Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD 14

Bydda’n Onest ym Mhob Peth

Bydda’n Onest ym Mhob Peth

“Yr ydym . . . yn dymuno ymddwyn yn iawn ym mhob peth.”—HEBREAID 13:18.

1, 2. Pam mae ein hymdrechion i ymddwyn yn onest yn plesio Jehofa? Rho eglureb.

MAE bachgen bach yn gadael siop gyda’i fam. Yn sydyn, mae’r bachgen yn stopio’n stond gyda golwg pryderus ar ei wyneb. Yn ei law y mae ganddo degan bach. Roedd wedi bwriadu ei roi yn ôl ar y silff ond fe anghofiodd. Wedi ei gynhyrfu’n lân, mae’n dechrau crïo. Mae ei fam yn dweud wrtho fod popeth yn iawn ac maen nhw’n mynd â’r tegan yn ôl i’r siop. Wrth wrando arno yn ymddiheuro, mae’r fam yn llawn balchder. Pam felly?

2 Mae gweld eu plant yn dysgu pwysigrwydd bod yn onest yn rhoi pleser mawr i’w rhieni. Mae ein Tad nefol, “Duw gwirionedd,” yn teimlo yr un fath. (Eseia 65:16) Mae Jehofa wrth ei fodd yn ein gweld ni’n aeddfedu’n ysbrydol ac yn gwneud yr ymdrech i fod yn onest. Oherwydd ein bod ni’n awyddus i blesio Duw ac i aros yn ei gariad, rydyn ni’n cytuno â geiriau’r apostol Paul: “Yr ydym . . . yn dymuno ymddwyn yn iawn ym mhob peth.” (Hebreaid 13:18) Nesaf, ystyriwn ni bedair sefyllfa lle y gall ymddwyn yn onest fod yn anodd. Yna, edrychwn ni ar rai o’r bendithion sy’n dod o fod yn onest.

GONESTRWYDD Â NI’N HUNAIN

3-5. (a) Sut mae Gair Duw yn ein rhybuddio am beryglon hunan-dwyll? (b) Beth fydd yn ein helpu ni i fod yn onest â ni’n hunain?

3 Yr her gyntaf yw dysgu bod yn onest â ni’n hunain. A ninnau’n amherffaith, hawdd iawn yw inni ein twyllo ein hunain. Er enghraifft, dywedodd Iesu wrth y Cristnogion yn Laodicea eu bod nhw yn eu twyllo eu hunain wrth honni eu bod nhw’n gyfoethog. Mewn gwirionedd, roedden nhw mewn cyflwr ysbrydol truenus—“yn dlawd, yn ddall, ac yn noeth.” (Datguddiad 3:17) Roedd eu hunan-dwyll yn gwneud eu sefyllfa yn fwy peryglus byth.

4 Rhybuddiodd Iago: “Os yw rhywun yn tybio ei fod yn grefyddol, ac yntau’n methu ffrwyno’i dafod, ac yn wir yn twyllo’i galon ei hun, yna ofer yw crefydd hwnnw.” (Iago 1:26) Os ydyn ni’n meddwl y gallwn ni gamddefnyddio ein tafodau a dal i addoli Jehofa yr un pryd, twyllo ein hunain yr ydyn ni. Bydd ein gwasanaeth i Jehofa yn ofer, yn wastraff amser. Beth all ein helpu ni i osgoi hyn?

5 Yn yr un adnodau, mae Iago yn dweud bod gair Duw fel drych. Dywed y dylen ni roi sylw dyfal i gyfraith berffaith Duw a gwneud newidiadau yn ôl yr angen. (Darllen Iago 1:23-25.) Mae’r Beibl yn ein helpu ni i edrych yn onest arnon ni’n hunain a gweld lle mae angen gwella. (Galarnad 3:40; Haggai 1:5) Gallwn ni hefyd weddïo ar Jehofa a gofyn iddo am help i weld ein ffaeleddau ac i wneud rhywbeth yn eu cylch. (Salm 139:23, 24) Gwendid llechwraidd yw anonestrwydd, ac mae’n rhaid inni edrych arno o safbwynt Jehofa. Dywed Deuteronomium 25:16: “Mae pob un sy’n . . . gweithredu’n anonest, yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.” Gall Jehofa ein helpu ni i deimlo’r un ffordd ag ef ac i weld ein hunain fel y mae ef yn ein gweld ni. Sylwa fod yr apostol Paul yn dweud “ein bod ni’n dymuno ymddwyn yn iawn.” Er na allwn ni fod yn berffaith ar hyn o bryd, rydyn ni’n mawr ddymuno bod yn onest.

GONESTRWYDD YN Y TEULU

Mae gonestrwydd yn ein helpu ni i osgoi ymddygiad rydyn ni’n cael ein temtio i’w gelu

6. Pam y mae angen i bobl briod fod yn onest â’i gilydd, a pha broblemau y byddan nhw yn eu hosgoi?

6 Dylai gonestrwydd fod yn nodwedd amlwg o’r teulu Cristnogol. Mae’n hanfodol i’r gŵr a’r wraig fod yn agored ac yn onest â’i gilydd. Mae rhai pobl briod yn fflyrtio ag eraill, yn cynnal perthynas ddirgel ar y Rhyngrwyd, neu’n defnyddio pornograffi, ond nid oes lle i’r fath ymddygiad niweidiol yn y briodas Gristnogol. Byddai gwneud hynny y tu ôl i gefn dy gymar yn hollol anonest. Sylwa ar eiriau’r Brenin Dafydd: “Ni fûm yn eistedd gyda rhai diwerth, nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr.” (Salm 26:4) Os wyt ti’n briod, paid â gwneud dim a all dy demtio i guddio’r gwir rhag dy gymar!

7, 8. Pa esiamplau yn y Beibl a all helpu plant i ddysgu am bwysigrwydd bod yn onest?

7 Mae’r Beibl yn llawn esiamplau y gall rhieni eu defnyddio i helpu plant i ddeall pa mor bwysig yw gonestrwydd. Ar yr ochr negyddol, ceir hanes y lleidr Achan a geisiodd guddio ei drosedd, a hanes Gehasi a oedd yn fodlon dweud celwydd er mwyn elwa’n ariannol, a hanes Jwdas a oedd yn lladrata ac yn dweud celwyddau cas er mwyn peri niwed i Iesu.—Josua 6:17-19; 7:11-25; 2 Brenhinoedd 5:14-16, 20-27; Mathew 26:14, 15; Ioan 12:6.

8 Ar yr ochr gadarnhaol y mae’r hanes am Jacob, am Jefftha a’i ferch, ac am Iesu. Anogodd Jacob i’w feibion roi’r arian yr oedden nhw wedi ei ddarganfod yn eu sachau yn ôl, gan feddwl bod rhywun wedi ei roi yn y sachau drwy gamgymeriad. Roedd merch Jefftha yn parchu adduned ei thad er gwaetha’r gost fawr iddi hi’n bersonol. Roedd Iesu’n fodlon wynebu torf gynddeiriog er mwyn cyflawni proffwydoliaeth a chadw ei ffrindiau’n ddiogel. (Genesis 43:12; Barnwyr 11:30-40; Ioan 18:3-11) Mae’r ychydig enghreifftiau hyn yn rhoi syniad i rieni o’r trysorau sydd i’w cael yng Ngair Duw i helpu eu plant i werthfawrogi gonestrwydd.

9. Beth dylai rhieni ei osgoi os ydyn nhw am osod esiampl dda i’w plant o ran gonestrwydd, a pham mae eu hesiampl mor bwysig?

9 Mae dysgu plant am onestrwydd yn rhoi cyfrifoldeb mawr ar rieni. Gofynnodd Paul: “Os felly, ti sy’n dysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? A wyt ti, sy’n pregethu yn erbyn lladrata, yn lleidr?” (Rhufeiniaid 2:21) Mae rhai yn drysu eu plant drwy ddysgu am onestrwydd ond eto’n ymddwyn yn anonest eu hunain. Maen nhw’n cyfiawnhau dwyn pethau bach a dweud anwireddau gyda’r esgus, “Mae pobl yn disgwyl y byddwn ni’n cymryd y pethau hyn,” neu “Dim ond celwydd golau ddywedais i.” Ond mewn gwirionedd, does dim ots beth yw gwerth yr hyn a gymerwyd neu faint neu gyd-destun yr anwiredd; dwyn yw dwyn a chelwydd yw celwydd. * (Darllen Luc 16:10.) Mae plant yn gyflym iawn i weld rhagrith ac mae’n medru bod yn niweidiol iawn iddyn nhw. (Effesiaid 6:4) Ar y llaw arall, pan fydd plant yn dysgu bod yn onest drwy esiampl eu rhieni, y mae’n llawer mwy tebygol y byddan nhw’n tyfu i fyny yn bobl onest a hynny er gogoniant Jehofa.—Diarhebion 22:6.

GONESTRWYDD YN Y GYNULLEIDFA

10. O ran siarad yn onest â’n cyd-gredinwyr, pa gyngor y dylen ni ei gofio?

10 Rydyn ni’n cael y cyfle i feithrin gonestrwydd drwy gymdeithasu â’n cyd-Gristnogion. Fel y dysgon ni ym Mhennod 12, mae’n rhaid inni feddwl yn ofalus am y ffordd rydyn ni’n siarad ag eraill yn enwedig ein brodyr a’n chwiorydd ysbrydol. Peth hawdd yw i fân siarad droi’n faleisus neu hyd yn oed yn enllibus. Os ydyn ni’n ailadrodd stori a hynny heb fod yn sicr o’r ffeithiau, efallai y byddwn ni’n lledu celwyddau ac, felly, gwell fyddai dweud dim. (Diarhebion 10:19) Ar y llaw arall, nid yw’r ffaith fod rhywbeth yn wir yn golygu y dylen ni ei ailadrodd. Er enghraifft, efallai y mae’n fater na ddylen ni fusnesu ynddo, neu’n un y byddai’n angharedig inni sôn amdano. (1 Thesaloniaid 4:11) Nid yw gonestrwydd yn rheswm dros fod yn ddigywilydd. Dylen ni siarad bob amser yn rasol ac yn garedig.—Darllen Colosiaid 4:6.

11, 12. (a) Sut y mae rhai sy’n pechu’n ddifrifol yn gwneud pethau’n waeth? (b) Beth yw rhai o gelwyddau Satan ynglŷn â phechu’n ddifrifol, a sut gallwn ni wrthod y celwyddau hyn? (c) Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n onest wrth ymwneud â chyfundrefn Jehofa?

11 Mae’n hynod o bwysig inni ymddwyn yn onest â’r rhai sy’n arwain y gynulleidfa. Mae rhai sy’n pechu’n ddifrifol yn ychwanegu at y broblem drwy geisio celu eu pechod a dweud celwyddau wrth henuriaid y gynulleidfa. Mae rhai felly yn dechrau byw bywyd dwbl, ac yn cogio gwasanaethu Jehofa ond ar yr un pryd yn dilyn llwybr pechadurus. Mewn gwirionedd, mae twyll o’r fath yn troi eu bywydau yn un celwydd mawr. (Salm 12:2) Bydd eraill ond yn dweud hanner y gwirionedd gan gelu’r ffeithiau hanfodol. (Actau 5:1-11) Yn aml, credu celwyddau Satan yw’r rheswm dros y math hwn o anonestrwydd.—Gweler y blwch  “Celwyddau Satanaidd Ynglŷn â Phechodau Difrifol.”

12 Pwysig iawn yw ymddwyn yn onest â chyfundrefn Jehofa wrth inni ateb cwestiynau ar bapur. Er enghraifft, wrth gofnodi ein gweinidogaeth, rydyn ni’n ofalus i lenwi’r adroddiad yn gywir. Yn yr un modd, pan fyddwn ni’n llenwi ffurflenni cais ar gyfer breintiau arbennig, ni ddylen ni roi darlun camarweiniol o gyflwr ein hiechyd neu unrhyw agwedd arall ar ein bywydau personol.—Darllen Diarhebion 6:16-19.

13. Sut gallwn ni ymddwyn yn onest mewn materion busnes gyda’n cyd-gredinwyr?

13 Mae ein gonestrwydd â’n cyd-gredinwyr hefyd yn ymestyn i faterion busnes. Ar adegau, bydd Cristnogion yn gwneud busnes gyda’i gilydd. Dylen nhw fod yn ofalus i beidio â chymysgu’r materion hyn â’u gwasanaeth i Jehofa yn Neuadd y Deyrnas neu yn y weinidogaeth. Efallai y bydd Cristion yn cyflogi Cristion arall. Os ydyn ni’n cyflogi ein brodyr a’n chwiorydd, dylen ni eu trin yn onest a’u talu’n brydlon yn unol â’r telerau a gytunwyd. Dylid sicrhau hefyd fod y rhai a gyflogwyd yn derbyn y buddion sy’n ddyledus iddyn nhw yn ôl y gyfraith. (1 Timotheus 5:18; Iago 5:1-4) Ar y llaw arall, os ydyn ni’n gweithio i frawd neu chwaer, fe fyddwn ni’n gwneud yr holl waith y disgwylir inni ei wneud am ein cyflog. (2 Thesaloniaid 3:10) Dydyn ni ddim yn meddwl bod y berthynas ysbrydol rhyngddon ni yn golygu y dylen ni gael gwyliau a manteision nad yw gweithwyr eraill yn eu cael.—Effesiaid 6:5-8.

14. Pan fydd Cristnogion yn cymryd rhan mewn menter fusnes ar y cyd, beth yw’r peth doeth i’w wneud, a pham?

14 Beth petai ein busnes yn golygu rhyw fath o fenter ar y cyd, fel buddsoddiad neu fenthyciad? Mae’r Beibl yn cynnig egwyddor bwysig ac ymarferol: Rho bopeth ar bapur. Er enghraifft, pan brynodd Jeremeia ddarn o dir, fe wnaeth ddau gopi o’r cytundeb, wedi eu hardystio, a’u cadw’n ddiogel fel y bo modd cyfeirio atyn nhw yn y dyfodol. (Jeremeia 32:9-12; gweler hefyd Genesis 23:16-20.) Nid arwydd o ddiffyg ffydd yn ein cyd-gredinwyr yw sicrhau bod manylion ein cytundeb wedi eu cofnodi mewn dogfen sydd wedi ei llofnodi a’i hardystio. I’r gwrthwyneb, mae’n fodd i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth, siom, neu hyd yn oed anghydfod. Dylai Cristnogion sy’n gwneud busnes gyda’i gilydd gofio nad yw unrhyw fenter fusnes yn werth mwy nag undod a heddwch y gynulleidfa. *1 Corinthiaid 6:1-8.

GONESTRWYDD YN Y BYD GWAITH

15. Sut mae Jehofa yn teimlo am anonestrwydd mewn materion busnes, a sut mae agwedd y Cristion yn wahanol i agweddau cyffredin y byd?

15 Nid gyda’i gyd-gredinwyr yn unig y dylai’r Cristion fod yn onest. Dywedodd yr Apostol Paul: “Yr ydym . . . yn dymuno ymddwyn yn iawn ym mhob peth.” (Hebreaid 13:18) Mae ein gonestrwydd yn y byd gwaith yn rhywbeth y mae’r Creawdwr yn ei ystyried yn bwysig. Ceir cyfeiriad at bwysigrwydd cloriannau cywir sawl gwaith yn llyfr y Diarhebion yn unig. (Diarhebion 11:1; 20:10, 23) Yn yr hen fyd, roedd pobl yn defnyddio cloriannau a phwysau i bwyso nwyddau ac i bwyso gwerth arian. Byddai masnachwyr anonest yn defnyddio dwy set o bwysau a chloriannau twyllodrus i dwyllo cwsmeriaid. * Mae Jehofa yn casáu pethau felly. I aros yn ei gariad, mae’n rhaid inni osgoi pob math o anonestrwydd mewn materion busnes.

16, 17. Pa fath o anonestrwydd sy’n gyffredin heddiw, ond beth mae gwir Gristnogion yn benderfynol o’i wneud?

16 Gan mai Satan yw rheolwr y byd hwn, nid syndod felly fod anonestrwydd mor gyffredin. Mae’r temtasiwn i fod yn anonest yn codi bob dydd. Wrth wneud cais am swydd, peth cyffredin yw ffugio cymwysterau a gorliwio profiad. Ar ffurflenni sy’n ymwneud â mewnfudo, trethi, yswiriant ac yn y blaen, bydd pobl yn rhoi atebion celwyddog er mwyn cael yr hyn y maen nhw yn ei ddymuno. Mae llawer o fyfyrwyr yn twyllo mewn arholiadau, neu’n copïo gwaith o’r Rhyngrwyd neu waith myfyrwyr eraill a’i gyflwyno fel eu gwaith nhw eu hunain. Wrth ddelio gyda swyddogion llwgr, mae rhai’n fodlon cynnig llwgrwobrwyon. Ond dyna sydd i’w ddisgwyl mewn byd lle mae pobl “yn hunangar ac yn ariangar . . . heb ddim cariad at ddaioni.”—2 Timotheus 3:1-5.

17 Mae gwir Gristnogion yn benderfynol o beidio â gwneud dim byd anonest. Yr hyn a all wneud gonestrwydd yn fwy o her yw’r ffaith fod pobl anonest yn ymddangos fel petaen nhw’n llwyddo. (Salm 73:1-8) Ac fe all Cristnogion fod ar eu colled yn ariannol oherwydd eu bod yn dewis aros yn onest “ym mhob peth.” Ydy hi’n werth yr aberth? Ydy, yn bendant! Pam felly? Pa fendithion sy’n dod o fod yn onest?

BENDITHION GONESTRWYDD

18. Pam mae enw da am onestrwydd yn werthfawr?

18 Ychydig iawn sydd yn bwysicach mewn bywyd nag enw da am fod yn onest a dibynadwy. (Gweler y blwch  “Pa Mor Onest Ydw I?”) Ac ystyria hyn—mae cael enw da o’r fath o fewn cyrraedd pawb! Nid yw’n dibynnu ar dy ddoniau, dy gyfoeth, dy bryd a’th wedd, dy gefndir cymdeithasol, nac ar unrhyw beth arall y tu hwnt i’th reolaeth. Ond, serch hynny, trysor prin yw enw da. (Micha 7:2) Efallai y bydd rhai yn gwneud hwyl am dy ben oherwydd dy onestrwydd ond bydd eraill yn dy barchu ac yn ymddiried ynot. Mae llawer o Dystion Jehofa wedi bod ar eu hennill yn ariannol oherwydd eu gonestrwydd. Maen nhw wedi cadw eu swyddi pan oedd eraill yn cael eu diswyddo, neu maen nhw wedi cael swyddi lle’r oedd gwir angen am weithwyr gonest.

19. Sut gall ymddwyn yn onest effeithio ar ein cydwybod ac ar ein perthynas â Jehofa?

19 Os dyna yw dy brofiad di neu beidio, rwyt yn sicr o gael llawer o fendithion drwy fod yn onest. Un o’r rhain yw cydwybod lân. Ysgrifennodd Paul: “Yr ydym yn sicr fod gennym gydwybod lân.” (Hebreaid 13:18) Ar ben hynny, bydd dy Dad nefol yn gweld dy onestrwydd, ac y mae ef yn caru pobl onest. (Darllen Salm 15:1, 2; Diarhebion 22:1.) Yn sicr, bydd ymddwyn yn onest yn dy helpu i aros yng nghariad Duw, ac nid oes dim gwobr well na hynny. Nesaf, gad inni ystyried pwnc cysylltiedig, sef safbwynt Duw tuag at weithio.

^ Par. 9 Yng nghyd-destun y gynulleidfa, gall yr henuriaid gymryd camau barnwrol yn erbyn rhywun sy’n parhau i ddweud celwyddau noeth a maleisus er mwyn brifo eraill yn fwriadol.

^ Par. 14 Am gyngor ar beth i’w wneud petai trefniadau busnes yn mynd o chwith, gweler yr Atodiad, “Datrys Anghydfod Mewn Materion Busnes”.

^ Par. 15 Er mwyn gwneud mwy o elw, roedd pobl yn arfer defnyddio un set o bwysau ar gyfer prynu ac un wahanol ar gyfer gwerthu. Weithiau fe fydden nhw’n defnyddio clorian gydag un fraich yn hirach neu’n drymach na’r llall er mwyn twyllo’r cwsmer.