Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 7

Beth Sy’n Digwydd yn Ein Cyfarfodydd?

Beth Sy’n Digwydd yn Ein Cyfarfodydd?

Seland Newydd

Japan

Iwganda

Lithwania

Yn y ganrif gyntaf, roedd y Cristnogion cynnar yn dod at ei gilydd i ddarllen a thrafod yr Ysgrythurau, i weddïo a chanu. Doedd dim defodau’n perthyn i’w haddoli. (1 Corinthiaid 14:26) Dyna sy’n digwydd hefyd yn ein cyfarfodydd ni.

Mae’r arweiniad yn seiliedig ar y Beibl ac yn ymarferol. Ar y penwythnos, mae pob cynulleidfa yn cyfarfod i wrando ar anerchiad Beiblaidd 30 munud o hyd sy’n trafod sut mae’r Beibl yn berthnasol i’n bywydau ac i’n dyddiau ni. Mae pawb yn cael eu hannog i ddilyn y drafodaeth drwy ddefnyddio eu Beiblau eu hunain. Ar ôl yr anerchiad, mae Astudiaeth o’r “Watchtower” yn para am awr. Yn yr astudiaeth hon, mae aelodau’r gynulleidfa yn trafod erthygl yn y rhifyn astudio o’r Watchtower. Mae’r drafodaeth hon yn ein helpu i roi arweiniad y Beibl ar waith yn ein bywydau. Mae’r un wybodaeth yn cael ei thrafod ym mhob un o’r mwy na 110,000 o gynulleidfaoedd ar draws y byd.

Rydyn ni’n cael ein helpu i ddatblygu fel athrawon. Rydyn ni hefyd yn cyfarfod ar un noson ganol wythnos. Mae tair rhan i’r cyfarfod hwn, a elwir Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol, sy’n seiliedig ar ddeunydd Gweithlyfr y Cyfarfod misol. Mae’r rhan gyntaf, Trysorau o Air Duw, yn ein helpu ni i ddod yn gyfarwydd â rhan benodol o’r Beibl y mae’r gynulleidfa wedi’i darllen wrth baratoi. Nesaf, mae Rhoi Ein Sylw i’r Weinidogaeth, sy’n cynnwys dangosiadau i’n dysgu ni sut i drafod y Beibl gydag eraill. Mae cynghorwr yn cynnig sylwadau sy’n ein helpu i wella ein sgiliau darllen a siarad. (1 Timotheus 4:13) Mae’r rhan olaf, Ein Bywyd Cristnogol, yn rhoi ar waith egwyddorion y Beibl yn ein bywyd bob dydd. Mae hon yn cynnwys cwestiynau ac atebion i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r Beibl.

Rydyn ni’n hyderus y bydd safon yr addysg Feiblaidd sydd ar gael yn ein cyfarfodydd yn gwneud argraff ffafriol arnoch chi.—Eseia 54:13.

  • Beth sy’n digwydd yng nghyfarfodydd Tystion Jehofa?

  • Pa un o’n cyfarfodydd wythnosol hoffech chi ei fynychu nesaf?