Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 1

Pa Fath o Bobl Yw Tystion Jehofa?

Pa Fath o Bobl Yw Tystion Jehofa?

Denmarc

Taiwan

Feneswela

India

Faint o Dystion Jehofa rydych chi yn eu hadnabod? Efallai rydyn ni’n byw drws nesaf i chi, neu’n gweithio gyda chi, neu’n mynd i’r un ysgol â chi. Mae’n bosibl eich bod chi wedi sgwrsio am y Beibl â ni. Pwy ydyn ni, a pham rydyn ni’n trafod ein daliadau yn gyhoeddus?

Pobl gyffredin ydyn ni. Mae cefndir pob un ohonon ni’n wahanol. Ar un adeg, roedd rhai ohonon ni’n perthyn i grefyddau gwahanol, a rhai ohonon ni’n anffyddwyr. Ond cyn inni ddod yn Dystion, fe wnaeth pob un ohonon ni astudio dysgeidiaethau’r Beibl yn ofalus. (Actau 17:11) Oherwydd ein bod ni’n cytuno â’r hyn roedden ni’n ei ddysgu, fe wnaethon ni benderfynu o’n gwirfodd i addoli Jehofa Dduw.

Rydyn ni’n elwa ar astudio’r Beibl. Fel pawb arall, mae’n rhaid inni ymdopi â’n problemau a’n gwendidau. Ond mae rhoi egwyddorion y Beibl ar waith wedi gwneud byd o wahaniaeth i’n bywydau. (Salm 128:1, 2) Dyna un rheswm pam rydyn ni’n siarad ag eraill am y pethau da rydyn ni wedi eu dysgu drwy ddarllen y Beibl.

Rydyn ni’n byw yn unol â safonau Duw. Mae safonau’r Beibl yn helpu pobl i deimlo’n hapus. Maen nhw’n ysgogi pobl i barchu eraill, ac i fod yn onest a charedig. Mae safonau’r Beibl yn cyfrannu at undod y teulu, yn hyrwyddo moesoldeb, ac yn annog aelodau’r gymuned i fod yn weithgar ac i fyw bywyd iach. Oherwydd ein bod ni’n credu nad yw Duw’n “dangos ffafriaeth,” rydyn ni’n perthyn i frawdoliaeth ysbrydol sy’n wirioneddol ryngwladol, heb unrhyw raniadau hiliol neu wleidyddol. Er mai  pobl gyffredin ydyn ni, fel grŵp rydyn ni’n unigryw.—Actau 4:13; 10:34, 35.

  • Pa fath o bobl yw Tystion Jehofa?

  • Mae’r Tystion wedi dysgu am ba safonau drwy astudio’r Beibl?