Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG DAU

Byw Mewn Ffordd Sy’n Plesio Duw

Byw Mewn Ffordd Sy’n Plesio Duw
  • Sut gallwch chi ddod yn ffrind i Dduw?

  • Beth sydd a wnelo her Satan â chi?

  • Pa ymddygiad dydy Jehofa ddim yn ei hoffi?

  • Sut gallwch chi fyw mewn ffordd sy’n plesio Duw?

1, 2. Rhowch enghreifftiau o bobl yr oedd Jehofa yn eu hystyried yn ffrindiau agos iddo.

PA FATH o berson y byddech chi yn ei ddewis fel ffrind? Yn fwy na thebyg, byddech yn mwynhau cwmni rhywun sy’n rhannu’r un diddordebau, yr un agweddau a’r un gwerthoedd â chi. Yn sicr, byddai rhywun â rhinweddau fel gonestrwydd a charedigrwydd yn apelio atoch chi.

2 Ar hyd yr oesoedd, mae Duw wedi dewis rhai unigolion i fod yn ffrindiau agos iddo. Er enghraifft, fe wnaeth Jehofa alw Abraham yn ffrind iddo. (Darllenwch Eseia 41:8; Iago 2:23.) Roedd Dafydd yn fath o ddyn y mae Jehofa yn ei garu, a dywedodd am Dafydd ei fod “yn ŵr wrth fodd fy nghalon.” (Actau 13:22) Dywedodd Jehofa fod Daniel yn ddyn “annwyl.”—⁠Daniel 9:23, BC.

3. Pam mae Jehofa yn dewis rhai pobl i fod yn ffrindiau iddo?

3 Pam roedd Jehofa yn ystyried Abraham, Dafydd, a Daniel yn ffrindiau iddo? Wel, dywedodd wrth Abraham: “Am iti ufuddhau i’m llais.” (Genesis 22:18) Felly, mae Jehofa yn agosáu at y rhai gostyngedig hynny sy’n gwneud yr hyn y mae’n ei ofyn ganddyn nhw. “Gwrandewch ar fy llais,” meddai wrth yr Israeliaid, “a byddaf yn Dduw i chwi, a byddwch chwithau’n bobl i mi.” (Jeremeia 7:23) Os ydych chi’n ufuddhau i Jehofa, gallwch chi hefyd fod yn ffrind iddo!

MAE JEHOFA YN RHOI NERTH I’W FFRINDIAU

4, 5. Sut mae Jehofa yn dangos ei gryfder ar ran ei bobl?

4 Ystyriwch beth mae bod yn ffrind i Dduw yn ei olygu. Mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn edrych am gyfleoedd “i ddangos ei gryfder i’r sawl sy’n gwbl ymroddedig iddo.” (2 Cronicl 16:9) Sut gall Jehofa ddangos ei gryfder yn eich achos chi? Darllenwn am un ffordd yn Salm 32:8, lle mae Jehofa yn dweud: “Hyfforddaf di a’th ddysgu yn y ffordd a gymeri; fe gadwaf fy ngolwg arnat.”

5 Onid yw’r geiriau hyn am ofal Jehofa yn cyffwrdd â’n calonnau? Bydd yn rhoi cyfarwyddyd angenrheidiol ichi ac yn eich gwarchod wrth i chi ei roi ar waith. Mae Duw eisiau eich helpu chi i godi uwchlaw eich treialon. (Darllenwch Salm 55:22.) Felly os ydych chi’n gwasanaethu Jehofa â chalon gyflawn, medrwch fod yr un mor hyderus â’r salmydd pan ddywedodd: “Gosodais yr ARGLWYDD o’m blaen yn wastad; am ei fod ar fy neheulaw, ni’m symudir.” (Salm 16:8; 63:8) Ie, gall Jehofa eich helpu chi i fyw mewn ffordd sydd yn ei blesio. Ond, fel y gwyddoch, mae gan Dduw elyn a fyddai’n dymuno eich rhwystro rhag gwneud hynny.

HER SATAN

6. Beth oedd cyhuddiad Satan ynglŷn â bodau dynol?

6 Mae Pennod 11 o’r llyfr hwn yn esbonio sut gwnaeth Satan herio sofraniaeth Duw. Fe wnaeth Satan gyhuddo Duw o fod yn gelwyddog. Awgrymodd fod Jehofa yn annheg yn peidio â gadael i Adda ac Efa benderfynu beth oedd yn dda a beth oedd yn ddrwg. Ar ôl i Adda ac Efa bechu, a’r ddaear yn dechrau llenwi â’u disgynyddion, fe wnaeth Satan gwestiynu cymhelliad pawb. ‘Dydy pobl ddim yn gwasanaethu Duw oherwydd eu bod nhw yn ei garu,’ oedd cyhuddiad Satan. ‘Rhowch gyfle imi a gallaf wneud i unrhyw un gefnu ar Dduw.’ Mae hanes y dyn Job yn dangos mai dyma oedd Satan yn ei gredu. Pwy oedd Job, a beth oedd ei ran ef yn hanes her Satan?

7, 8. (a) Pam roedd Job yn ddyn mor eithriadol ymhlith pobl yr oes honno? (b) Sut gwnaeth Satan fwrw amheuaeth ar gymhelliad Job?

7 Roedd Job yn byw tua 3,600 o flynyddoedd yn ôl. Roedd yn ddyn da, gan fod Jehofa yn dweud amdano: “Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg.” (Job 1:8) Roedd Job yn plesio Duw.

8 Fe wnaeth Satan gwestiynu cymhelliad Job wrth iddo wasanaethu Duw. Dywedodd y Diafol wrth Jehofa: “Oni warchodaist drosto ef [Job] a’i deulu a’i holl eiddo? Bendithiaist ei waith, a chynyddodd ei dda yn y tir. Ond estyn di dy law i gyffwrdd â dim o’i eiddo; yna’n sicr fe’th felltithia yn dy wyneb.”—⁠Job 1:10, 11.

9. Sut ymatebodd Jehofa i her Satan, a pham?

9 Roedd Satan yn dadlau bod Job yn gwasanaethu Duw am resymau hunanol yn unig. Roedd y Diafol hefyd yn honni y byddai Job yn cefnu ar Dduw petai’n cael ei brofi. Beth oedd ymateb Jehofa i her Satan? Oherwydd bod y cwestiwn yn ymwneud â chymhelliad Job, gadawodd Jehofa i Satan brofi Job. Drwy wneud hynny, byddai cariad Job tuag at Dduw—neu ei ddiffyg cariad tuag ato—yn amlwg i bawb.

JOB YN CAEL EI BROFI

10. Pa dreialon a ddigwyddodd i Job, a beth oedd ei ymateb?

10 Cyn pen dim, aeth Satan ati i brofi Job mewn amryw ffyrdd. Cafodd rhai o anifeiliaid Job eu dwyn ac eraill eu lladd. Cafodd y rhan fwyaf o’i weision eu lladd. Daeth caledi economaidd yn sgil hynny. Roedd gan Job ddeg o blant ond bu farw pob un ohonyn nhw mewn storm. Ond, er gwaethaf y digwyddiadau trychinebus ac erchyll hyn, “ni phechodd Job, na gweld bai ar Dduw.”—⁠Job 1:22.

11. (a) Beth oedd ail gyhuddiad Satan yn achos Job, a beth oedd ymateb Jehofa? (b) Beth oedd ymateb Job i’w glefyd poenus?

11 Ni wnaeth Satan roi’r gorau iddi. Er bod Job wedi ymdopi â cholli ei eiddo, ei weision, a’i blant, roedd Satan yn dal i feddwl y byddai Job yn cefnu ar Dduw petai’n mynd yn sâl. Gadawodd Jehofa i Satan daro Job â chlefyd ffiaidd a phoenus. Ond ni wnaeth Job golli ei ffydd yn Nuw hyd yn oed ar ôl hynny. Yn hytrach, roedd yn mynnu: “Ni chefnaf ar fy nghywirdeb hyd fy marw.”—⁠Job 27:5.

Job, ffrind i Dduw, yn hapus ac yn fodlon ei fyd

12. Sut gwnaeth Job ateb her y Diafol?

12 Doedd Job ddim yn gwybod mai Satan oedd y tu ôl i’w drafferthion. Gan nad oedd yn gwybod y manylion am y Diafol yn herio sofraniaeth Jehofa, roedd Job yn ofni mai Duw oedd achos ei broblemau. (Job 6:4; 16:11-14) Ond eto arhosodd yn ffyddlon i Jehofa. Roedd Satan wedi honni bod Job yn gwasanaethu Jehofa am resymau hunanol ond cafodd y cyhuddiad hwnnw ei brofi’n anghywir gan fywyd ffyddlon Job.

13. Beth ddigwyddodd pan arhosodd Job yn ffyddlon i Dduw?

13 Oherwydd ffyddlondeb Job, roedd gan Jehofa ateb pendant i her sarhaus Satan. Yn wir, roedd Job yn ffrind i Jehofa, ac fe gafodd ei wobrwyo gan Dduw am ei ffyddlondeb.—⁠Job 42:12-17.

BETH SYDD A WNELO HYN Â CHI?

14, 15. Pam y gellir dweud bod cyhuddiad Satan yn erbyn Job yr un mor berthnasol i bawb?

14 Nid cwestiwn i Job yn unig oedd cyhuddiad Satan ynglŷn â ffyddlondeb i Dduw. Cwestiwn i chi hefyd yw hwn. Mae hyn i’w weld yn glir yn Diarhebion 27:11, lle mae Gair Jehofa yn dweud: “Fy mab, bydd ddoeth, a llawenha fy nghalon; yna gallaf roi ateb i’r rhai sy’n fy amharchu.” Cafodd y geiriau hyn eu hysgrifennu ganrifoedd ar ôl i Job farw, ac maen nhw’n dangos bod Satan yn dal i wawdio Jehofa ac yn dal i gyhuddo Ei weision. Pan ydyn ni’n byw mewn ffordd sy’n plesio Jehofa, rydyn ni’n helpu i roi ateb i gamgyhuddiadau Satan, a thrwy hynny rydyn ni’n gwneud i Jehofa lawenhau. Sut rydych chi’n teimlo am hynny? Hyd yn oed os yw hyn yn golygu newid rhai pethau yn eich bywyd, oni fyddai profi Satan yn gelwyddog yn deimlad braf?

15 Sylwch fod Satan wedi dweud: “Fe rydd dyn y cyfan sydd ganddo am ei einioes.” (Job 2:4) Drwy ddweud “dyn” yma, roedd Satan yn cyhuddo nid Job yn unig ond pawb. Mae hwnnw’n bwynt hynod o bwysig. Mae Satan hefyd wedi bwrw amheuaeth ar eich ffyddlondeb chi i Dduw. Byddai’r Diafol wrth ei fodd petasech chi’n anufuddhau i Dduw a rhoi’r gorau i fyw yn gyfiawn pan fo anawsterau yn codi. Sut gallai Satan geisio gwneud hyn?

16. (a) Beth yw rhai o’r dulliau y mae Satan yn eu defnyddio i berswadio pobl i gefnu ar Dduw? (b) Sut gall y Diafol ddefnyddio’r dulliau hyn yn eich erbyn chi?

16 Fel sydd wedi ei drafod eisoes ym Mhennod 10, mae Satan yn defnyddio amryw ddulliau i geisio perswadio pobl i gefnu ar Dduw. Ar y naill law, mae’n ymosod “fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i’w lyncu.” (1 Pedr 5:8) Felly, mae’n bosibl ichi weld dylanwad Satan pan fo ffrindiau, perthnasau, neu eraill yn gwrthwynebu eich ymdrechion i astudio’r Beibl a rhoi ar waith yr hyn rydych chi yn ei ddysgu. * (Ioan 15:19, 20) Ar y llaw arall, mae Satan yn medru “ymrithio fel angel goleuni.” (2 Corinthiaid 11:14) Gall y Diafol fod yn gyfrwys wrth iddo geisio eich camarwain a’ch hudo o’r ffordd o fyw sy’n plesio Duw. Gall hefyd ein digalonni drwy wneud inni deimlo nad ydyn ni’n ddigon da i blesio Duw. (Diarhebion 24:10) P’un ai gweithredu fel “llew yn rhuo” y mae Satan, neu fel “angel goleuni,” yr un yw’r her: Mae Satan yn dweud y byddwch yn dewis peidio â gwasanaethu Duw yn wyneb treialon neu demtasiynau. Sut gallwch chi ateb ei gyhuddiad ac aros yn ffyddlon i Dduw, fel y gwnaeth Job?

UFUDDHAU I ORCHMYNION JEHOFA

17. Beth yw’r rheswm pennaf dros ufuddhau i orchmynion Jehofa?

17 Gallwch roi ateb i her Satan drwy fyw mewn ffordd sy’n plesio Duw. Beth mae hyn yn ei olygu? Mae’r Beibl yn ateb: “Câr di yr ARGLWYDD dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth.” (Deuteronomium 6:5) Wrth i’ch cariad tuag at Dduw dyfu, byddwch yn dymuno gwneud yr hyn y mae yn ei ofyn gennych. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Oherwydd dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion.” Os ydych chi’n caru Jehofa â’ch holl galon, ni fydd “ei orchmynion ef yn feichus.”—⁠1 Ioan 5:3.

18, 19. (a) Beth yw rhai o orchmynion Jehofa? (Gweler y blwch “ Osgoi’r Pethau y Mae Jehofa yn eu Casáu.”) (b) Sut rydyn ni’n gwybod nad yw Duw yn disgwyl gormod gennym?

18 Beth yw gorchmynion Jehofa? Mae rhai ohonyn nhw yn ymwneud ag ymddygiad y dylen ni ei osgoi. Er enghraifft, sylwch ar y blwch “ Osgoi’r Pethau y Mae Jehofa yn eu Casáu.” Yno, gwelwch restr o’r pethau mae’r Beibl yn eu condemnio. Ar yr olwg gyntaf, gall rhywun feddwl nad yw rhai pethau ar y rhestr mor ddrwg â hynny. Ond, ar ôl ichi fyfyrio ar yr adnodau a restrir, mae’n debyg y byddwch yn cydnabod doethineb deddfau Jehofa. Gall newid eich ffordd o fyw fod yn un o’r pethau mwyaf anodd ichi erioed ei wynebu. Ond eto, bydd byw mewn ffordd sy’n plesio Duw yn dod â boddhad a hapusrwydd. (Eseia 48:17, 18) Ac mae hyn o fewn eich cyrraedd. Sut rydyn ni’n gwybod hynny?

19 Dydy Jehofa ddim yn gofyn inni wneud unrhyw beth sydd y tu hwnt i’n gallu. (Darllenwch Deuteronomium 30:11-14.) Mae’n gwybod am ein potensial ac am ein cyfyngiadau yn well na ni ein hunain. (Salm 103:14) Ar ben hynny, mae Jehofa yn medru rhoi inni’r nerth i fod yn ufudd iddo. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Y mae Duw’n ffyddlon, ac ni fydd ef yn gadael ichwi gael eich profi y tu hwnt i’ch gallu; yn wir, gyda’r prawf, fe rydd ef ddihangfa hefyd, a’ch galluogi i ymgynnal dano.” (1 Corinthiaid 10:13) Er mwyn eich helpu chi i sefyll yn gadarn, gall Jehofa roi’r “gallu tra rhagorol” ichi. (2 Corinthiaid 4:7) Wedi iddo wynebu llawer o dreialon yn llwyddiannus, roedd Paul yn gallu dweud: “Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.”—⁠Philipiaid 4:13.

MEITHRIN RHINWEDDAU DUWIOL

20. Pa rinweddau duwiol ddylech eu meithrin, a pham y mae’r rhain yn bwysig?

20 Wrth gwrs, mae mwy i blesio Jehofa nag osgoi’r pethau sy’n gas ganddo. Mae’n rhaid ichi hefyd garu’r pethau mae ef yn eu caru. (Rhufeiniaid 12:9) Onid ydych chi’n cael eich denu gan bobl sy’n rhannu’r un agweddau, yr un diddordebau a’r un gwerthoedd â chi? Mae’r un peth yn wir am Jehofa. Felly, dysgwch garu’r pethau sy’n annwyl i Jehofa. Disgrifir rhai o’r pethau hyn yn Salm 15, lle darllenwn am y bobl y mae Jehofa yn eu cyfrif fel ffrindiau. (Darllenwch Salm 15:1-5.) Mae ffrindiau Jehofa yn dangos yr hyn mae’r Beibl yn ei alw’n “ffrwyth yr Ysbryd.” Mae’n cynnwys rhinweddau fel “cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.”—⁠Galatiaid 5:22, 23.

21. Beth fydd yn eich helpu i feithrin rhinweddau duwiol?

21 Bydd darllen ac astudio’r Beibl yn rheolaidd yn eich helpu i feithrin rhinweddau duwiol. A bydd dysgu am yr hyn mae Duw yn ei ofyn yn eich helpu i sicrhau bod eich meddyliau chi yn unol â meddyliau Duw. (Eseia 30:20, 21) Wrth ichi ddyfnhau eich cariad tuag at Jehofa, byddwch yn dymuno byw mewn ffordd sy’n plesio Duw.

22. Beth y byddwch yn llwyddo i’w wneud os ydych yn byw mewn ffordd sy’n plesio Duw?

22 Mae angen ymdrech i fyw mewn modd sy’n plesio Jehofa. Mae’r Beibl yn dweud bod newid eich bywyd yn debyg i ddiosg eich hen bersonoliaeth a gwisgo un newydd amdanoch. (Colosiaid 3:9, 10) Ynglŷn â gorchmynion Jehofa, ysgrifennodd y salmydd: “O’u cadw y mae gwobr fawr.” (Salm 19:11) Byddwch hefyd yn darganfod bod byw mewn modd sy’n plesio Duw yn dod â gwobr werth ei chael. Trwy wneud hyn, byddwch yn rhoi ateb i her Satan ac yn gwneud i Jehofa lawenhau!

^ Par. 16 Nid yw hyn yn golygu bod y rhai sydd yn eich gwrthwynebu yn cael eu rheoli yn bersonol gan Satan. Ond, Satan yw duw’r oes bresennol, ac mae’r holl fyd yn gorwedd yn ei afael. (2 Corinthiaid 4:4; 1 Ioan 5:19) Felly, gallwn ddisgwyl y bydd byw bywyd yn ôl safonau Duw yn amhoblogaidd, a bydd rhai yn eich gwrthwynebu.