RHAN 3
Sut Roedd Bywyd ym Mharadwys?
Rhoddodd Jehofah lawer o bethau da i Adda ac Efa. Genesis 1:28
Creodd Jehofah y ddynes gyntaf, Efa, ac fe roddodd hi i Adda fel gwraig.—Genesis 2:21, 22.
Fe wnaeth Jehofah eu creu nhw gyda chorff a meddwl perffaith, heb unrhyw fai.
Roedden nhw’n byw ym Mharadwys yng ngardd Eden—gardd brydferth iawn gydag afonydd, coed ffrwyth, ac anifeiliaid.
Siaradodd Jehofah â nhw a’u dysgu. O wrando ar Dduw, fe fyddai Adda ac Efa yn byw am byth ym Mharadwys ar y ddaear.
Genesis 2:16, 17
Dywedodd Duw ddylen nhw ddim bwyta ffrwyth un goeden yn yr ardd.Dangosodd Jehofah goeden ffrwyth i Adda ac Efa yn yr ardd, a dywedodd wrthyn nhw pe baen nhw’n bwyta ffrwyth o’r goeden bydden nhw’n marw.
Fe wnaeth un o’r angylion wrthryfela yn erbyn Duw. Satan y Diafol yw’r angel drwg hwn.
Nid oedd Satan eisiau i Adda ac Efa ufuddhau i Jehofah. Felly, defnyddiodd Satan sarff i ddweud wrth Efa na fyddai hi’n marw petai hi’n bwyta o’r goeden, ond fe fyddai hi fel Duw. Wrth gwrs, celwydd oedd hyn.—Genesis 3:1-5.