Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD 9

Ffo Rhag Anfoesoldeb Rhywiol

Ffo Rhag Anfoesoldeb Rhywiol

“Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy’n perthyn i’r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth.”—COLOSIAID 3:5.

1, 2. Beth oedd cynllwyn Balaam i faglu pobl Jehofa?

MAE pysgotwr yn mynd i’w hoff lecyn gan obeithio dal math arbennig o bysgodyn. Mae’n dewis abwyd a thaflu ei lein i’r dŵr. Yn fwyaf sydyn, mae’r lein yn tynhau, y wialen yn plygu, a chyn pen dim y mae pysgodyn mawr wedi ei ddal. Mae’r pysgotwr yn gwenu ac yntau’n gwybod ei fod wedi dewis yr abwyd iawn.

2 Yn y flwyddyn 1473 COG, roedd dyn o’r enw Balaam yn ceisio dewis abwyd i ddal, nid pysgod, ond pobl Dduw a oedd yn gwersylla ar Wastadedd Moab sydd ar ffin Gwlad yr Addewid. Roedd Balaam yn honni ei fod yn un o broffwydi Jehofa, ond, mewn gwirionedd, dyn barus ydoedd, wedi ei hurio i felltithio Israel. Ond, fe wnaeth Jehofa achosi i Balaam fendithio Israel. Ond roedd Balaam â’i fryd ar ennill yr arian. Yn ei feddwl ef, petai’n bosibl iddo hudo Israel i bechu’n ddifrifol, efallai y byddai hynny yn gwneud i Dduw felltithio ei bobl ei hun. Gan hynny, fe daflodd Balaam ei abwyd—merched deniadol Moab.—Numeri 22:1-7; 31:15, 16; Datguddiad 2:14.

3. I ba raddau oedd cynllwyn Balaam yn llwyddiannus?

3 A wnaeth y cynllwyn weithio? Do, i ryw raddau. Llyncodd degau o filoedd o ddynion Israel yr abwyd drwy “odinebu gyda merched Moab.” Dechreuon nhw hyd yn oed addoli duwiau Moab gan gynnwys y Baal-peor ffiaidd, sef duw ffrwythlondeb a rhyw. O ganlyniad i hynny, bu farw 24,000 o Israeliaid a hwythau ar drothwy Gwlad yr Addewid. Dyna iti drychineb!—Numeri 25:1-9.

4. Pam cafodd miloedd o Israeliaid eu maglu gan anfoesoldeb?

4 Beth arweiniodd at y drasiedi hon? Roedd calonnau llawer o’r bobl wedi troi’n ddrwg. Cefnon nhw ar Jehofa, yr un a oedd wedi eu hachub yn yr Aifft a’u tywys yn ddiogel i wlad yr addewid. (Hebreaid 3:12) Gan gyfeirio’n ôl at hyn, ysgrifennodd yr apostol Paul: “Peidiwn chwaith â chyflawni anfoesoldeb rhywiol, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy—a syrthiodd tair mil ar hugain mewn un diwrnod.” *1 Corinthiaid 10:8.

5, 6. Pam mae hanes Israel yn pechu ar Wastadedd Moab o ddiddordeb inni heddiw?

5 I bobl Dduw heddiw, sydd ar drothwy gwlad addewid fwy arwyddocaol, y mae gwersi pwysig yn yr hanes hwn. (1 Corinthiaid 10:11) Er enghraifft, fel pobl Moab, mae gan y byd obsesiwn gyda rhyw. Bob blwyddyn, mae miloedd o Gristnogion yn cael eu denu gan anfoesoldeb—yr un abwyd a ddenodd yr Israeliaid. (2 Corinthiaid 2:11) Ac fel Simri—a wnaeth sioe fawr o ddod ag un o ferched Moab i’w babell yng nghanol gwersyll Israel—mae rhai sy’n cymdeithasu â phobl Dduw heddiw wedi dylanwadu’n ddrwg ar eraill yn y gynulleidfa Gristnogol.—Numeri 25:6, 14; Jwdas 4.

6 Wyt ti’n dy weld dy hun ar “Wastadedd Moab” heddiw? Wyt ti’n gweld y wobr—y byd newydd—ar y gorwel? Os felly, gwna bopeth a elli di i aros yng nghariad Duw drwy ufuddhau i’r gorchymyn: “Ffowch oddi wrth buteindra.”—1 Corinthiaid 6:18.

Yr olygfa dros Wastadedd Moab

BETH YW ANFOESOLDEB RHYWIOL?

7, 8. Beth yw “anfoesoldeb rhywiol,” a beth yw canlyniadau ymddygiad o’r fath?

7 Yn y Beibl, mae’r gair Groeg por·neiʹa a gyfieithir yn “anfoesoldeb rhywiol” neu “buteindra” yn golygu cyfathrach rywiol y tu allan i’r briodas Ysgrythurol. Mae’r term yn cynnwys godinebu, puteinio, cyfathrach rywiol rhwng pobl ddibriod (gan gynnwys rhyw geneuol a rhyw rhefrol), a mastyrbio rhywun nad yw’n briod â chi. Mae hefyd yn cynnwys gweithredoedd o’r fath rhwng dau o’r un rhyw, yn ogystal â bwystfileiddiwch. *

8 Mae’r Beibl yn gwbl eglur: Ni all y rhai sy’n byw bywyd o anfoesoldeb rhywiol aros yn y gynulleidfa Gristnogol ac ni fyddan nhw’n cael bywyd tragwyddol. (1 Corinthiaid 6:9; Datguddiad 22:15) Ar ben hynny, maen nhw’n colli eu hunan-barch ac ni fydd eraill yn medru ymddiried ynddyn nhw. Gallan nhw hefyd wynebu trafferthion priodasol, euogrwydd, beichiogrwydd digroeso, afiechydon, a hyd yn oed marwolaeth. (Darllen Galatiaid 6:7, 8.) Pam cychwyn ar lwybr sy’n arwain at gymaint o dristwch? Ond nid yw llawer o bobl yn meddwl am y dyfodol wrth gymryd y cam gwag cyntaf. Yn aml, pornograffi yw’r cam hwnnw.

PORNOGRAFFI—Y CAM CYNTAF

9. Ai rhywbeth diniwed yw pornograffi, fel mae rhai yn honni? Esbonia.

9 Mewn llawer o wledydd, mae pornograffi i’w gael mewn cylchgronau a phapurau newydd, mewn cerddoriaeth, ac ar y teledu. Mae’r Rhyngrwyd wedi ei drwytho ynddo. * Ai rhywbeth diniwed yw pornograffi fel y mae rhai’n honni? Dim o gwbl! Gall rhai sy’n gwylio pornograffi ddechrau mastyrbio yn rheolaidd a meithrin “nwydau gwarthus,” sy’n medru arwain at ddibyniaeth ar ryw, chwantau gwyrdroëdig, problemau priodasol difrifol, a hyd yn oed ysgariad. * (Rhufeiniaid 1:24-27; Effesiaid 4:19) Dywed un ymchwilydd fod dibyniaeth ar ryw yn debyg i ganser. Mae’r ddibyniaeth yn “tyfu ac yn lledaenu. Yn anaml iawn y mae’n diflannu ac mae’n anodd iawn ei thrin a’i hiacháu.”

Peth doeth yw defnyddio’r Rhyngrwyd mewn lle agored yn y cartref

10. Sut gallwn ni roi ar waith yr egwyddor yn Iago 1:14, 15? (Gweler hefyd y blwch  “Cael y Nerth i Aros yn Foesol Lân”.)

10 Ystyria eiriau Iago 1:14, 15: “Pan yw rhywun yn cael ei demtio, ei chwant ei hun sydd yn ei dynnu ar gyfeiliorn ac yn ei hudo. Yna, y mae chwant yn beichiogi ac yn esgor ar bechod, ac y mae pechod, ar ôl cyrraedd ei lawn dwf, yn cenhedlu marwolaeth.” Felly, os yw chwant drwg yn dod i’th feddwl, gwna rywbeth i gael gwared arno yn syth bin! Er enghraifft, os wyt ti’n digwydd gweld delweddau erotig, edrycha i ffwrdd, diffodda’r cyfrifiadur, neu newidia’r sianel ar y teledu. Gwna beth bynnag sydd ei angen i beidio ag ildio i chwantau anfoesol cyn i’r sefyllfa fynd yn drech na thi!—Darllen Mathew 5:29, 30.

11. Wrth frwydro’n erbyn chwantau drwg, sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ymddiried yn Jehofa?

11 Mae’r Un sydd yn ein hadnabod ni’n well na neb arall yn rhoi’r cyngor hwn: “Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy’n perthyn i’r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth.” (Colosiaid 3:5) Mae’n wir y gall hyn fod yn her. Ond, cofia fod gennyn ni Dad nefol i’w droi ato sy’n gariadus ac yn amyneddgar. (Salm 68:19) Pan ddaw syniadau drwg i’th feddwl, tro yn syth at Jehofa. Gweddïa am y “gallu tra rhagorol,” a gorfoda dy hun i feddwl am bethau eraill.—2 Corinthiaid 4:7; 1 Corinthiaid 9:27; gweler y blwch  “Sut Gallaf Dorri Arferiad Drwg?”

12. Pam mae’n rhaid inni warchod ein meddyliau?

12 Ysgrifennodd Solomon: “Yn fwy na dim, edrych ar ôl dy feddwl, oherwydd oddi yno y tardd bywyd.” (Diarhebion 4:23) Mae Duw yn gweld ein meddyliau. Yr hyn rydyn ni ar y tu mewn sydd o bwys i Dduw; nid y ffordd yr ydyn ni’n ymddangos i bobl eraill. Yr hyn y mae Duw yn ei weld ar y tu mewn sy’n penderfynu a fyddwn ni’n cael bywyd tragwyddol neu beidio. Mae hi mor syml â hynny. Mae hi hefyd mor ddifrifol â hynny. Er mwyn osgoi llygadu merched, fe wnaeth Job gytundeb â’i lygaid. (Job 31:1) Dyna inni esiampl dda! Roedd y Salmydd yn teimlo’r un ffordd pan weddïodd: “Tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd.”—Salm 119:37.

DEWIS ANNOETH DINA

13. Pwy oedd Dina, a pham oedd ei dewis o ffrindiau yn annoeth?

13 Fel y gwelon ni ym Mhennod 3, gall ein ffrindiau ddylanwadu arnon ni er gwell neu er gwaeth. (Diarhebion 13:20; darllen 1 Corinthiaid 15:33.) Ystyria hanes Dina, merch Jacob. Er iddi gael magwraeth dda, dewisodd Dina fod yn ffrindiau gyda merched Canaan. Roedd pobl Canaan, fel pobl Moab, yn adnabyddus am fod yn anfoesol. (Lefiticus 18:6-25) Yng ngolwg dynion Canaan, gan gynnwys Sichem—“y mwyaf anrhydeddus o’i holl deulu”—roedd Dina yn ferch a fyddai’n amlwg yn croesawu sylw rhywiol.—Genesis 34:18, 19.

14. Sut gwnaeth dewis Dina o ran ffrindiau arwain at drychineb?

14 Mae’n debyg nad oedd Dina yn bwriadu cael perthynas rywiol pan welodd hi Sichem. Fodd bynnag, fe wnaeth ef yr hyn yr oedd y rhan fwyaf o ddynion Canaan yn ei ystyried yn naturiol pan oedden nhw wedi eu cyffroi’n rhywiol. Roedd protestiadau Dina yn golygu dim iddo oherwydd “fe’i cymerodd . . . a’i threisio.” Mae’n ymddangos fod Sichem wedi syrthio mewn cariad â Dina, ond nid oedd hynny’n newid yr hyn oedd wedi digwydd. (Darllen Genesis 34:1-4.) Ac nid Dina oedd yr unig un a ddioddefodd. Oherwydd ei dewis o ffrindiau, rhoddwyd cychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau a ddaeth â gwarth ar ei holl deulu.—Genesis 34:7, 25-31; Galatiaid 6:7, 8.

15, 16. Sut gallwn ni gael gwir ddoethineb? (Gweler hefyd y blwch “Adnodau i Fyfyrio Arnyn Nhw”.)

15 Os dysgodd Dina wers o gwbl, fe ddysgodd drwy brofiad chwerw. Nid oes angen i’r rhai sy’n caru Jehofa ddysgu gwersi bywyd drwy brofiadau cas. Oherwydd eu bod nhw’n gwrando ar Dduw, maen nhw’n dewis ‘rhodio gyda’r doeth.’ (Diarhebion 13:20a) Felly, maen nhw’n dilyn ‘pob ffordd dda’ ac yn osgoi problemau a phoen diangen.—Diarhebion 2:6-9; Salm 1:1-3.

16 Mae doethineb duwiol ar gael i bawb sydd yn ei geisio o ddifrif, drwy weddïo’n gyson amdano a thrwy astudio Gair Duw a’r deunydd y mae’r “gwas ffyddlon” yn ei ddarparu. (Mathew 24:45; Iago 1:5) Pwysig hefyd yw bod yn ostyngedig, a bod yn barod i ddilyn cyngor y Beibl. (2 Brenhinoedd 22:18, 19) Er enghraifft, efallai y bydd Cristion yn derbyn fod ei galon yn gallu ei dwyllo. (Jeremeia 17:9) Ond, mewn sefyllfa sy’n gofyn am gyngor penodol, a fydd yn ddigon gostyngedig i dderbyn y cyngor hwnnw?

17. Disgrifia sefyllfa a all godi yn y teulu, a dangosa sut y gall y tad resymu gyda’i ferch.

17 Dychmyga’r sefyllfa hon: Mae tad yn dweud na all ei ferch ganlyn Cristion ifanc heb siaperon. Mae’r ferch yn gofyn: “Ond Dad, ’dydych chi ddim yn fy nhrystio i? Wnawn ni ddim byd o’i le!” Efallai ei bod hi’n caru Jehofa ac eisiau gwneud yr hyn sy’n iawn, ond eto, ydy hi’n “dilyn doethineb”? Ydy hi’n ‘ffoi rhag anfoesoldeb rhywiol’? Neu ydy hi’n ‘ymddiried ynddi hi ei hun’? (Diarhebion 28:26) Efallai y gelli di feddwl am egwyddorion eraill a fyddai’n helpu’r tad a’r ferch i benderfynu beth yw’r peth gorau i’w wneud.—Gweler Diarhebion 22:3; Mathew 6:13; 26:41.

JOSEFF YN FFOI RHAG ANFOESOLDEB RHYWIOL

18, 19. Pa demtasiwn roedd Joseff yn ei wynebu, a beth a wnaeth yn ei gylch?

18 Roedd Joseff yn ddyn ifanc a oedd yn caru Duw. Yn wahanol i’w hanner chwaer Dina, fe wnaeth Joseff ffoi rhag anfoesoldeb rhywiol. (Genesis 30:20-24) Roedd Joseff wedi gweld canlyniadau ffolineb Dina â’i lygaid ei hun. Mae’n debyg fod y profiad hwnnw ynghyd â’i gariad tuag at Dduw wedi ei helpu pan oedd gwraig ei feistr yn ceisio ei hudo i gael rhyw â hi. Ac yntau’n gaethwas yn yr Aifft, nid oedd Joseff yn medru ymddiswyddo a gadael! Roedd yn rhaid iddo fod yn gall ac yn ddewr. Roedd yn gwrthod cynigion gwraig Potiffar bob dydd ond, yn y pen draw, bu’n rhaid iddo ffoi.—Darllen Genesis 39:7-12.

19 Ystyria hyn: Petai Joseff wedi ffantasïo amdani hi neu wedi meddwl o hyd am gael rhyw, a fyddai wedi llwyddo i aros yn ffyddlon i Jehofa? Na fyddai. Yn hytrach na meithrin meddyliau amhur, roedd Joseff yn trysori ei berthynas â Jehofa a dywedodd wrth wraig Potiffar: “Nid yw [fy meistr] wedi cadw dim oddi wrthyf ond tydi, am mai ei wraig wyt. Sut felly y gwnawn i y drwg mawr hwn, a phechu yn erbyn Duw?”—Genesis 39:8, 9.

20. Sut gwnaeth Jehofa ymyrryd yn achos Joseff?

20 Dychmyga pa mor hapus oedd Jehofa o weld Joseff, er ei fod yn ifanc ac yn bell oddi cartref, yn aros yn ffyddlon ddydd ar ôl dydd. (Diarhebion 27:11) Yn ddiweddarach, trefnodd Jehofa i Joseff gael ei ryddhau o’r carchar a hefyd iddo fod yn brif weinidog ar yr Aifft, yn gyfrifol am holl fwyd y wlad! (Genesis 41:39-49) Mor wir yw geiriau Salm 97:10: “Y mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n casáu drygioni, y mae’n cadw bywydau ei ffyddloniaid, ac yn eu gwaredu o ddwylo’r drygionus”!

21. Sut dangosodd brawd ifanc yn Affrica ei fod yn foesol ddewr?

21 Yn yr un modd heddiw, mae llawer o weision Duw yn dangos eu bod nhw’n ‘casáu drygioni ac yn caru daioni.’ (Amos 5:15) Mewn gwlad yn Affrica, fe wnaeth merch gynnig rhyw i frawd ifanc a oedd yn yr un dosbarth â hi yn gyfnewid am ei help mewn prawf mathemateg. “Gwrthodais yn syth,” meddai ef. “Drwy aros yn ffyddlon, rwy wedi cadw fy hunan-barch ac mae hynny’n llawer mwy gwerthfawr imi nag aur ac arian.” Yn wir, gall pechod roi pleser “dros dro,” ond, yn amlach na pheidio, mae pleser byr ei barhad yn dod â llawer o boen. (Hebreaid 11:25) Ar ben hynny, mae’n hollol ddiwerth o’i gymharu â’r hapusrwydd hir ei barhad sy’n dod o fod yn ufudd i Jehofa.—Diarhebion 10:22.

DERBYN HELP ODDI WRTH EIN DUW TRUGAROG

22, 23. (a) Os bydd Cristion yn pechu yn ddifrifol, pam nad yw’r sefyllfa yn anobeithiol? (b) Pa help sydd ar gael i rywun sydd wedi pechu?

22 Gan ein bod ni’n amherffaith, rydyn ni i gyd yn ei chael hi’n anodd trechu chwantau’r cnawd a gwneud yr hyn sy’n iawn yng ngolwg Duw. (Rhufeiniaid 7:21-25) Ond, mae Jehofa yn gwybod hyn ac “yn cofio mai llwch ydym.” (Salm 103:14) Fodd bynnag, beth am y Cristion sy’n pechu’n ddifrifol? A yw’r sefyllfa yn anobeithiol? Dim o gwbl! Wrth gwrs, gall canlyniadau pechod fod yn chwerw fel y buon nhw yn achos y Brenin Dafydd. Ond, mae Duw bob amser yn ‘faddeugar’ tuag at y rhai sy’n edifarhau ac yn “cyffesu” eu pechodau.—Salm 86:5; Iago 5:16; darllen Diarhebion 28:13.

23 Yn ogystal â hynny, mae Duw wedi rhoi rhoddion i’r gynulleidfa Gristnogol ar ffurf bugeiliaid ysbrydol sy’n gymwys ac yn barod i’n helpu ni. (Effesiaid 4:11, 12; Iago 5:14, 15) Eu nod yw helpu’r unigolyn i adfer ei berthynas â Duw ac i aeddfedu’n ysbrydol fel na fydd yn llithro eto.

AEDDFEDU’N YSBRYDOL

24, 25. (a) Sut dangosodd y dyn ifanc a ddisgrifir yn Diarhebion 7:6-23 ei fod yn “ddisynnwyr”? (b) Sut gallwn ni dyfu i fod yn ‘synhwyrol’ neu’n ysbrydol aeddfed?

24 Mae’r Beibl yn sôn am bobl “synhwyrol” a phobl “ddisynnwyr.” (Diarhebion 7:7) Oherwydd diffyg profiad, gall rhywun sydd yn anaeddfed yn ysbrydol ei chael hi’n anodd gwneud penderfyniadau call. Fel y dyn ifanc y mae sôn amdano yn Diarhebion 7:6-23, byddai’n hawdd iddo faglu a phechu’n ddifrifol. Ond mae’r un “synhwyrol” yn gweithio i ddatblygu nerth ysbrydol drwy weddïo a thrwy astudio Gair Duw’n rheolaidd. Er ei fod yn amherffaith, mae’n gwneud y gorau y gallai i sicrhau bod ei feddyliau, ei ddymuniadau, ei emosiynau a’i amcanion yn plesio Duw. Mae’n dangos, felly, ei fod yn “caru ei fywyd” ac fe fydd yn “cael daioni.”—Diarhebion 19:8.

25 Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n hollol sicr fod safonau Duw yn iawn? Ydw i’n credu’n gryf y byddaf yn hapusach trwy lynu wrth y safonau hyn?’ (Salm 19:7-10; Eseia 48:17, 18) Os bydd unrhyw amheuon yn llechu yn dy galon, mae’n bwysig iti wneud rhywbeth yn eu cylch. Meddylia yn ddwys am y canlyniadau sy’n dod o anwybyddu deddfau Duw. Ar ben hynny, “profwch, a gwelwch mai da yw’r ARGLWYDD” drwy fyw bywyd Cristnogol a thrwy lenwi dy feddyliau gyda phethau sydd yn wir, yn gyfiawn, yn bur, yn hawddgar, ac yn dda. (Salm 34:8; Philipiaid 4:8, 9) Mwyaf yn y byd rwyt ti’n gwneud hyn, mwyaf yn y byd y byddi di’n caru Duw a’r pethau y mae Ef yn eu caru, ac yn casáu’r pethau y mae Ef yn eu casáu. Dyn cyffredin oedd Joseff, ond oherwydd iddo adael i Jehofa lunio ei gymeriad a dylanwadu ar ei galon ar hyd y blynyddoedd, roedd Joseff yn medru ffoi rhag anfoesoldeb rhywiol. O ddilyn ei esiampl, byddi di’n llwyddo i wneud yr un peth!—Eseia 64:8.

26. Pa bwnc pwysig y byddwn yn ei drafod nesaf?

26 Nid teganau yw’r organau rhywiol, ond fe’u crëwyd gan Dduw er mwyn inni gael plant a mwynhau perthynas rywiol glòs mewn priodas. (Diarhebion 5:18) Bydd y ddwy bennod nesaf yn trafod safbwynt Duw tuag at briodas.

^ Par. 4 Mae’n debyg fod y rhif a geir yn Numeri yn cynnwys “holl benaethiaid y bobl” a ddienyddiwyd gan y barnwyr—rhyw fil o ddynion o bosibl—yn ogystal â’r rhai a ddienyddiwyd gan Jehofa ei hun.—Numeri 25:4, 5.

^ Par. 7 Am esboniad o ystyr ‘aflendid’ ac ‘ymddwyn heb gywilydd’ gweler “Questions From Readers” yn y Watchtower, 15 Gorffennaf 2006, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

^ Par. 9 Mae “pornograffi” yma yn cyfeirio at unrhyw ddeunydd erotig mewn lluniau, mewn print, neu ar lafar sy’n cael ei ddefnyddio i greu cyffro rhywiol. Gall pornograffi amrywio o luniau erotig o un person i bortreadau o weithredoedd rhywiol hynod o anweddus rhwng dau neu fwy o bobl.

^ Par. 9 Trafodir mastyrbio yn yr Atodiad, “Ennill y Frwydr yn Erbyn Mastyrbio”.