Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Rydych Chi’n ei Gredu?

Beth Rydych Chi’n ei Gredu?

Mae llawer o ffwndamentalwyr crefyddol yn credu bod y ddaear a phopeth arni wedi ei chreu mewn chwe diwrnod 24-awr a hynny dim ond ychydig o filoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae rhai anffyddwyr am ichi gredu nad ydy Duw yn bodoli, a bod y Beibl yn llyfr llawn mytholeg, a bod bywyd wedi digwydd o ganlyniad i hap a damwain.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu bod y gwirionedd rywle yn y canol. Efallai rydych chi’n teimlo’r un fath a dyna pam rydych chi’n darllen y llyfryn hwn. Efallai eich bod chi’n credu yn Nuw ac yn parchu’r Beibl. Ond efallai eich bod chi hefyd yn parchu barn gwyddonwyr blaengar sy’n dweud na chafodd bywyd ei greu. Fel rhiant, hwyrach eich bod yn pendroni ynglŷn ag ateb cwestiynau eich plant am esblygiad a chreadigaeth.

Beth yw Pwrpas y Llyfryn Hwn?

Nid bychanu safbwynt ffwndamentalwyr na’r rhai sy’n dewis peidio â chredu yn Nuw yw bwriad y deunydd hwn. Yn hytrach, rydyn ni’n gobeithio y bydd yr wybodaeth yn eich sbarduno chi i edrych eto ar sail rhai o’ch daliadau. Bydd yn cyflwyno esboniad ar hanes y creu yn y Beibl na fyddech chi efallai wedi ei ystyried o’r blaen. Bydd yn dangos pam mae’r hyn rydych chi yn ei gredu am darddiad bywyd mor bwysig.

A fyddwch chi’n derbyn gair y rhai sy’n dweud nad oes Creawdwr deallus ac yn honni na allwch ddibynnu ar y Beibl? Neu a fyddwch chi’n fodlon edrych ar yr hyn y mae’r Beibl yn ei wir ddweud? Pa safbwynt y gallwch chi ymddiried ynddo? Safbwynt y Beibl neu safbwynt esblygwyr? (Hebreaid 11:1) Beth am edrych ar y ffeithiau?