Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 2

Pwy Yw’r Gwir Dduw?

Pwy Yw’r Gwir Dduw?

Dim ond un gwir Dduw sydd, a’i enw yw Jehofah. (Salm 83:18, Y Beibl Cysegr-Lân) Ysbryd yw Duw; ni allwn ei weld. Mae Jehofah yn ein caru ni ac mae eisiau inni ei garu ef. Hefyd, mae eisiau inni garu pobl eraill. (Mathew 22:​35-​40) Duw yw’r Hollalluog, yr un a greodd bob peth.

Creadigaeth gyntaf Duw oedd ysbryd grymus, gafodd ei adnabod nes ymlaen fel Iesu Grist. Creodd Jehofah yr angylion hefyd.

Creodd Jehofah bob peth yn y nefoedd . . . ac ar y ddaear. Datguddiad 4:​11

Creodd Jehofah Dduw y sêr, y ddaear, a phob peth arni.​​—⁠Genesis 1:⁠1.

Fe luniodd Adda, y dyn cyntaf, o lwch y tir.​​—⁠Genesis 2:⁠7.