Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 3

Sut Cafodd Gwirionedd y Beibl ei Ailddarganfod?

Sut Cafodd Gwirionedd y Beibl ei Ailddarganfod?

Myfyrwyr y Beibl, 1870au

Rhifyn cyntaf y Watchtower, 1879

Y Watchtower heddiw

Rhagfynegodd y Beibl y byddai gau athrawon yn codi o blith y Cristnogion cynnar ar ôl marwolaeth Crist, ac fe fydden nhw’n llygru gwirioneddau’r Beibl. (Actau 20:29, 30) Ymhen amser, dyna ddigwyddodd. Fe wnaethon nhw gymysgu dysgeidiaethau Iesu â syniadau crefyddol paganaidd, ac fe arweiniodd hyn at gau Gristnogaeth. (2 Timotheus 4:3, 4) Heddiw, sut gallwn ni wybod bod gennyn ni ddealltwriaeth gywir o’r hyn mae’r Beibl yn ei wir ddysgu?

Daeth hi’n amser i Jehofa ddatgelu’r gwirionedd. Rhagfynegodd Duw y byddai ‘gwybodaeth yn cynyddu’ yn amser y diwedd. (Daniel 12:4, troednodyn) Ym 1870, fe wnaeth grŵp bychan a oedd yn chwilio am y gwirionedd sylweddoli nad oedd llawer o ddysgeidiaethau’r eglwysi yn seiliedig ar y Beibl. Felly, dechreuon nhw ymchwilio i ddysgeidiaethau gwreiddiol y Beibl, ac fe fendithiodd Jehofa eu hymdrechion a’u helpu nhw i ddeall yr Ysgrythurau.

Dynion diffuant yn astudio’r Beibl yn fanwl. Datblygodd Myfyrwyr y Beibl ddull o astudio rydyn ni yn dal i’w ddefnyddio hyd heddiw. Roedden nhw’n trafod y Beibl fesul pwnc. Pan oedden nhw’n dod ar draws adnodau anodd eu deall, roedden nhw’n chwilio am adnodau eraill i egluro’r ystyr. Ar ôl iddyn nhw ddod i gasgliad a oedd yn cytuno â gweddill y Beibl, roedden nhw’n cofnodi hynny. Felly, drwy adael i’r Beibl ei ddehongli ei hun, roedden nhw’n ailddarganfod y gwir ynglŷn ag enw Duw, ei Deyrnas, ei fwriad ar gyfer dynolryw a’r ddaear, cyflwr y meirw, a gobaith yr atgyfodiad. Roedd yr ymchwil honno’n eu rhyddhau nhw rhag llawer o syniadau ac arferion cyfeiliornus.—Ioan 8:31, 32.

Erbyn 1879, roedd Myfyrwyr y Beibl yn gwybod bod rhaid iddyn nhw ddysgu’r gwir i eraill. Felly, y flwyddyn honno fe ddechreuon nhw gyhoeddi’r cylchgrawn yr ydyn ni’n dal i’w gyhoeddi heddiw, sef y Watchtower Announcing Jehovah’s Kingdom. Erbyn hyn, rydyn ni’n dysgu gwirionedd y Beibl i bobl mewn 240 o wledydd ac mewn dros 750 o ieithoedd. Nid yw gwybodaeth y Beibl erioed wedi bod ar gael i gynifer o bobl!

  • Ar ôl marwolaeth Crist, beth ddigwyddodd i wirioneddau’r Beibl?

  • Beth sydd wedi ein helpu i ailddarganfod gwirioneddau Gair Duw?