Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ATODIAD

Yr Enw Dwyfol—Ei Ddefnydd a’i Ystyr

Yr Enw Dwyfol—Ei Ddefnydd a’i Ystyr

YN EICH copi chi o’r Beibl, sut mae Salm 83:18 wedi ei chyfieithu? Mae’r Beibl Cysegr-lân yn trosi’r adnod fel hyn: “Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.” Mae amryw o gyfieithiadau eraill wedi trosi’r adnod yn yr un modd. Sut bynnag, mae llawer o gyfieithiadau yn hepgor yr enw Jehofa, gan roi teitlau fel “Arglwydd” neu “Y Tragwyddol” yn ei le. Beth ddylai fod yn yr adnod hon? Teitl neu’r enw Jehofa?

Enw Duw mewn llythrennau Hebraeg

Sôn am enw mae’r adnod hon. Yn yr Hebraeg, iaith wreiddiol rhan sylweddol o’r Beibl, enw personol unigryw sydd i’w weld yma. Mewn llythrennau Hebraeg, mae wedi ei sillafu fel hyn: יהוה (IHWH). Yn y Gymraeg, trosir yr enw hwnnw yn gyffredinol fel “Jehofa.” Ai mewn un adnod yn unig mae’r enw hwnnw yn digwydd yn y Beibl? Nage. Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn nhestun gwreiddiol yr Ysgrythurau Hebraeg!

Pa mor bwysig yw enw Duw? Ystyriwch y weddi a roddodd Iesu Grist fel patrwm inni. Y mae’n dechrau fel hyn: “Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw.” (Mathew 6:9) Yn nes ymlaen, gweddïodd Iesu ar Dduw: “O Dad, gogonedda dy enw.” Atebodd Duw o’r nefoedd: “Yr wyf wedi ei ogoneddu ac fe’i gogoneddaf eto.” (Ioan 12:28) Yn amlwg, mae enw Duw o’r pwys mwyaf. Pam, felly, y mae rhai cyfieithwyr y Beibl wedi hepgor yr enw hwnnw o’u cyfieithiadau a rhoi teitlau yn ei le?

Mae’n ymddangos bod dau brif reswm dros wneud hyn. Yn gyntaf, mae llawer yn honni na ddylwn ni ddefnyddio’r enw oherwydd nad oes neb yn gwybod beth oedd yr ynganiad gwreiddiol. Ysgrifennwyd yr hen Hebraeg heb lafariaid. Felly, ni all neb ddweud ag unrhyw sicrwydd sut yn union roedd pobl yng nghyfnod y Beibl yn ynganu IHWH. Sut bynnag, a ddylai hyn ein rhwystro ni rhag defnyddio enw Duw? Adeg y Beibl, mae’n ddigon posibl i enw Iesu gael ei ynganu fel Ieshwa neu Iehoshwa—ni all neb fod yn sicr. Eto, mae pobl ledled y byd yn defnyddio gwahanol ffurfiau ar yr enw Iesu a’i ynganu yn y ffordd sy’n gyffredin yn eu hiaith nhw. Dydyn nhw ddim yn dal yn ôl rhag defnyddio’r enw oherwydd ansicrwydd ynglŷn â’i ynganiad yn y ganrif gyntaf. Yn yr un modd, petaech chi’n teithio i wlad dramor, yn fwy na thebyg byddai eich enw chi yn swnio’n wahanol yn iaith y wlad honno. Felly, nid yw ansicrwydd ynglŷn â hen ynganiad enw Duw yn rheswm dros beidio â’i ddefnyddio.

Hen draddodiad yr Iddewon sydd wrth wraidd yr ail reswm a gynigir yn aml dros hepgor enw Duw. Mae llawer o’r Iddewon yn credu na ddylai neb ynganu enw Duw. Sail y gred hon, mae’n amlwg, yw camddehongli deddf yn y Beibl sy’n datgan: “Na chymer enw’r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy’n cymryd ei enw yn ofer.”—⁠Exodus 20:7.

Gwahardd rhag camddefnyddio enw Duw y mae’r ddeddf hon. Ond a yw’r ddeddf yn gwahardd rhag defnyddio’r enw mewn ffordd barchus? Dim o gwbl. Yr oedd ysgrifenwyr y Beibl Hebraeg (yr “Hen Destament”) i gyd yn ddynion ffyddlon oedd yn byw yn ôl y Gyfraith a roddodd Duw i’r Israeliaid gynt. Ond eto, roedden nhw’n defnyddio enw Duw yn gyson. Er enghraifft, mae llawer o’r Salmau a oedd yn cael eu cydganu yn uchel gan gynulleidfaoedd o addolwyr yn cynnwys yr enw. Aeth Jehofa Dduw mor bell â gorchymyn ei addolwyr i alw ar ei enw, a dyna beth wnaeth y rhai ffyddlon. (Joel 2:32; Actau 2:21) Felly, dydy Cristnogion heddiw ddim yn dal yn ôl rhag defnyddio enw Duw yn barchus, yn union fel y gwnaeth Iesu.—⁠Ioan 17:26.

Wrth roi teitlau yn lle enw Duw, mae cyfieithwyr y Beibl yn gwneud camgymeriad dybryd. Maen nhw’n gwneud i Dduw ymddangos yn bell ac yn amhersonol, lle mae’r Beibl yn cymell pobl i feithrin “cyfeillach” neu gyfeillgarwch clòs gyda Jehofa. (Salm 25:14) Meddyliwch am ffrind agos. Heb wybod ei enw, pa mor agos fyddech chi mewn gwirionedd? Yn yr un modd, pan fydd pobl yn cael eu cadw yn y tywyllwch ynglŷn ag enw Duw, Jehofa, sut gallan nhw ddod yn ffrindiau agos iddo? Ar ben hynny, pan nad yw pobl yn defnyddio enw Duw, mae ystyr hyfryd yr enw ar goll iddyn nhw. Beth ydy ystyr yr enw dwyfol?

Eglurodd Duw ystyr ei enw i’w was ffyddlon Moses. Pan ofynnodd Moses am enw Duw, atebodd Jehofa: “Ydwyf yr hyn ydwyf.” (Exodus 3:14) Mae cyfieithiad Saesneg Rotherham yn trosi’r geiriau hynny fel hyn: “Byddaf beth bynnag a fynnaf.” Felly er mwyn cyflawni ei fwriad, gall Jehofa fod yn unrhyw beth sydd ei angen, ac o ran ei greadigaeth, ni waeth beth sydd ei angen, y mae’n gallu peri iddo ddigwydd.

Dychmygwch y medrwch chi fod yn unrhyw beth a ddymunwch ei fod. Beth byddech chi yn ei wneud dros eich ffrindiau? Petasai un yn mynd yn ddifrifol wael, fe allech chi fynd yn feddyg medrus a’i iacháu. Petasai un arall yn dioddef colled ariannol, fe allech chi droi yn gymwynaswr cyfoethog a’i achub. Ond y gwir amdani yw bod cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn ni ei wneud. Mae hyn yn wir am bob un ohonon ni. Wrth i chi astudio’r Beibl, byddwch yn rhyfeddu at allu Duw i fod yn unrhyw beth sydd ei angen er mwyn cyflawni ei addewidion. Ac mae wrth ei fodd yn defnyddio ei rym ar ran y rhai sydd yn ei garu. (2 Cronicl 16:9) Mae’r agweddau hyn ar bersonoliaeth hardd Jehofa ar goll i’r rhai nad ydynt yn gwybod ei enw.

Mae’n gwbl amlwg, felly, y dylai enw Jehofa fod yn y Beibl. Mae gwybod ei ystyr, a’i ddefnyddio’n hael wrth addoli, yn gymorth grymus i glosio at ein Tad nefol, Jehofa. *

^ Par. 3 Am fwy o wybodaeth ar enw Duw, ei ystyr, a’r rhesymau dros ei ddefnyddio wrth addoli, darllenwch y llyfr bach Cymorth i Astudio Gair Duw, tudalennau 1-13, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.