Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 1

Y Creawdwr yn Rhoi Paradwys i Ddyn

Y Creawdwr yn Rhoi Paradwys i Ddyn

Duw yn creu’r bydysawd a bywyd ar y ddaear; mae’n creu dyn perffaith a dynes berffaith, yn eu rhoi mewn gardd brydferth, ac yn rhoi gorchmynion iddyn nhw

“YN Y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.” (Genesis 1:1) Yn ôl rhai, y geiriau agoriadol hyn yw’r enwocaf a ysgrifennwyd erioed. Gyda’r frawddeg ogoneddus honno, mae’r Beibl yn ein cyflwyno ni i’r Duw hollalluog, Jehofa. Yn adnod gyntaf y Beibl, mae’n dweud mai Duw yw creawdwr y ddaear a’r bydysawd i gyd. Mae’r adnodau canlynol yn disgrifio cyfres o gyfnodau hir a elwir yn “ddyddiau.” Dyna’r adeg y gwnaeth Duw baratoi’r ddaear ar gyfer y ddynoliaeth a chreu holl ryfeddodau’r byd o’n cwmpas.

Uchafbwynt gwaith creadigol Duw ar y ddaear oedd dyn. Oherwydd ei fod wedi ei greu ar ddelw Duw, roedd dyn yn gallu adlewyrchu cariad a doethineb, sef priodoleddau Jehofa ei hun. Fe luniodd Duw ddyn o lwch y ddaear. Galwodd y dyn yn Adda, a’i roi mewn paradwys yng ngardd Eden. Duw ei hun a greodd ardd Eden, a’i llenwi gyda choed prydferth llawn ffrwythau.

Fe welodd Duw fod angen cymar ar y dyn. Gan ddefnyddio un o asennau Adda, fe greodd Duw ddynes a’i rhoi’n wraig i’r dyn. Ei henw hi oedd Efa. Yn hapus dros ben, fe luniodd Adda’r geiriau barddonol hyn: “Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd.” Eglurodd Duw: “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.”—Genesis 2:22-24; 3:20.

Rhoddodd Duw ddau orchymyn i Adda ac Efa. Yn gyntaf, roedden nhw i ofalu am y ddaear a’i llenwi gyda’u plant. Yn ail, doedden nhw ddim i fwyta ffrwyth “o bren gwybodaeth da a drwg.” (Genesis 2:17) Petaen nhw’n anufudd, fe fydden nhw’n marw. Rhoddodd y gorchmynion hyn gyfle i Adda ac Efa ddangos eu bod nhw’n derbyn awdurdod Duw. Trwy fod yn ufudd, fe fydden nhw hefyd yn dangos eu cariad a’u diolchgarwch. Roedd ganddyn nhw bob rheswm dros dderbyn ei awdurdod caredig. Roedd Adda ac Efa yn berffaith ac yn gwbl ddi-nam. Mae’r Beibl yn dweud: “Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn.”—Genesis 1:31.

—Yn seiliedig ar Genesis penodau 1 a 2.