Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD 16

Gwrthsafa’r Diafol a’i Gynllwynion

Gwrthsafa’r Diafol a’i Gynllwynion

“Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych.”—IAGO 4:7.

1, 2. Pwy sy’n llawenhau wrth weld rhai newydd yn cael eu bedyddio?

OS WYT ti’n gwasanaethu Jehofa ers degawdau, mae’n debyg dy fod ti wedi clywed nifer fawr o anerchiadau bedydd yn ein cynulliadau a’n cynadleddau. Ond eto, ni waeth pa mor aml rwyt wedi gweld rhai newydd yn eu cyflwyno eu hunain ar gyfer bedydd, mae’n brofiad sy’n dal i gyffwrdd â’r galon. Mae pawb yn teimlo gwefr o gyffro ac yn curo dwylo. Gall edrych ar grŵp arall o bobl yn sefyll ar ochr Jehofa ddod â deigryn o lawenydd i’th lygaid.

2 Efallai y byddwn ni yn gwylio rhai yn cael eu bedyddio ryw ddwy neu dair gwaith y flwyddyn, ond mae’r angylion yn gweld hyn yn llawer mwy aml. Dychmyga faint o “lawenydd yn y nef” sydd ymhlith yr angylion wrth iddyn nhw weld miloedd o bobl yn ymuno â chyfundrefn Jehofa ar y ddaear bob wythnos. (Luc 15:7, 10) Mae’n rhaid bod yr angylion wrth eu boddau yn gweld y cynnydd hwn!—Haggai 2:7.

MAE’R DIAFOL “YN PROWLA O GWMPAS FEL LLEW YN RHUO”

3. Pam mae Satan yn prowla o gwmpas “fel llew yn rhuo,” a beth y mae’n awchu am ei wneud?

3 Sut bynnag, mae gweld miloedd o bobl yn cefnu ar y byd llwgr hwn yn cynddeiriogi Satan a’r cythreuliaid. Wedi’r cwbl, haerodd Satan na fyddai neb ar y ddaear yn gwasanaethu Jehofa o ran cariad ac na fyddai neb yn aros yn ffyddlon dan brawf. (Darllen Job 2:4, 5.) Bob tro y mae rhywun yn ymgysegru i Jehofa, mae’n profi bod Satan yn gelwyddog. Bob wythnos, mae fel petai Satan yn cael ei guro yn ei wyneb gan filoedd o bobl. Nid oes rhyfedd, felly, ei fod yn “prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i’w lyncu”! (1 Pedr 5:8) Mae’r llew hwn yn awchu am ein llyncu ni’n ysbrydol drwy niweidio neu hyd yn oed torri ein perthynas â Duw.—Salm 7:1, 2; 2 Timotheus 3:12.

Bob tro y mae rhywun yn ymgysegru i Jehofa ac yn cael ei fedyddio, mae Satan yn cael ei brofi yn gelwyddog

4, 5. (a) Ym mha ddwy ffordd bwysig y mae Jehofa wedi cyfyngu ar ddylanwad Satan? (b) Beth mae Duw wedi ei addo i wir Gristnogion?

4 Er ein bod ni’n wynebu gelyn ffyrnig, does dim rheswm inni gael ein llethu gan ofn. Pam felly? Oherwydd bod Jehofa wedi cyfyngu ar ddylanwad “y llew” hwn mewn dwy ffordd bwysig. Yn gyntaf oll, mae Jehofa wedi addo y bydd “tyrfa fawr” o wir Gristnogion yn goroesi’r “gorthrymder mawr.” (Datguddiad 7:9, 14) Mae proffwydoliaethau Duw bob amser yn dod yn wir. Felly, rhaid bod Satan yn gwybod bod pobl Dduw fel grŵp y tu hwnt i’w afael.

5 Mae’r hyn a ddywedodd y proffwyd Asareia yn dangos beth yw’r ail gyfyngiad ar Satan. Dywedodd wrth y Brenin Asa: “Bydd yr ARGLWYDD gyda chwi os byddwch chwi gydag ef.” (2 Cronicl 15:2; darllen 1 Corinthiaid 10:13.) Mae llawer o esiamplau o’r gorffennol yn dangos nad yw Satan erioed wedi llwyddo i lyncu rhywun sydd wedi aros yn agos at Dduw. (Hebreaid 11:4-40) Heddiw, bydd unrhyw Gristion sy’n aros yn agos at Dduw yn medru gwrthsefyll y Diafol a hyd yn oed ei orchfygu. Yn wir, mae Gair Duw yn addo: “Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych.”—Iago 4:7.

“YR YDYM YN YR AFAEL . . . Â PHWERAU YSBRYDOL DRYGIONUS”

6. Sut mae Satan yn ymosod ar Gristnogion fel unigolion?

6 Ni all Satan ennill y rhyfel fel petai, ond mae’n gallu ein hanafu ni fel unigolion os nad ydyn ni’n wyliadwrus. Cyn i Satan fedru ein “llyncu,” mae’n gwybod bod rhaid iddo wanhau ein perthynas glòs â Jehofa. Sut mae Satan yn ceisio gwneud hyn? Trwy ymosod arnon ni mewn ffyrdd mileinig, personol, a chyfrwys. Gad inni ystyried y strategaethau hyn.

7. Pam mae Satan yn ymosod yn filain ar bobl Jehofa?

7 Ymosodiadau milain. Dywedodd yr apostol Ioan fod “yr holl fyd yn gorwedd yng ngafael yr Un drwg.” (1 Ioan 5:19) Y mae rhybudd yn y geiriau hyn ar gyfer pob gwir Gristion. Gan fod y byd annuwiol hwn eisoes o dan ddylanwad Satan, mae’n dwysáu ei ymosodiadau yn erbyn y rhai sydd wedi dianc o’i afael hyd yn hyn, sef pobl Jehofa. (Micha 4:1; Ioan 15:19; Datguddiad 12:12, 17) Y mae’n fawr ei lid o wybod bod ei amser yn fyr. Felly, mae’n cynyddu’r pwysau. Heddiw rydyn ni’n wynebu ei ymgyrch ffyrnig olaf.

8. Beth mae Paul yn ei olygu wrth ddweud ein bod ni “yn yr afael” ag ysbrydion drwg?

8 Ymosodiadau personol. Rhybudd yr apostol Paul i’w gyd-Gristnogion oedd: “Yr ydym yn yr afael . . . â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.” (Effesiaid 6:12) Pam defnyddiodd Paul yr ymadrodd “yn yr afael”? Oherwydd ei fod yn cyfleu’r syniad o ornest glòs, benben â’r gelyn. Mae Paul, felly, yn tynnu ein sylw at ein brwydr bersonol yn erbyn ysbrydion drwg. Hyd yn oed os nad ydyn ni’n byw mewn gwlad lle mae’r gred mewn ysbrydion drwg yn gyffredin, ddylen ni byth anghofio bod ymgysegru i Jehofa yn gyfystyr â chamu i gylch yr ornest fel petai. O adeg ein hymgysegru, os nad yn gynharach, rydyn ni mewn gornest. Does dim syndod, felly, fod Paul wedi annog y Cristnogion yn Effesus, fwy nag unwaith, i “sefyll yn gadarn”!—Effesiaid 6:11, 13, 14.

9. (a) Pam mae Satan a’r cythreuliaid yn defnyddio amryw o ddulliau cyfrwys? (b) Pam mae Satan yn ceisio llygru ein meddyliau a sut gallwn ni wrthwynebu ei ymdrechion? (Gweler y blwch  “Gofala Rhag Cyfrwystra Satan!”) (c) Pa ddulliau cyfrwys y byddwn ni yn eu hystyried nesaf?

9 Ymosodiadau cyfrwys. Mae Paul yn annog Cristnogion i sefyll yn gadarn yn erbyn “cynllwynion” Satan. (Effesiaid 6:11) Sylwa fod Paul yma’n defnyddio’r lluosog. Mae ysbrydion drwg yn defnyddio, nid un, ond nifer o ddulliau cyfrwys a hynny am resymau da. Mae rhai sydd wedi sefyll yn gadarn o dan un math o brawf wedi syrthio yn nes ymlaen o dan brawf arall. Felly, mae’r Diafol a’r cythreuliaid yn ein hastudio ni’n fanwl i weld a oes gennyn ni fan gwan ysbrydol y gallan nhw fanteisio arno. Ond, rydyn ni’n effro i lawer o ddulliau’r Diafol oherwydd bod y Beibl yn eu datgelu nhw. (2 Corinthiaid 2:11) Yn gynharach, fe wnaethon ni drafod sut mae Satan yn defnyddio materoliaeth, cwmni drwg, ac anfoesoldeb rhywiol i’n hudo ni. Nesaf, byddwn ni’n edrych ar un arall o gynllwynion Satan, a hynny yw ysbrydegaeth.

YSBRYDEGAETH—OCHRI Â’R GELYN

10. (a) Beth yw ysbrydegaeth? (b) Beth yw safbwynt Jehofa tuag at ysbrydegaeth, a beth yw dy safbwynt di?

10 Mae rhywun sy’n ymhél ag ysbrydegaeth, neu ddemoniaeth, yn cysylltu’n uniongyrchol ag ysbrydion drwg. Mae dewiniaeth, ceisio gwybodaeth drwy’r ocwlt, hudoliaeth, ac ymofyn â’r meirw i gyd yn wahanol fathau o ysbrydegaeth. Fel y gwyddon ni, “arferion ffiaidd” i Jehofa yw’r rhain. (Deuteronomium 18:10-12; Datguddiad 21:8) Rydyn ni hefyd yn ‘casáu drygioni,’ felly, fydden ni ddim yn ystyried hyd yn oed am un eiliad geisio cymdeithasu ag ysbrydion drwg. (Rhufeiniaid 12:9) Byddai hynny yn bradychu ein tad nefol Jehofa.

11. Pam byddai’n fuddugoliaeth i Satan petai’n medru ein denu ni at ysbrydegaeth? Rho eglureb.

11 Gan mai bradychu Jehofa yw ymhél ag ysbrydegaeth, mae Satan yn benderfynol o geisio ein hudo ni i ymwneud â gweithredoedd o’r fath. Buddugoliaeth i Satan yw pob Cristion sy’n troi at ddemoniaeth. Pam felly? Meddylia am y gymhariaeth hon: Petai milwr yn cael ei berswadio i gefnu ar ei uned a mynd drosodd at y gelyn, byddai cadlywydd y gelyn wrth ei fodd. Efallai y byddai’n gwneud sioe fawr o frad y milwr er mwyn bwrw sen ar gadlywydd y fyddin arall. Yn yr un modd, byddai Cristion sy’n troi at ysbrydegaeth yn cefnu ar Jehofa o’i wirfodd ac yn ei roi ei hun o dan awdurdod Satan. Dychmyga orfoledd Satan wrth iddo dynnu sylw pawb at y Cristion sydd wedi cefnu ar Jehofa. Ni fydden ni byth eisiau rhoi’r fath fuddugoliaeth i Satan. Nid bradwyr mohonon ni!

GOFYN CWESTIYNAU I GODI AMHEUON

12. Pa ddull y mae Satan yn ei ddefnyddio i ddylanwadu ar ein hagwedd tuag at ysbrydegaeth?

12 Cyn belled â’n bod ni’n ffieiddio wrth ysbrydegaeth, ni fydd Satan yn llwyddo i’n denu. Felly, mae’n ceisio dylanwadu ar ein meddwl. Ym mha ffordd? Mae’n ceisio drysu Cristnogion nes eu bod nhw’n gweld “drwg yn dda a da yn ddrwg.” (Eseia 5:20) Er mwyn gwneud hynny, mae Satan yn defnyddio dull sydd wedi hen brofi ei werth, sef gofyn cwestiynau i godi amheuon.

13. Sut mae Satan wedi defnyddio cwestiynau i godi amheuon?

13 Sylwa ar y ffordd y defnyddiodd Satan y dull hwnnw yn y gorffennol. Yn Eden, fe ofynnodd i Efa: “A yw Duw yn wir wedi dweud, ‘Ni chewch fwyta o’r un o goed yr ardd’?” Mewn cyfarfod o angylion yn y nefoedd yn nyddiau Job, gofynnodd Satan: “Ai’n ddiachos y mae Job yn ofni Duw?” Ar ddechrau gweinidogaeth Iesu ar y ddaear, fe wnaeth Satan herio Crist drwy ddweud: “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi’n fara.” Meddylia am hynny! Yn achos Iesu, meiddiodd Satan wawdio geiriau Jehofa ei hun: “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu”!—Genesis 3:1; Job 1:9; Mathew 3:17; 4:3.

14. (a) Sut mae Satan wedi creu ansicrwydd ynglŷn ag ysbrydegaeth? (b) Beth y byddwn ni’n ei ystyried nesaf?

14 Heddiw, mae Satan yn defnyddio dulliau tebyg i geisio creu ansicrwydd ym meddyliau Cristnogion ynglŷn â pha mor ddrwg yw ysbrydegaeth. Mae rhai wedi dechrau amau nad yw pob math o ysbrydegaeth mor ddrwg â hynny. (2 Corinthiaid 11:3) Sut gallwn ni helpu rhai fel hyn i newid eu hagwedd? Sut gallwn ni sicrhau na fydd dulliau cyfrwys Satan yn dylanwadu arnon ni? I ateb hynny, gad inni ystyried sut y mae Satan, yn slei bach, wedi dod ag elfennau o ysbrydegaeth i mewn i adloniant a gofal iechyd.

MANTEISIO AR EIN DYHEADAU A’N HANGHENION

15. (a) Beth yw’r agwedd gyffredin yng ngwledydd y Gorllewin tuag at ysbrydegaeth? (b) Sut mae agwedd y byd tuag at ysbrydegaeth wedi dylanwadu ar rai Cristnogion?

15 Y duedd gynyddol, yn enwedig yng ngwledydd y Gorllewin, yw gweld yr ocwlt, dewiniaeth, a ffurfiau eraill ar ysbrydegaeth fel hwyl ddiniwed. Mae nifer cynyddol o ffilmiau, llyfrau, rhaglenni teledu a gemau cyfrifiadurol yn cyflwyno’r syniad fod dewiniaeth yn hwyl ac yn rhywbeth clyfar i’w wneud. Mae rhai ffilmiau a llyfrau ar themâu’r ocwlt wedi dod mor boblogaidd nes bod clybiau wedi eu sefydlu ar gyfer eu dilynwyr selog. Yn amlwg, mae’r cythreuliaid wedi llwyddo i wneud yn fach o beryglon yr ocwlt. A yw’r agwedd hon wedi dylanwadu ar feddyliau rhai Cristnogion? Ydy. Ar ôl gwylio ffilm yn ymwneud â’r ocwlt, fe ddywedodd un Cristion: “Mi welais y ffilm ond wnes i ddim cymryd rhan mewn ysbrydegaeth.” Pam mae rhesymu fel hyn mor beryglus?

16. Pam mae dewis adloniant sy’n troi o gwmpas yr ocwlt mor beryglus?

16 Er nad yw gwylio pethau ysbrydegol yn gyfystyr â chymryd rhan ynddyn nhw, nid yw hynny’n golygu bod gwylio arferion yr ocwlt heb ei beryglon. Pam felly? Ystyria hyn: Mae Gair Duw yn awgrymu na all Satan na’i gythreuliaid ddarllen ein meddyliau. * Felly, fel y dywedwyd eisoes, os ydy’r ysbrydion drwg yn dymuno gwybod yr hyn rydyn ni yn ei feddwl a cheisio darganfod rhyw wendid ysbrydol ynon ni, mae’n rhaid iddyn nhw edrych yn ofalus ar yr hyn rydyn ni yn ei wneud—gan gynnwys yr adloniant rydyn ni yn ei ddewis. Pan fo ymddygiad Cristion yn dangos ei fod yn mwynhau ffilmiau a llyfrau sy’n troi o gwmpas cyfryngwyr ysbrydion, hud a lledrith, cymeriadau wedi eu meddiannu gan y cythreuliaid ac yn y blaen, onid yw hynny’n anfon neges glir at y cythreuliaid? Mewn gwirionedd, mae’r Cristion wedi dangos ei fan gwan iddyn nhw! Gall y cythreuliaid ymateb drwy dynhau eu gafael ar y Cristion a manteisio i’r eithaf ar ei wendid hyd nes y byddan nhw wedi ei lorio fel petai. Yn wir, mae rhai a oedd wedi dechrau ymddiddori mewn ysbrydegaeth drwy wylio ffilmiau am yr ocwlt wedi mynd ymlaen i ymhél â hi.—Darllen Galatiaid 6:7.

Os wyt yn sâl, dibynna ar gefnogaeth Jehofa

17. Sut gall Satan fanteisio’n gyfrwys ar y rhai sy’n sâl?

17 Mae Satan yn ceisio manteisio nid yn unig ar ein hawydd am adloniant ond hefyd ar ein hangen am ofal iechyd. Sut felly? Os yw iechyd Cristion yn dirywio, a hynny er gwaethaf pob ymdrech i ddod o hyd i wellhad, peth hawdd fyddai iddo fynd yn ddigalon. (Marc 5:25, 26) Gall hyn roi cyfle euraidd i Satan a’i gythreuliaid demtio rhywun i droi yn ei anobaith at driniaethau sy’n cynnwys elfennau o hudoliaeth, neu ysbrydegaeth. * (Eseia 1:13) Petai’r cynllwyn hwn yn llwyddo, gallai niweidio’r berthynas rhwng yr un sy’n sâl a Duw. Ym mha ffordd?

18. Pa fathau o driniaethau y dylai Cristion eu gwrthod, a pham?

18 Rhybuddiodd Jehofa yr Israeliaid a oedd wedi troi at hudoliaeth: “Pan ledwch eich dwylo mewn gweddi, trof fy llygaid ymaith; er i chwi amlhau eich ymbil, ni fynnaf wrando arnoch.” (Eseia 1:15) Wrth gwrs, mae’n bwysig inni osgoi unrhyw beth a all rwystro ein gweddïau ac amharu ar y gefnogaeth rydyn ni yn ei derbyn gan Jehofa, yn enwedig yn ystod cyfnodau o salwch. (Salm 41:3) Felly, os oes unrhyw awgrym fod dulliau diagnostig neu driniaethau therapiwtig yn cynnwys elfennau o ysbrydegaeth, dylai’r Cristion eu gwrthod yn llwyr. * (Mathew 6:13) Drwy wneud hynny, bydd y Cristion yn sicr o gael cefnogaeth Jehofa.—Gweler y blwch  “Ai Ysbrydegaeth Ydy Hyn?”

 

PAN FO STRAEON AM GYTHREULIAID YN BOBLOGAIDD

19. (a) Beth mae rhai sydd wedi eu twyllo gan y Diafol yn ei gredu am ei rym? (b) Pa straeon y dylai gwir Gristnogion eu hosgoi?

19 Yng ngwledydd y Gorllewin, nid yw llawer o bobl yn cymryd grym Satan o ddifrif, ond mae’r sefyllfa yn wahanol iawn mewn rhannau eraill o’r byd. Yn y gwledydd hynny, mae’r Diafol wedi twyllo pobl i gredu ei fod yn fwy grymus nag ydyw mewn gwirionedd. Mae rhai pobl yn byw bob dydd dan ofn yr ysbrydion drwg. Mae straeon am weithredoedd grymus y cythreuliaid yn hynod o boblogaidd. A ddylen ni ledaenu straeon o’r fath? Na ddylen, a hynny am ddau reswm pwysig.

20. Sut gall rhywun, hyd yn oed yn ddiarwybod, ledaenu propaganda Satan?

20 Yn gyntaf, drwy ledaenu straeon am nerth y cythreuliaid, mae rhywun yn hyrwyddo ymdrechion Satan. Sut felly? Mae Gair Duw yn cadarnhau bod Satan yn hynod o nerthol, ond y mae hefyd yn rhybuddio ei fod yn defnyddio “twyll” ac “arwyddion a rhyfeddodau gau.” (2 Thesaloniaid 2:9, 10) Does neb gwell na Satan am dwyllo, ac felly y mae’n gwybod sut i ddylanwadu ar y rhai sydd â diddordeb mewn ysbrydegaeth a sut i wneud iddyn nhw gredu anwireddau. Efallai fod rhai yn credu o ddifrif eu bod nhw wedi gweld a chlywed rhai pethau ac yn ddiffuant wrth sôn am eu profiadau. Ond, o’u hailadrodd dro ar ôl tro, mae’r straeon hyn yn cael eu gorliwio. Petai Cristion yn lledaenu straeon o’r fath, fe fyddai, mewn gwirionedd, yn mynd yn was bach i’r Diafol, sef ‘tad pob celwydd.’ Fe fyddai’n lledaenu propaganda Satan.—Ioan 8:44; 2 Timotheus 2:16.

21. Wrth siarad, beth ddylai fynd â’n bryd?

21 Yn ail, hyd yn oed petai Cristion wedi cael profiadau personol o ysbrydion drwg yn y gorffennol, ni fyddai’n ailadrodd yr hanesion hynny er mwyn difyrru ei gyd-gredinwyr. Pam felly? Oherwydd yr anogaeth i “gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd.” (Hebreaid 12:2) Yn wir, dylai ein holl sylw fod ar Grist yn hytrach nag ar Satan. Er bod Iesu yn gwybod llawer am Satan a’i allu, diddorol yw sylwi nad oedd Iesu yn difyrru ei ddisgyblion drwy adrodd straeon am ysbrydion drwg. Yn hytrach, roedd Iesu yn canolbwyntio’n llwyr ar neges y Deyrnas. Felly, gad i ninnau hefyd efelychu Iesu a’r disgyblion a siarad “am fawrion weithredoedd Duw.”—Actau 2:11; Luc 8:1; Rhufeiniaid 1:11, 12.

22. Sut gallwn ni gyfrannu at “lawenydd yn y nef”?

22 Yn wir, mae Satan yn defnyddio amryw o ddulliau cyfrwys, gan gynnwys ysbrydegaeth, i geisio chwalu ein perthynas â Jehofa. Fodd bynnag, os ydyn ni’n casáu drygioni ac yn glynu wrth ddaioni, ni fydd gan y Diafol gyfle i danseilio ein penderfyniad i wrthsefyll pob ffurf ar ysbrydegaeth. (Darllen Effesiaid 4:27.) Dychmyga’r ‘llawenydd yn y nef’ os ydyn ni’n parhau i “sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol” nes iddo beidio â bod!—Luc 15:7; Effesiaid 6:11.

^ Par. 16 Nid yw’r enwau sy’n disgrifio Satan (Gwrthwynebwr, Enllibiwr, Twyllwr, Temtiwr, ac Un Celwyddog) yn awgrymu ei fod yn medru gweld yr hyn sydd yn ein calonnau a’n meddyliau. Ar y llaw arall, mae Jehofa yn “profi calonnau,” ac mae Iesu yn “chwilio meddyliau a chalonnau.”—Diarhebion 17:3; Datguddiad 2:23.

^ Par. 17 Yn Eseia 1:13, mae’r gair Hebraeg a gyfieithir “drygioni” hefyd yn medru golygu “pwerau hud,” sef arferion ysbrydegol.

^ Par. 18 Am fwy o wybodaeth, gweler yr erthygl “A Health Test for You?” yn rhifyn 15 Rhagfyr 1994, o’r Watchtower, tudalennau 19-22, a’r erthygl “The Bible’s Viewpoint: Your Choice of Medical Treatment—Does It Matter?” yn rhifyn 8 Ionawr 2001, o Awake!