Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD 6

Dewis Adloniant Iach

Dewis Adloniant Iach

“Gwnewch bopeth er gogoniant Duw.”—1 CORINTHIAID 10:31.

1, 2. Pa ddewis mae’n rhaid inni ei wneud ynglŷn ag adloniant?

DYCHMYGA dy fod ti ar fin bwyta afal blasus ac yna yn gweld bod rhan ohono’n ddrwg. Beth byddi di’n ei wneud? Wel, fe elli di fwyta’r cwbl, gan gynnwys y darn drwg; fe elli di daflu’r cwbl, y da a’r drwg; neu fe elli di dorri’r drwg allan a mwynhau’r darn da. Beth byddi di’n ei wneud?

2 Mewn ffordd, mae adloniant yn debyg i’r afal hwnnw. Weithiau, rwyt ti eisiau ymlacio, ond yn sylweddoli bod llawer o adloniant heddiw yn anfoesol neu hyd yn oed yn llygredig. Felly, beth wnei di? Fe all rhai dderbyn y drwg a llyncu pob adloniant y mae’r byd yn ei gynnig. Gall eraill osgoi adloniant yn gyfan gwbl rhag ofn iddyn nhw ddod ar draws rhywbeth niweidiol. Bydd eraill yn osgoi adloniant niweidiol ond, o bryd i’w gilydd, byddan nhw’n mwynhau adloniant sydd, ar y cyfan, yn iach. Pa ddewis dylet ti ei wneud er mwyn aros yng nghariad Duw?

3. Beth byddwn ni yn ei ystyried nesaf?

3 Byddai’r rhan fwyaf ohonon ni yn mynd am y trydydd opsiwn. Rydyn ni’n gwybod bod angen rhywfaint o adloniant arnon ni ond rydyn ni eisiau cadw i’r hyn sy’n foesol iach. Felly, rhaid inni ystyried sut mae gwahaniaethu rhwng y da a’r drwg ym myd adloniant. Ond yn gyntaf, gad inni drafod sut gall yr adloniant rydyn ni’n ei ddewis effeithio ar ein haddoliad i Jehofa.

“GWNEWCH BOPETH ER GOGONIANT DUW”

4. Sut dylai ein hymgysegriad ddylanwadu ar ein dewis o adloniant?

4 Rai blynyddoedd yn ôl, fe ddywedodd Tyst a gafodd ei fedyddio ym 1946: “Dw i wedi sicrhau fy mod i yno ar gyfer pob anerchiad bedydd, yn gwrando’n ofalus fel petaswn i fy hun yn cael fy medyddio.” Pam felly? Esboniodd, “Mae cadw fy ymgysegriad yn fyw yn fy nghof wedi bod yn help imi aros yn ffyddlon.” Onid wyt ti’n teimlo’r un fath? Mae cofio ein haddewid i ddefnyddio ein holl fywyd yng ngwasanaeth Jehofa yn rhoi’r nerth inni ddal ati. (Darllen Pregethwr 5:4.) Bydd meddwl yn ddwys am dy ymgysegriad yn effeithio nid yn unig ar dy agwedd at y weinidogaeth, ond hefyd ar dy fywyd i gyd, gan gynnwys adloniant. Fe wnaeth yr apostol Paul bwysleisio hyn pan ysgrifennodd at Gristnogion ei ddydd: “Beth bynnag a wnewch, prun ai bwyta, neu yfed, neu unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw.”—1 Corinthiaid 10:31.

5. Sut mae Lefiticus 22:18-20 yn ein helpu ni i ddeall y gofynion sydd y tu ôl i’r geiriau yn Rhufeiniaid 12:1?

5 Mae popeth a wnei di mewn bywyd wedi ei gysylltu ag addoli Jehofa. Yn ei lythyr at y Rhufeiniaid defnyddiodd Paul ymadrodd pwerus i bwysleisio hyn. Ysgrifennodd: “Yr wyf yn ymbil arnoch, . . . i’ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw.” (Rhufeiniaid 12:1) Mae’r ‘hunan’ yn cynnwys dy feddwl, dy galon, â’th nerth corfforol. Rwyt ti’n defnyddio’r rhain i gyd wrth wasanaethu Duw. (Marc 12:30) Mae Paul yn disgrifio’r gwasanaeth selog hwn fel aberth. Mae gofynion ynghlwm wrth y gair aberth. Dan Gyfraith Moses, byddai Duw yn gwrthod unrhyw aberth a nam arno. (Lefiticus 22:18-20) Yn yr un modd, os yw aberth ysbrydol y Cristion wedi ei ddifwyno mewn unrhyw ffordd, ni fydd yn dderbyniol gan Dduw. Ond sut gallai hynny ddigwydd?

6, 7. Sut gallai Cristion ddifwyno ei gorff, a beth fydd y canlyniad?

6 Fe wnaeth Paul annog y Cristnogion yn Rhufain: “Peidiwch ag ildio eich cyneddfau corfforol [“unrhyw ran o’ch corff,” beibl.net] i bechod.” Dywedodd Paul wrthyn nhw hefyd am roi “arferion drwg y corff i farwolaeth.” (Rhufeiniaid 6:12-14; 8:13) Yn ei lythyr, roedd Paul wedi rhoi enghreifftiau o “arferion drwg y corff.” Dywed am bobl bechadurus fod eu “genau’n llawn melltith.” “Cyflym eu traed i dywallt gwaed,” meddai, ac “Nid oes ofn Duw ar eu cyfyl [“gerbron eu llygaid,” Beibl Cysegr-lân].” (Rhufeiniaid 3:13-18) Byddai Cristion yn difwyno ei gorff petai’n ei ddefnyddio ar gyfer arferion drwg. Er enghraifft, petai Cristion heddiw yn mynd ati yn fwriadol i edrych ar bornograffi neu i wylio trais sadistaidd, fe fyddai’n “ildio [ei lygaid] i bechod” ac yn difwyno ei gorff i gyd. Fe fydd ei addoliad yn debyg i aberth nad yw bellach yn sanctaidd, ac felly yn annerbyniol gan Dduw. (Deuteronomium 15:21; 1 Pedr 1:14-16; 2 Pedr 3:11) Dyna iti bris uchel i’w dalu am ddewis adloniant afiach!

7 Yn amlwg, mae dewis adloniant yn fater difrifol i Gristion. Fe fyddwn ni eisiau dewis adloniant sy’n dyrchafu ein haberth i Dduw yn hytrach na’i ddifwyno. Gad inni drafod nesaf sut gall rhywun benderfynu beth sy’n iach a beth nad yw’n iach.

“CASEWCH DDRYGIONI”

8, 9. (a) Ym mha ddau gategori y gallwn ni roi adloniant? (b) Pa fathau o adloniant y byddwn ni’n ymwrthod â nhw, a pham?

8 Yn fras, gallwn roi adloniant mewn dau gategori. Mae’r categori cyntaf yn cynnwys y math o adloniant y byddai Cristnogion yn ei osgoi’n llwyr. Mae’r ail yn cynnwys adloniant a all fod yn dderbyniol gan rai Cristnogion ond nid gan eraill. Dechreuwn drwy ystyried y categori cyntaf—adloniant y bydd Cristnogion yn ei osgoi.

9 Fel y gwelon ni ym Mhennod 1, mae rhai mathau o adloniant yn portreadu arferion y mae’r Beibl yn eu condemnio’n llwyr. Meddylia, er enghraifft, am wefannau Rhyngrwyd, ffilmiau, rhaglenni teledu, a cherddoriaeth sydd â chynnwys sadistaidd, demonig neu bornograffig ac sy’n annog arferion anfoesol ac afiach. Gan fod adloniant llygredig o’r fath yn rhoi darlun ffafriol o weithredoedd sy’n gwbl groes i egwyddorion y Beibl, neu sy’n torri cyfreithiau’r Beibl, dylai gwir Gristnogion ei osgoi’n llwyr. (Actau 15:28, 29; 1 Corinthiaid 6:9, 10; Datguddiad 21:8) Drwy ymwrthod ag adloniant afiach, byddi di’n dangos i Jehofa dy fod ti’n llwyr ‘gasáu drygioni’ ac yn ‘troi oddi wrtho’ bob amser. Wedyn, gellir dweud bod dy ‘gariad yn ddiragrith.’—Rhufeiniaid 12:9; Salm 34:14; 1 Timotheus 1:5.

10. Sut gall rhywun resymu ynglŷn ag adloniant a pham mae hyn yn beryglus?

10 Fe all rhai deimlo nad yw adloniant sy’n llawn ymddygiad anfoesol cignoeth yn gwneud drwg i neb. Maen nhw’n rhesymu, ‘Er fy mod i’n ei wylio mewn ffilmiau neu ar y teledu, fyddwn i byth yn gwneud y fath bethau fy hun.’ Ond, mae rhesymu o’r fath yn beryglus. Mae’r rhai sy’n meddwl fel hyn yn twyllo eu hunain. (Darllen Jeremeia 17:9.) Os ydyn ni’n mwynhau gwylio pethau y mae Jehofa yn eu condemnio, ydyn ni’n ‘casáu drygioni’ o ddifrif? Bydd deiet cyson o ymddygiad drygionus yn pylu ein synhwyrau. (Salm 119:70; 1 Timotheus 4:1, 2) Fe all effeithio ar ein hymddygiad, neu ar ein safbwynt tuag at ymddygiad pechadurus pobl eraill.

11. Sut mae Galatiaid 6:7 wedi ei brofi’n wir yn achos adloniant?

11 Mae hyn wedi digwydd. Mae rhai Cristnogion wedi gwneud pethau anfoesol oherwydd dylanwad yr adloniant roedden nhw’n arfer ei ddewis. Fe ddysgon nhw’r ffordd galed mai “beth bynnag y mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi.” (Galatiaid 6:7) Ond fe elli di osgoi’r fath ganlyniad trist. Os wyt ti’n ofalus i hau’r hyn sy’n dda yn dy feddwl, fe fyddi di’n medi’r hyn sy’n iach yn dy fywyd.—Gweler y blwch  “Pa Fath o Adloniant y Dylwn ei Ddewis?”

PENDERFYNIADAU PERSONOL AR SAIL EGWYDDORION Y BEIBL

12. Sut mae Galatiaid 6:5 yn berthnasol i adloniant, a pha ganllawiau all ein helpu i wneud penderfyniadau personol?

12 Gad inni droi nesaf at yr ail gategori—adloniant sy’n cynnwys gweithgareddau nad yw Gair Duw yn rhoi barn bendant arnyn nhw y naill ffordd neu’r llall. Wrth ddewis adloniant fel hyn bydd rhaid i bob Cristion benderfynu drosto’i hun. (Darllen Galatiaid 6:5.) Ond mae gennyn ni ganllawiau i’n helpu ni. Mae’r Beibl yn cynnwys egwyddorion neu wirioneddau sylfaenol sy’n dangos beth yw meddwl Jehofa. Drwy roi sylw i’r egwyddorion hyn, byddwn ni’n medru deall “beth yw ewyllys yr Arglwydd” ym mhob maes, gan gynnwys adloniant.—Effesiaid 5:17.

13. Beth fydd yn gwneud inni osgoi adloniant na fydd yn plesio Jehofa?

13 Wrth gwrs, ni fydd dirnadaeth foesol pob Cristion wedi ei datblygu i’r un graddau, ac mae hynny i’w ddisgwyl. (Philipiaid 1:9) Ac mae Cristnogion yn sylweddoli mai mater o chwaeth bersonol yw adloniant. Felly, dydyn ni ddim yn disgwyl i bob Cristion ddod i’r un penderfyniad. Ond mwyaf yn y byd y byddwn ni’n gadael i egwyddorion duwiol ddylanwadu ar ein meddyliau a’n calonnau, mwyaf yn y byd y byddwn ni eisiau osgoi unrhyw adloniant na fydd yn plesio Jehofa.—Salm 119:11, 129; 1 Pedr 2:16.

14. (a) Pa ffactor y dylen ni ei ystyried wrth ddewis adloniant? (b) Sut gallwn ni roi’r lle cyntaf yn ein bywydau i faterion ysbrydol?

14 Mae ffactor arall i’w ystyried wrth ddewis adloniant: dy amser. Tra bydd dy ddewis o adloniant yn datgelu dy safonau, bydd yr amser rwyt ti’n ei neilltuo ar gyfer adloniant yn datgelu dy flaenoriaethau. Pethau ysbrydol sydd bwysicaf i Gristnogion. (Darllen Mathew 6:33.) Beth gelli di ei wneud, felly, i sicrhau bod materion ysbrydol yn cael y lle cyntaf yn dy fywyd? Dywedodd yr apostol Paul: “Gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth. Daliwch ar eich cyfle.” (Effesiaid 5:15, 16) Yn wir, bydd cyfyngu ar yr amser rwyt ti’n ei roi i adloniant yn rhoi mwy o amser ar gyfer yr “hyn sy’n rhagori,”—gweithgareddau sy’n cyfrannu at dy iechyd ysbrydol.—Philipiaid 1:10.

15. Pam mae’n ddoeth i chwarae’n saff wrth ddewis adloniant?

15 Wrth ddewis adloniant, peth doeth fyddai chwarae’n saff. Beth mae hyn yn ei feddwl? Meddylia eto am yr eglureb o’r afal. Er mwyn osgoi bwyta unrhyw beth sydd wedi pydru, fe fyddet ti’n torri allan ychydig bach mwy na’r darn sydd wedi troi’n ddrwg. Bydd Cristion doeth yn osgoi, nid yn unig adloniant sydd yn gwbl groes i egwyddorion y Beibl, ond hefyd adloniant sy’n amheus neu sy’n cynnwys elfennau a fyddai’n ysbrydol niweidiol. (Diarhebion 4:25-27) Bydd glynu’n agos at Air Duw yn dy helpu.

‘BETH BYNNAG SY’N BUR’

Bydd dewis adloniant yn ôl egwyddorion y Beibl yn ein hamddiffyn rhag niwed ysbrydol

16. (a) Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n rhannu safbwynt Jehofa ar faterion moesol? (b) Sut gall rhoi egwyddorion y Beibl ar waith ddod yn rhan naturiol o’ch bywyd?

16 Wrth ddewis adloniant, bydd gwir Gristnogion yn ystyried safbwynt Jehofa yn gyntaf. Mae’r Beibl yn dangos beth yw teimladau a safonau Jehofa. Er enghraifft, ymhlith y pethau y mae’r Brenin Solomon yn eu rhestru fel cas bethau Jehofa yw “tafod ffals, dwylo’n tywallt gwaed dieuog, calon yn cynllunio oferedd, traed yn prysuro i wneud drwg.” (Diarhebion 6:16-19) Sut dylai safbwynt Jehofa effeithio ar dy safbwynt ti? Dywed y Salmydd: “Y mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n casáu drygioni.” (Salm 97:10) Rhaid i’n dewis o adloniant ddangos ein bod ni’n wir gasáu’r hyn mae Jehofa yn ei gasáu. (Galatiaid 5:19-21) Cofia hefyd fod yr hyn a wnei di yn dy fywyd preifat yn dweud mwy amdanat ti fel person na’r hyn a wnei di o flaen pobl eraill. (Salm 11:4; 16:8) Felly, os wyt ti’n dymuno i bob agwedd ar dy fywyd adlewyrchu safonau Jehofa ar faterion moesol, fe fydd dy ddewisiadau bob amser yn seiliedig ar egwyddorion y Beibl. Bydd yn rhan naturiol o’th ffordd o fyw.—2 Corinthiaid 3:18.

17. Cyn inni ddewis adloniant, pa gwestiynau dylen ni eu gofyn?

17 Beth arall medri di ei wneud i sicrhau bod dy adloniant yn adlewyrchu meddwl Jehofa? Myfyria ar y cwestiwn, ‘Sut bydd hyn yn effeithio arna i, ac ar fy enw da gyda Duw?’ Er enghraifft, cyn dewis gwylio ffilm, gofynna i ti dy hun, ‘Sut bydd cynnwys y ffilm yn effeithio ar fy nghydwybod?’ Gad inni ystyried rhai egwyddorion perthnasol.

18, 19. (a) Sut gall yr egwyddor yn Philipiaid 4:8 ein helpu ni i benderfynu a yw ein hadloniant yn iach? (b) Pa egwyddorion eraill all dy helpu i ddewis adloniant da? (Gweler y troednodyn.)

18 Gwelwn egwyddor allweddol yn Philipiaid 4:8, sy’n dweud: “Beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.Wrth gwrs, mae Paul yma yn trafod myfyrdod y galon a ddylai ganolbwyntio ar yr hyn sy’n plesio Duw, ond mae ei sylwadau, o ran egwyddor, yn berthnasol i adloniant. (Salm 19:14) Sut felly?

19 Gofynna i ti dy hun, ‘Ydy’r ffilmiau, y gemau fideo, y gerddoriaeth, ac unrhyw adloniant arall rydw i’n ei ddewis, yn llenwi fy meddwl â “beth bynnag sydd yn bur”?’ Ar ôl i ti wylio ffilm, pa luniau sydd yn aros yn dy feddwl? Os ydy’r delweddau hynny yn ddymunol, yn bur, ac yn ddyrchafol, yna fe wyddost ti fod yr adloniant yn iach. Ond, os yw’r ffilm yn gwneud iti feddwl am bethau amhur, yna roedd dy adloniant yn niweidiol. (Mathew 12:33; Marc 7:20-23) Pam felly? Oherwydd bod meddwl am bethau anfoesol yn aflonyddu ar dy dawelwch meddwl, yn creithio dy gydwybod Gristnogol, ac efallai’n difetha dy berthynas gyda Duw. (Effesiaid 5:5; 1 Timotheus 1:5, 19) Gan fod adloniant fel hyn yn gwneud niwed i ti, bydda’n benderfynol o’i osgoi. * (Rhufeiniaid 12:2) Bydda fel y Salmydd a weddïodd ar Jehofa: “Tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd.”—Salm 119:37.

CEISIO LLES POBL ERAILL

20, 21. Sut mae 1 Corinthiaid 10:23, 24 yn berthnasol i’n dewis o adloniant iach?

20 Mae Paul yn sôn am egwyddor allweddol y dylen ni ei hystyried wrth benderfynu ar faterion personol. Dywed: “‘Y mae popeth yn gyfreithlon,’ meddwch; ond nid yw popeth yn adeiladu. Peidied neb â cheisio’i les ei hun, ond lles ei gymydog.” (1 Corinthiaid 10:23, 24) Sut mae’r egwyddor honno’n berthnasol wrth ddewis adloniant? Mae angen gofyn, ‘Sut bydd yr adloniant rydw i’n ei ddewis yn effeithio ar bobl eraill?’

21 Efallai y mae math arbennig o adloniant yn gwbl “gyfreithlon” a derbyniol i’th gydwybod di. Ond os wyt ti’n sylwi bod pobl eraill sydd â chydwybod fwy caeth yn teimlo’n anesmwyth, efallai byddi di’n dewis peidio â’i wneud. Pam felly? Oherwydd nad wyt ti eisiau ‘pechu yn erbyn eich cyd-gredinwyr’—neu hyd yn oed “pechu yn erbyn Crist,”—drwy ei gwneud hi’n fwy anodd i’th gyd-gredinwyr aros yn ffyddlon i Dduw. Rwyt ti’n cymryd o ddifrif y cyngor: “Peidiwch â bod yn achos tramgwydd.” (1 Corinthiaid 8:12; 10:32) Mae gwir Gristnogion heddiw yn dilyn cyngor call ac ystyriol Paul drwy osgoi adloniant a all fod yn “gyfreithlon” ond nad yw’n “adeiladu.”—Rhufeiniaid 14:1; 15:1.

22. Pam mae Cristnogion yn derbyn y bydd gwahaniaeth barn mewn materion personol?

22 Sut bynnag, y mae ochr arall i geisio lles pobl eraill. Ni ddylai Cristion â chydwybod fwy cyfyng fynnu bod pawb yn y gynulleidfa yn ildio i’w syniadau mwy cul ynglŷn ag adloniant. Petai’n gwneud hynny, fe fyddai’n debyg i yrrwr car sy’n mynnu bod pob gyrrwr arall ar y ffordd yn mynd ar yr un cyflymder ag ef. Fyddai hynny ddim yn rhesymol. Mae cariad Cristnogol yn gofyn i’r rhai â chydwybod fwy cyfyng barchu safbwynt eraill, cyn belled bod hynny yn unol ag egwyddorion Cristnogol. Drwy wneud hyn rydyn ni’n dangos ein bod ni’n rhesymol.—Philipiaid 4:5; Pregethwr 7:16.

23. Sut gelli di sicrhau dy fod ti’n dewis adloniant iach?

23 I grynhoi, felly, sut gelli di ddewis adloniant iach? Drwy wrthod unrhyw adloniant sy’n darlunio mewn modd graffig weithgareddau anfoesol y mae Gair Duw yn eu condemnio. Lle nad yw’r Beibl yn trafod mathau penodol o adloniant, dilyna egwyddorion Beiblaidd. Rhaid i ti osgoi adloniant sy’n aflonyddu ar dy gydwybod, a phwysig yw i ti fod yn barod i ymwrthod ag adloniant a all bechu pobl eraill, yn enwedig ein cyd-gredinwyr. Drwy wneud hyn, byddi di’n gogoneddu Duw ac yn dy gadw dy hun a’th deulu yn ei gariad.

^ Par. 19 Ceir mwy o egwyddorion sy’n berthnasol i adloniant yn Diarhebion 3:31; 13:20; Effesiaid 5:3, 4; a Colosiaid 3:5, 8, 20.