Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 2

Pam Rydyn Ni’n Cael Ein Galw’n Dystion Jehofa?

Pam Rydyn Ni’n Cael Ein Galw’n Dystion Jehofa?

Noa

Abraham a Sara

Moses

Iesu Grist

Mae llawer yn meddwl mai enw ar grefydd newydd yw Tystion Jehofa. Fodd bynnag, dros 2,700 o flynyddoedd yn ôl, roedd gweision yr unig wir Dduw yn cael eu disgrifio fel ‘tystion.’ (Eseia 43:10-12) Hyd at 1931, roedden ni’n defnyddio’r enw Myfyrwyr y Beibl. Pam, felly, y dewison ni’r enw Tystion Jehofa?

Mae’n rhoi sylw i’n Duw. Mae enw Duw, Jehofa, i’w weld  filoedd o weithiau mewn hen lawysgrifau’r Beibl. Mewn llawer o gyfieithiadau, mae’r enw hwn wedi cael ei ddisodli gan deitlau fel Arglwydd neu Dduw. Ond defnyddiodd Duw ei enw personol, Jehofa, wrth iddo’i ddatgelu ei hun i Moses, gan ddweud, “Dyma fydd fy enw am byth.” (Exodus 3:15; 6:2, Beibl Cysegr-lân) Dangosodd Jehofa, felly, ei fod yn wahanol i’r gau dduwiau i gyd. Rydyn ni’n falch o ddwyn enw sanctaidd Duw.

Mae’n disgrifio ein cenhadaeth. Gan ddechrau gyda’r dyn cyfiawn Abel, bu nifer mawr o bobl yn tystiolaethu am eu ffydd yn Jehofa. Trwy’r canrifoedd, daeth Noa, Abraham, Moses, Sara, Dafydd, ac eraill yn rhan o’r ‘dorf hon o dystion.’ (Hebreaid 11:4–12:1) Fel y mae unigolyn yn rhoi tystiolaeth gerbron llys ar ran rhywun dieuog, rydyn ni’n benderfynol o ddweud y gwir wrth bawb am Dduw.

Rydyn ni’n efelychu Iesu. Yn y Beibl, gelwir Iesu “y  tyst ffyddlon a gwir.” (Datguddiad 3:14) Dywedodd Iesu wrth Dduw, “Yr wyf wedi gwneud dy enw di’n hysbys,” a thrwy gydol ei fywyd, fe wnaeth “dystiolaethu i’r gwirionedd.” (Ioan 17:26; 18:37) Felly, dylai dilynwyr Crist hefyd ddwyn enw Jehofa a’i wneud yn hysbys. Dyma beth mae Tystion Jehofa yn ceisio ei wneud.

  • Pam y gwnaeth Myfyrwyr y Beibl fabwysiadu’r enw Tystion Jehofa?

  • Ers pryd y mae Jehofa wedi cael ei dystion ar y ddaear?

  • Pwy yw Tyst mwyaf Jehofa?