Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 10

Doethineb y Brenin Solomon

Doethineb y Brenin Solomon

Jehofa yn rhoi calon ddoeth i Solomon; yr Israeliaid yn mwynhau cyfnod o heddwch a ffyniant heb ei debyg

PETAI cenedl gyfan a’i rheolwr yn cydnabod Jehofa fel Penarglwydd ac yn ufuddhau i’w ddeddfau, beth fyddai’n digwydd? Mae teyrnasiad 40-mlynedd y Brenin Solomon yn rhoi’r ateb.

Cyn i Dafydd farw, fe benododd ei fab Solomon yn olynydd iddo. Mewn breuddwyd, gofynnodd Duw i Solomon beth oedd ei ddymuniad mwyaf. Gofynnodd Solomon am ddoethineb a deall er mwyn barnu’r bobl yn deg. Roedd hyn yn plesio Jehofa ac fe roddodd iddo galon ddoeth a deallus. Hefyd, cyn belled â bod Solomon yn aros yn ufudd, fe addawodd Jehofa gyfoeth, gogoniant, a bywyd hir iddo.

Daeth Solomon yn enwog am fod yn farnwr call. Mewn un achos, roedd dwy wraig yn ffraeo dros fabi bach, y ddwy yn taeru mai ei phlentyn hi oedd y bachgen. Gorchmynnodd Solomon i’r babi gael ei dorri yn ddau ac i’r ddwy wraig gael hanner bob un. Cytunodd y wraig gyntaf, ond fe wnaeth y fam go iawn erfyn arno i roi’r plentyn i’r wraig arall. Erbyn hyn, roedd Solomon yn gwybod yn iawn mai hi oedd mam y plentyn ac fe roddodd y babi iddi hi. Pan glywodd pobl Israel am ei ddyfarniad, roedden nhw’n sylweddoli mai oddi wrth Dduw yr oedd doethineb Solomon yn dod.

Un o’r pethau mwyaf a wnaeth Solomon oedd adeiladu teml ogoneddus a fyddai’n ganolfan addoli i Jehofa yn Jerwsalem. Adeg cysegru’r deml, gweddïodd Solomon: “Wele, ni all y nefoedd na nef y nefoedd dy gynnwys; pa faint llai y tŷ hwn a godais!”—1 Brenhinoedd 8:27.

Roedd pobl mewn gwledydd eraill wedi clywed sôn am Solomon, hyd yn oed mewn gwlad mor bell â Sheba yn Arabia. Teithiodd brenhines Sheba i weld gogoniant a chyfoeth Solomon ac i roi prawf ar ei ddoethineb. Fe wnaeth ffyniant Israel a doethineb Solomon argraff fawr ar y frenhines nes ei bod hi’n moli Jehofa am roi brenin mor ddoeth ar yr orsedd. Yn wir, gyda bendith Jehofa, teyrnasiad Solomon oedd yr un mwyaf llewyrchus a heddychlon yn holl hanes Israel.

Ond, gwaetha’r modd, wnaeth Solomon ddim cadw at ddoethineb Jehofa. Yn groes i orchymyn Duw, fe briododd gannoedd o ferched, yn cynnwys llawer a oedd yn addoli duwiau estron. Yn araf bach, cafodd Solomon ei hudo gan y gwragedd hyn i addoli eilunod. Dywedodd Jehofa y byddai’n rhwygo rhan o deyrnas Solomon oddi wrtho. Dim ond rhan fechan ohoni a fyddai’n aros yn nwylo ei deulu, a hynny er mwyn Dafydd, tad Solomon. Er gwaethaf gwrthgiliad Solomon, fe wnaeth Jehofa gadw at ei gyfamod â Dafydd am Deyrnas.

​—Yn seiliedig ar 1 Brenhinoedd penodau 1-11; 2 Cronicl penodau 1-9; Deuteronomium 17:17.