Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 8

Beth Mae Marwolaeth Iesu yn ei Olygu i Chi?

Beth Mae Marwolaeth Iesu yn ei Olygu i Chi?

Fe wnaeth Iesu farw er mwyn inni gael byw am byth. Ioan 3:​16

Dri diwrnod ar ôl i Iesu farw, daeth ychydig o ferched i ymweld â’i fedd, ond roedd yn wag. Roedd Jehofah wedi atgyfodi Iesu.

Ymddangosodd Iesu i’w ddisgyblion ar ôl ei atgyfodiad.

Roedd Jehofah wedi atgyfodi Iesu i fywyd fel angel grymus, anfarwol. Fe wnaeth disgyblion Iesu ei weld yn mynd i’r nef.

Fe wnaeth Duw atgyfodi Iesu a’i wneud yn Frenin ar Ei Deyrnas. Daniel 7:​13, 14

Aberthodd Iesu ei fywyd fel pridwerth dros y ddynolryw. (Mathew 20:28) Trwy’r pridwerth hwn mae Duw wedi ei gwneud hi’n bosib inni fyw am byth.

Fe wnaeth Jehofah benodi Iesu i deyrnasu dros y ddaear. Bydd 144,000 o bobl ffyddlon yn cael eu hatgyfodi o’r ddaear i’r nefoedd. Mae Iesu a’r 144,000 yn ffurfio llywodraeth gyfiawn yn y nef, sef Teyrnas Dduw.—Datguddiad 14:​1-3.

Bydd Teyrnas Dduw yn troi’r ddaear yn baradwys. Ni fydd rhyfel, trais, tlodi, na newyn mwyach. Bydd pawb yn wirioneddol hapus.—Salm 145:16.