Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 12

Sut Mae Ein Gwaith Pregethu yn Cael ei Drefnu?

Sut Mae Ein Gwaith Pregethu yn Cael ei Drefnu?

Sbaen

Belarws

Hong Cong

Periw

Ychydig cyn iddo farw, dywedodd Iesu: “Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy’r byd i gyd fel tystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna y daw’r diwedd.” (Mathew 24:14) Ond sut byddai’r gwaith pregethu yn cael ei gyflawni drwy’r byd? Trwy ddilyn yr esiampl a osododd Iesu pan oedd ar y ddaear.—Luc 8:1.

Rydyn ni’n ceisio siarad â phobl yn eu cartrefi. Hyfforddodd Iesu ei ddisgyblion i bregethu o dŷ i dŷ. (Mathew 10:11-13; Actau 5:42; 20:20, BC) Yn y ganrif gyntaf, cafodd efengylwyr eu hanfon i ardaloedd penodol i bregethu. (Mathew 10:5, 6; 2 Corinthiaid 10:13) Heddiw, rydyn ninnau hefyd yn pregethu mewn modd trefnus, ac mae gan bob cynulleidfa ei thiriogaeth benodol ei hun. Mae gwneud hyn, yn caniatáu inni fod yn drwyadl wrth “bregethu i’r bobl” yn unol â gorchymyn Iesu.—Actau 10:42.

Rydyn ni’n ceisio dod o hyd i bobl le bynnag y maen nhw. Gosododd Iesu’r esiampl drwy bregethu ar lan y môr, wrth ymyl y ffynnon leol, ac mewn mannau cyhoeddus eraill. (Marc 4:1; Ioan 4:5-15) Rydyn ni hefyd yn siarad â phobl am y Beibl ym mhob man—ar y strydoedd, mewn busnesau, mewn parciau, neu dros y ffôn. Rydyn ni hefyd yn siarad â’n cymdogion, ein cyd-weithwyr, ein cyd-ddisgyblion, a’n perthnasau, pan fydd cyfle’n codi. Oherwydd yr ymdrechion hyn, mae miliynau wedi clywed y newyddion da bod iachawdwriaeth ar gael.—Salm 96:2.

Ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai’n hoffi clywed y newyddion da am Deyrnas Dduw? Meddyliwch am yr effaith y bydd hynny yn ei chael ar eu dyfodol nhw. Peidiwch â dal yn ôl rhag rhannu’r neges hyfryd hon ag eraill!

  • Pa neges am y Deyrnas sydd angen ei chyhoeddi?

  • Sut mae Tystion Jehofa yn efelychu dulliau Iesu o bregethu?