Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 11

Pam Rydyn Ni’n Mynd i Gynulliadau Mawr?

Pam Rydyn Ni’n Mynd i Gynulliadau Mawr?

Mecsico

Yr Almaen

Botswana

Nicaragwa

Yr Eidal

Pam mae’r bobl yn y llun yn edrych yn hapus? Oherwydd eu bod nhw’n mynychu un o’n cynulliadau. Fel gweision Duw yn y gorffennol a gafodd eu cyfarwyddo i ddod at ei gilydd dair gwaith y flwyddyn, rydyn ninnau hefyd yn edrych ymlaen at ein cynulliadau mawr. (Deuteronomium 16:16) Bob blwyddyn rydyn ni’n cynnal tri digwyddiad: dau gynulliad cylchdaith undydd ac un gynhadledd ranbarthol sy’n para am dridiau. Sut mae mynd i’r cynulliadau hyn yn ein helpu ni?

Maen nhw’n cryfhau’r frawdoliaeth Gristnogol. Roedd yr Israeliaid yn mwynhau moli Jehofa yn un gynulleidfa fawr ac rydyn ninnau hefyd yn mwynhau addoli gyda’n gilydd ar achlysuron arbennig. (Salm 26:12; 111:1) Yn y cynulliadau hyn, rydyn ni’n cael y cyfle i gwrdd â Thystion o gynulleidfaoedd eraill, neu hyd yn oed o wledydd eraill. Rydyn ni hefyd yn gallu bwyta gyda’n gilydd amser cinio ac mae hynny’n ychwanegu at awyrgylch cyfeillgar yr achlysuron ysbrydol hyn. (Actau 2:42) Yn y cynulliadau, rydyn ni’n medru gweld â’n llygaid ein hunain y cariad sy’n uno ‘teulu’r ffydd’ trwy’r byd i gyd.—1 Pedr 2:17.

Maen nhw yn ein helpu i dyfu’n ysbrydol. Roedd “deall yr hyn” a gafodd ei egluro i’r Israeliaid yn gwneud lles iddyn nhw. (Nehemeia 8:8, 12) Rydyn ninnau hefyd yn gwerthfawrogi cael ein hyfforddi o’r Beibl yn ein cynulliadau. Mae gan bob un ei thema Ysgrythurol. Trwy wrando ar anerchiadau diddorol a gwylio cyflwyniadau sydd yn ail-greu gwahanol sefyllfaoedd, rydyn ni’n dysgu gwneud ewyllys Duw yn ein bywydau. Calonogol iawn yw gwrando ar brofiadau rhai sy’n llwyddo i fyw bywyd Cristnogol a hynny er gwaethaf anawsterau y dyddiau anodd hyn. Yn y cynadleddau rhanbarthol, rydyn ni’n dysgu gwersi ymarferol drwy wylio dramâu sy’n dod â hanes y Beibl yn fyw inni. Ym mhob cynulliad, mae cyfle i’r rhai sydd wedi eu hymgysegru i Dduw gael eu bedyddio.

  • Pam mae’r cynulliadau yn achlysuron llawen?

  • Sut rydyn ni’n elwa ar fynychu cynulliadau?