Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Yw Ewyllys Duw?

Beth Yw Ewyllys Duw?

Mae Duw eisiau inni fyw yn hapus mewn paradwys ar y ddaear am byth!

Ond sut mae hynny yn bosibl? Mae’r Beibl yn dweud mai Teyrnas Dduw fydd yn gwneud hyn a bod Duw yn dymuno i bawb ddysgu am y Deyrnas honno ac am ei fwriad ar ein cyfer.—Salm 37:11, 29; Eseia 9:7.

Mae Duw yn ein dysgu er ein lles.

Fel y mae tad cariadus yn dymuno gweld ei blant yn llwyddo mewn bywyd, mae ein Tad nefol yn dymuno inni fod yn hapus am byth. (Eseia 48:17, 18) Mae Duw wedi addo y bydd y “sawl sy’n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.”—1 Ioan 2:17.

Mae Duw eisiau inni ddilyn ei ffyrdd.

Dywed y Beibl fod ein Creawdwr eisiau “dysgu i ni ei ffyrdd” er mwyn inni fedru “rhodio yn ei lwybrau.” (Eseia 2:2, 3) Mae Jehofa wedi trefnu i bobl sy’n “dwyn ei enw” bregethu am ei ewyllys ar draws y byd.—Actau 15:14.

Mae Duw eisiau inni addoli mewn undod.

Mae addoliad pur Jehofa yn uno pobl mewn cariad, yn hytrach na’u gwahanu nhw. (Ioan 13:35) Pwy sy’n dysgu pobl ym mhobman ynglŷn â sut i addoli Duw mewn undod heddiw? Darllenwch y llyfryn hwn ac fe gewch yr ateb.