Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Neges y Beibl​​—⁠Crynodeb

Neges y Beibl​​—⁠Crynodeb
  1. Jehofa yn creu Adda ac Efa i fyw am byth ym Mharadwys. Satan yn pardduo enw Duw ac yn bwrw amheuaeth ar Ei hawl i reoli. Adda ac Efa yn ochri gyda Satan, a’u gwrthryfel yn dod â phechod a marwolaeth iddyn nhw ac i’w plant

  2. Jehofa’n dedfrydu’r gwrthryfelwyr ac yn addo Gwaredwr, neu Had, a fydd yn difa Satan, ac yn dadwneud holl ganlyniadau drwg pechod a gwrthryfel

  3. Jehofa yn addo y bydd yr Had, neu’r Meseia, yn dod drwy linach Abraham a Dafydd, a bydd yn teyrnasu am byth

  4. Jehofa yn ysbrydoli proffwydi i ragfynegi y bydd y Meseia yn dadwneud effaith pechod a marwolaeth. Bydd yn Frenin ar Deyrnas Dduw. Gyda’i gyd-reolwyr, bydd yn rhoi terfyn ar ryfel, salwch, a marwolaeth

  5. Jehofa yn anfon ei fab i’r ddaear ac yn cadarnhau mai Iesu yw’r Meseia. Iesu’n pregethu am Deyrnas Dduw ac yn offrymu ei fywyd yn aberth. Jehofa yn ei atgyfodi fel ysbryd

  6. Jehofa yn gorseddu ei Fab yn Frenin yn y nef gan roi cychwyn ar ddyddiau diwethaf y drefn hon. Iesu’n arwain ei ddilynwyr wrth iddyn nhw bregethu am Deyrnas Dduw ledled y byd

  7. Jehofa yn gorchymyn ei Fab i deyrnasu dros y ddaear. Y Deyrnas yn dinistrio’r llywodraethau drwg i gyd, yn sefydlu Paradwys, ac yn gwneud pobl ffyddlon yn berffaith. Hawl Jehofa i reoli yn cael ei chyfiawnhau, a’i enw’n cael ei sancteiddio am byth