Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ATODIAD

Adnabod “Babilon Fawr”

Adnabod “Babilon Fawr”

YN LLYFR Datguddiad, nid yw pob ymadrodd i’w deall mewn ystyr llythrennol. (Datguddiad 1:1) Er enghraifft, mae’n sôn am wraig â’r enw “Babilon Fawr” wedi ei ysgrifennu ar ei thalcen. Dywedir am y wraig hon ei bod hi’n eistedd ar ‘dyrfaoedd’ a ‘chenhedloedd.’ (Datguddiad 17:1, 5, 15) Gan nad yw’n bosibl i wraig o gig a gwaed wneud hyn, mae’n amlwg mai symbol yw Babilon Fawr. Felly, beth mae’r butain symbolaidd hon yn ei gynrychioli?

Yn Datguddiad 17:18, mae’r wraig ffigurol hon yn cael ei galw’n “ddinas fawr sydd â’r frenhiniaeth ganddi ar frenhinoedd y ddaear.” Mae’r term “dinas” yn dynodi grŵp o bobl sy’n byw o dan ryw fath o drefn. Mae’r “ddinas fawr” hon yn rheoli dros “frenhinoedd y ddaear.” Felly, mae’n rhaid bod y wraig a elwir Babilon Fawr yn gyfundrefn sydd â dylanwad rhyngwladol. Teg yw ei galw’n ymerodraeth fyd-eang. Pa fath o ymerodraeth? Un grefyddol. Sylwch ar y ffordd y mae rhannau perthnasol eraill o lyfr Datguddiad yn ein harwain at y casgliad hwn.

Gall ymerodraeth fod yn wleidyddol, yn fasnachol, neu’n grefyddol. Nid ymerodraeth wleidyddol mo’r wraig a elwir Babilon Fawr oherwydd bod Gair Duw yn dweud amdani: “Gyda hi y puteiniodd brenhinoedd y ddaear,” sef elfennau gwleidyddol y byd hwn. Mae hi’n puteinio drwy ei chysylltiadau â llywodraethwyr y ddaear a’r hyn y mae hi wedi ei wneud i ddylanwadu arnyn nhw. Dyna sy’n esbonio’r enw “y butain fawr.”—⁠Datguddiad 17:1, 2; Iago 4:4.

Ni all Babilon Fawr fod yn ymerodraeth fasnachol oherwydd, pan gaiff hi ei dinistrio, bydd “masnachwyr y ddaear,” sy’n cynrychioli’r elfennau masnachol yn galaru amdani. Yn wir, rydyn ni’n darllen bod y brenhinoedd a’r masnachwyr “yn sefyll o hirbell,” yn edrych ar Fabilon Fawr. (Datguddiad 18:3, 9, 10, 15-17) Teg yw casglu, felly, nad yw Babilon Fawr yn ymerodraeth wleidyddol, nac yn fasnachol ond yn un grefyddol.

Mae’r ffaith ei bod hi’n camarwain yr holl genhedloedd ‘gan ei dewiniaeth’ yn dystiolaeth bellach o natur grefyddol Babilon Fawr. (Datguddiad 18:23) Gan fod pob ffurf ar ddewiniaeth neu ysbrydegaeth yn grefyddol ac yn tarddu o’r cythreuliaid, nid oes syndod, felly, fod y Beibl yn galw Babilon Fawr “yn drigfa cythreuliaid.” (Datguddiad 18:2; Deuteronomium 18:10-12) Darllenwn hefyd, fod yr ymerodraeth hon yn weithredol yn ei gwrthwynebiad i wir grefydd, gan erlid “y proffwydi a’r saint.” (Datguddiad 18:24) Yn wir, mae Babilon Fawr yn casáu gwir grefydd â chas perffaith ac, o ganlyniad, mae hi’n erlid “tystion Iesu” yn ffyrnig a hyd yn oed yn eu lladd. (Datguddiad 17:6) Felly, mae’n amlwg fod y wraig hon, Babilon Fawr, yn cynrychioli ymerodraeth fyd-eang gau grefydd sy’n cynnwys pob crefydd sy’n gwrthwynebu Jehofa Dduw.