Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 16

Y Meseia’n Cyrraedd

Y Meseia’n Cyrraedd

Jehofa yn dangos mai Iesu o Nasareth yw’r Meseia

A FYDDAI Jehofa yn helpu pobl i adnabod y Meseia addawedig? Byddai. Ystyriwch beth wnaeth Duw. Tua phedair canrif ar ôl i’r Ysgrythurau Hebraeg gael eu hysgrifennu, mewn dinas o’r enw Nasareth yn ardal Galilea, cafodd merch ifanc o’r enw Mair ymweliad syfrdanol. Daeth yr angel Gabriel ati a dweud wrthi y byddai Duw yn defnyddio ei rym gweithredol, ei ysbryd glân, i achosi iddi feichiogi a geni mab, er ei bod hi’n wyryf. Y mab hwn fyddai’r Brenin addawedig, yr un a fyddai’n teyrnasu am byth! Byddai Duw yn trosglwyddo bywyd ei Fab ei hun o’r nefoedd i groth Mair.

Derbyniodd Mair y fraint fawr honno yn ostyngedig. Fe wnaeth ei dyweddi, saer coed o’r enw Joseff, ei phriodi hi ar ôl i Dduw anfon angel i esbonio sut y daeth Mair yn feichiog. Ond, beth am y broffwydoliaeth a ddywedodd y byddai’r Meseia yn cael ei eni ym Methlehem? (Micha 5:2) Roedd y dref fechan honno ryw 90 milltir i ffwrdd!

Gorchmynnodd yr Ymerawdwr Rhufeinig y dylid cynnal cyfrifiad. Roedd yn rhaid i bobl fynd yn ôl i’w trefi genedigol i gael eu cofrestru. Mae’n ymddangos bod Joseff a Mair yn dod yn wreiddiol o Fethlehem, ac felly dyna lle aethon nhw. (Luc 2:3) Yno, mewn stabl gyffredin, cafodd y babi ei eni a’i roi i orwedd mewn preseb. Anfonodd Duw lu o angylion i ddweud wrth fugeiliaid a oedd allan yn y wlad mai’r plentyn newydd ei eni oedd y Meseia neu’r Crist addawedig.

Yn ddiweddarach, byddai eraill hefyd yn tystio mai Iesu oedd y Meseia. Roedd y proffwyd Eseia wedi rhagddweud y byddai dyn yn dod i baratoi’r ffordd ar gyfer gwaith hollbwysig y Meseia. (Eseia 40:3) Y dyn hwnnw oedd Ioan Fedyddiwr. Pan welodd ef Iesu, fe ddywedodd: “Dyma Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd!” Fe wnaeth rhai o ddisgyblion Ioan ddilyn Iesu’n syth. Dywedodd un ohonyn nhw: “Yr ydym wedi darganfod y Meseia.”—Ioan 1:29, 36, 41.

Roedd tystiolaeth bellach ar gael. Pan gafodd Iesu ei fedyddio gan Ioan, llefarodd Jehofa ei hun o’r nef. Drwy gyfrwng yr ysbryd glân, penododd Duw ei fab Iesu’n Feseia a dweud: “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.” (Mathew 3:16, 17) Roedd y Meseia hirddisgwyliedig wedi cyrraedd!

Pryd digwyddodd hyn? Yn y flwyddyn 29 OG. Dyna’r union adeg y daeth y 483 mlynedd a ragfynegwyd gan Daniel i ben. Mae hyn yn rhan o’r dystiolaeth gref sy’n dangos mai Iesu yw’r Meseia, neu’r Crist. Beth fyddai neges Iesu tra byddai ar y ddaear?

—Yn seiliedig ar Mathew penodau 1-3; Marc pennod 1; Luc pennod 2; Ioan pennod 1.