Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD NAW

Ydyn Ni’n Byw yn “y Dyddiau Diwethaf”?

Ydyn Ni’n Byw yn “y Dyddiau Diwethaf”?
  • Pa bethau sy’n digwydd yn ein hamser ni a ragfynegwyd yn y Beibl?

  • Beth mae Gair Duw yn ei ddweud am gymeriad pobl yn y dyddiau diwethaf?

  • Pa bethau da y mae’r Beibl yn eu rhagfynegi ar gyfer y “dyddiau diwethaf”?

1. Yn lle cawn ni ddysgu am y dyfodol?

YDYCH chi wedi gwylio’r newyddion ar y teledu a meddwl, ‘Beth ddaw o’r hen fyd ’ma?’ Mae trychinebau’n taro mor sydyn a dirybudd fel na all neb dynol ragweld beth fydd yn digwydd yfory. (Iago 4:14) Sut bynnag, mae Jehofa yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. (Eseia 46:10) Amser maith yn ôl, rhagfynegodd y Beibl, nid yn unig y pethau drwg fyddai’n digwydd yn ein dyddiau ni, ond hefyd y pethau hyfryd fydd yn digwydd yn y dyfodol agos.

2, 3. Pa gwestiwn ofynnodd y disgyblion i Iesu, a beth oedd ei ateb?

2 Roedd Iesu’n siarad am Deyrnas Dduw a fydd yn rhoi terfyn ar bob drygioni a throi’r ddaear yn baradwys. (Luc 4:43) Roedd pobl eisiau gwybod pryd y byddai’r Deyrnas yn dod. Yn wir, gofynnodd disgyblion Iesu iddo: “Dywed wrthym pa bryd y digwydd hyn, a pha arwydd gawn ni dy fod ti’n bresennol a bod yr oes hon yn dod i ben.” (Mathew 24:3, Y Ffordd Newydd) Atebodd Iesu mai dim ond Jehofa Dduw oedd yn gwybod pryd yn union y byddai’r drefn neu’r oes hon yn dod i ben. (Mathew 24:36) Sut bynnag, fe wnaeth Iesu ddisgrifio pethau a fyddai’n digwydd ar y ddaear ychydig cyn i’r Deyrnas ddod i greu gwir heddwch a diogelwch i ddynolryw. Ac mae’r hyn a ragfynegodd Iesu yn digwydd nawr!

3 Cyn inni edrych ar y dystiolaeth sy’n dangos ein bod ni’n byw yn ‘nherfyniad yr oes,’ gadewch inni ystyried rhyfel nad oedd neb dynol yn medru ei weld. Digwyddodd yn y nefoedd, ac mae’r canlyniad yn effeithio arnon ni i gyd.

RHYFEL YN Y NEF

4, 5. (a) Beth ddigwyddodd yn y nef yn fuan ar ôl i Iesu gael ei orseddu’n Frenin? (b) Yn ôl Datguddiad 12:12, beth fyddai canlyniad y rhyfel yn y nef?

4 Esboniodd pennod flaenorol y llyfr hwn fod Iesu wedi cael ei orseddu’n frenin yn y nef yn y flwyddyn 1914. (Darllenwch Daniel 7:13, 14.) Yn fuan ar ôl iddo ddod i rym fel Brenin, dechreuodd Iesu weithredu. “Yna bu rhyfel yn y nef,” meddai’r Beibl. “Mihangel [enw arall ar Iesu] a’i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig [Satan y Diafol]. Rhyfelodd y ddraig a’i hangylion hithau.” * Collodd Satan a’i angylion, y cythreuliaid, y rhyfel hwnnw, ac fe’u bwriwyd o’r nef i’r ddaear. Roedd ysbryd feibion ffyddlon Duw yn llawen o weld bod Satan a’i gythreuliaid wedi mynd. Ond, byddai’r sefyllfa yn bell o fod yn llawen i’r bobl ar y ddaear. I’r gwrthwyneb, roedd y Beibl yn rhagddweud: “Gwae chwi’r ddaear . . . oherwydd disgynnodd y diafol arnoch yn fawr ei lid, o wybod mai byr yw’r amser sydd ganddo!”—⁠Datguddiad 12:7, 9, 12.

5 Sylwch ar ganlyniadau’r rhyfel yn y nef. Yn ei lid, byddai Satan yn dod â gwae, neu helyntion i’r rhai ar y ddaear. Fel y gwelwn ni, rydyn ni’n byw nawr yn y cyfnod hwnnw o wae. Ond, cymharol fyr fydd y cyfnod, gan mai “byr yw’r amser.” Mae hyd yn oed Satan yn sylweddoli hynny. Mae’r Beibl yn cyfeirio at y cyfnod hwn fel “y dyddiau diwethaf.” (2 Timotheus 3:1) Mae gwybod y bydd Jehofa yn cael gwared ar ddylanwad y Diafol ar y ddaear yn gwneud inni deimlo’n hapus. Gadewch inni ystyried rhai o’r pethau a ragfynegwyd yn y Beibl ac sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae’r digwyddiadau hyn yn profi ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf, a bod Teyrnas Dduw ar fin dod â bendithion tragwyddol i’r rhai sy’n caru Jehofa. Yn gyntaf, byddwn ni’n edrych ar bedair agwedd ar yr arwydd a fyddai, yn ôl Iesu, yn nodi’r cyfnod rydyn ni’n byw ynddo.

DIGWYDDIADAU PWYSIG Y DYDDIAU DIWETHAF

6, 7. Sut mae geiriau Iesu ynglŷn â rhyfeloedd a phrinder bwyd yn cael eu cyflawni heddiw?

6 “Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.” (Mathew 24:7) Mae miliynau o bobl wedi eu lladd mewn rhyfeloedd yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ysgrifennodd hanesydd Prydeinig: “Yr ugeinfed ganrif oedd yr un fwyaf gwaedlyd y mae cofnod ohoni mewn hanes. . . . Canrif oedd honno o ryfeloedd di-baid bron, gyda dim ond ychydig o ysbeidiau heb frwydro arfog yn digwydd yn rhywle yn y byd.” Dywed adroddiad y Worldwatch Institute: “Bu farw teirgwaith gymaint o bobl mewn rhyfeloedd yn [yr 20fed] ganrif, ag y bu farw yn y rhyfeloedd i gyd rhwng y ganrif gyntaf ar ôl Crist hyd at 1899.” Mae mwy na 100 miliwn o bobl wedi marw oherwydd rhyfel er 1914. Hyd yn oed os ydyn ni’n gwybod o brofiad beth yw poen colli un o’n hanwyliaid mewn rhyfel, gallwn ni ond dychmygu faint o boen a gofid mae colli miliynau o bobl yn ei achosi.

7 “Bydd adegau o newyn.” (Mathew 24:7) Mae ymchwilwyr yn dweud bod cynhyrchu bwyd wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Serch hynny, parhau mae’r newyn oherwydd nad oes gan lawer o bobl ddigon o arian i brynu bwyd, na’r tir i dyfu cnydau arno. Mewn gwledydd sy’n datblygu, mae mwy na mil o filiynau o bobl yn gorfod byw ar lai na phunt y diwrnod. I’r rhan fwyaf o’r rhain, mae’r newyn yn barhaol. Mae Mudiad Iechyd y Byd [WHO] yn amcangyfrif bod diffyg maeth yn un o achosion pennaf marwolaethau mwy na phum miliwn o blant bob blwyddyn.

8, 9. Beth sy’n dangos bod proffwydoliaethau Iesu ynglŷn â daeargrynfeydd a phlâu wedi dod yn wir?

8 “Bydd daeargrynfâu dirfawr.” (Luc 21:11) Yn ôl Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau, disgwylir cyfartaledd o 19 daeargryn mawr bob blwyddyn, a fydd yn ddigon grymus i ddifrodi adeiladau a hollti’r ddaear. Ac ar gyfartaledd, mae daeargrynfeydd digon cryf i chwalu adeiladau yn llwyr wedi digwydd yn flynyddol. Mae cofnodion yn dangos bod daeargrynfeydd wedi lladd dros ddwy filiwn o bobl er 1900. Dywed un ffynhonnell: “Mae gwelliannau technolegol wedi gwneud ond ychydig o wahaniaeth i’r nifer sy’n cael eu lladd.”

9 Plâu. (Luc 21:11) Er gwaethaf datblygiadau meddygol, mae clefydau hen a newydd yn dal i boeni dynolryw. Dywed un adroddiad fod 20 o glefydau adnabyddus, gan gynnwys twbercwlosis, malaria, a cholera, wedi dod yn fwy cyffredin yn ystod y degawdau diweddar, a bod rhai mathau o glefydau yn mynd yn fwyfwy anodd eu trin yn effeithiol gyda chyffuriau. Yn wir, mae o leiaf 30 o glefydau newydd wedi ymddangos. Mae rhai ohonyn nhw yn amhosibl i’w trin yn llwyddiannus ac maen nhw’n farwol.

POBL YN Y DYDDIAU DIWETHAF

10. Pa agweddau a ragfynegwyd yn 2 Timotheus 3:1-5 rydych chi yn eu gweld ym mhobl heddiw?

10 Yn ogystal â disgrifio rhai digwyddiadau yn y byd, rhagfynegodd y Beibl y byddai agwedd pobl yn newid yn y dyddiau diwethaf. Disgrifiodd yr apostol Paul gymeriad pobl yn gyffredinol. Dywedodd y byddai “amserau enbyd i ddod yn y dyddiau diwethaf.” (Darllenwch 2 Timotheus 3:1-5.) Dywedodd Paul y byddai pobl

  • yn hunangar

  • yn ariangar

  • yn anufudd i’w rhieni

  • yn ddigrefydd

  • yn ddi-serch

  • yn ddilywodraeth

  • yn anwar

  • yn caru pleser yn hytrach na charu Duw

  • yn cadw ffurf allanol crefydd ond yn gwadu ei grym hi

11. Sut mae Salm 92:7 yn disgrifio beth fydd yn digwydd i’r drygionus?

11 Erbyn hyn, ydy pobl wedi dechrau ymddwyn fel hyn yn eich cymuned chi? Digon posibl eu bod nhw. Mae cymeriadau drwg i’w cael ymhobman. Mae hyn yn dangos y bydd Duw yn gweithredu yn fuan, gan fod y Beibl yn dweud: “Er i’r annuwiol dyfu fel glaswellt ac i’r holl wneuthurwyr drygioni lwyddo, eu bod i’w dinistrio am byth.”—⁠Salm 92:7.

DIGWYDDIADAU CADARNHAOL!

12, 13. Sut mae “gwybodaeth” gywir wedi cynyddu yn “amser y diwedd”?

12 Yn union fel y rhagfynegodd y Beibl, mae’r dyddiau diwethaf yn llawn gwae. Ar y llaw arall, yn y byd cythryblus sydd ohoni, mae pethau cadarnhaol yn digwydd ymhlith y rhai sy’n addoli Jehofa.

13 ‘Bydd gwybodaeth yn cynyddu,’ meddai’r proffwyd Daniel. (Daniel 12:4, troednodyn) Pryd y byddai hyn yn digwydd? Yn ystod “amser y diwedd.” Yn enwedig er 1914, mae Jehofa wedi helpu’r rhai sy’n dymuno ei wasanaethu i ddod i ddeall y Beibl yn well. Ymhlith y gwirioneddau gwerthfawr y maen nhw wedi dod i’w deall yn well yw enw Duw a’i fwriad, aberth pridwerthol Iesu Grist, cyflwr y meirw, a’r atgyfodiad. Ar ben hynny, mae addolwyr Jehofa wedi dysgu sut i fyw bywyd er eu lles eu hunain ac mewn ffordd sy’n clodfori Duw. Maen nhw hefyd wedi dod i ddeall rôl Teyrnas Dduw yn well a’r ffordd y bydd y Deyrnas yn datrys problemau’r ddaear. Beth maen nhw yn ei wneud â’r wybodaeth hon? Mae’r cwestiwn hwnnw yn dod â ni at broffwydoliaeth arall sy’n cael ei chyflawni yn y dyddiau diwethaf hyn.

“Fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd.”—Mathew 24:14

14. Pa mor bell y mae pregethu’r newydd da am y Deyrnas wedi ymestyn heddiw, a phwy sydd yn ei wneud?

14 “Fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd,” meddai Iesu Grist yn ei broffwydoliaeth am ddiwedd “yr oes hon.” (Darllenwch Mathew 24:3, 14.) Mae’r newydd da am y Deyrnas—beth yw’r Deyrnas, beth a wna, a sut mae derbyn ei bendithion—yn cael ei gyhoeddi mewn mwy na 230 o wledydd ac mewn cannoedd o ieithoedd. Mae miliynau o Dystion Jehofa yn pregethu’r newyddion da am y Deyrnas yn selog. Maen nhw’n dod o “bob cenedl a’r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd.” (Datguddiad 7:9) Mae’r Tystion yn astudio’r Beibl yn rhad ac am ddim gyda miliynau o bobl sy’n awyddus i wybod beth mae’r Beibl yn ei wir ddysgu. O gofio bod Iesu Grist wedi dweud y byddai gwir Gristnogion yn cael eu ‘casáu gan bawb,’ mae cyflawniad y broffwydoliaeth hon yn rhyfeddol!—⁠Luc 21:17.

BETH WNEWCH CHI?

15. (a) Ydych chi’n credu ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf, a pham? (b) Beth bydd y “diwedd” yn ei olygu i’r rhai sy’n gwrthwynebu Jehofa ac i’r rhai sy’n ildio i lywodraeth Teyrnas Dduw?

15 Gan fod cynifer o broffwydoliaethau’r Beibl yn cael eu cyflawni heddiw, onid ydych chi’n cytuno ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf? Pan fydd Jehofa yn fodlon bod y gwaith o bregethu’r newydd da wedi ei wneud, mae’r “diwedd” yn sicr o ddod. (Mathew 24:14) Mae’r “diwedd” yma yn golygu’r amser y bydd Duw yn cael gwared ar bob drygioni ar y ddaear. Bydd Jehofa yn defnyddio Iesu ac angylion nerthol i ddinistrio pawb sydd yn Ei wrthwynebu’n fwriadol. (2 Thesaloniaid 1:6-9) Ni fydd Satan a’i gythreuliaid bellach yn camarwain y cenhedloedd. Wedyn, bydd Teyrnas Dduw yn dod â llu o fendithion i bawb sy’n ildio i’w llywodraeth gyfiawn.—⁠Datguddiad 20:1-3; 21:3-5.

16. Beth byddai’n ddoeth ichi ei wneud?

16 Gan fod diwedd trefn Satan yn agos, mae’n rhaid inni ofyn y cwestiwn, ‘Beth dylwn i ei wneud?’ Peth doeth yw parhau i ddysgu mwy am Jehofa a’i ofynion. (Ioan 17:3) Ewch ati o ddifrif i astudio’r Beibl. Ewch i’r arfer o gymdeithasu’n rheolaidd ag eraill sy’n ceisio gwneud ewyllys Jehofa. (Darllenwch Hebreaid 10:24, 25.) Dewch i adnabod Jehofa yn well drwy astudio ei Air, a gwnewch beth bynnag sydd ei angen er mwyn ei blesio.—⁠Iago 4:8.

17. Pam bydd dinistr y drygionus yn dal y rhan fwyaf o bobl yn annisgwyl?

17 Dywedodd Iesu y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn anwybyddu’r dystiolaeth sy’n dangos ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf. Bydd dinistr y drygionus yn digwydd yn sydyn ac yn ddisymwth. Fel lleidr yn y nos, fe ddaw yn annisgwyl i’r rhan fwyaf o bobl. (Darllenwch 1 Thesaloniaid 5:2.) Rhybuddiodd Iesu: “Fel y bu yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn. Fel yr oedd pobl yn y dyddiau cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn cymryd gwragedd ac yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i’r arch, ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a’u hysgubo ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.”—⁠Mathew 24:37-39.

18. Pa rybudd gan Iesu ddylen ni ei ystyried o ddifrif?

18 Felly, dywedodd Iesu wrth ei wrandawyr: “Cymerwch ofal, rhag i’ch meddyliau gael eu pylu gan ddiota a meddwi a gofalon bydol, ac i’r dydd hwnnw ddod arnoch yn ddisymwth fel magl; oherwydd fe ddaw ar bawb sy’n trigo ar wyneb y ddaear gyfan. Byddwch effro bob amser, gan ddeisyf am nerth i ddianc rhag yr holl bethau hyn sydd ar ddigwydd, ac i sefyll yng ngŵydd Mab y Dyn.” (Luc 21:34-36) Call yw cymryd geiriau Iesu o ddifrif. Pam? Oherwydd bod y rhai y mae Jehofa a “Mab y Dyn,” Iesu Grist, yn eu cymeradwyo yn cael y cyfle i oroesi diwedd trefn Satan a byw am byth yn y byd newydd hyfryd sydd mor agos!—⁠Ioan 3:16; 2 Pedr 3:13.

^ Par. 4 Am fanylion pellach sy’n dangos mai enw arall ar Iesu Grist yw Mihangel, gweler yr erthygl “Pwy Yw Mihangel yr Archangel?” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.