Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG PEDWAR

Sut i Gael Bywyd Teuluol Hapus

Sut i Gael Bywyd Teuluol Hapus
  • Sut mae bod yn ŵr da?

  • Sut gall dynes lwyddo fel gwraig?

  • Beth sy’n gwneud rhieni da?

  • Sut gall plant gyfrannu at hapusrwydd y teulu?

1. Beth yw’r allwedd i fywyd teuluol hapus?

MAE Jehofa Dduw am ichi gael bywyd teuluol hapus. Yn ei Air, y Beibl, ceir canllawiau sy’n disgrifio’r rôl y mae Duw yn dymuno i bob aelod o’r teulu ei chwarae. Pan fo aelodau’r teulu i gyd yn gwneud eu rhan i ddilyn cyngor Duw, bydd pob un ar ei ennill. Dywedodd Iesu: “Gwyn eu byd y rhai sy’n clywed gair Duw ac yn ei gadw.”—⁠Luc 11:28.

2. Beth sy’n rhaid inni ei gydnabod i fod yn hapus fel teulu?

2 Mae hapusrwydd teuluol yn dibynnu yn bennaf ar gydnabod Jehofa, yr un a elwir “Ein Tad” gan Iesu, fel sefydlwr y teulu. (Mathew 6:9) Mae pob teulu ar y ddaear yn bodoli oherwydd ein Tad nefol, ac mae ef yn gwybod yn iawn beth sy’n gwneud teulu hapus. (Effesiaid 3:14, 15) Felly, beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am rôl pob aelod o’r teulu?

DUW A GREODD Y TEULU

3. Sut mae’r Beibl yn disgrifio dechreuad y teulu dynol, a sut rydyn ni’n gwybod bod hynny’n wir?

3 Jehofa a greodd y bodau dynol cyntaf, Adda ac Efa, gan ddod â nhw at ei gilydd fel gŵr a gwraig. Rhoddodd iddyn nhw gartref hardd ym mharadwys ddaearol gardd Eden, a dywedodd wrthyn nhw am gael plant. “Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear,” meddai Jehofa. (Genesis 1:26-28; 2:18, 21-24) Dangosodd Iesu nad chwedl na myth mo’r hanes am ddechreuad bywyd teuluol yn Genesis. (Mathew 19:4, 5) Er nad yw bywyd heddiw, gyda’i holl broblemau, fel y mae Duw wedi ei fwriadu, gadewch inni weld sut mae bywyd teuluol hapus yn bosibl.

4. (a) Sut gall pob aelod gyfrannu at hapusrwydd y teulu? (b) Pam mae astudio bywyd Iesu mor bwysig i hapusrwydd y teulu?

4 Gall pob aelod gyfrannu at hapusrwydd y teulu drwy efelychu cariad Duw. (Effesiaid 5:1, 2) Ond, sut gallwn ni efelychu Duw pan na fedrwn ni ei weld? Mae Jehofa wedi cynnig modd inni ddysgu amdano drwy anfon ei fab cyntaf-anedig o’r nef i’r ddaear. (Ioan 1:14, 18) Pan oedd y Mab hwn, Iesu Grist, ar y ddaear, efelychodd ei Dad nefol mor agos fel yr oedd gweld a gwrando ar Iesu yr un fath â bod yng nghwmni Jehofa. (Ioan 14:9) Felly, drwy ddysgu am gariad Iesu a dilyn ei esiampl, gall pob un ohonon ni gyfrannu at fywyd teuluol hapusach.

PATRWM AR GYFER GWŶR

5, 6. (a) Sut mae’r ffordd y mae Iesu yn trin y gynulleidfa yn gosod esiampl ar gyfer gwŷr? (b) Beth sydd ei angen i gael maddau ein pechodau?

5 Mae’r Beibl yn dweud y dylai gwŷr drin eu gwragedd yn yr un modd y mae Iesu yn trin ei ddisgyblion. Ystyriwch y cyfarwyddyd hwn yn y Beibl: “Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau’r eglwys a’i roi ei hun drosti . . . Yn yr un modd, dylai’r gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrff eu hunain. Y mae’r gŵr sy’n caru ei wraig yn ei garu ei hun. Ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; yn hytrach y mae’n ei feithrin a’i ymgeleddu. Felly y gwna Crist hefyd â’r eglwys.”—⁠Effesiaid 5:23, 25-29.

6 Mae cariad Iesu tuag at y gynulleidfa yn gosod esiampl berffaith ar gyfer gwŷr. Carodd Iesu ei ddisgyblion “hyd yr eithaf,” gan roi ei fywyd drostyn nhw, er eu bod yn bell o fod yn berffaith. (Ioan 13:1; 15:13) Yn yr un modd, dywed y Beibl: “Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, a pheidiwch â bod yn llym wrthynt.” (Colosiaid 3:19) Beth all helpu’r gŵr i roi’r cyngor hwn ar waith, yn enwedig petai ei wraig yn ymddwyn, o bryd i’w gilydd, heb feddwl. Dylai gofio ei fod yntau yn gwneud camgymeriadau ac ystyried beth mae’n gorfod ei wneud cyn iddo gael maddeuant gan Dduw. A beth yw hynny? Mae’n rhaid iddo faddau’r rhai sy’n pechu yn ei erbyn, ac mae hynny’n cynnwys ei wraig. Wrth gwrs, dylai hi wneud yr un fath. (Darllenwch Mathew 6:12, 14, 15.) Ydych chi’n gweld pam mae rhai yn dweud bod priodas lwyddiannus yn bartneriaeth rhwng dau sy’n barod i faddau?

7. Beth roedd Iesu yn ei gofio, gan osod pa esiampl i wŷr?

7 Ddylai gwŷr hefyd gofio bod Iesu bob amser yn garedig tuag at ei ddisgyblion. Roedd yn ymwybodol o’u hanghenion corfforol ac yn cofio bod pen draw i’w galluoedd. Pan oedden nhw wedi blino, er enghraifft, dywedodd: “Dewch chwi eich hunain o’r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn.” (Marc 6:30-32) Mae gwragedd hefyd yn haeddu cael eu trin mewn modd ystyriol a meddylgar. Mae’r Beibl yn disgrifio’r wraig fel y “llestr gwannaf,” ac yn gorchymyn y gŵr i roi’r “parch dyladwy” iddi. Pam? Gan fod gwŷr a gwragedd ill dau “yn gydetifeddion y gras sy’n rhoi bywyd.” (1 Pedr 3:7) Dylai gwŷr gofio mai ffyddlondeb sy’n gwneud pobl yn annwyl i Dduw, nid y ffaith eu bod nhw’n ddynion neu’n ferched.—⁠Salm 101:6.

8. (a) Sut mae’n wir fod “gŵr sy’n caru ei wraig yn ei garu ei hun”? (b) Beth mae bod yn “un cnawd” yn ei olygu i’r gŵr a’i wraig?

8 Mae’r Beibl yn dweud bod y “gŵr sy’n caru ei wraig yn ei garu ei hun.” Mae hyn yn wir oherwydd, fel dywedodd Iesu: “Nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd.” (Mathew 19:6) Felly, ddylen nhw ddim dangos diddordeb rhywiol yn neb arall. (Diarhebion 5:15-21; Hebreaid 13:4) Mae modd gwneud hyn drwy ystyried anghenion ei gilydd heb fod yn hunanol. (1 Corinthiaid 7:3-5) Dylid cofio’r cyngor: “Ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun; yn hytrach y mae’n ei feithrin a’i ymgeleddu.” Mae angen i wŷr garu eu gwragedd fel y maen nhw yn eu caru eu hunain, gan gofio eu bod nhw’n atebol i Iesu Grist, yr un sy’n ben arnyn nhw.—⁠Effesiaid 5:29; 1 Corinthiaid 11:3.

9. Pa rinwedd Iesu y mae Philipiaid 1:8 yn sôn amdani, a pham dylai gwŷr ddangos y rhinwedd hon tuag at eu gwragedd?

9 Soniodd Paul am y teimladau cynnes yr oedd gan Iesu tuag at eraill. (Philipiaid 1:8) Roedd tynerwch Iesu yn apelio’n fawr at y merched ymhlith ei ddisgyblion. (Ioan 20:1, 11-13, 16) Ac mae gwragedd yn dyheu am weld eu gwŷr yn dangos tynerwch fel hyn.

ESIAMPL I WRAGEDD

10. Sut mae Iesu’n gosod esiampl dda i wragedd?

10 Cyfundrefn yw’r teulu, ac mae angen pen arni er mwyn gweithio’n esmwyth. Mae hyd yn oed Iesu yn ildio i rywun arall sydd yn Ben arno. “Pen Crist yw Duw,” ac yn yr un modd, “pen y wraig yw’r gŵr.” (1 Corinthiaid 11:3) Trwy ymostwng i Dduw fel penteulu, mae Iesu yn gosod esiampl dda, oherwydd bod gan bawb benteulu y mae’n rhaid ymostwng iddo.

11. Beth ddylai agwedd y wraig fod tuag at ei gŵr, a beth all ddigwydd o achos hyn?

11 Mae pob dyn amherffaith yn gwneud camgymeriadau ac yn aml, yn methu bod yn benteulu delfrydol. Felly, beth dylai’r wraig ei wneud? Ddylai hi ddim bychanu ymdrechion ei gŵr, na cheisio cymryd ei rôl fel penteulu arni hi ei hun. Mae gwragedd llwyddiannus yn cofio bod ysbryd addfwyn a thawel yn werthfawr iawn yng ngolwg Duw. (1 Pedr 3:4) Trwy ddangos y fath ysbryd, bydd yn haws i’r wraig ildio i drefn Duw, hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd. Ar ben hynny, mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r wraig hithau i barchu ei gŵr.” (Effesiaid 5:33) Ond beth am y sefyllfa lle nad yw’r gŵr yn derbyn bod Crist yn Ben arno? Mae’r Beibl yn dweud wrth wragedd: “Byddwch ddarostyngedig i’ch gwŷr; ac yna, os oes rhai sy’n anufudd i’r gair, fe’u henillir hwy trwy ymarweddiad eu gwragedd, heb i chwi ddweud yr un gair, wedi iddynt weld eich ymarweddiad pur a duwiolfrydig.”—⁠1 Pedr 3:1, 2.

12. Pam mae’n iawn i’r wraig fynegi ei barn mewn ffordd barchus?

12 Dydy’r wraig ddim yn amharchu ei gŵr drwy fynegi barn sy’n groes i’w farn ef a hynny mewn ffordd garedig, boed i’r gŵr rannu ei ffydd neu beidio. Efallai fod ei safbwynt hi’n iawn, a byddai’r teulu i gyd ar ei ennill petai’r gŵr yn gwrando arni. Er nad oedd Abraham yn cytuno â’i wraig Sara pan wnaeth hi gynnig ateb ymarferol i broblem yn y teulu, dywedodd Duw wrtho: “Gwna bopeth a ddywed Sara wrthyt.” (Darllenwch Genesis 21:9-12.) Wrth gwrs, pan fydd y gŵr yn gwneud penderfyniad nad yw’n groes i gyfraith Duw, mae’r wraig yn ymostwng iddo drwy gefnogi’r penderfyniad.—⁠Actau 5:29; Effesiaid 5:24.

Sut roedd Sara yn esiampl dda i wragedd?

13. (a) Beth mae Titus 2:4, 5 yn argymell gwragedd i’w wneud? (b) Beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am ymwahanu ac ysgaru?

13 Trwy chwarae ei rhan, gall y wraig wneud llawer er lles y teulu. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dangos bod gwragedd i “garu eu gwŷr a charu eu plant, i fod yn ddisgybledig a diwair, i ofalu am eu cartrefi, ac i fod yn garedig, ac yn ddarostyngedig i’w gwŷr.” (Titus 2:4, 5) Trwy wneud hyn bydd y wraig yn ennill parch a chariad ei theulu. (Darllenwch Diarhebion 31:10, 28.) Sut bynnag, gan fod priodas yn bartneriaeth rhwng dau unigolyn amherffaith, gall rhai amgylchiadau difrifol arwain at ymwahanu neu ysgaru. Mae’r Beibl yn caniatáu ymwahanu mewn rhai amgylchiadau penodol. Ond nid ar chwarae bach y dylai rhywun ymwahanu, oherwydd mae’r Beibl yn dweud: “Nad yw’r wraig i ymadael â’i gŵr; . . . A pheidied y gŵr ag ysgaru ei wraig.” (1 Corinthiaid 7:10, 11) Dim ond anffyddlondeb rhywiol ar ran y gŵr neu’r wraig sy’n rhoi rheswm Ysgrythurol dros ysgaru.—⁠Mathew 19:9.

ESIAMPL BERFFAITH I RIENI

14. Sut roedd Iesu yn trin plant, a beth dylai rhieni ei roi i’w plant?

14 Gosododd Iesu esiampl berffaith i rieni yn y ffordd yr oedd yn trin plant. Pan oedd y disgyblion yn ceisio rhwystro plant bach rhag mynd ato, dywedodd: “Gadewch i’r plant ddod ataf fi; peidiwch â’u rhwystro.” Mae’r Beibl yn dweud iddo gymryd y plant “yn ei freichiau a’u bendithio, gan roi ei ddwylo arnynt.” (Marc 10:13-16) Gan fod Iesu yn fodlon treulio amser gyda phlant bach, oni ddylech chi wneud yr un peth gyda’ch plant? Mae’n bwysig fod eich plant yn cael cyfnodau sylweddol o’ch amser, nid tameidiau bach ohono. Mae’n rhaid ichi wneud yr amser i’w dysgu, oherwydd dyna mae Jehofa yn ei ofyn gan rieni.—⁠Darllenwch Deuteronomium 6:4-9.

15. Beth gall rhieni ei wneud i amddiffyn eu plant?

15 Wrth i’r byd hwn waethygu, mae angen i rieni amddiffyn eu plant rhag pobl sy’n ceisio eu niweidio, o bosibl drwy eu hudo i’w cam-drin yn rhywiol. Cofiwch fod Iesu yn gwarchod ei ddisgyblion a oedd fel ‘plant’ annwyl iddo. Pan gafodd ei arestio, ac yntau’n gwybod y byddai’n cael ei ladd yn fuan, gofalodd Iesu fod modd i’w ddisgyblion ddianc. (Ioan 13:33; 18:7-9) Fel rhiant, mae’n rhaid ichi fod yn effro i ymdrechion y Diafol i niweidio eich plant. Mae’n rhaid ichi eu rhybuddio nhw ymlaen llaw. * (1 Pedr 5:8) Mae’r perygl i’w diogelwch corfforol, ysbrydol, a moesol yn fwy heddiw nag erioed.

Beth gall rhieni ei ddysgu o’r ffordd roedd Iesu’n trin plant?

16. Beth gall rhieni ei ddysgu o’r ffordd roedd Iesu yn delio gyda ffaeleddau ei ddisgyblion?

16 Ar y noson cyn i Iesu farw, cododd ffrae ymhlith y disgyblion ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y mwyaf. Yn hytrach na gwylltio, fe wnaeth Iesu barhau i apelio atyn nhw mewn gair a gweithred. (Luc 22:24-27; Ioan 13:3-8) Os ydych yn rhiant, a fedrwch chi ddilyn esiampl Iesu wrth gywiro eich plant? Mae’n wir fod angen disgyblaeth arnyn nhw, ond dylid eu disgyblu ‘yn ôl eu haeddiant’ a byth mewn dicter. Peidiwch â siarad yn ddifeddwl gan ddefnyddio geiriau “fel brath cleddyf.” (Jeremeia 30:11; Diarhebion 12:18) Dylid disgyblu yn y fath fodd fel y bydd plentyn yn sylweddoli, yn y pen draw, fod y ddisgyblaeth a gafodd yn addas ac yn deg.—⁠Effesiaid 6:4; Hebreaid 12:9-11.

PATRWM AR GYFER PLANT

17. Sut gosododd Iesu esiampl berffaith i blant?

17 Ydy plant yn gallu dysgu o esiampl Iesu? Ydyn, maen nhw! Dangosodd Iesu drwy ei esiampl ei hun sut dylai plant fod yn ufudd i’w rhieni. Dywedodd Iesu ei fod yn “dweud yr union bethau y mae’r Tad wedi eu dysgu” iddo. Ychwanegodd ei fod ‘bob amser yn gwneud y pethau sydd wrth fodd ei Dad.’ (Ioan 8:28, 29) Roedd Iesu yn ufudd i’w Dad nefol, ac mae’r Beibl yn dweud wrth blant am fod yn ufudd i’w rhieni. (Darllenwch Effesiaid 6:1-3.) Roedd Iesu’n blentyn perffaith, ond roedd yn ufudd i’w rieni amherffaith, Joseff a Mair. Yn bendant, byddai hynny wedi cyfrannu at hapusrwydd pob aelod o deulu Iesu!—⁠Luc 2:4, 5, 51, 52.

18. Pam roedd Iesu bob amser yn ufudd i’w Dad nefol, a phwy sy’n hapus pan fydd plant yn ufudd i’w rhieni heddiw?

18 Sut gall plant fod yn fwy tebyg i Iesu a gwneud eu rhieni yn hapus? Mae’n wir fod plant weithiau yn ei chael hi’n anodd ufuddhau i’w rhieni, ond dyna beth mae Duw yn ei ofyn. (Diarhebion 1:8; 6:20) Roedd Iesu bob amser yn ufudd i’w Dad nefol, hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd. Unwaith, pan oedd Duw yn gofyn i Iesu wneud rhywbeth anodd dros ben, dywedodd Iesu: “Cymer y cwpan hwn [y dasg roedd rhaid iddo ei gwneud] oddi wrthyf.” Er hynny, fe wnaeth Iesu yn union fel y gofynnodd Duw iddo ei wneud, gan ei fod yn sylweddoli bod ei Dad yn gwybod beth sydd orau. (Luc 22:42) Trwy ddysgu bod yn ufudd, bydd plant yn gwneud eu rhieni a’u Tad nefol yn hapus iawn! *—⁠Diarhebion 23:22-25.

Beth dylai pobl ifanc ei ystyried pan fyddan nhw’n cael eu temtio?

19. (a) Sut mae Satan yn temtio plant? (b) Pa effaith y mae ymddygiad drwg plant yn ei chael ar eu rhieni?

19 Temtiodd y Diafol Iesu, a gallwn fod yn sicr y bydd yn temtio pobl ifanc i wneud pethau drwg heddiw. (Mathew 4:1-10) Mae Satan y Diafol yn defnyddio pwysau gan gyfoedion, rhywbeth sy’n anodd ei wrthsefyll. Mae’n bwysig, felly, fod plant yn cadw draw rhag cwmni drwg! (1 Corinthiaid 15:33) Roedd merch Jacob, Dina, yn cymdeithasu â rhai nad oedd yn addoli Jehofa, ac achosodd hyn broblemau enbyd. (Genesis 34:1, 2) Dychmygwch sut y byddai’r teulu yn cael ei frifo petai un aelod yn syrthio i anfoesoldeb rhywiol!—⁠Diarhebion 17:21, 25.

YR ALLWEDD I HAPUSRWYDD YN Y TEULU

20. I gael bywyd teuluol hapus, beth mae’n rhaid i wahanol aelodau’r teulu ei wneud?

20 Mae ymdopi â phroblemau yn y teulu yn llawer haws pan ydyn ni’n rhoi cyngor y Beibl ar waith. Yn wir, dyma’r allwedd i hapusrwydd yn y teulu. Felly, os ydych chi’n ddyn priod, carwch eich gwraig, a’i thrin hi fel y mae Iesu’n trin ei gynulleidfa. Os ydych chi’n wraig, ymostyngwch i’ch gŵr fel penteulu, a dilynwch esiampl y wraig fedrus sy’n cael ei disgrifio yn Diarhebion 31:10-31. Chi sy’n rhieni, hyfforddwch eich plant. (Diarhebion 22:6) Chi sy’n dadau, cadwch ‘reolaeth dda ar eich teulu.’ (1 Timotheus 3:4, 5; 5:8) Os wyt ti’n blentyn, bydd yn ufudd i’th fam a’th dad. (Colosiaid 3:20) Does neb yn y teulu yn berffaith ac mae pawb yn gwneud camgymeriadau. Felly, byddwch yn ostyngedig a gofynnwch i’ch gilydd am faddeuant.

21. Beth gallwn ni edrych ymlaen ato yn y dyfodol, a sut gallwn ni gael bywyd teuluol hapus nawr?

21 Yn wir, y mae digonedd o gyngor gwerthfawr ar gyfer bywyd teuluol i’w gael yn y Beibl. Ar ben hynny, mae yn ein dysgu ni am fyd newydd Duw pryd y bydd y ddaear yn baradwys ac yn llawn pobl hapus sy’n addoli Jehofa. (Datguddiad 21:3, 4) Dyna amser hyfryd inni edrych ymlaen ato! Ond hyd yn oed nawr, gallwn gael bywyd teuluol hapus drwy roi ar waith y cyfarwyddyd y mae Duw wedi ei roi yn ei Air, y Beibl.

^ Par. 15 Mae cyngor ar amddiffyn plant i’w gael ym mhennod 32 y llyfr Learn From the Great Teacher, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

^ Par. 18 Dim ond petai rhiant yn gofyn i blentyn dorri cyfraith Duw y byddai’n iawn i’r plentyn anufuddhau.—⁠Actau 5:29.