Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD 1

“Dyma Yw Caru Duw”

“Dyma Yw Caru Duw”

“Dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus.”—1 IOAN 5:3.

1, 2. Pam rwyt ti’n caru Jehofa Dduw?

WYT ti’n caru Duw? “Ydw, wrth gwrs” fydd ateb y rhai sydd eisoes wedi ymgysegru i Jehofa Dduw. Peth digon naturiol inni yw caru Jehofa. Mae ein cariad ni yn ymateb i’w gariad yntau. Mae’r Beibl yn dweud: “Yr ydym ni’n caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.”—1 Ioan 4:19.

2 Mae Jehofa wedi cymryd y cam cyntaf wrth ddangos ei gariad tuag aton ni. Mae wedi rhoi’r ddaear yn gartref prydferth inni. Mae’n gofalu am ein hanghenion materol. (Mathew 5:43-48) Ac yn bwysicach, y mae’n gofalu am ein hanghenion ysbrydol. Mae wedi rhoi inni ei Air, y Beibl. Ar ben hynny, mae yn ein gwahodd ni i weddïo arno ac yn addo gwrando arnon ni a rhoi ei ysbryd glân i’n helpu. (Salm 65:2; Luc 11:13) Yn bwysicach fyth, fe anfonodd ei Fab anwylaf yn Bridwerthwr i’n gwared ni rhag pechod a marwolaeth. Dyna gariad sydd gan Jehofa tuag aton ni!—Darllen Ioan 3:16; Rhufeiniaid 5:8.

3. (a) Beth sy’n rhaid inni ei wneud i aros yng nghariad Duw? (b) Pa gwestiwn pwysig y mae angen inni ei ystyried, a lle cawn ni’r ateb?

3 Mae Jehofa am inni elwa ar ei gariad am byth. Ond bydd hynny yn dibynnu ar ein dewisiadau ni. Mae gair Duw yn ein hannog: “Cadwch eich hunain yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am . . . fywyd tragwyddol.” (Jwdas 21) Mae’r ymadrodd “cadwch eich hunain” yn awgrymu bod angen ymdrech i aros yng nghariad Duw. Mae angen inni ymateb i’w gariad mewn ffyrdd pendant. Cwestiwn pwysig inni ei ystyried felly, yw, ‘Sut gallaf ddangos fy mod i’n caru Duw?’ Mae’r ateb i’w gael yng ngeiriau ysbrydoledig yr apostol Ioan: “Dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus.” (1 Ioan 5:3) Dylen ni edrych yn ofalus ar ystyr y geiriau hyn, oherwydd rydyn ni’n awyddus i ddangos i Dduw gymaint rydyn ni’n ei garu.

“DYMA YW CARU DUW”

4, 5. Disgrifia sut tyfodd dy gariad at Dduw.

4 “Caru Duw”—beth roedd yr apostol Ioan yn ei feddwl pan ysgrifennodd y geiriau hynny? Mae’n cyfeirio at y teimladau dwfn sydd gennyn ni at Dduw. Wyt ti’n cofio’r adeg y dechreuodd cariad at Dduw dyfu yn dy galon?

Mae ymgysegriad a bedydd yn rhoi cychwyn ar fywyd o ufudd-dod cariadus i Jehofa

5 Meddylia am ennyd am y tro cyntaf i ti ddysgu’r gwirionedd am Jehofa a’i fwriadau a dechrau meithrin ffydd. Fe ddaethost i ddeall dy fod ti, fel pechadur, wedi dy ddieithrio oddi wrth Dduw, ond bod Jehofa, drwy Grist, wedi agor y ffordd iti gyrraedd y cyflwr perffaith a gollodd Adda, ac iti etifeddu bywyd tragwyddol. (Mathew 20:28; Rhufeiniaid 5:12, 18) Fe ddaethost i sylweddoli gymaint oedd aberth Jehofa yn anfon ei Fab mwyaf annwyl i farw drosot. Cyffyrddodd hyn â’th galon, ac fe dyfodd cariad ynot at y Duw sydd wedi dangos cymaint o gariad atat ti.—Darllen 1 Ioan 4:9, 10.

6. Sut rydyn ni’n dangos cariad diffuant, a beth wnaeth cariad at Dduw dy annog i’w wneud?

6 Sut bynnag, dim ond dechrau cariad diffuant at Jehofa oedd y teimlad hwnnw. Mae mwy i gariad na theimlad. Ac mae gwir gariad at Dduw yn golygu mwy na dweud, “Dw i’n caru Jehofa.” Fel ffydd, mae cariad diffuant i’w weld yn y gweithredoedd y mae’n eu sbarduno. (Iago 2:26) Dangoswn gariad drwy wneud y pethau sy’n plesio’r un yr ydyn ni’n ei garu. Felly, pan wreiddiodd cariad tuag at Jehofa yn dy galon, roeddet ti’n awyddus i fyw mewn ffordd sy’n plesio dy Dad nefol. Wyt ti wedi cael dy fedyddio? Os felly, dy gariad dwfn a’th ddefosiwn at Jehofa sydd wedi peri i ti wneud y penderfyniad pwysicaf yn dy fywyd. Rwyt ti wedi ymgysegru i Jehofa i wneud ei ewyllys, ac wedi dangos hyn drwy gael dy fedyddio. (Darllen Rhufeiniaid 14:7, 8.) Mae’r apostol Ioan yn sôn nesaf am sut mae cadw’r addewid personol hwn.

‘CADW EI ORCHMYNION’

7. Beth yw rhai o orchmynion Duw, a beth mae eu cadw yn ei olygu?

7 Mae Ioan yn esbonio bod caru Duw yn golygu “inni gadw ei orchmynion.” Beth yw gorchmynion Duw? Mae Jehofa yn rhoi nifer o orchmynion penodol yn ei Air. Er enghraifft, mae’r Beibl yn gwahardd meddwi, anfoesoldeb rhywiol, addoli eilunod, lladrata, a dweud celwydd. (1 Corinthiaid 5:11; 6:18; 10:14; Effesiaid 4:28; Colosiaid 3:9) Mae cadw gorchmynion Duw yn golygu byw yn unol â safonau moesol eglur y Beibl.

8, 9. Sut gallwn ni wybod beth sy’n plesio Duw hyd yn oed pan nad oes rheol benodol yn y Beibl? Rho enghraifft.

8 Ond i blesio Jehofa mae’n rhaid gwneud mwy nag ufuddhau i’w orchmynion penodol yn unig. Dydy Jehofa ddim yn gosod llu o reolau i gyfyngu ar bob agwedd ar ein bywydau. Gall sefyllfaoedd godi bob dydd lle nad oes gorchmynion penodol ar eu cyfer yn y Beibl. Pan fydd hyn yn digwydd, sut gallwn ni wybod beth sy’n plesio Jehofa? Mae’r Beibl yn dangos meddwl Duw yn glir. Wrth astudio’r Beibl rydyn ni’n dysgu am yr hyn mae Jehofa yn ei garu a’r hyn y mae’n ei gasáu. (Darllen Salm 97:10; Diarhebion 6:16-19) Rydyn ni’n dod i ddeall pa agweddau a gweithredoedd sy’n bwysig iddo. Mwyaf yn y byd rydyn ni’n dysgu am bersonoliaeth a ffyrdd Jehofa, mwyaf yn y byd y byddwn ni’n medru gadael i’w feddwl ef ddylanwadu ar ein penderfyniadau a’n gweithredoedd. Felly, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle nad oes rheol benodol yn y Beibl, byddwn yn medru deall “beth yw ewyllys” Jehofa.—Effesiaid 5:17.

9 Er enghraifft, does dim gorchymyn penodol yn y Beibl am beidio ag edrych ar ffilmiau neu raglenni teledu sy’n llawn trais difrifol neu anfoesoldeb rhywiol. Ond a oes angen rheol benodol i’n gwahardd rhag gwylio’r fath bethau? Rydyn ni’n gwybod beth yw agwedd Jehofa at y pethau hyn. Dywed ei Air yn glir fod ‘gas ganddo’r sawl sy’n caru trais.’ (Salm 11:5) Dywed hefyd: “Bydd Duw yn barnu puteinwyr a godinebwyr.” (Hebreaid 13:4) Trwy fyfyrio ar y geiriau ysbrydoledig hyn, gallwn weld yn glir beth yw ewyllys Jehofa. Felly, fyddwn ni ddim yn dewis adloniant sy’n cynnwys portreadau cignoeth o arferion y mae ein Duw yn eu casáu. Fe wyddon ni fod Duw yn hapus pan fyddwn ni’n osgoi’r budreddi moesol y mae’r byd hwn yn ei gyfrif yn adloniant diniwed. *

10, 11. Pam rydyn ni’n dewis ufuddhau i Jehofa, a beth yw natur ein hufudd-dod?

10 Beth yw’r prif reswm dros gadw gorchmynion Duw? Pam rydyn ni’n dymuno byw bob dydd yn unol ag agwedd meddwl Duw? Dydyn ni ddim yn gwneud hyn i osgoi cael ein cosbi nac i osgoi’r canlyniadau drwg sy’n dod i’r rhai sy’n anwybyddu ewyllys Duw. (Galatiaid 6:7) Yn hytrach, rydyn ni’n ystyried ufudd-dod i Jehofa fel cyfle gwerthfawr i ddangos ein cariad tuag ato. Fel plentyn sy’n awyddus i blesio ei dad, rydyn ni’n awyddus i ennill cymeradwyaeth Jehofa. (Salm 5:12) Ef yw ein Tad ac rydyn ni yn ei garu. Does dim byd sy’n dod â mwy o lawenydd na gwybod ein bod ni’n byw mewn modd sy’n “ennill ffafr” Jehofa.—Diarhebion 12:2.

11 Rydyn ni’n ufuddhau felly o’n gwirfodd, heb osod amodau. * Dydyn ni ddim yn dewis a dethol, gan ufuddhau dim ond pan fydd hynny’n gyfleus neu’n weddol hawdd. I’r gwrthwyneb, “rhoi ufudd-dod calon” yr ydyn ni. (Rhufeiniaid 6:17) Teimlwn fel y Salmydd a ysgrifennodd: “Ymhyfrydaf yn dy orchmynion am fy mod yn eu caru.” (Salm 119:47) Yn wir rydyn ni wrth ein boddau yn ufuddhau i Jehofa. Rydyn ni’n cydnabod ei fod yn haeddu ac yn disgwyl ein hufudd-dod llwyr a diamod. (Deuteronomium 12:32) Rydyn ni eisiau i eiriau Jehofa am Noa fod yn wir yn ein hachos ni hefyd. Dangosodd Noa ei gariad at Dduw drwy ufuddhau’n ffyddlon iddo am ddegawdau, a dywed y Beibl amdano: “Gwnaeth bopeth fel y gorchmynnodd Duw iddo.”—Genesis 6:22.

12. Pryd bydd ein hufudd-dod yn llawenhau calon Jehofa?

12 O’n gweld ni’n ufuddhau iddo o’n gwirfodd, sut mae Jehofa yn teimlo? Dywed ei Air ein bod ni’n ‘llawenhau ei galon.’ (Diarhebion 27:11) Ydy hi’n bosibl inni wneud i galon Penarglwydd y bydysawd lawenhau trwy fod yn ufudd? Ydy, yn sicr. Mae Jehofa wedi rhoi ewyllys rhydd inni. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n rhydd i ddewis ufuddhau i Dduw neu beidio. (Deuteronomium 30:15, 16, 19, 20) Pan fyddwn ni’n dewis ufuddhau i Jehofa o’n gwirfodd, a hynny oherwydd ein bod ni’n caru Duw o’n calonnau, mae hyn yn rhoi pleser mawr i’n tad nefol. (Diarhebion 11:20) Rydyn ni hefyd yn dewis y ffordd orau o fyw.

“NID YW EI ORCHMYNION EF YN FEICHUS”

13, 14. Pam gallwn ddweud nad yw gorchmynion Duw “yn feichus,” a sut gallwn egluro hyn?

13 Mae geiriau’r apostol Ioan am ofynion Jehofa yn galonogol: “Nid yw ei orchmynion ef yn feichus.” Yn llythrennol, mae’r gair Groeg am “feichus” yn 1 Ioan 5:3 yn golygu “trwm.” * Dywed Y Beibl Cysegr-lân: “A’i orchmynion ef nid ydynt drymion.” Dydy gofynion Jehofa ddim yn afresymol nac yn ormesol. Dydy ufuddhau i’w gyfreithiau ddim yn amhosibl i bobl amherffaith.

14 Meddylia am hyn. Mae ffrind agos yn gofyn am help i symud tŷ. Mae ganddo lawer o focsys i’w cludo. Mae rhai ohonyn nhw’n ddigon ysgafn i un person eu cario’n gyffyrddus, ond mae eraill yn drwm ac mae angen dau i’w codi. Mae dy ffrind yn dewis y bocsys y mae am iti eu symud. A fyddai’n gofyn iti godi bocsys sy’n rhy drwm? Na fyddai. Ni fyddai’n hoffi iti frifo dy hun drwy stryffaglu ar dy ben dy hun. Yn yr un modd, nid yw ein Duw caredig yn gofyn inni gadw gorchmynion sy’n rhy anodd. (Deuteronomium 30:11-14) Ni fyddai byth yn gofyn inni gario baich mor drwm. Mae Jehofa yn gwybod bod pen draw i’n galluoedd oherwydd “y mae ef yn gwybod ein deunydd, yn cofio mai llwch ydym.”—Salm 103:14.

15. Pam gallwn ni fod yn sicr fod gorchmynion Jehofa er ein lles?

15 Dydy gorchmynion Jehofa ddim yn feichus; i’r gwrthwyneb, maen nhw er ein lles. (Darllen Eseia 48:17.) Felly, roedd Moses yn gallu dweud wrth yr Israeliaid gynt: “A gorchmynnodd yr ARGLWYDD inni gadw’r holl ddeddfau hyn er mwyn inni ofni’r ARGLWYDD ein Duw, ac iddi fod yn dda arnom bob amser, ac inni gael ein cadw’n fyw, fel yr ydym heddiw.” (Deuteronomium 6:24) Medrwn ni fod yn hyderus fod cyfreithiau Jehofa er ein lles tragwyddol. Onid dyna beth fydden ni yn ei ddisgwyl? Does dim pen draw i ddoethineb Jehofa. (Rhufeiniaid 11:33) Felly, mae’n gwybod beth sydd orau. Cariad yw Jehofa. (1 Ioan 4:8) Cariad yw hanfod Duw ac mae’n dylanwadu ar bopeth y mae yn ei ddweud a’i wneud. Dyma sail pob gorchymyn y mae yn ei roi i’w weision.

16. Er gwaethaf dylanwad y byd afiach hwn ac effaith ein cyflwr amherffaith, pam mae’n bosibl inni aros yn ufudd?

16 Dydy hyn ddim yn golygu bod ufuddhau i Dduw yn hawdd. Mae’n rhaid inni wrthsefyll dylanwad y byd afiach hwn sydd “yn gorwedd yng ngafael yr Un drwg.” (1 Ioan 5:19) Hefyd, rydyn ni’n gorfod brwydro yn erbyn ein cyflwr amherffaith, sydd yn ein gwneud ni’n fwy tebygol o dorri cyfreithiau Duw. (Rhufeiniaid 7:21-25) Ond, gall ein cariad at Dduw ennill y dydd. Mae Jehofa yn bendithio pobl sy’n profi eu cariad tuag ato drwy eu hufudd-dod. Mae’n rhoi ei ysbryd glân “i’r rhai sy’n ufuddhau iddo.” (Actau 5:32) Mae’r ysbryd yn peri inni ddwyn ffrwyth da ar ffurf priodoleddau hyfryd a all ein helpu ni i aros yn ufudd.—Galatiaid 5:22, 23.

17, 18. (a) Beth fyddwn ni yn ei ystyried yn y llyfr hwn, ac wrth wneud hynny, beth y dylen ni ei gadw mewn cof? (b) Beth y byddwn ni yn ei drafod yn y bennod nesaf?

17 Yn y llyfr hwn, fe fyddwn ni’n edrych yn ofalus ar egwyddorion a safonau moesol Jehofa ynghyd ag arwyddion eraill o’i ewyllys. Wrth wneud hyn, mae’n rhaid cadw sawl peth pwysig mewn golwg. Cofia nad yw Jehofa yn ein gorfodi ni i fod yn ufudd i’w orchmynion a’i egwyddorion; mae eisiau ufudd-dod sy’n dod o’r galon. Cofia, hefyd, fod Jehofa yn gofyn inni fyw mewn ffordd sy’n dod â bendithion nawr ac yn arwain at fywyd tragwyddol yn y dyfodol. Gad inni ystyried ufudd-dod fel cyfle euraidd i ddangos maint ein cariad tuag at Jehofa.

18 I’n helpu ni wahaniaethu rhwng da a drwg, mae Jehofa wedi rhoi cydwybod inni. Ond, er mwyn i’r gydwybod fod yn ddibynadwy, mae’n rhaid inni ei hyfforddi, a byddwn ni’n trafod hyn yn y bennod nesaf.

^ Par. 9 Gweler Pennod 6 y llyfr hwn am drafodaeth ar sut mae dewis adloniant iach.

^ Par. 11 Mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufuddhau ond nid o’u gwirfodd. Pan orchmynnodd Iesu i’r cythreuliaid ddod allan o’r rhai oedd wedi eu meddiannu, roedd yn rhaid i’r cythreuliaid hynny gydnabod ei awdurdod ac ufuddhau iddo, er mor anfodlon oedden nhw i wneud hynny.—Marc 1:27; 5:7-13.

^ Par. 13 Yn Mathew 23:4, mae’r gair hwn yn disgrifio’r “beichiau trymion,” sef y rheolau manwl a’r traddodiadau dynol yr oedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid yn eu gosod ar y werin bobl.