Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ATODIAD

Sut Dylen Ni Drin Rhywun Sydd Wedi ei Ddiarddel?

Sut Dylen Ni Drin Rhywun Sydd Wedi ei Ddiarddel?

Pan fo aelod o’r teulu neu ffrind agos yn pechu heb edifarhau, ni allan nhw fod yn aelodau o’r gynulleidfa mwyach, ac fe all hynny ein brifo ni i’r byw. Gall ein hymateb i gyfarwyddyd y Beibl yn hyn o beth ddangos pa mor ddwfn yw ein cariad tuag at Dduw a pha mor deyrngar ydyn ni i’w drefn. * Ystyria rai cwestiynau sy’n codi.

Sut dylen ni drin rhywun sydd wedi ei ddiarddel? Dywed y Beibl inni “beidio â chymysgu â neb a elwir yn gredadun os yw’n anfoesol yn rhywiol neu’n trachwantu, yn addoli eilunod, yn difenwi, yn meddwi, neu’n cribddeilio; peidiwch hyd yn oed â bwyta gydag un felly.” (1 Corinthiaid 5:11) Ynglŷn â phob un sydd “heb aros yn nysgeidiaeth Crist,” fe ddarllenwn: “Peidiwch â’i dderbyn i’ch tŷ na’i gyfarch ef, oherwydd y mae’r sawl sy’n ei gyfarch yn gyfrannog o’i weithredoedd drygionus.” (2 Ioan 9-11) Dydyn ni ddim yn cadw cwmni, naill ai’n gymdeithasol neu’n ysbrydol, gyda rhai sydd wedi eu diarddel. Dywed y Watchtower, 15 Medi 1981, tudalen 25: “Mae dweud gair bach fel ‘Helo’ wrth rywun yn gallu arwain at sgwrs a fydd efallai’n datblygu’n gyfeillgarwch. Pam cychwyn ar y llwybr hwnnw gyda rhywun sydd wedi ei ddiarddel?”

A oes rhaid bod mor llym? Oes, am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae’n dangos ein bod ni’n deyrngar i Dduw ac i’w Air. Rydyn ni’n ufudd i Jehofa nid yn unig pan fydd hi’n hawdd ond hefyd pan fydd hi’n anodd. Cariad tuag at Dduw sy’n gwneud inni ufuddhau i’w holl orchmynion, gan gydnabod ei fod yn gyfiawn ac yn llawn cariad, a bod ei ddeddfau bob amser er ein lles. (Eseia 48:17; 1 Ioan 5:3) Yn ail, bydd cadw draw rhag unigolion diedifar yn ein hamddiffyn ni a gweddill y gynulleidfa rhag niwed ysbrydol a moesol. Byddwn ni hefyd yn amddiffyn enw da’r gynulleidfa. (1 Corinthiaid 5:6, 7) Yn drydydd, gall sefyll yn gadarn dros egwyddorion y Beibl fod o les i’r sawl sydd wedi ei ddiarddel. Drwy gefnogi penderfyniad y pwyllgor barnwrol, efallai byddwn ni’n cyffwrdd â chalon y drwgweithredwr sydd, hyd yma, wedi gwrthod ymateb i ymdrechion yr henuriaid i’w helpu. Mae’n bosibl y bydd colli cwmni ffrindiau da yn gwneud iddo gallio, gan sylweddoli pa mor ddifrifol yw ei bechod, a dychwelyd at Jehofa.—Luc 15:17.

Beth petai un o’th berthnasau yn cael ei ddiarddel? Mewn sefyllfa o’r fath, fe all y berthynas glòs teuluol roi prawf ar ein teyrngarwch. Sut dylen ni drin aelod o’r teulu sydd wedi ei ddiarddel? Ni allwn drafod yma bob un sefyllfa bosibl, ond gad inni ganolbwyntio ar ddwy enghraifft benodol.

Efallai fod yr un sydd wedi ei ddiarddel yn dal i fyw gartref fel rhan o’r teulu. Dydy’r ffaith ei fod wedi ei ddiarddel ddim yn torri’r rhwymau teuluol, ac fe all gweithgareddau pob dydd y teulu barhau. Ond eto, drwy ei ymddygiad y mae wedi dewis torri’r cwlwm ysbrydol rhyngddo ef a’i deulu. Felly, ni fydd aelodau ffyddlon o’r teulu yn gadael iddo gymryd rhan yn eu gweithgareddau ysbrydol. Er enghraifft, petai’r un sydd wedi ei ddiarddel yn bresennol, ni fyddai’n cymryd rhan wrth i’r teulu ddod at ei gilydd ar gyfer addoliad teuluol. Fodd bynnag, petai’r un sydd wedi ei ddiarddel yn blentyn ifanc ac yn dal i fod o dan ofal ei rieni, cyfrifoldeb y rhieni yw ei hyfforddi a’i ddisgyblu. Felly, gall rhieni cariadus astudio’r Beibl gyda’r plentyn. *Diarhebion 6:20-22; 29:17.

Mae’r sefyllfa’n wahanol pan fo aelod o’r teulu sydd wedi ei ddiarddel yn byw oddi cartref. Ar adegau prin, efallai bydd rhaid cysylltu ag ef neu hi er mwyn gofalu am faterion teuluol pwysig, ond dylid treulio cyn lleied o amser ag sy’n bosibl yn gwneud hynny. Dydy aelodau ffyddlon o’r teulu ddim yn chwilio am esgus i gysylltu ag aelod teulu sydd wedi ei ddiarddel ac sy’n byw oddi cartref. Yn hytrach, bydd eu teyrngarwch i Jehofa a’i gyfundrefn yn gwneud iddyn nhw gefnogi’r drefn Ysgrythurol o ddiarddel. Mae eu teyrngarwch yn gweithio er lles y drwgweithredwr ac efallai y bydd hyn yn ei helpu i elwa ar y ddisgyblaeth. *Hebreaid 12:11.

^ Par. 3 Mae egwyddorion y Beibl ar y mater hwn yr un mor berthnasol yn achos y rhai sydd yn ymddiarddel o’r gynulleidfa.

^ Par. 7 Am fwy o wybodaeth am blant sydd wedi eu diarddel ac sydd yn dal i fyw gartref, gweler y Watchtower, 1 Hydref 2001, tudalennau 16-17, a 15 Tachwedd 1988, tudalen 20.

^ Par. 8 Am fwy o wybodaeth ar sut i drin aelodau o’r teulu sydd wedi eu diarddel, gweler y cyngor Ysgrythurol yn y Watchtower, 15 Ebrill 1988, tudalennau 26-31, a 15 Medi 1981, tudalennau 26-31.