Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD WYTH

Beth Yw Teyrnas Dduw?

Beth Yw Teyrnas Dduw?
  • Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am Deyrnas Dduw?

  • Beth bydd Teyrnas Dduw yn ei wneud?

  • Pryd bydd y Deyrnas yn cyflawni ewyllys Duw ar y ddaear?

1. Pa weddi enwog byddwn ni yn ei hystyried nesaf?

MAE Gweddi’r Arglwydd, neu’r Pader, yn gyfarwydd i filiynau o bobl trwy’r byd i gyd. Mae’r enwau hyn yn cyfeirio at weddi enwog a roddwyd fel patrwm gan Iesu Grist ei hun. Mae’n weddi sy’n llawn ystyr, a bydd edrych ar y tri deisyfiad cyntaf yn eich helpu chi i ddysgu mwy am yr hyn mae’r Beibl yn ei wir ddysgu.

2. Ymhlith pethau eraill, pa dri pheth dysgodd Iesu i’w ddisgyblion weddïo amdanyn nhw?

2 Ar ddechrau ei weddi enghreifftiol, rhoddodd Iesu gyfarwyddyd i’w wrandawyr: “Felly, gweddïwch chwi fel hyn: ‘Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef.’” (Mathew 6:9-13) Beth yw arwyddocâd y tri deisyfiad hyn?

3. Beth sydd angen ei wybod am Deyrnas Dduw?

3 Rydyn ni eisoes wedi dysgu cryn dipyn am enw Duw, Jehofa. Ac i ryw raddau rydyn ni wedi trafod ewyllys Duw—yr hyn y mae wedi ei wneud a’r hyn y bydd yn ei wneud ar gyfer dynolryw. At beth, felly, roedd Iesu yn cyfeirio pan ddywedodd y dylen ni weddïo: “Deled dy deyrnas”? Beth yw Teyrnas Dduw? Sut bydd ei dyfodiad yn sancteiddio enw Duw? Beth a wnelo dyfodiad y Deyrnas â gwneud ewyllys Duw?

BETH YW TEYRNAS DDUW?

4. Beth yw Teyrnas Dduw, a phwy yw’r Brenin arni?

4 Llywodraeth yw Teyrnas Dduw, wedi ei sefydlu gan Jehofa ac mae ef hefyd wedi dewis Brenin arni. Pwy yw Brenin Teyrnas Dduw? Iesu Grist. Fel Brenin, mae Iesu yn fwy na phob brenin dynol arall. Ef yw “Brenin y brenhinoedd, Arglwydd yr arglwyddi.” (1 Timotheus 6:15) Mae ganddo’r gallu i wneud llawer mwy nag unrhyw reolwr dynol, hyd yn oed y rhai gorau.

5. O le mae Teyrnas Dduw yn rheoli, a beth mae’n rheoli drosto?

5 O le bydd Teyrnas Dduw yn rheoli? Wel, lle mae Iesu? Byddwch yn cofio iddo gael ei ladd ar bren artaith, ac yna yn cael ei atgyfodi. Yn fuan wedyn, esgynnodd i’r nef. (Actau 2:33) Felly, yn y nef mae Teyrnas Dduw. Dyna pam mae’r Beibl yn ei galw hi yn “deyrnas nefol.” (2 Timotheus 4:18) Er bod Teyrnas Dduw yn y nefoedd, bydd yn rheoli dros y ddaear.—⁠Darllenwch Datguddiad 11:15.

6, 7. Pam mae Iesu yn Frenin mor arbennig?

6 Pam mae Iesu yn Frenin mor arbennig? Yn un peth, ni fydd byth yn marw. Wrth gymharu Iesu â brenhinoedd dynol, mae’r Beibl yn dweud: “Ganddo ef yn unig y mae anfarwoldeb, ac mewn goleuni anhygyrch y mae’n preswylio.” (1 Timotheus 6:16) Golyga hyn y bydd yr holl ddaioni y mae Iesu yn ei wneud yn para. Ac fe fydd Iesu yn gwneud pethau mawr er lles ei bobl.

7 Ystyriwch y broffwydoliaeth hon am Iesu: “Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno, yn ysbryd doethineb a deall, yn ysbryd cyngor a grym, yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD; ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD. Nid wrth yr hyn a wêl y barna, ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna, ond fe farna’r tlawd yn gyfiawn a dyfarnu’n uniawn i rai anghenus y ddaear.” (Eseia 11:2-4) Mae’r geiriau hynny yn dangos y bydd Iesu yn Frenin cyfiawn a thrugarog ar bobl y ddaear. Hoffech chi gael Brenin fel hynny?

8. Pwy fydd yn rheoli gyda Iesu?

8 Dyma wirionedd arall am Deyrnas Dduw: ni fydd Iesu yn rheoli ar ei ben ei hun. Bydd ganddo gyd-reolwyr. Er enghraifft, dywedodd yr apostol Paul wrth Timotheus: “Os dyfalbarhawn, cawn deyrnasu hefyd gydag ef.” (2 Timotheus 2:12) Yn wir, bydd Paul, Timotheus, a rhai ffyddlon eraill sydd wedi eu dethol gan Dduw yn rheoli gyda Iesu yn y Deyrnas nefol. Faint o bobl fydd yn cael y cyfle unigryw hwnnw?

9. Faint o bobl fydd yn rheoli gyda Iesu, a phryd dechreuodd Duw eu dewis nhw?

9 Fel y gwelon ni ym Mhennod 7 o’r llyfr hwn, cafodd yr apostol Ioan weledigaeth ac ynddi fe welodd “Oen [Iesu Grist] yn sefyll ar Fynydd Seion [ei safle brenhinol yn y nef], a chydag ef gant pedwar deg a phedair o filoedd, a’i enw ef ac enw ei Dad wedi eu hysgrifennu ar eu talcennau.” Pwy yw’r 144,000 hyn? Mae Ioan yn ateb: “Dyma’r rhai sy’n dilyn yr Oen i ble bynnag yr â. Prynwyd hwy o blith y ddynoliaeth, yn flaenffrwyth i Dduw ac i’r Oen.” (Datguddiad 14:1, 4) Ie, dilynwyr ffyddlon Iesu Grist ydyn nhw, wedi eu dewis yn arbennig i reoli yn y nef gydag ef. Ar ôl cael eu hatgyfodi i fywyd yn y nef, byddan nhw’n teyrnasu dros y ddaear gyda Iesu. (Datguddiad 20:4, 6) Ers dyddiau’r apostolion, mae Duw wedi bod yn dewis Cristnogion ffyddlon er mwyn cwblhau’r rhif 144,000.

10. Pam mae dewis Iesu a’r 144,000 i reoli dros ddynolryw yn gariadus?

10 Peth cariadus yw trefnu bod Iesu a’r 144,000 yn rheoli dynolryw. Yn un peth, mae Iesu yn gwybod beth yw byw fel dyn a beth yw dioddef. Dywedodd Paul am Iesu: “Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â’n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd â ni, ac eto heb bechod.” (Hebreaid 4:15; 5:8) Mae ei gyd-reolwyr hefyd wedi dioddef fel bodau dynol. Yn ogystal, maen nhw wedi brwydro yn erbyn amherffeithrwydd ac wedi ymdopi â phob math o salwch. Yn sicr, byddan nhw’n deall y problemau sy’n wynebu bodau dynol.

BETH BYDD TEYRNAS DDUW YN EI WNEUD?

11. Pam dywedodd Iesu y dylai ei ddisgyblion weddïo am i ewyllys Duw gael ei gwneud yn y nef?

11 Pan ddywedodd Iesu y dylai ei ddisgyblion weddïo am ddyfodiad Teyrnas Dduw, dywedodd hefyd y dylen nhw weddïo am i ewyllys Duw gael ei gwneud “ar y ddaear fel yn y nef.” Yn y nef mae Duw, ac yno mae angylion ffyddlon wedi bod yn gwneud ewyllys Duw erioed. Ym Mhennod 3 o’r llyfr hwn, fodd bynnag, fe ddysgon ni fod angel drwg wedi peidio â gwneud ewyllys Duw gan achosi i Adda ac Efa bechu. Ym Mhennod 10, byddwn ni’n gweld beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am yr angel drwg hwnnw, sy’n cael ei alw’n Satan y Diafol. Roedd Satan a’r angylion drwg a ochrodd ag ef—y cythreuliaid—yn cael aros yn y nef am gyfnod. Felly, bryd hynny, doedd pawb yn y nefoedd ddim yn gwneud ewyllys Duw. Ond, byddai hyn yn newid wrth i Deyrnas Dduw ddechrau rheoli. Ar ôl iddo gael ei orseddu yn Frenin, byddai Iesu Grist yn rhyfela yn erbyn Satan.—⁠Darllenwch Datguddiad 12:7-9.

12. Pa ddau ddigwyddiad pwysig sy’n cael eu disgrifio yn Datguddiad 12:10?

12 Mae’r geiriau proffwydol hyn yn disgrifio beth fyddai’n digwydd: “Yna clywais lais uchel yn y nef yn dweud: ‘Hon yw awr gwaredigaeth a gallu a brenhiniaeth ein Duw ni, ac awdurdod ei Grist ef, oherwydd bwriwyd i lawr gyhuddwr ein cymrodyr [Satan], yr hwn sy’n eu cyhuddo gerbron ein Duw ddydd a nos.’” (Datguddiad 12:10) Wnaethoch chi sylwi ar ddau ddigwyddiad pwysig yn yr adnod honno? Yn gyntaf, mae Teyrnas Dduw o dan reolaeth Iesu Grist yn dechrau llywodraethu. Yn ail, mae Satan yn cael ei fwrw allan o’r nef i lawr i’r ddaear.

13. Beth sy wedi digwydd o ganlyniad i Satan gael ei fwrw allan o’r nef?

13 Beth fu canlyniad y ddau ddigwyddiad hyn? Ynghylch yr hyn ddigwyddodd yn y nef, darllenwn: “Am hynny, gorfoleddwch, chwi’r nefoedd, a chwi sy’n preswylio ynddynt!” (Datguddiad 12:12) Ar ôl cael gwared ar Satan a’i gythreuliaid, mae angylion ffyddlon yn y nef yn llawenhau oherwydd bod pawb yn y nef yn ffyddlon i Jehofa Dduw. Does dim byd yn tarfu ar yr heddwch a’r harmoni yno. Mae ewyllys Duw yn cael ei gwneud yn y nef.

Pan gafodd Satan a’i gythreuliaid eu bwrw allan o’r nef daeth gwae i’r ddaear. Daw’r helyntion hyn i ben yn fuan

14. Beth sydd wedi digwydd oherwydd bod Satan wedi ei fwrw i lawr i’r ddaear?

14 Ond, beth am y ddaear? Dywed y Beibl: “Gwae chwi’r ddaear a’r môr, oherwydd disgynnodd y diafol arnoch yn fawr ei lid, o wybod mai byr yw’r amser sydd ganddo!” (Datguddiad 12:12) Mae Satan yn gandryll am ei fod wedi ei fwrw allan o’r nef ac am fod yr amser sydd ganddo ar ôl yn fyr. Yn ei lid mae’n achosi gofid, neu ‘wae,’ ar y ddaear. Byddwn ni’n dysgu mwy am y “gwae” hwnnw yn y bennod nesaf. O gofio hynny, teg yw gofyn, Sut gall y Deyrnas achosi i ewyllys Duw gael ei gwneud ar y ddaear?

15. Beth yw ewyllys Duw ar gyfer y ddaear?

15 Wel, cofiwch beth yw ewyllys Duw ar gyfer y ddaear. Dysgon ni am hynny ym Mhennod 3. Yn Eden, dangosodd Duw mai ei ewyllys ar gyfer y ddaear hon yw ei throi’n baradwys yn llawn pobl gyfiawn sy’n byw am byth. Achosodd Satan i Adda ac Efa bechu ac fe wnaeth hynny effeithio ar y ffordd y byddai ewyllys Duw ar gyfer y ddaear yn cael ei chyflawni. Ond, ni chafodd ewyllys Duw ei newid. Bwriad Duw o hyd yw y bydd y “cyfiawn yn etifeddu’r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth.” (Salm 37:29) Bydd Teyrnas Dduw yn cyflawni hynny. Ym mha ffordd?

16, 17. Beth mae Daniel 2:44 yn ei ddweud am Deyrnas Dduw?

16 Ystyriwch y broffwydoliaeth yn Daniel 2:44. Yno, darllenwn: “Yn nyddiau’r brenhinoedd hynny bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth, brenhiniaeth na chaiff ei gadael i eraill. Bydd hon yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill, ond bydd hi ei hun yn para am byth.” Beth mae hyn yn ei ddweud am Deyrnas Dduw?

17 Yn gyntaf, mae’n dweud y byddai Teyrnas Dduw yn cael ei sefydlu “yn nyddiau’r brenhinoedd hynny,” neu tra oedd teyrnasoedd eraill yn dal i fodoli. Yn ail, mae’n dweud y bydd y Deyrnas yn para am byth. Chaiff hi byth ei gorchfygu na’i disodli gan ryw lywodraeth arall. Yn drydydd, bydd rhyfel rhwng Teyrnas Dduw a theyrnasoedd y byd hwn. Teyrnas Dduw fydd yn fuddugol. Yn y pen draw, hon fydd yr unig lywodraeth dros ddynolryw. Yna, bydd pobl yn elwa ar y llywodraeth orau erioed.

18. Beth yw’r enw ar y rhyfel terfynol rhwng llywodraethau dynol a Theyrnas Dduw?

18 Mae gan y Beibl lawer i’w ddweud am y rhyfel terfynol rhwng Teyrnas Dduw a llywodraethau’r byd hwn. Er enghraifft, mae’n dysgu y bydd ysbrydion drygionus yn lledaenu celwyddau wrth i’r diwedd nesáu a hynny er mwyn twyllo ‘brenhinoedd yr holl fyd.’ I ba ddiben? “I’w casglu [y brenhinoedd] ynghyd i ryfel ar ddydd mawr Duw, yr Hollalluog.” Caiff brenhinoedd y byd eu casglu ynghyd “i’r lle a elwir mewn Hebraeg, Armagedon.” (Datguddiad 16:14, 16) Mae’r ddwy adnod hyn yn dangos mai Armagedon yw’r enw ar y rhyfel terfynol rhwng llywodraethau dynol a Theyrnas Dduw.

19, 20. Beth sy’n rhwystro ewyllys Duw rhag cael ei gwneud ar hyn o bryd?

19 Beth bydd rhyfel Armagedon yn ei gyflawni ar ran Teyrnas Dduw? Meddyliwch eto am ewyllys Duw ar gyfer y ddaear. Bwriad Jehofa Dduw oedd cael hil ddynol gyfiawn a pherffaith yn ei wasanaethu ef ym Mharadwys ar y ddaear. Pam dydy hynny ddim yn digwydd nawr? Yn gyntaf, rydyn ni’n bechadurus, ac rydyn ni’n mynd yn sâl ac yn marw. Ond, fel y dysgon ni ym Mhennod 5, bu farw Iesu droston ni er mwyn inni gael byw am byth. Mae’n debyg y byddwch chi’n cofio geiriau Efengyl Ioan: “Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.”—⁠Ioan 3:16.

20 Problem arall yw bod pobl yn gwneud pethau drwg. Maen nhw’n dweud celwydd, yn twyllo, ac yn byw yn anfoesol. Dydyn nhw ddim eisiau gwneud ewyllys Duw. Caiff pobl sy’n gwneud pethau drwg eu difa yn ystod rhyfel Duw, Armagedon. (Darllenwch Salm 37:10.) Rheswm arall i ewyllys Duw beidio â chael ei gwneud ar y ddaear yw’r ffaith nad yw llywodraethau yn annog pobl i’w gwneud. Mae llawer o lywodraethau wedi bod yn wan, yn greulon, neu’n llwgr. Mae’r Beibl yn dweud yn blaen fod “dyn yn arglwyddiaethu ar ei gyd-ddyn i beri niwed iddo.”—⁠Pregethwr 8:9, BCN.

21. Sut bydd y Deyrnas yn peri i ewyllys Duw gael ei gwneud ar y ddaear?

21 Ar ôl Armagedon, dim ond un llywodraeth fydd, sef Teyrnas Dduw. Bydd y Deyrnas honno yn gwneud ewyllys Duw ac yn dod â bendithion hyfryd. Er enghraifft, bydd yn cael gwared ar Satan a’i gythreuliaid. (Datguddiad 20:1-3) Bydd grym aberth Iesu Grist yn cael ei weithredu fel na fydd bodau dynol ffyddlon bellach yn mynd yn sâl ac yn marw. Yn hytrach, dan reolaeth y Deyrnas, byddan nhw’n gallu byw am byth. (Darllenwch Datguddiad 22:1-3.) Caiff y ddaear ei throi’n baradwys. Yn y modd hwn, bydd y Deyrnas yn peri i ewyllys Duw gael ei gwneud ar y ddaear, ac yn sancteiddio enw Duw. Beth mae hyn yn ei olygu? Yn y pen draw, o dan Deyrnas Dduw, bydd pawb sy’n byw yn anrhydeddu enw Jehofa.

PRYD MAE TEYRNAS DDUW YN GWEITHREDU?

22. Sut rydyn ni’n gwybod na ddaeth Teyrnas Dduw pan oedd Iesu ar y ddaear, nac ychwaith yn syth ar ôl iddo gael ei atgyfodi?

22 Pan ddywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr am weddïo, “Deled dy deyrnas,” roedd yn amlwg nad oedd y Deyrnas wedi dod bryd hynny. Felly, a ddaeth y Deyrnas pan esgynnodd Iesu i’r nef? Naddo. Yn ôl Salm 110:1: “Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd: ‘Eistedd ar fy neheulaw, nes imi wneud dy elynion yn droedfainc i ti.’” Mae Pedr a Paul, ill dau, yn dweud bod y broffwydoliaeth hon wedi ei chyflawni yn Iesu ar ôl iddo gael ei atgyfodi. (Actau 2:32-35; Hebreaid 10:12, 13) Roedd yna gyfnod o aros.

Dan lywodraeth y Deyrnas, caiff ewyllys Duw ei gwneud ar y ddaear fel y mae yn y nef

23. (a) Pryd dechreuodd Teyrnas Dduw lywodraethu? (b) Beth bydd yn cael ei drafod yn y bennod nesaf?

23 Am ba hyd? Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif daeth myfyrwyr diffuant y Beibl i ddeall y byddai’r cyfnod o aros yn dod i ben ym 1914. (Ynglŷn â’r dyddiad hwn, gweler yr erthygl “1914—Blwyddyn Arwyddocaol ym Mhroffwydoliaethau’r Beibl,” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.) Dangosodd digwyddiadau’r byd ym 1914 fod myfyrwyr diffuant y Beibl wedi bod yn gywir yn eu dealltwriaeth. Mae cyflawniad proffwydoliaeth y Beibl yn dangos bod Crist wedi ei benodi yn Frenin ym 1914 a bod Teyrnas nefol Duw wedi dechrau llywodraethu. Felly, rydyn ni’n byw yn yr ‘amser byr’ sydd ar ôl gan Satan. (Datguddiad 12:12; Salm 110:2) Gallwn ni ddweud yn hyderus y bydd Teyrnas Dduw yn gweithredu yn fuan er mwyn cyflawni ewyllys Duw ar y ddaear. Onid yw hyn yn newyddion da? Ydych chi’n credu bod hyn yn wir? Yn y bennod nesaf byddwch chi’n gweld mai dyna’n union beth mae’r Beibl yn ei ddysgu.