Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG TRI

Agwedd Duw at Fywyd

Agwedd Duw at Fywyd
  • Beth yw agwedd Duw at fywyd?

  • Beth yw agwedd Duw at erthylu?

  • Sut rydyn ni’n parchu bywyd?

1. Pwy a greodd bob peth byw?

“YR ARGLWYDD yw’r gwir Dduw,” meddai’r proffwyd Jeremeia. “Ef yw’r Duw byw.” (Jeremeia 10:10) Ar ben hynny, Jehofa Dduw yw Creawdwr pob peth byw. Dywedodd y creaduriaid nefol wrtho: “Tydi a greodd bob peth, a thrwy dy ewyllys y daethant i fod ac y crëwyd hwy.” (Datguddiad 4:11) Wrth ganu mawl i Dduw, dywedodd y Brenin Dafydd: “Gyda thi y mae ffynnon bywyd.” (Salm 36:9) Felly, mae bywyd yn rhodd gan Dduw.

2. Beth mae Duw yn ei wneud i gynnal ein bywydau?

2 Mae Jehofa hefyd yn cynnal ein bywydau. (Actau 17:28) Diolch iddo ef, mae gennyn ni fwyd i’w fwyta, dŵr i’w yfed, awyr i’w anadlu, a’r tir rydyn ni’n byw ynddo. (Darllenwch Actau 14:15-17.) Ac mae Jehofa wedi creu’r pethau hyn mewn modd sy’n rhoi pleser inni. Ond, i fwynhau bywyd yn llawn, mae angen dysgu gorchmynion Duw ac ufuddhau iddynt.—⁠Eseia 48:17, 18.

PARCHU BYWYD

3. Beth roedd Jehofa yn ei feddwl am lofruddiaeth Abel?

3 Mae Duw eisiau inni barchu bywyd—ein bywydau ni’n hunain a bywydau pobl eraill. Er enghraifft, yn nyddiau Adda ac Efa, aeth eu mab Cain yn ddig iawn wrth Abel, ei frawd ieuengaf. Fe wnaeth Jehofa rybuddio Cain y gall ei ddicter wneud iddo bechu’n ddifrifol. Anwybyddu’r rhybudd wnaeth Cain. Trodd “ar Abel ei frawd, a’i ladd.” (Genesis 4:3-8) Cosbodd Jehofa Cain am iddo lofruddio ei frawd.—⁠Genesis 4:9-11.

4. Yng Nghyfraith Moses, sut pwysleisiodd Duw’r agwedd iawn at fywyd?

4 Filoedd o flynyddoedd wedyn, rhoddodd Jehofa ddeddfau i bobl Israel i’w helpu i’w wasanaethu yn dderbyniol. Gan fod y deddfau hyn wedi eu rhoi trwy’r proffwyd Moses, weithiau maen nhw’n cael eu hadnabod fel Cyfraith Moses. Dywedodd un o orchmynion Cyfraith Moses: “Na ladd.” (Deuteronomium 5:17) Dangosodd hyn i’r Israeliaid fod Duw yn rhoi gwerth mawr ar fywyd dynol ac y dylen ni gael yr un parch at fywydau pobl eraill.

5. Beth yw’r agwedd iawn at erthylu?

5 Beth am fywyd plentyn cyn ei eni? Wel, yn ôl Cyfraith Moses, roedd achosi marwolaeth baban yng nghroth ei fam yn ddrwg. Ie, mae hyd yn oed bywyd y rhai heb eu geni yn werthfawr i Jehofa. (Darllenwch Exodus 21:22, 23; Salm 127:3.) Mae hyn yn golygu mai peth drwg yw erthylu.

6. Pam ddylen ni ddim casáu ein cyd-ddyn?

6 Mae parchu bywyd yn mynd law yn llaw ag agwedd iach tuag at ein cyd-ddyn. Dywed y Beibl: “Llofrudd yw pob un sy’n casáu ei gydaelod, ac yr ydych yn gwybod nad oes gan unrhyw lofrudd fywyd tragwyddol yn aros ynddo.” (1 Ioan 3:15) Os ydyn ni’n dymuno cael bywyd tragwyddol mae angen diwreiddio o’n calonnau unrhyw gasineb tuag at ein cyd-ddyn, oherwydd, yn y bôn, casineb yw achos y rhan fwyaf o drais. (1 Ioan 3:11, 12) Mae dysgu caru ein gilydd yn hanfodol bwysig.

7. Beth yw rhai arferion sy’n dangos amarch at fywyd?

7 Beth am barchu eich bywyd eich hun? Dydy pobl, fel rheol, ddim yn dymuno marw, ond mae rhai’n peryglu eu bywydau er mwyn pleser. Er enghraifft, mae llawer yn ysmygu tybaco, yn arogli glud, neu yn cymryd cyffuriau er mwyn pleser. Mae’r pethau hyn yn niweidio’r corff ac yn aml maen nhw’n lladd y rhai sy’n eu defnyddio. Nid yw rhywun sy’n eu defnyddio nhw’n rheolaidd yn trin bywyd fel rhywbeth sanctaidd. Mae’r arferion hyn yn aflan yng ngolwg Duw. (Darllenwch Rhufeiniaid 6:19; 12:1; 2 Corinthiaid 7:1.) Er y gall fod yn anodd iawn, mae’n rhaid inni roi’r gorau i arferion o’r fath os ydyn ni am wasanaethu Duw mewn modd derbyniol. Mae Jehofa yn gallu ein helpu ni, ac y mae’n gwerthfawrogi ein hymdrechion i drin bywyd fel rhodd werthfawr.

8. Pam dylen ni fod yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch?

8 Os ydyn ni’n parchu bywyd byddwn ni’n ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch. Fyddwn ni ddim yn ddiofal a fyddwn ni ddim yn mentro ein bywydau yn ddiangen er mwyn pleser neu gyffro. Fyddwn ni ddim yn gyrru’n ddiofal a byddwn ni’n osgoi chwaraeon sy’n dreisgar neu’n beryglus. (Salm 11:5) Dywedodd Cyfraith Duw i Israel: “Pan fyddi’n adeiladu tŷ newydd [ac iddo do fflat], gwna ganllaw o amgylch y to, rhag i’th dŷ fod yn achos marwolaeth, petai rhywun yn syrthio oddi arno.” (Deuteronomium 22:8) Yn unol â’r egwyddor sydd yn sail i’r gyfraith honno, dylen ni sicrhau bod ein grisiau, er enghraifft, mewn cyflwr diogel, fel na fydd neb yn baglu, neu’n cwympo a chael niwed difrifol. Os oes gennych chi gar, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddiogel. Peidiwch â gadael i’ch tŷ na’ch car fod yn berygl i chi’ch hun nac i bobl eraill.

9. Os ydyn ni’n parchu bywyd, sut byddwn ni’n trin anifeiliaid?

9 Beth am fywyd anifeiliaid? Mae hwn hefyd yn sanctaidd yng ngolwg y Creawdwr. Mae Duw yn caniatáu lladd anifeiliaid er mwyn cael bwyd a dillad, neu ar gyfer amddiffyn pobl rhag perygl. (Genesis 3:21; 9:3; Exodus 21:28) Ond, dydy hi ddim yn iawn i fod yn greulon wrth anifeiliaid na’u lladd nhw o ran sbort. Byddai hyn yn dangos diffyg parch llwyr at sancteiddrwydd bywyd.—⁠Diarhebion 12:10.

DANGOS PARCH AT WAED

10. Sut mae Jehofa wedi dangos bod cysylltiad rhwng bywyd a gwaed?

10 Ar ôl i Cain ladd ei frawd Abel, dywedodd Jehofa wrth Cain: “Y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o’r pridd.” (Genesis 4:10) Pan wnaeth Duw sôn am waed Abel, roedd yn siarad am fywyd Abel. Roedd Cain wedi cymryd bywyd Abel, a nawr byddai’n rhaid i Cain gael ei gosbi. Roedd hi fel petai gwaed Abel, neu ei fywyd, yn gweiddi ar Jehofa am gyfiawnder. Cafodd y cysylltiad rhwng bywyd a gwaed ei ddangos eto ar ôl Dilyw dydd Noa. Cyn y Dilyw, dim ond ffrwythau, llysiau, grawnfwyd, a chnau oedd pobl yn eu bwyta. Ar ôl y Dilyw, dywedodd Jehofa wrth Noa a’i feibion: “Bydd popeth byw sy’n symud yn fwyd i chwi.” Ond, gosododd Duw’r amod hwn: “Ond peidiwch â bwyta cig â’i einioes [neu, ei fywyd], sef ei waed, ynddo.” (Genesis 1:29; 9:3, 4) Mae’n amlwg, felly, fod cysylltiad agos yng ngolwg Jehofa rhwng bywyd a gwaed unrhyw greadur.

11. Ers dyddiau Noa, beth mae Duw wedi ei orchymyn inni beidio â’i wneud â gwaed?

11 Rydyn ni’n dangos parch at waed trwy beidio â’i fwyta. Yn y Gyfraith a roddodd Jehofa i’r Israeliaid, fe orchmynnodd: “Y mae unrhyw un . . . sy’n hela anifail neu aderyn y gellir ei fwyta, i dywallt ei waed a’i orchuddio â phridd . . . Dyna pam y dywedais wrth bobl Israel, ‘Nid ydych i fwyta gwaed unrhyw greadur.’” (Lefiticus 17:13, 14) Roedd gorchymyn Duw i beidio â bwyta gwaed anifeiliaid, a roddwyd i Noa ryw 800 mlynedd cyn hynny, yn dal mewn grym. Roedd agwedd Jehofa yn glir: Roedd yn iawn i’w weision fwyta cig anifail ond nid y gwaed. Roedden nhw i dywallt y gwaed ar y ddaear—gan roi bywyd yr anifail, i bob pwrpas, yn ôl i Dduw.

12. Pa orchymyn ynglŷn â gwaed a roddwyd trwy’r ysbryd glân yn y ganrif gyntaf, ac sy’n dal mewn grym heddiw?

12 Mae gorchymyn tebyg wedi ei osod ar Gristnogion. Yn y ganrif gyntaf, daeth yr apostolion at ei gilydd, ynghyd ag eraill a oedd yn arwain dilynwyr Iesu, er mwyn penderfynu pa orchmynion roedd rhaid i bawb yn y gynulleidfa Gristnogol ufuddhau iddynt. Dyma oedd eu casgliad: “Penderfynwyd gan yr Ysbryd Glân a chennym ninnau beidio â gosod arnoch ddim mwy o faich na’r pethau angenrheidiol hyn: ymgadw rhag bwyta yr hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, neu waed, neu’r hyn sydd wedi ei dagu [sef ei ladd heb ei waedu], a rhag anfoesoldeb rhywiol.” (Actau 15:28, 29; 21:25) Felly, mae’n rhaid inni ‘ymgadw rhag gwaed.’ Yng ngolwg Duw, mae gwneud hyn yr un mor bwysig ag osgoi eilunaddoli neu anfoesoldeb rhywiol.

Petai eich meddyg yn dweud wrthych chi am ymgadw rhag alcohol, a fyddech chi’n ei chwistrellu i mewn i’ch gwythiennau?

13. Rhowch enghraifft sy’n dangos pam mae’r gorchymyn i ymgadw rhag gwaed yn cynnwys trallwysiadau gwaed.

13 Ydy’r gorchymyn i ymgadw rhag gwaed yn cynnwys trallwyso gwaed? Ydy. Er enghraifft, dychmygwch fod meddyg yn dweud wrthych chi am ymgadw rhag alcohol. A fyddai hynny yn golygu y dylech chi beidio ag yfed alcohol ond y byddai’n iawn ichi ei dderbyn i mewn i’ch gwythiennau trwy nodwydd? Na fyddai, wrth reswm! Yn yr un modd, mae ymgadw rhag gwaed yn golygu peidio â’i gymryd i mewn i’r corff o gwbl. Felly, mae’r gorchymyn i ymgadw rhag gwaed yn golygu na fydden ni’n caniatáu i neb drallwyso gwaed i’n gwythiennau.

14, 15. Petai meddygon yn dweud bod rhaid i Gristion gael trallwysiad gwaed, sut byddai’n ymateb, a pham?

14 Beth petai Cristion yn cael ei anafu’n ddifrifol neu fod angen llawdriniaeth fawr arno? Dychmygwch fod meddygon yn dweud bod rhaid iddo gael trallwysiad gwaed, neu fe fydd yn marw. Wrth gwrs, ni fyddai’r Cristion eisiau marw. Mewn ymdrech i achub ei fywyd, sydd yn rhodd werthfawr gan Dduw, byddai’n derbyn mathau eraill o driniaethau nad ydyn nhw’n camddefnyddio gwaed. Felly, byddai’n chwilio am driniaeth feddygol o’r fath pe bai hynny ar gael, a byddai’n barod i dderbyn amryw o sylweddau amgen yn lle gwaed.

15 A fyddai Cristion yn fodlon torri cyfraith Duw er mwyn ymestyn ychydig ar ei fywyd yn y drefn bresennol hon? Dywedodd Iesu: “Pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe’i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe’i caiff.” (Mathew 16:25) Dydyn ni ddim eisiau marw. Ond, petaen ni’n ceisio achub ein bywyd presennol drwy dorri cyfraith Duw, byddai perygl inni golli ein bywyd tragwyddol. Peth doeth, felly, yw ymddiried yng nghyfraith gyfiawn Duw. Petaen ni’n marw am unrhyw reswm, gallwn fod yn hyderus y bydd y Rhoddwr Bywyd yn ein cofio ni yn yr atgyfodiad ac yn adfer ein bywydau.—⁠Ioan 5:28, 29; Hebreaid 11:6.

16. Beth mae gweision Duw yn benderfynol o’i wneud ynglŷn â gwaed?

16 Heddiw, mae gweision ffyddlon Duw yn gwbl gadarn yn eu penderfyniad i gadw at gyfarwyddiadau Duw ynglŷn â gwaed. Fyddan nhw ddim yn ei fwyta mewn unrhyw ffurf na’i dderbyn am resymau meddygol. * Maen nhw’n sicr fod Duw, yr un a greodd waed, yn gwybod beth sydd orau. Ydych chi’n credu hynny?

YR UNIG FFORDD BRIODOL I DDEFNYDDIO GWAED

17. Yn Israel gynt, beth oedd yr unig ddefnydd o waed oedd yn dderbyniol i Jehofa Dduw?

17 Mae Cyfraith Moses yn tanlinellu’r unig ffordd iawn o ddefnyddio gwaed. Yn achos addoliad yr Israeliaid gynt, gorchmynnodd Jehofa: “Y mae bywyd y corff yn y gwaed, ac fe’i rhoddais ichwi i wneud cymod drosoch eich hunain ar yr allor; y gwaed sy’n gwneud cymod dros fywyd.” (Lefiticus 17:11) Pan oedd yr Israeliaid yn pechu, roedd maddeuant ar gael drwy offrymu anifeiliaid a threfnu i ychydig o’r gwaed gael ei roi ar yr allor yn y Tabernacl neu mewn cyfnod diweddarach yn nheml Duw. Aberthau fel hyn oedd yr unig ffordd gywir o ddefnyddio gwaed.

18. Pa fuddion a bendithion allwn ni eu cael oherwydd tywallt gwaed Iesu?

18 Dydy gwir Gristnogion ddim yn dod o dan Gyfraith Moses ac, felly, dydyn nhw ddim yn aberthu anifeiliaid a rhoi’r gwaed ar unrhyw allor. (Hebreaid 10:1) Sut bynnag, roedd defnyddio gwaed ar yr allor yn amser Israel gynt yn darlunio aberth gwerthfawr Mab Duw, Iesu Grist, yn y dyfodol. Fel y gwelon ni ym Mhennod 5 o’r llyfr hwn, rhoddodd Iesu ei fywyd dynol droston ni, drwy ganiatáu i’w waed gael ei dywallt yn aberth. Wedyn, esgynnodd i’r nef a chynnig gwerth ei waed i Dduw unwaith ac am byth. (Hebreaid 9:11, 12) Gosododd hyn y sail inni gael maddau ein pechodau ac agorodd y drws i fywyd tragwyddol. (Mathew 20:28; Ioan 3:16) Roedd defnyddio gwaed yn y modd hwnnw yn hynod o bwysig. (1 Pedr 1:18, 19) Dim ond trwy ffydd yng ngwerth y gwaed mae Iesu wedi ei dywallt, y gallwn ni gael ein hachub.

Sut gallwch chi barchu bywyd a gwaed?

19. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn bod “yn ddieuog o waed unrhyw un”?

19 Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Jehofa Dduw am y bywyd sydd gennyn ni. Ac oni ddylai hynny wneud inni ddweud wrth eraill am y bywyd tragwyddol sydd ar gael inni ar sail ffydd yn aberth Iesu? Byddwn ni’n gwneud hyn yn frwd ac yn selog drwy efelychu consýrn Duw am fywydau pobl eraill. (Darllenwch Eseciel 3:17-21.) Os ydyn ni’n gwneud hyn yn ddiwyd, byddwn ni’n medru ailadrodd geiriau’r apostol Paul pan ddywedodd: “Yr wyf yn tystio i chwi y dydd hwn fy mod yn ddieuog o waed unrhyw un; oblegid nid ymateliais rhag cyhoeddi holl arfaeth Duw i chwi.” (Actau 20:26, 27) Mae dweud wrth bobl eraill am Dduw a’i fwriadau yn ffordd ragorol o ddangos bod gennyn ni’r parch mwyaf at fywyd a gwaed.

^ Par. 16 Am wybodaeth ar driniaethau meddygol amgen yn lle trallwysiadau gwaed, gweler y bennod “Quality Alternatives to Transfusion” yn y llyfryn How Can Blood Save Your Life? a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.