Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 17

Iesu yn Dysgu am Deyrnas Dduw

Iesu yn Dysgu am Deyrnas Dduw

Iesu yn dysgu llawer o bethau i’w ddisgyblion, ond eto’n tynnu sylw at un thema ganolog—Teyrnas Dduw

PAM daeth Iesu i’r ddaear? Dywedodd ef ei hun: “Y mae’n rhaid imi gyhoeddi’r newydd da am deyrnas Dduw . . . oherwydd i hynny y’m hanfonwyd i.” (Luc 4:43) Ystyriwch bedwar peth a ddysgodd Iesu am y Deyrnas.

1. Iesu fyddai Brenin y Deyrnas. Dywedodd Iesu’n blaen mai ef oedd y Meseia. (Ioan 4:25, 26) Dangosodd hefyd mai ef oedd y Brenin a welwyd gan y proffwyd Daniel mewn gweledigaeth. Dywedodd Iesu y byddai ef yn eistedd ar “orsedd ogoneddus” yn y dyfodol ac y byddai ei apostolion hefyd yn eistedd ar orseddau. (Mathew 19:28) Cyfeiriodd Iesu at y grŵp a fyddai’n rheoli gydag ef fel ei ‘braidd bychan,’ ond fe ddywedodd fod ganddo “ddefaid eraill” nad oedd yn perthyn i’r grŵp hwnnw.—Luc 12:32; Ioan 10:16.

2. Byddai Teyrnas Dduw yn hyrwyddo cyfiawnder. Dangosodd Iesu y byddai’r Deyrnas yn sancteiddio enw Jehofa drwy unioni’r cam a gafodd Duw o weld ei enw yn cael ei bardduo gan Satan ers y gwrthryfel yn Eden. (Mathew 6:9, 10) Roedd Iesu yn hollol ddiduedd. Dysgodd ddynion a merched, y tlawd a’r cyfoethog fel ei gilydd. Ei waith pennaf oedd dysgu pobl Israel, ond roedd hefyd yn barod i helpu’r Samariaid a phobl o genhedloedd eraill. Yn wahanol i arweinwyr crefyddol ei ddydd, ni ddangosodd Iesu unrhyw ffafriaeth o gwbl.

3. Ni fyddai Teyrnas Dduw yn rhan o’r byd. Roedd Iesu yn byw yn ystod cyfnod hynod o gythryblus. Roedd ei famwlad o dan ormes gwlad estron. Ond eto, pan geisiodd y bobl berswadio Iesu i ymhél â gwleidyddiaeth, fe wrthododd a chiliodd i’r mynydd. (Ioan 6:14, 15) Fe ddywedodd wrth un gwleidydd: “Nid yw fy nheyrnas i o’r byd hwn.” (Ioan 18:36) Dywedodd nad oedd ei ddilynwyr “yn perthyn i’r byd.” (Ioan 15:19) Nid oedd yn caniatáu iddyn nhw godi arfau, hyd yn oed i amddiffyn Iesu ei hun.—Mathew 26:51, 52.

“Bu ef yn teithio trwy dref a phentref gan bregethu a chyhoeddi’r newydd da am deyrnas Dduw.”—Luc 8:1

4. Byddai awdurdod Iesu yn seiliedig ar gariad. Addawodd Iesu y byddai’n ysgafnhau beichiau pobl a chadwodd at ei air. (Mathew 11:28-30) Rhoddodd gyngor caredig ac ymarferol i bobl ar sut i ymdopi â phryderon, ac ar sut i wella eu perthynas â phobl eraill. Hefyd, dangosodd sut i osgoi materoliaeth, a sut i fod yn hapus. (Mathew, penodau 5-7) Roedd pobl o bob lliw a llun, hyd yn oed y rhai mwyaf gorthrymedig, yn hapus i fynd ato am help gan wybod y byddai bob amser yn eu trin nhw’n garedig. Bydd Iesu’n Frenin gwych!

Roedd gan Iesu ffordd bwerus arall o ddysgu am Deyrnas Dduwei wyrthiau. Pam gwnaeth Iesu’r gwyrthiau hyn? Gadewch inni weld.

—Yn seiliedig ar lyfrau Mathew, Marc, Luc, a Ioan.