Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 4

Pam Rydyn Ni Wedi Cyhoeddi Cyfieithiad o’r Beibl?

Pam Rydyn Ni Wedi Cyhoeddi Cyfieithiad o’r Beibl?

Congo (Kinshasa)

Rwanda

Dernyn Symmachus yn cynnwys yr enw dwyfol yn Salm 69:31, trydedd neu bedwaredd ganrif OG

Am ddegawdau, roedd Tystion Jehofa yn defnyddio, yn argraffu, ac yn dosbarthu gwahanol gyfieithiadau o’r Beibl. Ond wedyn, fe welon ni’r angen i gyhoeddi cyfieithiad newydd a fyddai’n helpu pobl “i  ganfod y gwirionedd,” gan mai dyna yw ewyllys Duw i bawb. (1 Timotheus 2:3, 4) Felly, ym 1950, dechreuon ni gyhoeddi Beibl Saesneg cyfoes, y New World Translation, fesul rhan. Mae’r Beibl hwn wedi cael ei gyfieithu’n fanwl gywir i fwy na 130 o ieithoedd.*

Roedd angen Beibl hawdd ei ddeall. Mae ieithoedd yn newid dros amser, ac mae llawer o gyfieithiadau yn cynnwys ymadroddion hen-ffasiwn ac anodd eu deall. Ar ben hynny, mae hen lawysgrifau sy’n fwy cywir ac yn nes at y testun gwreiddiol wedi dod i’r golwg. Mae’r rhain yn rhoi gwell dealltwriaeth inni o ieithoedd y Beibl, sef Hebraeg, Aramaeg, a Groeg.

Roedd angen cyfieithiad a oedd yn ffyddlon i air Duw. Yn hytrach na bod mor hy â newid gair Duw, dylai cyfieithwyr y Beibl lynu wrth y testun gwreiddiol. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o gyfieithiadau, nid yw’r enw dwyfol, Jehofa, yn cael ei ddefnyddio.

Roedd angen Beibl sy’n rhoi clod i’r Awdur. (2 Samuel 23:2) Mae’r New World Translation wedi adfer enw Jehofa ryw 7,000 o weithiau lle mae’n ymddangos yn llawysgrifau hynaf y Beibl. Fe welir esiampl yn y llun isod. (Salm 83:18, BC) Mae’r Beibl hwn yn ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil. Mae’n bleser i’w ddarllen oherwydd ei fod yn cyfleu meddyliau Duw yn glir. Ond hyd yn oed os nad oes gennych chi’r New World Translation yn eich iaith eich hun, yr hyn sy’n bwysig yw eich bod chi’n darllen gair Jehofa bob dydd.—Josua 1:8; Salm 1:2, 3.

  • Pam roedd angen cyfieithiad newydd o’r Beibl?

  • I ddysgu am ewyllys Duw, beth y dylen ni ei wneud bob dydd?