Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 10

Beth Yw Addoliad Teuluol?

Beth Yw Addoliad Teuluol?

De Corea

Brasil

Awstralia

Gini

Mae Jehofa bob amser wedi annog teuluoedd i dreulio amser gyda’i gilydd er mwyn eu cryfhau eu hunain yn ysbrydol. (Deuteronomium 6:6, 7) Dyna pam mae Tystion Jehofa yn neilltuo amser bob wythnos i addoli fel teuluoedd. Mewn awyrgylch anffurfiol, maen nhw’n trafod pynciau ysbrydol sydd wedi eu teilwra ar gyfer anghenion y teulu. Hyd yn oed os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun, gallwch agosáu at Dduw drwy ddewis prosiect Beiblaidd i’w astudio.

Mae’n gyfle i nesáu at Jehofa. “Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi.” (Iago 4:8) Rydyn ni’n dod i adnabod Jehofa yn well drwy ddysgu am ei bersonoliaeth a’i weithgareddau yn ei Air, y Beibl. Ffordd hawdd o ddechrau’r addoliad teuluol yw darllen rhan o’r Beibl yn uchel drwy ddilyn efallai raglen Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth. Gellir aseinio rhai adnodau i bob aelod o’r teulu, a thrafod wedyn yr hyn rydych wedi ei ddysgu.

Mae’n gyfle i glosio at ein gilydd fel teulu. Pan fydd teuluoedd yn astudio’r Beibl, bydd y berthynas rhwng gwŷr a gwragedd, a rhwng rhieni a phlant yn cael ei chryfhau. Dylai’r amser hwn fod yn hapus a heddychlon ac yn rhywbeth y mae pawb yn edrych ymlaen ato. Gall rhieni ddewis pynciau sydd yn ymarferol ac yn addas i oedran eu plant, efallai drwy ddefnyddio erthyglau o’r Watchtower a’r Awake! neu o’n gwefan jw.org. Mae’n gyfle ichi drafod unrhyw broblemau sydd wedi codi yn yr ysgol, a sut i ddelio gyda nhw. Ydych wedi meddwl am wylio rhaglen oddi ar JW Broadcasting (tv.pr418.com) ac wedyn ei thrafod fel teulu? Braf fyddai ymarfer efallai rai o’r caneuon ar gyfer y cyfarfodydd, a chael rhywbeth i’w fwyta ar ôl ichi orffen.

Mae’r amser rydyn ni’n ei dreulio bob wythnos yn addoli Jehofa fel teulu yn ein helpu ni i fwynhau astudio Gair Duw. Mae Jehofa yn sicr o fendithio eich ymdrechion!—Salm 1:1-3.

  • Pam rydyn ni’n neilltuo amser bob wythnos ar gyfer yr addoliad teuluol?

  • Sut gall rhieni sicrhau bod yr addoliad teuluol yn brofiad hapus i bawb?