Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD DEG

Sut Mae Ysbryd-Greaduriaid yn Effeithio Arnon Ni?

Sut Mae Ysbryd-Greaduriaid yn Effeithio Arnon Ni?
  • Ydy angylion yn helpu pobl?

  • Sut mae ysbrydion drwg wedi dylanwadu ar bobl?

  • A ddylen ni ofni ysbrydion drwg?

1. Pam dylen ni ddymuno dysgu am angylion?

MAE dod i adnabod rhywun fel arfer yn golygu dysgu rhywfaint am ei deulu. Yn yr un modd, mae dod i adnabod Jehofa yn golygu dysgu mwy am ei deulu o angylion. Mae’r Beibl yn galw’r angylion yn “feibion Duw.” (Job 38:7, BC) Felly, beth yw eu rôl nhw ym mwriad Duw? Ydyn nhw wedi chwarae rhan yn hanes dynolryw? Ydy angylion yn dylanwadu ar eich bywyd chi? Ym mha ffordd?

2. O le daeth yr angylion, a faint ohonyn nhw sydd?

2 Mae cannoedd o gyfeiriadau at angylion yn y Beibl. Gadewch inni ystyried rhai o’r cyfeiriadau hyn er mwyn dysgu mwy am angylion. O le daeth yr angylion? Dywed Colosiaid 1:16: “Ynddo ef [Iesu Grist] y crëwyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear.” Felly, cafodd pob un o’r angylion ei greu fel unigolyn gan Jehofa Dduw trwy gyfrwng ei Fab cyntaf-anedig. Faint o angylion sydd? Mae’r Beibl yn dangos bod cannoedd o filiynau o angylion wedi cael eu creu, pob un yn rymus dros ben.—⁠Salm 103:20. *

3. Beth mae Job 38:4-7 yn ei ddweud am yr angylion?

3 Wrth sôn am yr adeg y cafodd y ddaear ei chreu, mae Gair Duw, y Beibl, yn dweud bod yr “holl angylion yn gorfoleddu.” (Job 38:4-7) Felly roedd angylion yn bodoli ymhell cyn i fodau dynol gael eu creu, a hyd yn oed cyn i’r ddaear gael ei chreu. Mae’r adnod hon yn y Beibl hefyd yn dangos bod gan yr angylion deimladau, gan fod hi’n dweud eu bod nhw’n “gorfoleddu.” Sylwch fod yr “holl angylion yn gorfoleddu.” Bryd hynny, roedd yr angylion i gyd yn rhan o deulu unedig, yn gwasanaethu Jehofa Dduw.

ANGYLION SY’N CEFNOGI AC AMDDIFFYN

4. Sut mae’r Beibl yn dangos bod gan yr angylion ffyddlon ddiddordeb yng ngweithgareddau pobl ar y ddaear?

4 Ers iddyn nhw weld y bodau dynol cyntaf yn cael eu creu, mae angylion ffyddlon wedi dangos diddordeb mawr yn y teulu dynol ac yng nghyflawniad bwriad Duw. (Diarhebion 8:30, 31; 1 Pedr 1:11, 12) Sut bynnag, ers yr amser hynny, mae’r angylion wedi gweld y rhan fwyaf o’r teulu dynol yn cefnu ar eu gwasanaeth i’w Creawdwr cariadus. Mae’n debyg bod hyn wedi bod yn achos tristwch i’r angylion ffyddlon. Ar y llaw arall, pan fydd hyd yn oed un unigolyn yn dychwelyd at Jehofa, “y mae llawenydd ymhlith angylion Duw.” (Luc 15:10) Gan fod diddordeb dwys gan yr angylion yn lles y rhai sy’n gwasanaethu Duw, hawdd yw deall pam mae Jehofa wedi defnyddio’r angylion, dro ar ôl tro, i gryfhau ac i amddiffyn ei weision ffyddlon ar y ddaear. (Darllenwch Hebreaid 1:7, 14.) Ystyriwch rai enghreifftiau.

“Anfonodd fy Nuw ei angel, a chau safn y llewod.”—⁠Daniel 6:22

5. Pa esiamplau o gefnogaeth yr angylion sydd i’w gweld yn y Beibl?

5 Dau angel a helpodd y dyn cyfiawn Lot a’i ddwy ferch i ddianc drwy eu harwain allan o’r ardal pan gafodd dinasoedd Sodom a Gomorra eu dinistrio. (Genesis 19:15, 16) Ganrifoedd yn ddiweddarach, cafodd y proffwyd Daniel ei daflu i ffau’r llewod, ond ni chafodd ei niweidio. Dywedodd: “Anfonodd fy Nuw ei angel, a chau safn y llewod.” (Daniel 6:22) Yn y ganrif gyntaf OG, angel a wnaeth ryddhau’r apostol Pedr o’r carchar. (Actau 12:6-11) Angylion hefyd a gefnogodd Iesu ar ddechrau ei weinidogaeth ar y ddaear. (Marc 1:13) Ac ychydig cyn i Iesu farw, ymddangosodd angel iddo “a’i gyfnerthu.” (Luc 22:43) Rhaid bod y gefnogaeth honno wedi rhoi nerth mawr i Iesu ar adegau pwysig iawn yn ei fywyd!

6. (a) Sut mae angylion yn amddiffyn pobl Dduw heddiw? (b) Pa gwestiynau fyddwn ni yn eu hystyried nesaf?

6 Heddiw, dydy angylion ddim yn ymddangos mewn modd gweladwy i bobl Dduw ar y ddaear. Er eu bod nhw’n anweledig, mae angylion grymus Duw yn dal i amddiffyn ei bobl, yn enwedig rhag unrhyw niwed ysbrydol. Mae’r Beibl yn dweud: “Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy’n ei ofni, ac y mae’n eu gwaredu.” (Salm 34:7) Pam dylai’r geiriau hynny fod o gysur inni? Oherwydd bod ysbryd-greaduriaid drygionus a pheryglus yn dymuno ein dinistrio ni! Pwy ydyn nhw? O le maen nhw’n dod? Sut maen nhw’n ceisio achosi niwed inni? I gael yr atebion, edrychwn ar rywbeth a ddigwyddodd ar ddechrau’r hanes dynol.

YSBRYD-GREADURIAID SYDD YN ELYNION INNI

7. I ba raddau y llwyddodd Satan i droi pobl oddi wrth Dduw?

7 Fel y dysgon ni ym Mhennod 3 o’r llyfr hwn, cododd awydd yn un o’r angylion i lywodraethu dros eraill ac fe drodd yn erbyn Duw. Yn nes ymlaen cafodd yr angel hwn ei adnabod fel Satan y Diafol. (Datguddiad 12:9) Am tua 1,600 o flynyddoedd ar ôl iddo dwyllo Efa, llwyddodd Satan i droi bron pawb ar y ddaear oddi wrth Dduw, ar wahân i ychydig o bobl ffyddlon fel Abel, Enoch, a Noa.—⁠Hebreaid 11:4, 5, 7.

8. (a) Sut daeth rhai o’r angylion i fod yn gythreuliaid? (b) Er mwyn goroesi’r Dilyw yn amser Noa, beth roedd rhaid i’r cythreuliaid ei wneud?

8 Yn oes Noa, fe wnaeth angylion eraill wrthryfela yn erbyn Jehofa. Gadawon nhw eu lle yn nheulu nefol Duw, gan gymryd cyrff o gig a gwaed er mwyn dod i lawr i’r ddaear. Pam, felly? Yn Genesis 6:2 darllenwn: “Gwelodd meibion Duw fod y merched yn hardd, a chymerasant wragedd o’u plith yn ôl eu dewis.” Ond wnaeth Jehofa ddim caniatáu i’r angylion hyn barhau i weithredu fel hyn a llygru dynolryw. Achosodd ddilyw byd-eang ac ysgubo ymaith y bodau dynol drygionus i gyd gan achub neb ond ei weision ffyddlon. (Genesis 7:17, 23) Roedd rhaid i’r angylion gwrthryfelgar, y cythreuliaid, ddiosg eu cyrff cnawdol a dychwelyd i’r nef fel ysbryd-greaduriaid. Roedden nhw wedi ochri gyda’r Diafol, gan droi hwnnw’n “bennaeth y cythreuliaid.”—⁠Mathew 9:34.

9. (a) Beth ddigwyddodd i’r cythreuliaid pan ddychwelon nhw i’r nef? (b) Beth byddwn ni yn ei ystyried nesaf ynglŷn â’r cythreuliaid?

9 Pan ddychwelodd yr angylion anufudd i’r nef roedden nhw, fel eu rheolwr Satan, yn wrthodedig. (2 Pedr 2:4) Er na fedran nhw gymryd cyrff dynol bellach, maen nhw’n dal i ddylanwadu’n ddrwg ar fodau dynol. Yn wir, gyda help y cythreuliaid hyn, mae Satan yn “twyllo’r holl fyd.” (Datguddiad 12:9; 1 Ioan 5:19) Sut, felly? Yn bennaf, defnyddia’r cythreuliaid ddulliau sy’n camarwain pobl. (Darllenwch 2 Corinthiaid 2:11.) Gadewch inni ystyried rhai o’r dulliau hyn.

SUT MAE’R CYTHREULIAID YN CAMARWAIN

10. Beth yw ysbrydegaeth?

10 Mae’r cythreuliaid yn defnyddio ysbrydegaeth i gamarwain pobl. Mae arfer ysbrydegaeth yn golygu cael rhan yng ngweithgareddau’r cythreuliaid, naill ai’n bersonol neu drwy gyfrwng rhywun arall. Mae’r Beibl yn condemnio ysbrydegaeth ac yn ein rhybuddio ni i gadw draw oddi wrth bopeth sydd ynghlwm wrthi. (Galatiaid 5:19-21) Mae’r cythreuliaid yn defnyddio ysbrydegaeth fel y mae pysgotwyr yn defnyddio abwyd. Bydd pysgotwr yn defnyddio mwy nag un abwyd i ddal gwahanol fathau o bysgod. Yn yr un modd, mae ysbrydion drwg yn defnyddio gwahanol ffurfiau ar ysbrydegaeth i ddod â phob math o bobl dan eu dylanwad.

11. Beth yw dewiniaeth, a pham dylen ni ei hosgoi?

11 Un math o abwyd a ddefnyddir gan y cythreuliaid yw dewiniaeth. Beth yw dewiniaeth? Ymdrech yw hyn i holi am y dyfodol neu’r anhysbys drwy ffyrdd goruwchnaturiol. Ymhlith y gwahanol ffurfiau ar ddewiniaeth yw astroleg, defnyddio cardiau tarot, darllen crisial, darllen dwylo, a cheisio argoelion neu arwyddion dirgel mewn breuddwydion. Er mai hwyl a sbort diniwed yw dewiniaeth i lawer o bobl, mae’r Beibl yn dangos bod pobl sy’n dweud ffortiwn yn gweithio law yn llaw ag ysbrydion drwg. Er enghraifft, mae Actau 16:16-18 yn sôn am ferch “a chanddi ysbryd dewiniaeth” oedd yn rhoi iddi’r ddawn o “ddweud ffortiwn.” Ond pan gafodd y cythraul ei fwrw allan, collodd hi’r gallu i ragweld y dyfodol.

Mae’r cythreuliaid yn defnyddio amryw ffyrdd i dwyllo pobl

12. Pam mae ceisio cyfathrebu â’r meirw mor beryglus?

12 Ffordd arall y mae’r cythreuliaid yn camarwain pobl yw trwy eu denu nhw i geisio gwybodaeth gan y meirw. Gall pobl sy’n galaru ar ôl colli rhywun annwyl gael eu twyllo i gredu syniadau anghywir am y rhai sydd wedi marw. Fe all cyfryngwr ysbrydion gynnig gwybodaeth arbennig, neu siarad â llais sy’n debyg iawn i lais yr un sydd wedi marw. O ganlyniad, mae llawer o bobl yn dod i gredu’n gryf fod y meirw yn fyw ac y bydd cysylltu â nhw’n helpu’r rhai sy’n galaru i ymdopi â’u colled. Ond mae unrhyw “gysur” o’r fath mewn gwirionedd yn llwyr gamarweiniol yn ogystal â bod yn beryglus. Pam? Oherwydd bod y cythreuliaid yn medru dynwared llais yr un marw a rhoi gwybodaeth amdano i gyfryngwr ysbrydion. (1 Samuel 28:3-19) Hefyd, fel y dysgon ni ym Mhennod 6, mae’r meirw wedi peidio â bod. (Salm 115:17) Felly, mae rhywun sy’n “ymofyn â’r meirw” wedi cael ei gamarwain gan ysbrydion drwg ac yn gwneud rhywbeth sy’n groes i ewyllys Duw. (Darllenwch Deuteronomium 18:10, 11; Eseia 8:19) Felly, gofalwch eich bod chi’n gwrthod abwyd peryglus y cythreuliaid.

13. Beth mae llawer a oedd ar un adeg yn ofni’r cythreuliaid wedi llwyddo i’w wneud?

13 Nid yn unig y mae ysbrydion drwg yn camarwain pobl, ond maen nhw hefyd yn codi ofn arnyn nhw. Heddiw, mae Satan a’i gythreuliaid yn gwybod mai “byr yw’r amser” sydd ar ôl ganddyn nhw, cyn iddyn nhw gael eu hatal rhag gweithredu, ac maen nhw’n fwy milain nag erioed. (Datguddiad 12:12, 17) Serch hynny, mae miloedd o bobl a oedd ar un adeg yn byw bob dydd ag ofn ysbrydion drwg, bellach wedi torri’n rhydd. Sut roedd hynny’n bosibl? Beth gall hyd yn oed y rhai sydd wedi arfer ysbrydegaeth ei wneud?

SUT I WRTHWYNEBU YSBRYDION DRWG

14. Yn debyg i Gristnogion Effesus yn y ganrif gyntaf, sut gallwn ni dorri’n rhydd o ddylanwad ysbrydion drwg?

14 Mae’r Beibl yn esbonio sut i wrthwynebu ysbrydion drwg a thorri’n rhydd o’u dylanwad. Ystyriwch esiampl Cristnogion Effesus yn y ganrif gyntaf. Roedd rhai ohonyn nhw wedi ymhél ag ysbrydegaeth cyn iddyn nhw ddod yn Gristnogion. Ar ôl penderfynu rhoi’r gorau i ysbrydegaeth, beth wnaethon nhw? Mae’r Beibl yn dweud: “Casglodd llawer o’r rhai a fu’n ymarfer â swynion eu llyfrau ynghyd, a’u llosgi yng ngŵydd pawb.” (Actau 19:19) Trwy ddinistrio eu llyfrau ar ddewiniaeth, gosododd y Cristnogion newydd hynny esiampl i’r rhai sydd am wrthsefyll ysbrydion drwg heddiw. Dylai’r rhai sydd eisiau gwasanaethu Jehofa gael gwared ar bopeth sydd wedi ei gysylltu ag ysbrydegaeth. Mae hyn yn cynnwys llyfrau, cylchgronau, ffilmiau, posteri, a cherddoriaeth sydd yn hybu ysbrydegaeth ac yn gwneud iddi edrych yn gyffrous ac apelgar. Hefyd, rhaid taflu swyndlysau neu unrhyw beth arall sy’n cael ei wisgo i amddiffyn rhywun rhag drwg.—⁠1 Corinthiaid 10:21.

15. Beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn gwrthwynebu pwerau ysbrydol drygionus?

15 Flynyddoedd ar ôl iddyn nhw ddinistrio eu llyfrau ar ddewiniaeth, ysgrifennodd yr apostol Paul at y Cristnogion yn Effesus, gan ddweud: “Yr ydym yn yr afael . . . â phwerau ysbrydol drygionus.” (Effesiaid 6:12) Doedd y cythreuliaid ddim wedi rhoi’r gorau i geisio cael y llaw uchaf. Felly, beth arall roedd rhaid i’r Cristnogion ei wneud? “Heblaw hyn oll,” meddai Paul, “ymarfogwch â tharian ffydd; â hon byddwch yn gallu diffodd holl saethau tanllyd yr Un drwg [Satan].” (Effesiaid 6:16) Cryfaf yn y byd yw eich tarian ffydd, y mwyaf yn y byd fydd eich gallu i wrthsefyll pwerau ysbrydol drygionus.—⁠Mathew 17:20.

16. Sut medrwn ni gryfhau ein ffydd?

16 Sut medrwn ni gryfhau ein ffydd? Trwy astudio’r Beibl. Mae cadernid wal yn dibynnu i raddau helaeth ar gryfder ei seiliau. Yn yr un modd, mae cadernid ein ffydd yn dibynnu yn fawr ar ba mor sefydlog a chryf yw sail y ffydd honno, sef gwybodaeth gywir o Air Duw, y Beibl. Os ydyn ni’n darllen ac yn astudio’r Beibl bob dydd, bydd ein ffydd yn cryfhau. Fel wal gadarn, bydd ffydd fel hyn yn ein hamddiffyn rhag dylanwad ysbrydion drwg.—⁠1 Ioan 5:5.

17. Pa gamau sydd eu hangen er mwyn gwrthwynebu ysbrydion drwg?

17 Beth arall roedd rhaid i’r Cristnogion yn Effesus ei wneud? Roedd angen mwy arnyn nhw i’w hamddiffyn mewn dinas yn llawn demoniaeth. Felly, dywedodd Paul wrthyn nhw: “Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd.” (Effesiaid 6:18) Gan ein bod ni hefyd yn byw mewn byd sy’n llawn demoniaeth, mae’n bwysig inni weddïo’n daer ar Jehofa i’n hamddiffyn rhag ysbrydion drwg, ac i’n helpu i’w gwrthwynebu. Wrth gwrs, mae angen inni ddefnyddio enw Jehofa wrth weddïo. (Darllenwch Diarhebion 18:10.) Dylen ni ddal ati i weddïo ar Dduw: “Gwared ni rhag yr Un drwg,” sef Satan y Diafol. (Mathew 6:13) Bydd Jehofa yn ateb ein gweddïau taer.—⁠Salm 145:19.

18, 19. (a) Pam gallwn ni fod yn sicr o’r fuddugoliaeth yn ein brwydr yn erbyn ysbrydion drwg? (b) Pa gwestiwn bydd y bennod nesaf yn ei ateb?

18 Mae ysbrydion drwg yn beryglus, ond does dim angen inni eu hofni nhw os ydyn ni’n gwrthsefyll y Diafol a nesáu at Dduw trwy wneud ei ewyllys. (Darllenwch Iago 4:7, 8.) Mae grym ysbrydion drwg wedi ei gyfyngu. Cawson nhw eu cosbi yn amser Noa, ac yn y dyfodol byddan nhw’n cael eu barnu’n derfynol. (Jwdas 6) Cofiwch hefyd fod angylion grymus Jehofa yn barod i’n hamddiffyn. (2 Brenhinoedd 6:15-17) Mae’r angylion hyn yn dymuno inni wrthsefyll ysbrydion drwg yn llwyddiannus. Mae’r angylion cyfiawn yn ein hannog ni yn ein blaenau, fel petai. Gadewch inni aros yn agos at Jehofa a’i deulu o ysbryd-greaduriaid ffyddlon. Cadwch ymhell oddi wrth bob ffurf ar ysbrydegaeth a rhowch gyngor Gair Duw ar waith bob amser. (1 Pedr 5:6, 7; 2 Pedr 2:9) Wedyn byddwn ni’n sicr o gael y fuddugoliaeth yn ein brwydr yn erbyn ysbrydion drwg.

19 Ond pam mae Duw wedi caniatáu i ysbrydion drwg fodoli, ynghyd â’r drygioni sy’n achosi cymaint o ddioddef? Bydd y bennod nesaf yn ateb y cwestiwn hwnnw.

^ Par. 2 Ynglŷn ag angylion cyfiawn, dywed Datguddiad 5:11: “A’u rhif oedd myrdd myrddiynau,” neu ddeg mil gwaith degau o filoedd. Felly, mae’r Beibl yn dangos bod cannoedd o filiynau o angylion wedi eu creu.