn gallu dianc o afael marwolaeth na’i threchu. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni wedi colli anwyliaid i’r gelyn hwn. Ond, mae Jehofa yn llawer iawn mwy grymus na marwolaeth. Ef yw’r Achubwr cariadus sydd eisoes wedi dangos ei fod yn gallu trechu’r gelyn hwn. Ac mae’n addo difa’r gelyn hwn, marwolaeth, unwaith ac am byth. Mae’r Beibl yn dysgu: “Y gelyn olaf a ddilëir yw angau.” (1 Corinthiaid 15:26) Dyna ichi newyddion da!

3 Gadewch inni gael cipolwg ar sut mae’r gelyn, marwolaeth, yn effeithio arnon ni. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddeall rhywbeth a fydd yn gwneud inni deimlo’n hapus. Mae Jehofa yn addo y bydd y meirw yn byw eto. (Eseia 26:19) Bydd Jehofa yn dod â nhw yn eu hôl yn fyw. Dyna obaith yr atgyfodiad.

PAN FO UN O’N HANWYLIAID YN MARW

4. (a) Pam mae ymateb Iesu i brofedigaeth yn dangos teimladau Jehofa inni? (b) Pwy ddaeth yn ffrindiau agos i Iesu?

4 Efallai eich bod chi wedi cael profedigaeth. Gall y boen, y galar, a’r teimlad na allwch chi wneud dim byd yn ei gylch fynd yn drech na chi. Ar adegau fel hyn, mae angen troi at Air Duw am gysur. (Darllenwch 2 Corinthiaid 1:3, 4.) Mae’r Beibl yn ein helpu ni i ddeall sut mae Jehofa a Iesu yn teimlo am farwolaeth. Roedd Iesu bob amser yn adlewyrchu ei Dad yn berffaith ac roedd yn gwybod i’r dim beth oedd poen profedigaeth. (Ioan 14:9) Pan oedd Iesu yn mynd i Jerwsalem, roedd yn ymweld â Lasarus a’i chwiorydd, Mair a Martha, a oedd yn byw yn y dref gyfagos, Bethania. Daethon nhw’n ffrindiau agos. Mae’r Beibl yn dweud: “Yr oedd Iesu’n caru Martha a’i chwaer a Lasarus.” (Ioan 11:5) Fel y gwelon ni yn y bennod flaenorol, bu farw Lasarus.

5, 6. (a) Beth oedd ymateb Iesu pan welodd ffrindiau a theulu Lasarus yn galaru? (b) Pam mae galar Iesu o gysur mawr inni?

5 Sut roedd Iesu yn teimlo ar ôl iddo golli ei ffrind? Mae’r hanes yn dweud i Iesu fynd i weld teulu a ffrindiau Lasarus a oedd yn galaru. O’u gweld nhw yn eu galar, roedd Iesu dan deimlad mawr. Yn ôl yr hanes: “Cynhyrfwyd ysbryd Iesu gan deimlad dwys.” Mae’n mynd ymlaen i ddweud: “Torrodd Iesu i wylo.” (Ioan 11:33, 35) A oedd galar Iesu yn golygu nad oedd ganddo obaith? Dim o gwbl. Yn wir, roedd Iesu yn gwybod bod rhywbeth gwefreiddiol ar fin digwydd. (Ioan 11:3, 4) Ond eto, roedd Iesu’n teimlo’r poen a’r galar sy’n dod yn sgil marwolaeth.

6 Ar un ystyr, mae galar Iesu o gysur inni. Mae’n dweud wrthon ni fod Iesu a’i Dad, Jehofa, yn casáu marwolaeth. Ond mae Jehofa Dduw yn medru trechu’r gelyn hwnnw! Gadewch inni weld beth wnaeth Iesu yn nerth Duw.

“LASARUS, TYRD ALLAN!”

7, 8. Pam efallai roedd sefyllfa Lasarus yn ymddangos mor anobeithiol i’r rhai oedd yn gwylio, ond beth wnaeth Iesu?

7 Roedd Lasarus wedi ei gladdu mewn ogof, a gofynnodd Iesu iddyn nhw symud y maen oedd ar draws ceg yr ogof. Protestiodd Martha oherwydd, ar ôl pedwar diwrnod, byddai corff Lasarus wedi dechrau pydru. (Ioan 11:39) O’r safbwynt dynol, doedd yna ddim gobaith.

Roedd llawenydd mawr o achos atgyfodiad Lasarus.—⁠Ioan 11:38-44

8 Symudwyd y maen, a gwaeddodd Iesu â llais uchel: “Lasarus, tyrd allan.” Beth ddigwyddodd? “Daeth y dyn a fu farw allan.” (Ioan 11:43, 44) Allwch chi ddychmygu llawenydd y bobl? Roedd teulu, ffrindiau a chymdogion Lasarus i gyd yn gwybod ei fod wedi marw. Ond, dyma’r dyn ei hun, eu ffrind annwyl, yn sefyll eto yn eu plith. Anodd credu bod rhywbeth o’r fath yn gallu digwydd. Yn eu llawenydd, mae’n sicr y byddai llawer wedi taflu eu breichiau amdano. Dyna fuddugoliaeth dros farwolaeth!

Atgyfododd Elias fab gwraig weddw.—⁠1 Brenhinoedd 17:17-24

9, 10. (a) Beth wnaeth Iesu i ddangos Ffynhonnell y grym i atgyfodi Lasarus? (b) Sut gallwn ni elwa ar ddarllen hanesion yr atgyfodiadau yn y Beibl?

9 Doedd Iesu ddim yn honni ei fod wedi gwneud y wyrth ryfeddol hon yn ei nerth ei hun. Yn ei weddi, cyn iddo alw ar Lasarus, dangosodd Iesu yn glir mai Jehofa oedd yn gyfrifol am yr atgyfodiad. (Darllenwch Ioan 11:41, 42.) Nid dyna oedd yr unig achlysur i Jehofa ddefnyddio ei rym yn y modd hwn. Mae atgyfodiad Lasarus yn un o blith naw gwyrth o’r fath sydd wedi eu cofnodi yng Ngair Duw. * Profiad hyfryd yw darllen ac astudio’r hanesion hyn. Maen nhw’n profi nad yw Duw yn dangos ffafriaeth, oherwydd roedd hen ac ifanc, dynion a merched, Israeliaid a phobl o genhedloedd eraill ymhlith y rhai a gafodd eu hatgyfodi. Ac am lawenydd sydd yn yr hanesion hyn! Er enghraifft, pan atgyfododd Iesu ferch ifanc, dyma ymateb ei rhieni: “A thrawyd hwy yn y fan â syndod mawr.” (Marc 5:42) Yn wir, roedd Jehofa wedi rhoi iddyn nhw reswm dros lawenhau na fydden nhw byth yn ei anghofio.

Atgyfododd yr apostol Pedr y wraig Gristnogol, Dorcas.—⁠Actau 9:36-42

10 Wrth gwrs, yn y pen draw, roedd rhaid i bob un yr oedd Iesu wedi ei atgyfodi farw unwaith eto. Ai dibwrpas felly oedd eu hatgyfodi nhw yn y lle cyntaf? Dim o gwbl. Mae’r hanesion hyn yn y Beibl yn cadarnhau gwirioneddau pwysig ac yn rhoi gobaith inni.

DYSGU ODDI WRTH HANESION YR ATGYFODIADAU

11. Sut mae hanes atgyfodiad Lasarus yn cadarnhau gwirionedd Pregethwr 9:5?

11 Yn ôl y Beibl, “nid yw’r meirw yn gwybod dim.” (Pregethwr 9:5) Dydyn nhw ddim yn fyw, a dydyn nhw ddim yn parhau i fod yn ymwybodol yn unman. Mae hanes Lasarus yn cadarnhau hyn. Ar ôl iddo gael ei atgyfodi, a oedd Lasarus yn difyrru pobl â disgrifiadau gwefreiddiol o fywyd yn y nef? A oedd ef yn codi ofn ar bobl drwy adrodd straeon arswydus am uffern danllyd? Nac oedd. Does dim cofnod yn y Beibl fod Lasarus wedi gwneud hyn. Roedd Lasarus wedi marw ers pedwar diwrnod ac yn ystod y cyfnod hwnnw nid oedd “yn gwybod dim.” Yn syml, roedd Lasarus wedi bod yn cysgu mewn marwolaeth.—⁠Ioan 11:11.

12. Pam gallwn ni fod yn sicr i Lasarus gael ei atgyfodi?

12 Mae hanes Lasarus hefyd yn ein dysgu ni mai ffaith yw’r atgyfodiad ac nid myth. Fe wnaeth Iesu atgyfodi Lasarus o flaen tyrfa o lygad-dystion. Doedd hyd yn oed yr arweinwyr crefyddol, a oedd yn casáu Iesu, ddim yn gwadu’r wyrth. Yn hytrach, dywedon nhw: “Beth yr ydym am ei wneud? Y mae’r dyn yma’n gwneud llawer o arwyddion.” (Ioan 11:47) Aeth llu o bobl i weld Lasarus ar ôl iddo gael ei atgyfodi. O ganlyniad, fe wnaeth llawer mwy roi eu ffydd yn Iesu. Yn Lasarus gwelon nhw dystiolaeth fyw fod Iesu wedi ei anfon gan Dduw. Roedd y dystiolaeth mor rymus nes y cynlluniodd rhai o arweinwyr crefyddol ystyfnig yr Iddewon i ladd Iesu a Lasarus ill dau.—⁠Ioan 11:53; 12:9-11.

13. Pa resymau sydd gennyn ni dros gredu y gall Jehofa atgyfodi’r meirw?

13 Ydy hi’n afresymol i dderbyn yr atgyfodiad fel ffaith? Nac ydy, gan fod Iesu wedi dweud y bydd “pawb sydd yn eu beddau” yn cael eu hatgyfodi. (Ioan 5:28) Jehofa yw Creawdwr popeth byw. Ydy hi’n anodd credu bod ganddo’r gallu i ail-greu bywyd? Wrth gwrs, byddai llawer yn dibynnu ar gof Jehofa. Oes ganddo’r gallu i gofio ein hanwyliaid marw? Mae sêr di-rif yn llenwi’r bydysawd, ond eto mae Duw yn gwybod enw pob un! (Eseia 40:26) Felly, gall Jehofa Dduw gofio pob manylyn am ein hanwyliaid, ac y mae’n barod i adfer eu bywydau.

14, 15. Fel y mae geiriau Job yn dangos, sut mae Jehofa yn teimlo am godi’r meirw yn fyw?

14 Ond sut mae Jehofa yn teimlo am atgyfodi’r meirw? Mae’r Beibl yn dysgu bod Jehofa yn dyheu am godi’r meirw yn fyw. Gofynnodd y dyn ffyddlon Job: “Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?” Siarad yr oedd Job am ddisgwyl yn y bedd nes i’r amser ddod i Dduw gofio amdano. Dywedodd wrth Jehofa: “Gelwit arnaf, ac atebwn innau; hiraethit am waith dy ddwylo.”—⁠Job 14:13-15.

15 Meddyliwch am hynny! Mae Jehofa yn dyheu am ddod â’r meirw yn ôl yn fyw. Mae gwybod bod Jehofa yn teimlo felly yn codi’r galon. Beth wyddon ni am yr atgyfodiad sydd eto i ddod? Pwy fydd yn cael ei atgyfodi, ac i le?

“PAWB SYDD YN EU BEDDAU”

16. Pa fath o fyd bydd y meirw yn cael eu hatgyfodi iddo?

16 Mae’r hanesion am yr atgyfodiad yn y Beibl yn taflu goleuni ar yr atgyfodiad sydd i ddod yn y dyfodol. Dod yn ôl i’w hanwyliaid yma ar y ddaear a wnaeth y rhai a gafodd eu hatgyfodi yn y gorffennol. Bydd yr atgyfodiad yn y dyfodol yn un tebyg—ond yn llawer gwell. Fel y dysgon ni ym Mhennod 3, pwrpas Duw yw i’r holl ddaear gael ei throi’n baradwys. Felly, fydd y meirw ddim yn dod yn ôl i fyd llawn rhyfel, trosedd, a salwch. Byddan nhw’n cael y cyfle i fyw am byth ar y ddaear hon mewn heddwch a hapusrwydd.

17. Pa mor bellgyrhaeddol fydd yr atgyfodiad?

17 Pwy fydd yn cael ei atgyfodi? Dywedodd Iesu y bydd “pawb sydd yn eu beddau yn clywed ei lais ef [Iesu] ac yn dod allan.” (Ioan 5:28, 29) Yn yr un modd, mae Datguddiad 20:13 yn dweud: “Ildiodd y môr y meirw oedd ynddo, ac ildiodd Marwolaeth a Hades y rhai oedd ynddynt hwy.” (Gweler yr erthygl “Beth Yw Sheol a Hades?” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.) Bydd Hades, sef y Bedd sy’n gyffredin i ddynolryw, yn cael ei wagio. Bydd y biliynau sy’n gorffwys yno yn cael byw eto. Dywedodd yr apostol Paul: “Bydd atgyfodiad i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.” (Actau 24:15) Beth mae hynny yn ei olygu?

Ym Mharadwys, bydd y meirw yn codi a dod yn ôl i’w hanwyliaid

18. Pwy sydd ymhlith “y cyfiawn” a fydd yn cael eu hatgyfodi, a sut gall y gobaith hwn effeithio arnoch chi’n bersonol?

18 Mae’r “cyfiawn” yn cynnwys llawer o bobl rydyn ni’n darllen amdanyn nhw yn y Beibl, pobl oedd yn byw cyn i Iesu ddod i’r ddaear. Gallwn ni feddwl am Noa, Abraham, Sara, Moses, Ruth, Esther, a llawer mwy. Mae Hebreaid pennod 11 yn trafod rhai o’r dynion a’r merched hyn oedd â ffydd yn Nuw. Ond, mae’r “cyfiawn” hefyd yn cynnwys gweision Jehofa sydd yn marw yn ein dyddiau ni. Oherwydd gobaith yr atgyfodiad, dydy marw ddim yn codi ofn arnon ni.—⁠Hebreaid 2:15.

19. Pwy yw’r “anghyfiawn,” a pha gyfle y mae Jehofa yn ei garedigrwydd yn ei roi iddyn nhw?

19 Beth am yr holl bobl nad oedden nhw’n gwasanaethu Duw nac yn ufuddhau iddo oherwydd doedden nhw ddim yn gwybod unrhyw beth amdano. Ni fydd y biliynau “anghyfiawn” hyn yn mynd yn angof. Nhw hefyd fydd yn cael eu hatgyfodi a chael yr amser i ddysgu am y gwir Dduw a’i wasanaethu. Dros gyfnod o fil o flynyddoedd, bydd y meirw yn cael eu hatgyfodi a byddant yn cael y cyfle i wasanaethu Jehofa ynghyd â bodau dynol ffyddlon eraill. Bydd hynny’n amser hyfryd. Dyma’r cyfnod y mae’r Beibl yn ei alw’n Ddydd y Farn. *

20. Beth yw Gehenna, a phwy sy’n mynd yno?

20 A yw hyn yn golygu y bydd atgyfodiad i bob un sydd erioed wedi byw ar y ddaear? Nac ydy. Mae’r Beibl yn dweud bod rhai o’r meirw yn “Gehenna.” (Luc 12:5, BC, 1908, troednodyn) “Gehenna” oedd yr enw ar domen ysbwriel y tu allan i Jerwsalem gynt. Yno, roedd cyrff y meirw ac ysbwriel yn cael eu llosgi. Roedd yr Iddewon yn credu nad oedd y meirw a gafodd eu taflu yno yn haeddu cael eu claddu na’u hatgyfodi. Felly mae Gehenna yn symbol priodol ar gyfer distryw tragwyddol. Er bod gan Iesu ran yn y gwaith o farnu’r byw a’r meirw, Jehofa yw’r Barnwr sydd â’r gair olaf. (Actau 10:42) Ni fydd byth yn atgyfodi’r rhai sydd yn ei farn Ef, yn ddrygionus ac yn anfodlon newid.

YR ATGYFODIAD I’R NEF

21, 22. (a) Pa fath arall o atgyfodiad sydd? (b) Pwy oedd yr un cyntaf i gael ei atgyfodi i fywyd fel ysbryd?

21 Mae’r Beibl hefyd yn cyfeirio at fath arall o atgyfodiad, un i fywyd fel ysbryd-greadur yn y nefoedd. Dim ond un esiampl o’r math hwn o atgyfodiad sydd wedi ei chofnodi yn y Beibl, a hynny yw atgyfodiad Iesu Grist.

22 Ar ôl i Iesu gael ei ladd fel dyn, wnaeth Jehofa ddim gadael i’w Fab ffyddlon aros yn y Bedd. (Salm 16:10; Actau 13:34, 35) Fe wnaeth Duw atgyfodi Iesu, ond nid fel dyn. Mae’r apostol Pedr yn esbonio bod Crist wedi “ei roi i farwolaeth o ran y cnawd,” ond “fe’i gwnaed yn fyw o ran yr ysbryd.” (1 Pedr 3:18) Dyna wyrth oedd hynny. Roedd Iesu’n fyw eto ond y tro hwn fel ysbryd grymus! (Darllenwch 1 Corinthiaid 15:3-6.) Iesu oedd yr un cyntaf erioed i gael y math hwn o atgyfodiad gogoneddus, ond nid ef fyddai’r olaf.—⁠Ioan 3:13.

23, 24. Pwy sy’n perthyn i “braidd bychan” Iesu, a faint ohonyn nhw fydd?

23 Gan wybod y byddai’n dychwelyd i’r nefoedd cyn bo hir, dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr ffyddlon ei fod yn “mynd i baratoi lle” iddyn nhw yno. (Ioan 14:2) Cyfeiriodd Iesu at y rhai sy’n mynd i’r nefoedd fel ei ‘braidd bychan.’ (Luc 12:32) Faint fydd yn perthyn i’r grŵp cymharol fychan hwn o Gristnogion ffyddlon? Yn ôl Datguddiad 14:1, mae’r apostol Ioan yn dweud: “Edrychais, ac wele’r Oen [Iesu Grist] yn sefyll ar Fynydd Seion, a chydag ef gant pedwar deg a phedair o filoedd, a’i enw ef ac enw ei Dad wedi eu hysgrifennu ar eu talcennau.”

24 Mae’r 144,000 o Gristnogion hyn, gan gynnwys apostolion ffyddlon Iesu, yn cael eu codi i fywyd yn y nefoedd. Pryd maen nhw’n cael eu hatgyfodi? Ysgrifennodd yr apostol Paul y byddai’n digwydd yn ystod presenoldeb Crist. (1 Corinthiaid 15:23, BC, 1908, troednodyn) Fel y byddwch chi’n dysgu ym Mhennod 9, rydyn ni’n byw nawr yn y cyfnod hwnnw. Felly, mae rhai olaf y 144,000 sy’n marw yn ein dyddiau ni, yn cael eu hatgyfodi ar unwaith i fywyd yn y nef. (1 Corinthiaid 15:51-55) Mae mwyafrif llethol y ddynoliaeth, serch hynny, yn mynd i gael eu hatgyfodi yn y dyfodol i fywyd ym Mharadwys ar y ddaear.

25. Beth bydd yn cael ei drafod yn y bennod nesaf?

25 Heb os nac oni bai, bydd Jehofa yn trechu’r gelyn marwolaeth, a hynny am byth! (Darllenwch Eseia 25:8.) Ond eto, gallwch ofyn, ‘Beth bydd y rhai sy’n cael eu hatgyfodi i’r nefoedd yn ei wneud yno?’ Byddan nhw’n rhan o lywodraeth odidog y Deyrnas yn y nef. Fe wnawn ni ddysgu mwy am y llywodraeth honno yn y bennod nesaf.

^ Par. 19 Am wybodaeth bellach ar Ddydd y Farn a sail y farn honno, gweler yr erthygl “Beth Yw Dydd y Farn?” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.