Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 18

Gwyrthiau Iesu

Gwyrthiau Iesu

Gwyrthiau Iesu’n dangos sut y bydd yn defnyddio ei rym fel Brenin

RHODDODD Duw’r gallu i Iesu wneud pethau a oedd yn amhosibl i bobl eraill eu gwneud. Fe wnaeth Iesu lawer o wyrthiau, weithiau o flaen cannoedd o lygad-dystion. Profodd gwyrthiau Iesu fod ganddo’r gallu i orchfygu gelynion a goresgyn rhwystrau a oedd wedi trechu pobl amherffaith erioed. Ystyriwch rai esiamplau.

Prinder bwyd. Gwyrth gyntaf Iesu oedd troi dŵr yn win. Ddwywaith fe fwydodd filoedd o bobl gyda dim ond ychydig o bysgod a bara. Bob tro, roedd mwy na digon i bawb.

Salwch. Fe wnaeth Iesu iacháu “pob afiechyd a phob llesgedd ymhlith y bobl.” (Mathew 4:23) Iachaodd Iesu’r deillion, y byddar, yr anabl, a’r cloff, ynghyd â phobl a oedd yn dioddef o epilepsi a’r gwahanglwyf. Doedd dim salwch nad oedd Iesu yn gallu ei iacháu.

Tywydd eithafol. Roedd Iesu a’i ddisgyblion yn croesi Môr Galilea mewn cwch pan gododd storm enbyd. Roedd y disgyblion wedi dychryn. Edrychodd Iesu ar y gwynt a’r tonnau a dywedodd: “Bydd ddistaw! Bydd dawel!” Ar unwaith fe aeth pob man yn dawel. (Marc 4:37-39) Dro arall, yng nghanol storm ofnadwy, cerddodd Iesu ar y dŵr.—Mathew 14:24-33.

Cythreuliaid. Mae ysbrydion drwg yn elynion milain i Dduw, ac maen nhw’n llawer cryfach na bodau dynol. Mae llawer o bobl wedi methu torri’n rhydd o’u gafael. Ond, bob tro roedd Iesu yn gorchymyn i’r cythreuliaid adael llonydd i bobl, roedd rhaid iddyn nhw ildio a dod allan. Doedd Iesu ddim yn ofni’r cythreuliaid. I’r gwrthwyneb, roedden nhw yn ofni Iesu ac yn cydnabod ei awdurdod.

Marwolaeth. Mae’r Beibl yn disgrifio marwolaeth fel “y gelyn olaf,” enw addas ar gyfer gelyn na all neb ar y ddaear ei drechu. (1 Corinthiaid 15:26) Ond, roedd Iesu yn gallu atgyfodi’r meirw. Atgyfododd ddyn ifanc a merch ifanc er mawr lawenydd i’w rhieni. Efallai’r enghraifft fwyaf trawiadol oedd yr adeg pan atgyfododd Iesu ei ffrind annwyl Lasarus o flaen torf o alarwyr. Roedd Lasarus wedi marw ers bron pedwar diwrnod! Roedd hyd yn oed gelynion pennaf Iesu yn cydnabod bod y wyrth hon wedi digwydd.—Ioan 11:38-48; 12:9-11.

Pam gwnaeth Iesu’r gwyrthiau hyn? Wedi’r cyfan, yn y pen draw, bu farw pob un o’r bobl yr oedd Iesu wedi ei helpu. Ond eto, roedd pwrpas i wyrthiau Iesu. Maen nhw’n rhoi rheswm inni gredu y bydd y proffwydoliaethau am Deyrnas y Meseia yn cael eu gwireddu. Does dim amheuaeth, felly, na all Iesu gael gwared ar newyn, salwch, trychinebau naturiol, ysbrydion drwg, a hyd yn oed farwolaeth. Mae Iesu eisoes wedi profi bod Duw wedi rhoi’r grym iddo.

​—Yn seiliedig ar lyfrau Mathew, Marc, Luc, ac Ioan.