Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG UN

Pam Mae Duw yn Caniatáu Dioddefaint?

Pam Mae Duw yn Caniatáu Dioddefaint?
  • Ai Duw sydd wedi achosi’r dioddefaint yn y byd?

  • Pa gwestiwn pwysig gafodd ei godi yng ngardd Eden?

  • Sut bydd Duw yn dad-wneud effeithiau dioddefaint?

1, 2. Sut mae pobl yn dioddef heddiw, a pha gwestiynau mae llawer yn eu gofyn?

AR DDIWEDD brwydr ofnadwy mewn gwlad a oedd yng nghanol rhyfel erchyll, claddwyd miloedd o wragedd a phlant mewn bedd torfol. O gwmpas y bedd roedd llu o groesau bach, ac ar bob un y gair “Pam?” Weithiau dyna’r cwestiwn mwyaf poenus oll. Mae pobl yn gofyn y cwestiwn hwn pan fydd rhyfeloedd, afiechydon, neu droseddau yn cymryd bywydau eu hanwyliaid diniwed, yn difa eu cartrefi neu’n peri iddyn nhw ddioddef mewn unrhyw fodd arall. Maen nhw eisiau gwybod pam mae’r fath drychinebau yn digwydd iddyn nhw.

2 Pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint? Os mai Duw hollalluog, cariadus, doeth, a chyfiawn yw Jehofa, pam mae’r byd yn llawn casineb ac anghyfiawnder? Ydych chi erioed wedi gofyn cwestiynau fel hyn?

3, 4. (a) Beth sy’n dangos nad peth drwg yw gofyn pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint? (b) Sut mae Jehofa yn teimlo am ddrygioni a dioddefaint?

3 Ai peth drwg yw gofyn pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint? Mae rhai’n poeni bod gofyn cwestiwn fel hyn yn dangos diffyg ffydd yn Nuw, neu yn ei amharchu. Ond wrth ddarllen y Beibl byddwch yn gweld bod pobl ffyddlon a oedd yn ofni Duw wedi gofyn cwestiynau tebyg. Er enghraifft, gofynnodd y proffwyd Habacuc i Jehofa: “Pam y peri imi edrych ar ddrygioni, a gwneud imi weld trallod? Anrhaith a thrais sydd o’m blaen, cynnen a therfysg yn codi.”—⁠Habacuc 1:3.

Bydd Jehofa yn rhoi diwedd ar bob dioddefaint

4 A wnaeth Jehofa geryddu’r proffwyd ffyddlon Habacuc am ofyn y fath gwestiynau? Naddo. Yn wir, fe wnaeth Duw sicrhau bod geiriau diffuant Habacuc wedi eu cynnwys yn ei Air ysbrydoledig, y Beibl. Fe wnaeth Duw helpu Habacuc i ddod i ddeall y sefyllfa’n well ac i gael mwy o ffydd. Mae Jehofa yn dymuno eich helpu chi yn yr un modd. Cofiwch fod y Beibl yn dysgu bod “gofal ganddo amdanoch.” (1 Pedr 5:7) Yn fwy na neb arall, mae Jehofa yn casáu drygioni a’r dioddefaint y mae hynny yn ei achosi. (Eseia 55:8, 9) Pam, felly, y mae cymaint o ddioddefaint yn y byd?

PAM MAE CYMAINT O DDIODDEFAINT?

5. Pa resymau sy’n cael eu rhoi weithiau i esbonio dioddefaint dynol, ond beth mae’r Beibl yn ei ddysgu?

5 Mae pobl o wahanol grefyddau wedi mynd at eu harweinyddion a’u hathrawon crefyddol i ofyn pam mae cymaint o ddioddefaint. Yn aml, yr ateb sy’n cael ei roi yw bod dioddefaint yn rhan o ewyllys Duw, a bod Duw wedi hen benderfynu beth sydd i ddigwydd, gan gynnwys pob trychineb. Dywedwyd wrth lawer mai dirgel yw ffyrdd Duw, a’i fod yn trefnu i bobl farw—hyd yn oed plant bach—er mwyn iddyn nhw fod gydag ef yn y nefoedd. Ond rydych chi wedi dysgu nad yw Jehofa byth yn achosi pethau drwg. Mae’r Beibl yn dweud: “Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu’n anghyfiawn.”—⁠Job 34:10.

6. Pam mae llawer o bobl yn gwneud y camgymeriad o roi’r bai ar Dduw am y dioddefaint yn y byd?

6 Ydych chi’n gwybod pam mae pobl yn gwneud y camgymeriad o feio Duw am yr holl ddioddefaint yn y byd? Yn aml, maen nhw’n rhoi’r bai ar Dduw Hollalluog oherwydd eu bod nhw’n meddwl mai ef yw gwir reolwr y byd hwn. Ond, mae’r Beibl yn dysgu un gwirionedd syml a phwysig sy’n anghyfarwydd iddyn nhw. Fe wnaethoch chi ddysgu am hyn ym Mhennod 3 o’r llyfr hwn. Gwir reolwr y byd hwn yw Satan y Diafol.

7, 8. (a) Sut mae’r byd yn adlewyrchu personoliaeth ei reolwr? (b) Sut mae amherffeithrwydd dynol a “hap a damwain” wedi cyfrannu at ddioddefaint?

7 Mae’r Beibl yn datgan yn glir fod “yr holl fyd yn gorwedd yng ngafael yr Un drwg.” (1 Ioan 5:19) Wrth i chi feddwl am y peth, onid yw hynny yn gwneud synnwyr? Mae’r byd hwn yn adlewyrchu personoliaeth yr ysbryd-greadur anweledig sy’n “twyllo’r holl fyd.” (Datguddiad 12:9) Mae Satan yn gas, yn dwyllodrus ac yn greulon. Felly, mae’r byd, dan ei ddylanwad ef, yn llawn casineb, twyll, a chreulondeb. Dyna un rheswm pam y mae cymaint o ddioddefaint.

8 Rheswm arall dros gymaint o ddioddefaint, fel y gwelon ni ym Mhennod 3, yw’r ffaith fod dynolryw wedi bod yn amherffaith a phechadurus ers y gwrthryfel yng ngardd Eden. Mae pobl bechadurus yn tueddu i frwydro er mwyn arglwyddiaethu ar eraill a chanlyniad hynny yw rhyfeloedd, gormes, a dioddefaint. (Pregethwr 4:1; 8:9) Rheswm arall fyth dros ddioddefaint yw “hap a damwain.” (Darllenwch Pregethwr 9:11.) Mewn byd heb Jehofa fel Rheolwr a Gwarchodwr, fe all pobl ddioddef oherwydd eu bod nhw yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir.

9. Pam gallwn ni fod yn sicr bod gan Jehofa reswm da dros ganiatáu i ddioddefaint barhau?

9 Mae gwybod nad yw Duw yn achosi i bobl ddioddef yn gysur. Nid yw ef yn gyfrifol am y rhyfeloedd, y troseddau, y gorthrwm, na hyd yn oed y trychinebau naturiol sydd yn achosi i gymaint o bobl ddioddef. Ond eto, teg yw gofyn, Pam mae Jehofa yn caniatáu’r holl ddioddefaint? Os mai ef yw’r Hollalluog, y mae’r gallu ganddo i roi terfyn arno. Pam, felly, y mae’n dal yn ôl? Mae’n rhaid bod rheswm da gan y Duw cariadus yr ydyn ni wedi dod i’w adnabod.—⁠1 Ioan 4:8.

CWESTIWN HOLLBWYSIG YN CAEL EI GODI

10. Beth gwnaeth Satan ei gwestiynu, a sut?

10 I ddarganfod pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint, mae’n rhaid inni feddwl yn ôl i’r amser pan ddechreuodd dioddefaint. Pan berswadiodd Satan Adda ac Efa i fod yn anufudd i Jehofa, codwyd cwestiwn pwysig. Ni wnaeth Satan amau grym Jehofa. Mae hyd yn oed Satan yn gwybod nad oes pen draw i rym Jehofa. Yn lle hynny, fe wnaeth Satan gwestiynu hawl Jehofa i lywodraethu. Drwy ddweud fod Duw yn un celwyddog sy’n amddifadu ei ddeiliaid o bethau da, roedd Satan yn cyhuddo Jehofa o fod yn llywodraethwr drwg. (Darllenwch Genesis 3:2-5.) Roedd Satan yn awgrymu y byddai pobl yn well eu byd heb Dduw yn rheoli arnyn nhw. Roedd hyn yn ymosodiad ar benarglwyddiaeth neu sofraniaeth Jehofa, sef ei hawl i deyrnasu.

11. Pam na wnaeth Jehofa ddifa’r gwrthryfelwyr yn Eden yn syth?

11 Gwrthryfelodd Adda ac Efa yn erbyn Jehofa. I bob pwrpas, dywedon nhw: ‘Does dim angen Jehofa yn Rheolwr arnon ni. Cawn benderfynu droston ni ein hunain beth sy’n iawn a beth sydd ddim yn iawn.’ Sut gallai Jehofa dorri’r ddadl? Sut gallai ef ddangos i bob creadur deallus fod y gwrthryfelwyr yn anghywir ac mai ei ffyrdd ef sydd orau? Fe all rhywun ddweud y dylai Duw fod wedi difa’r gwrthryfelwyr a dechrau o’r newydd. Ond, roedd Jehofa wedi datgan ei fwriad i lenwi’r ddaear â disgynyddion Adda ac Efa, ac roedd yn dymuno iddyn nhw fyw mewn paradwys ar y ddaear. (Genesis 1:28) Mae Jehofa bob amser yn cyflawni ei fwriadau. (Eseia 55:10, 11) Ar ben hynny, ni fyddai cael gwared ar y gwrthryfelwyr yn Eden wedi ateb y cwestiwn a godwyd ynglŷn â hawl Jehofa i deyrnasu.

12, 13. Eglurwch pam mae Jehofa wedi gadael i Satan ddod yn rheolwr ar y byd hwn a pham mae Duw wedi caniatáu i bobl eu llywodraethu eu hunain.

12 Gadewch inni ystyried eglureb. Dychmygwch fod athro yn esbonio i’w ddisgyblion sut mae datrys problem anodd. Mae un disgybl galluog ond gwrthryfelgar yn honni bod ffordd yr athro o ddatrys y broblem yn anghywir. Gan awgrymu nad yw’r athro yn gymwys i ddatrys y broblem, mae’r rebel yn mynnu ei fod yn gwybod am ffordd well. Mae rhai disgyblion yn meddwl ei fod yn iawn, ac maen nhw hefyd yn gwrthryfela. Beth dylai’r athro ei wneud? Os yw’r athro yn taflu’r rebel allan o’r dosbarth, pa effaith gaiff hynny ar y disgyblion eraill? Oni fyddan nhw’n meddwl bod eu cyd-ddisgybl a’i ddilynwyr yn iawn? Efallai bydd gweddill y dosbarth yn colli eu parch tuag at yr athro, gan feddwl fod arno ofn cael ei brofi’n anghywir. Ond, beth petai’r athro yn caniatáu i’r rebel ddangos i’r dosbarth sut y byddai ef yn mynd ati i ddatrys y broblem?

Ydy’r disgybl yn fwy cymwys na’r athro?

13 Wel, mae Jehofa wedi gwneud rhywbeth tebyg i’r hyn y mae’r athro yn yr eglureb yn ei wneud. Cofiwch fod y sefyllfa yn effeithio ar fwy na’r gwrthryfelwyr yn Eden yn unig. Roedd miliynau o angylion yn gwylio. (Job 38:7; Daniel 7:10) Byddai ymateb Jehofa i’r gwrthryfel yn effeithio’n fawr ar yr angylion hynny ac, yn y pen draw, ar bob creadur deallus. Felly, beth mae Jehofa wedi ei wneud? Mae wedi caniatáu i Satan ddangos sut y byddai ef yn teyrnasu dros ddynolryw. Mae Duw hefyd wedi gadael i bobl eu llywodraethu eu hunain o dan arweiniad Satan.

14. Pa fuddion a ddaw o benderfyniad Jehofa i ganiatáu i bobl lywodraethu drostyn nhw eu hunain?

14 Mae’r athro yn yr eglureb yn gwybod bod y rebel a’r rhai sydd wedi ochri ag ef yn anghywir. Ond, mae’n gwybod hefyd y bydd rhoi cyfle iddynt brofi eu pwynt o fudd i’r dosbarth cyfan. Pan fydd y gwrthryfelwyr yn methu, bydd pob disgybl gonest yn gweld mai’r athro yw’r unig un sy’n gymwys i arwain y dosbarth. Byddan nhw’n deall pam mae’r athro, ar ôl hynny, yn taflu’r gwrthryfelwyr allan o’r dosbarth. Yn yr un modd, mae Jehofa yn gwybod y bydd unigolion diffuant ac angylion yn elwa o weld bod Satan a’i gyd-wrthryfelwyr wedi methu ac o sylweddoli na all pobl lywodraethu drostyn nhw eu hunain. Fel Jeremeia gynt, byddan nhw’n dysgu’r gwirionedd hollbwysig hwn: “Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo neb ei ffordd; ni pherthyn i’r teithiwr drefnu ei gamre.”—⁠Jeremeia 10:23.

PAM CYHYD?

15, 16. (a) Pam mae Jehofa wedi caniatáu i ddioddefaint bara am gymaint o amser? (b) Pam nad yw Jehofa wedi rhwystro pethau fel troseddau erchyll rhag digwydd?

15 Ond pam mae Jehofa wedi caniatáu i ddioddefaint bara am gymaint o amser? A pham nad yw’n rhwystro pethau drwg rhag digwydd? Wel, ystyriwch ddau beth na fyddai’r athro yn ein heglureb yn eu gwneud. Yn gyntaf, ni fyddai’n rhwystro’r disgybl gwrthryfelgar rhag cyflwyno ei ddadl. Yn ail, ni fyddai’r athro’n helpu’r rebel i wneud ei bwynt. Yn yr un modd, ystyriwch ddau beth mae Jehofa wedi penderfynu peidio â’u gwneud. Yn gyntaf, nid yw Duw wedi rhwystro Satan a’r rhai sy’n ochri ag ef rhag ceisio profi eu bod nhw’n iawn. Felly, mae caniatáu i amser fynd heibio wedi bod yn angenrheidiol. Yn ystod y miloedd o flynyddoedd y mae dyn wedi bod ar y ddaear, mae wedi arbrofi â phob math o hunanlywodraeth. Mae dynolryw wedi gwneud rhai datblygiadau cadarnhaol mewn gwyddoniaeth ac mewn meysydd eraill, ond mae anghyfiawnder, tlodi, trosedd a rhyfel wedi mynd o ddrwg i waeth. Mae’n hollol amlwg bellach fod llywodraeth ddynol wedi bod yn fethiant.

16 Yn ail, nid yw Jehofa wedi helpu Satan i reoli’r byd hwn. Petai Duw, er enghraifft, wedi rhwystro troseddau erchyll rhag digwydd, oni fyddai, i bob pwrpas, yn cefnogi achos y gwrthryfelwyr? Oni fyddai Duw yn gwneud i bobl feddwl y gall pobl lywodraethu drostyn nhw eu hunain heb ddioddef canlyniadau trychinebus? Petai Jehofa yn gwneud hynny, byddai’n dangos bod ganddo ran yn y celwydd. Ond, y mae “yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog.”—⁠Hebreaid 6:18.

17, 18. Beth bydd Jehofa yn ei wneud am yr holl niwed y mae llywodraeth ddynol a dylanwad Satan wedi ei achosi?

17 Ond, beth am yr holl niwed sydd wedi digwydd yn ystod y gwrthryfel hir yn erbyn Duw? Mae’n rhaid inni gofio bod Jehofa yn hollalluog. Felly, gall ddad-wneud a bydd yn dad-wneud effeithiau dioddefaint ar ddynolryw. Fel rydyn ni eisoes wedi dysgu, bydd y broses o ddifetha ein planed yn cael ei gwrthdroi drwy drawsffurfio’r ddaear yn Baradwys. Bydd effeithiau pechod yn cael eu dileu drwy ffydd yn aberth pridwerthol Iesu, a bydd effeithiau marwolaeth yn cael eu gwrthdroi drwy gyfrwng yr atgyfodiad. Bydd Duw yn defnyddio Iesu i “ddinistrio gweithredoedd y diafol.” (1 Ioan 3:8) Bydd Jehofa yn gwneud hyn i gyd ar yr adeg iawn. Gallwn ni fod yn falch nad yw Duw wedi gweithredu’n gynt oherwydd bod ei amynedd wedi rhoi’r cyfle inni ddysgu’r gwir a’i wasanaethu. (Darllenwch 2 Pedr 3:9, 10.) Yn y cyfamser, mae Duw wedi bod yn edrych am addolwyr diffuant ac yn eu helpu nhw i ymdopi ag unrhyw ddioddefaint a all ddigwydd iddyn nhw yn y byd cythryblus hwn.—⁠Ioan 4:23; 1 Corinthiaid 10:13.

18 Gallai rhai ofyn, ‘Oni fyddai’r dioddefaint hwn i gyd wedi ei osgoi petai Duw wedi creu Adda ac Efa fel nad oedd hi’n bosibl iddyn nhw wrthryfela?’ I ateb y cwestiwn hwnnw, mae’n rhaid ichi gofio’r rhodd werthfawr y mae Jehofa wedi ei rhoi ichi.

SUT BYDDWCH CHI’N DEFNYDDIO RHODD DUW?

Bydd Duw yn eich helpu chi i ymdopi â dioddefaint

19. Pa rodd werthfawr mae Jehofa wedi ei rhoi inni, a pham dylen ni ei gwerthfawrogi?

19 Fel y gwelon ni ym Mhennod 5, cafodd bodau dynol eu creu gydag ewyllys rhydd. Ydych chi’n sylweddoli pa mor werthfawr yw’r rhodd honno? Mae Duw wedi creu llawer iawn o anifeiliaid, ac, ar y cyfan, maen nhw’n byw yn ôl eu greddfau. (Diarhebion 30:24) Mae dyn wedi gwneud rhai robotiaid sy’n gallu cael eu rhaglennu i ddilyn pob gorchymyn. A fydden ni’n hapus petasai Duw wedi ein gwneud ni fel hynny? Na fydden. Rydyn ni’n falch o fod yn rhydd i ddewis pa fath o berson rydyn ni’n dymuno bod, a pha bethau rydyn ni am eu gwneud mewn bywyd, a phwy rydyn ni eisiau fel ffrind ac yn y blaen. Mae cael rhywfaint o ryddid yn rhoi pleser inni, a dyna beth mae Duw am inni ei fwynhau.

20, 21. Sut gallwn ni ddefnyddio rhodd ein hewyllys rhydd yn y ffordd orau bosibl, a pham dylen ni eisiau gwneud hyn?

20 Nid yw Jehofa am i neb ei addoli dan orfodaeth. (2 Corinthiaid 9:7) Er enghraifft: Beth fyddai’n well gan fam neu dad—plentyn sy’n dweud “Dw i’n eich caru chi” oherwydd bod rhywun wedi dweud wrtho am ddweud hynny, neu blentyn sy’n dweud y geiriau hynny o wirfodd ei galon? Felly, y cwestiwn yw, Sut gwnewch chi ddefnyddio’r ewyllys rhydd y mae Jehofa wedi ei rhoi i chi? Fe wnaeth Satan, Adda, ac Efa wneud y dewis gwaethaf posibl â’u hewyllys rhydd. Gwrthod Jehofa a wnaethon nhw. Beth wnewch chi?

21 Mae eich ewyllys rhydd yn rhodd fendigedig, ac mae’r cyfle gennych i’w defnyddio yn y ffordd orau bosibl. Gallwch ymuno â’r miliynau o bobl sydd wedi dewis sefyll ar ochr Jehofa. Maen nhw’n gwneud i Dduw lawenhau oherwydd eu bod nhw’n chwarae rhan weithredol yn y gwaith o brofi bod Satan yn gelwyddog a’i reolaeth yn fethiant llwyr. (Diarhebion 27:11) Mae hynny’n rhywbeth y gallwch chi hefyd ei wneud drwy ddewis y ffordd orau bosibl mewn bywyd. Bydd hyn yn cael ei egluro yn y bennod nesaf.