Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD 3

Caru’r Rhai y Mae Duw yn Eu Caru

Caru’r Rhai y Mae Duw yn Eu Caru

“Trwy rodio gyda’r doeth ceir doethineb.”DIARHEBION 13:20.

1-3. (a) Pa wirionedd sydd yn y Beibl nad oes modd ei wadu? (b) Sut gallwn ni ddewis ffrindiau a fydd yn ddylanwad da arnon ni?

MEWN ffordd, mae pobl yn debyg i sbwng; maen nhw’n tueddu i amsugno beth bynnag sydd o’u cwmpas. Mae’n hawdd mabwysiadu agweddau, safonau, a nodweddion y rhai sy’n agos aton ni, a hynny heb sylweddoli beth sy’n digwydd.

2 Nid oes modd gwadu gwirionedd y Beibl sy’n dweud: “Trwy rodio gyda’r doeth ceir doethineb, ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid.” (Diarhebion 13:20) Mae’r ddihareb hon yn sôn am fwy na chysylltiad achlysurol. Mae’r ymadrodd ‘rhodio gyda’ yn awgrymu cysylltiad parhaol. Wrth drafod yr adnod hon, dywed un cyfeirlyfr ar y Beibl: “Mae rhodio gyda rhywun yn awgrymu cariad a hoffter.” Oni fyddet ti’n cytuno ein bod ni’n tueddu i efelychu’r rhai rydyn ni’n eu caru? Yn wir, oherwydd bod gennyn ni gysylltiad emosiynol gyda’r rhai rydyn ni’n eu caru, fe allan nhw ddylanwadu’n gryf arnon ni—er gwell neu er gwaeth.

3 Er mwyn aros yng nghariad Duw, y mae’n hanfodol inni ddewis ffrindiau a fydd yn ddylanwad da arnon ni. Sut gallwn ni wneud hynny? Yn syml, drwy garu’r rhai y mae Duw yn eu caru, gan ddod yn ffrind i ffrindiau Duw. Meddylia am y peth. Oni fyddai pobl sy’n plesio Duw ac yn ffrindiau iddo ef yn gwneud ffrindiau da i ni? Gad inni edrych, felly, ar y math o bobl y mae Duw yn eu caru. Drwy gadw safbwynt Jehofa mewn cof, bydd yn haws inni ddewis ffrindiau a fydd o les i ni.

POBL Y MAE DUW YN EU CARU

4. Pam bod gan Jehofa bob hawl i ddewis ei ffrindiau yn ofalus, a pham y galwodd Abraham “yn gyfaill” iddo?

4 Mae Jehofa yn dewis ei ffrindiau’n ofalus. Ac onid oes ganddo’r hawl i wneud hynny? Wedi’r cwbl, ef yw Penllywydd y bydysawd, a braint o’r mwyaf yw bod yn ffrind iddo. Pwy, felly, y mae ef yn ei ddewis fel ffrindiau? Mae Jehofa yn agos at y rhai sy’n ymddiried ynddo ac yn rhoi ffydd lwyr ynddo. Ystyria enghraifft Abraham, dyn sy’n enwog am ei ffydd. Anodd dychmygu prawf caletach ar ffydd tad na gofyn iddo offrymu ei fab yn aberth. * Ond, oherwydd iddo gredu’n llwyr “y gallai Duw ei godi hyd yn oed oddi wrth y meirw,” roedd Abraham yn barod i offrymu Isaac. (Hebreaid 11:17-19) Gan fod Abraham wedi dangos y fath ffydd ac ufudd-dod, “galwyd ef yn gyfaill Duw.”—Iago 2:21-23; Eseia 41:8.

5. Beth yw agwedd Jehofa tuag at y rhai sy’n ufuddhau yn deyrngar iddo?

5 Mae Jehofa yn rhoi pris mawr ar ufudd-dod teyrngar. Mae’n caru’r rhai sy’n fodlon rhoi teyrngarwch iddo ef o flaen popeth arall. (Darllen 2 Samuel 22:26.) Fel y gwelon ni ym Mhennod 1 y llyfr hwn, mae Jehofa yn ymhyfrydu yn y rhai sy’n ufudd iddo oherwydd eu cariad tuag ato. “Caiff y rhai sy’n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDD,” meddai Salm 25:14. Mae’r rhai sy’n cwrdd â gofynion Duw yn derbyn gwahoddiad gan Jehofa i fod yn westeion yn ei “babell”—ac yn cael croeso i’w addoli ac i droi ato mewn gweddi.—Salm 15:1-5.

6. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n caru Iesu, a sut mae Jehofa yn teimlo am y rhai sy’n caru ei Fab?

6 Mae Jehofa yn caru’r rhai sy’n caru Iesu, ei unig-anedig Fab. Dywed Iesu: “Os yw rhywun yn fy ngharu, bydd yn cadw fy ngair i, a bydd fy Nhad yn ei garu, ac fe ddown ato a gwneud ein trigfa gydag ef.” (Ioan 14:23) Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n caru Iesu? Drwy gadw ei orchmynion, gan gynnwys y comisiwn i gyhoeddi’r newyddion da a gwneud disgyblion. (Mathew 28:19, 20; Ioan 14:15, 21) Rydyn ni hefyd yn dangos ein bod ni’n caru Iesu drwy “ganlyn yn ôl ei draed ef,” gan wneud ein gorau glas i’w efelychu mewn gair a gweithred. (1 Pedr 2:21) Mae Jehofa wrth ei fodd gyda’r rhai sy’n caru ei Fab ac yn gwneud ymdrech i’w ddilyn.

7. Pam mai peth doeth yw dod yn ffrind i ffrindiau Jehofa?

7 Ffydd, teyrngarwch, ufudd-dod, a chariad at Iesu a’i ffyrdd—dyma’r rhinweddau y mae Jehofa yn eu disgwyl gan ei ffrindiau. Dylai pob un ohonon ni ofyn: ‘Ydy fy ffrindiau agos yn dangos y rhinweddau hyn? Ydw i’n ffrind i ffrindiau Jehofa?’ Gall unigolion sy’n meithrin rhinweddau duwiol ac sy’n selog yn y gwaith o gyhoeddi newyddion da’r Deyrnas gael dylanwad da arnon ni a’n helpu i fod yn benderfynol o blesio Duw.—Gweler y blwch “ Pwy Sy’n Gwneud Ffrind Da?

ESIAMPL YN Y BEIBL SYDD YN EIN DYSGU

8. Beth rwyt ti’n ei edmygu am y berthynas rhwng (a) Naomi a Ruth? (b) y tri Hebread ifanc? (c) Paul a Timotheus?

8 Mae’r Ysgrythurau yn sôn lawer gwaith am rai sydd wedi elwa o ddewis ffrindiau da. Gelli di ddarllen am hanes y berthynas rhwng Naomi a’i merch-yng-nghyfraith Ruth, rhwng y tri Hebread ifanc a lynodd wrth ei gilydd ym Mabilon, a rhwng Paul a Timotheus. (Ruth 1:16; Daniel 3:17, 18; 1 Corinthiaid 4:17; Philipiaid 2:20-22) Ond, gad inni ganolbwyntio ar un enghraifft arbennig, sef y cyfeillgarwch rhwng Dafydd a Jonathan.

9, 10. Beth oedd sail y cyfeillgarwch rhwng Dafydd a Jonathan?

9 Ar ôl i Dafydd ladd Goliath, mae’r Beibl yn dweud: “Ymglymodd enaid Jonathan wrth enaid Dafydd, a charodd ef fel ef ei hun.” (1 Samuel 18:1) Er gwaethaf y gwahaniaeth mewn oedran, cychwynnodd cyfeillgarwch cadarn rhyngddyn nhw a barodd hyd at farwolaeth Jonathan ar faes y gad. * (2 Samuel 1:26) Beth oedd yn gyfrifol am greu’r cyfeillgarwch cryf hwnnw rhwng y ddau ffrind?

10 Eu cariad tuag at Dduw a’u dymuniad i aros yn ffyddlon iddo oedd sail y cyfeillgarwch clòs rhwng Dafydd a Jonathan. Perthynas ysbrydol oedd ganddyn nhw. Roedd rhinweddau’r naill yn apelio at y llall. Mae’n debyg fod dewrder a sêl y dyn ifanc, wrth iddo amddiffyn enw Jehofa, wedi gwneud argraff ar Jonathan. Mae’n siŵr fod gan Dafydd barch mawr tuag at y gŵr hŷn a oedd wedi bod mor deyrngar i drefn Jehofa ac wedi rhoi Dafydd o flaen unrhyw uchelgais personol. Ystyria, er enghraifft, beth ddigwyddodd pan oedd Dafydd, ar adeg isel yn ei fywyd, ar ffo yn yr anialwch rhag dicter y brenin Saul, tad Jonathan. Daeth teyrngarwch Jonathan i’r amlwg pan aeth “at Ddafydd a’i galonogi trwy Dduw.” (1 Samuel 23:16) Meddylia sut roedd Dafydd yn teimlo pan gyrhaeddodd ei ffrind annwyl i’w galonogi! *

11. Beth rwyt ti’n ei ddysgu am gyfeillgarwch o esiampl Jonathan a Dafydd?

11 Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Jonathan a Dafydd? Y wers bwysicaf yw bod rhaid i ffrindiau rannu’r un gwerthoedd ysbrydol. Gallwn ni drafod meddyliau, teimladau a phrofiadau adeiladol wrth gymdeithasu â phobl sy’n rhannu’r un credoau a gwerthoedd moesol â ni, ac sydd hefyd yn dymuno aros yn ffyddlon i Dduw. (Darllen Rhufeiniaid 1:11, 12.) Rydyn ni’n cael ffrindiau sydd a’u bryd ar bethau ysbrydol o blith pobl sy’n addoli Jehofa. Ond, ydy hyn yn golygu bod pawb sy’n dod i’r cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas yn gwmni da? Nac ydy, dim bob tro.

DEWIS FFRINDIAU AGOS

12, 13. (a) Pam mae’n rhaid inni ddewis ein ffrindiau yn ofalus hyd yn oed o blith ein cyd-Gristnogion? (b) Pa her oedd cynulleidfaoedd y ganrif gyntaf yn ei hwynebu a pha rybudd cryf a roddodd Paul?

12 Hyd yn oed o fewn y gynulleidfa, rhaid inni ddewis yn ofalus os ydyn ni eisiau ffrindiau a fydd yn gefn ysbrydol inni. Ddylai hyn ddim bod yn syndod inni. Fel y mae rhai ffrwythau ar goeden yn cymryd mwy o amser i aeddfedu, gall rhai Cristnogion fod yn arafach yn eu datblygiad ysbrydol. Felly, ym mhob cynulleidfa, bydd Cristnogion sydd wedi cyrraedd cyfnodau gwahanol o ran eu twf ysbrydol. (Hebreaid 5:12–6:3) Wrth gwrs, rydyn ni eisiau bod yn amyneddgar a charedig wrth rai newydd neu rai gwan, i’w helpu nhw i dyfu’n ysbrydol.—Rhufeiniaid 14:1; 15:1.

13 O bryd i’w gilydd, efallai y bydd sefyllfa yn codi yn y gynulleidfa sy’n gofyn inni fod yn ofalus o ran cymdeithasu. Efallai y bydd rhai yn ymddwyn yn amhriodol. Gall eraill droi’n chwerw a dechrau cwyno. Roedd cynulleidfaoedd yn y ganrif gyntaf yn wynebu’r un her. Er bod y rhan fwyaf o aelodau yn ffyddlon, roedd yna rai nad oedden nhw’n ymddwyn yn iawn. Oherwydd bod rhai yng nghynulleidfa Corinth yn methu glynu at ddysgeidiaeth Gristnogol, rhybuddiodd Paul: “Peidiwch â chymryd eich camarwain: Y mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” (1 Corinthiaid 15:12, 33) Fe wnaeth Paul rybuddio Timotheus y byddai rhai hyd yn oed ymhlith ei gyd-Gristnogion yn ymddwyn yn amhriodol. Dywedodd wrth Timotheus y dylai gadw draw rhag pobl fel hyn, a pheidio â chymdeithasu â nhw.—Darllen 2 Timotheus 2:20-22.

14. Sut gallwn ni roi ar waith yr egwyddor sydd wrth wraidd rhybudd Paul am gymdeithasu?

14 Sut gallwn ni roi ar waith yr egwyddor honno sydd wrth wraidd rhybudd Paul? Drwy osgoi cymdeithasu’n agos ag unrhyw un—y tu mewn i’r gynulleidfa neu y tu allan iddi—a all fod yn ddylanwad drwg. (2 Thesaloniaid 3:6, 7, 14) Mae’n rhaid inni warchod ein hysbrydolrwydd. Yn union fel sbwng, rydyn ni’n amsugno agweddau ac ymddygiad ein ffrindiau agos. Yn union fel na allwn ni roi sbwng mewn finegr a disgwyl iddo lenwi â dŵr, allwn ni ddim cymdeithasu â phobl negyddol eu hagwedd a disgwyl iddyn nhw gael dylanwad cadarnhaol arnon ni.—1 Corinthiaid 5:6.

Fe gei di ffrindiau da ymhlith dy gyd-addolwyr

15. Sut gelli di wneud ffrindiau yn y gynulleidfa sydd â’u bryd ar bethau ysbrydol?

15 Gallwn ni fod yn ddiolchgar fod llawer o ffrindiau da ar gael ymhlith addolwyr Jehofa. (Salm 133:1) Sut gelli di ddod o hyd i ffrindiau yn y gynulleidfa sydd â’u bryd ar bethau ysbrydol? Wel, wrth iti feithrin priodoleddau duwiol, bydd eraill o’r un meddylfryd yn cael eu denu atat ti. Ar yr un pryd, efallai y bydd yn rhaid iti gymryd camau ymarferol i wneud ffrindiau newydd. (Gweler y blwch “Sut Gwnaethon Ni Ffrindiau Da?”) Chwilia am ffrindiau sy’n dangos y math o briodoleddau yr wyt ti’n awyddus i’w datblygu. Byddi di’n barod i ddilyn cyngor y Beibl i ‘agor eich calon yn llydan,’ gan geisio ffrindiau o blith ein cyd-addolwyr heb ystyried eu hil, eu cenedl, na’u diwylliant. (2 Corinthiaid 6:13; darllen 1 Pedr 2:17.) Paid â chyfyngu dy hun i rai o’r un oedran â thi. Cofia fod Jonathan yn llawer hŷn na Dafydd. Mae profiad a doethineb y rhai hŷn yn cyfoethogi cyfeillgarwch.

PAN FO ANAWSTERAU YN CODI

16, 17. Os yw cyd-addolwr yn ein brifo mewn rhyw ffordd, pam na ddylen ni gadw draw rhag y gynulleidfa?

16 Mewn unrhyw gynulleidfa y mae pob math o bobl, pob un â phersonoliaeth a chefndir gwahanol, ac fe all hyn achosi problemau o bryd i’w gilydd. Gall cyd-addolwr ddweud neu wneud rhywbeth sy’n brifo ein teimladau. (Diarhebion 12:18) Weithiau bydd anawsterau yn codi oherwydd diffyg cyd-dynnu, camddeall neu wahaniaeth barn. Pan fydd hyn yn digwydd, a fyddwn ni’n baglu a chadw draw o’r gynulleidfa? Na fyddwn, os oes gennyn ni gariad diffuant tuag at Jehofa a’r rhai y mae ef yn eu caru.

17 Fel ein Creawdwr a’r un sy’n cynnal ein bywydau, mae Jehofa yn deilwng o’n cariad a’n hymroddiad llwyr. (Datguddiad 4:11) Ar ben hynny, os ydy Jehofa yn gweld yn dda i ddefnyddio’r gynulleidfa, dylen ni hefyd ei chefnogi yn deyrngar. (Hebreaid 13:17) Felly os ydyn ni’n cael ein brifo neu ein siomi mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ni fyddwn ni’n protestio drwy gadw draw o’r gynulleidfa. Nid Jehofa sydd wedi pechu yn ein herbyn. Fydd ein cariad tuag at Jehofa byth yn gadael inni gefnu arno ef a’i bobl!—Darllen Salm 119:165.

18. (a) Beth gallwn ni ei wneud i hyrwyddo heddwch yn y gynulleidfa? (b) Pa fendithion gawn ni drwy ddewis maddau pan fo hynny yn briodol?

18 Bydd cariad at ein cyd-addolwyr yn hyrwyddo heddwch yn y gynulleidfa. Dydy Jehofa ddim yn disgwyl perffeithrwydd gan y rhai y mae yn eu caru, a ddylen ni ddim chwaith. Mae cariad yn gwneud hi’n bosibl inni anwybyddu camweddau dibwys, gan gofio ein bod ni i gyd yn amherffaith ac yn gwneud camgymeriadau. (Diarhebion 17:9; 1 Pedr 4:8) Mae cariad yn ein helpu ni i ‘faddau i’n gilydd.’ (Colosiaid 3:13) Dydy hi ddim bob amser yn hawdd rhoi’r cyngor hwn ar waith. Gall coleddu teimladau negyddol wneud inni ddal dig, gan feddwl bod ein dicter rywsut yn cosbi’r troseddwr. Ond, y gwir amdani yw bod dal dig yn niweidio neb ond ni’n hunain. Ar y llaw arall, bydd dewis maddau, pan fydd hynny’n briodol, yn dod â llawer o fendithion. (Luc 17:3, 4) Mae’n rhoi tawelwch meddwl inni, yn cadw heddwch yn y gynulleidfa ac, yn anad dim, mae’n gwarchod ein perthynas gyda Jehofa.—Mathew 6:14, 15; Rhufeiniaid 14:19.

PRYD I BEIDIO Â CHYMDEITHASU

19. Pa sefyllfaoedd all godi sy’n gofyn inni beidio â chymdeithasu â rhywun?

19 Ar adegau, bydd gofyn inni beidio â chymdeithasu gyda rhywun sydd wedi bod yn aelod o’r gynulleidfa. Bydd hyn yn digwydd pan fo rhywun yn cael ei ddiarddel oherwydd ei fod wedi torri cyfraith Duw heb edifarhau, neu pan fo rhywun yn gwrthod y ffydd drwy hyrwyddo gau ddysgeidiaeth neu drwy ymddiarddel â’r gynulleidfa. Dywed Gair Duw yn glir y dylen ni “beidio â chymysgu” â rhai felly. * (Darllen 1 Corinthiaid 5:11-13; 2 Ioan 9-11) Gall fod yn her inni osgoi rhywun sy’n perthyn inni neu rywun a fu ar un adeg yn ffrind. A fyddwn ni’n sefyll yn gadarn a dangos bod ein teyrngarwch i Jehofa a’i ddeddfau cyfiawn yn bwysicach na dim byd arall? Cofia fod teyrngarwch ac ufudd-dod yn werthfawr iawn yng ngolwg Jehofa.

20, 21. (a) Pam mae diarddel yn dangos cariad? (b) Pam mae’n hanfodol inni ddewis ein ffrindiau yn ofalus?

20 Mewn gwirionedd, mae diarddel yn rhan o drefn garedig Jehofa. Sut felly? Mae diarddel pechadur diedifar yn dangos cariad tuag at enw sanctaidd Jehofa a phopeth y mae’r enw hwnnw yn ei gynrychioli. (1 Pedr 1:15, 16) Mae diarddel yn diogelu’r gynulleidfa. Mae’n amddiffyn aelodau ffyddlon rhag dylanwad drwg pobl sy’n pechu’n fwriadol, ac mae’n sicrhau bod y gynulleidfa yn hafan ddiogel rhag y byd drwg sydd ohoni. (1 Corinthiaid 5:7; Hebreaid 12:15, 16) Mae’r ddisgyblaeth gadarn hon yn dangos cariad at y drwgweithredwr. Efallai dyna’r union ysgytwad sydd ei angen arno er mwyn gwneud iddo gallio a dychwelyd at Jehofa.—Hebreaid 12:11.

21 Ni allwn ni osgoi’r ffaith fod ein ffrindiau agos yn medru cael dylanwad mawr arnon ni. Mae’n hanfodol, felly, ein bod ni’n dewis ein ffrindiau yn ofalus. Drwy wneud ffrindiau Jehofa yn ffrindiau i ni a thrwy garu’r rhai y mae Duw yn eu caru, fe fyddwn ni’n cael y ffrindiau gorau posibl. Bydd eu dylanwad da yn ein helpu ni i blesio Jehofa.

^ Par. 4 Trwy ofyn i Abraham wneud hynny, rhoddodd Jehofa gipolwg inni ar yr hyn y byddai ef yn ei wneud drwy offrymu ei unig-anedig Fab. (Ioan 3:16) Yn achos Abraham, fe wnaeth Jehofa ymyrryd a rhoi hwrdd i’w offrymu yn lle Isaac.—Genesis 22:1, 2, 9-13.

^ Par. 9 Dim ond “llanc” oedd Dafydd pan loriodd Goliath. Pan fu farw Jonathan, roedd Dafydd tua 30 oed. (1 Samuel 17:33; 31:2; 2 Samuel 5:4) Roedd Jonathan, a oedd tua 60 mlwydd oed pan fu farw, yn rhyw 30 mlynedd yn hŷn na Dafydd.

^ Par. 10 Yn ôl 1 Samuel 23:17, fe restrodd Jonathan bump o bethau i godi calon Dafydd: (1) Fe ddywedodd wrth Dafydd am beidio ag ofni. (2) Fe sicrhaodd Dafydd y byddai ymdrechion Saul yn methu. (3) Fe atgoffodd Dafydd y byddai’n dod yn frenin, fel roedd Duw wedi ei addo. (4) Fe addawodd fod yn deyrngar i Dafydd. (5) Dywedodd Jonathan fod Saul yn gwybod am ei deyrngarwch i Dafydd.

^ Par. 19 Am wybodaeth bellach ynglŷn â sut i drin pobl sydd wedi eu diarddel neu sydd wedi ymddiarddel, gweler yr erthygl “Sut Dylen Ni Drin Rhywun Sydd Wedi ei Ddiarddel?” sydd i’w gweld yn yr Atodiad.