Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 9

Yr Israeliaid yn Gofyn am Frenin

Yr Israeliaid yn Gofyn am Frenin

Saul, brenin cyntaf Israel, yn anufudd. Dafydd yn esgyn i’r orsedd, a Duw yn gwneud cyfamod ag ef am deyrnas dragwyddol

AR ÔL dyddiau Samson, bu Samuel yn broffwyd a barnwr yn Israel. Roedd yr Israeliaid yn gofyn iddo benodi brenin drostyn nhw er mwyn iddyn nhw fod fel y cenhedloedd o’u cwmpas. Er bod hyn yn sarhad ar Jehofa, fe ddywedodd wrth Samuel am wneud felly. Dewisodd Duw ddyn gostyngedig o’r enw Saul i fod yn frenin. Ond, yn nes ymlaen, fe aeth Saul yn falch ac yn anufudd. Gwrthododd Jehofa Saul fel brenin a dywedodd wrth Samuel am benodi dyn ifanc o’r enw Dafydd yn ei le. Ond, byddai blynyddoedd yn mynd heibio cyn i Dafydd ddod i’r orsedd.

Mae’n debyg fod Dafydd yn ei arddegau pan aeth i weld ei frodyr ym myddin Saul. Roedd Goliath, cawr ym myddin y gelyn, wedi bod yn herio’r Israeliaid a’u Duw, ac yn codi ofn ar yr holl fyddin. Derbyniodd Dafydd yr her i ymladd y cawr. Gyda dim ond ffon dafl ac ychydig o gerrig, aeth y llanc i wynebu ei elyn a oedd yn dri metr o daldra bron. Pan ddechreuodd Goliath wneud hwyl am ei ben, dywedodd Dafydd fod ganddo well arfau na’r cawr oherwydd ei fod yn ymladd yn enw Jehofa Dduw! Lloriodd Dafydd Goliath ag un garreg a thorri ei ben â chleddyf y cawr ei hun. Wedi eu dychryn yn lân, fe wnaeth milwyr y Philistiaid ffoi.

Ar y dechrau, roedd Saul yn edmygu gwroldeb Dafydd ac fe benododd ef yn bennaeth ar y fyddin. Ond, roedd llwyddiant Dafydd yn gwneud i Saul deimlo’n genfigennus. Roedd rhaid i Dafydd ffoi am ei fywyd a byw fel ffoadur am flynyddoedd. Er bod y brenin yn ceisio ei ladd, arhosodd Dafydd yn deyrngar iddo oherwydd bod Saul wedi ei benodi gan Jehofa. Yn y pen draw, bu farw Saul ar faes y gad a chyn bo hir daeth Dafydd yn frenin fel yr oedd Jehofa wedi ei addo.

“Gwnaf innau orsedd ei deyrnas yn gadarn am byth.”—2 Samuel 7:13

Dymuniad Dafydd oedd adeiladu teml i Jehofa. Ond, fe ddywedodd Jehofa wrtho mai un o’i ddisgynyddion fyddai’n cael y fraint honno. A Solomon, mab Dafydd, oedd hwnnw. Ond, fe wnaeth Duw gyfamod arbennig â Dafydd: O’i deulu ef y byddai llinach frenhinol gwbl unigryw yn dod. Byddai’r llinach hon yn arwain at y Gwaredwr neu’r Had a addawyd yn Eden. Hwnnw fyddai’r Meseia neu’r “Eneiniog,” wedi ei benodi gan Dduw. Addawodd Jehofa y byddai’r Meseia yn Frenin ar Deyrnas neu lywodraeth a fyddai’n para am byth.

Er mwyn diolch i Dduw, fe aeth Dafydd ati i gasglu llawer iawn o ddefnyddiau a metelau gwerthfawr ar gyfer adeiladu’r deml. Cyfansoddodd hefyd lawer o Salmau ysbrydoledig. Tua diwedd ei oes, dyma ddywedodd Dafydd: “Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd drwof, a’i air ef oedd ar fy nhafod.”—2 Samuel 23:2.

​—Yn seiliedig ar 1 Samuel; 2 Samuel; 1 Cronicl; Eseia 9:7; Mathew 21:9; Luc 1:32; Ioan 7:42.