Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 6

Sut Mae Cymdeithasu â Christnogion Eraill yn Ein Helpu?

Sut Mae Cymdeithasu â Christnogion Eraill yn Ein Helpu?

Madagascar

Norwy

Libanus

Yr Eidal

Mewn rhai gwledydd, mae Tystion Jehofa yn gorfod teithio drwy’r jyngl neu drwy dywydd garw er mwyn mynychu’r cyfarfodydd Cristnogol. Pam mae Tystion Jehofa yn ymdrechu gymaint i gymdeithasu â’u cyd-addolwyr a hynny er gwaethaf blinder a phroblemau bywyd?

Mae’n gwneud lles inni. Roedd Paul yn siarad am aelodau’r gynulleidfa pan ddywedodd y dylen ni “ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da.” (Hebreaid 10:24) Mae hyn yn gofyn inni feddwl am ein gilydd a dod i adnabod ein gilydd yn dda. Gall dod i adnabod teuluoedd Cristnogol eraill ein helpu ni i wynebu ein problemau, oherwydd bod rhai o’r teuluoedd hynny wedi llwyddo i oresgyn problemau tebyg yn y gorffennol.

Mae’n meithrin cyfeillgarwch. Ffrindiau go iawn yw ein cyd-addolwyr nid ffrindiau arwynebol. Rydyn ni’n treulio amser gyda’n gilydd yn y cyfarfodydd ac wrth fwynhau adloniant iach. Sut mae cymdeithasu fel hyn yn ein helpu? Rydyn ni’n dysgu gwerthfawrogi ein gilydd, ac mae hyn yn cryfhau ein cyfeillgarwch. Oherwydd bod perthynas gref rhyngddon ni a’n brodyr, byddwn ni’n barod i’w helpu pan fyddan nhw’n wynebu problemau. (Diarhebion 17:17) Drwy gymdeithasu â phawb yn y gynulleidfa, rydyn ni’n dangos ‘yr un gofal dros ein gilydd.’—1 Corinthiaid 12:25, 26.

Rydyn ni yn eich annog i ddewis  ffrindiau  sy’n  gwneud ewyllys Duw. Fe gewch chi ffrindiau da fel hyn ymhlith Tystion Jehofa. Peidiwch â dal yn ôl rhag cymdeithasu â  ni.

  • Pam mae cymdeithasu â’n gilydd yn y cyfarfodydd yn gwneud lles inni?

  • Pryd y byddech chi’n hoffi dod i gwrdd â phawb yn y gynulleidfa?