Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 14

Pa Hyfforddiant Sydd ar Gael i Arloeswyr?

Pa Hyfforddiant Sydd ar Gael i Arloeswyr?

Yr Unol Daleithiau

Ysgol Gilead, Patterson, Efrog Newydd

Panama

Mae addysg Gristnogol wedi bod yn bwysig i Dystion Jehofa erioed. Mae hyfforddiant arbennig ar gael i helpu’r rhai sy’n pregethu’n llawn amser i ‘gyflawni holl ofynion eu gweinidogaeth.’—2 Timotheus 4:5.

Ysgol Arloesi: Ar ôl gwasanaethu am flwyddyn, mae arloeswyr yn mynd ar gwrs chwe diwrnod, sydd fel arfer yn cael ei gynnal mewn Neuadd y Deyrnas yn yr ardal. Bwriad yr ysgol yw helpu arloeswyr i glosio at Jehofa, i fod yn fwy effeithiol ym mhob agwedd ar y weinidogaeth, ac i ddal ati’n ffyddlon.

Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas: Bwriad y cwrs deufis hwn yw hyfforddi arloeswyr profiadol sydd yn fodlon symud i ardal arall lle bynnag mae angen. Maen nhw’n dilyn y Pregethwr gorau erioed a oedd ar y ddaear, Iesu Grist, ac yn dweud, “Dyma fi, anfon fi.” (Eseia 6:8; Ioan 7:29) Weithiau mae symud i ardal arall yn golygu dod i arfer â safonau byw symlach, ynghyd â diwylliant, hinsawdd, a bwyd gwahanol. Efallai bydd rhaid dysgu iaith newydd. Mae’r cwrs hwn yn hyfforddi brodyr a chwiorydd sengl, a pharau priod rhwng 23 a 65 mlwydd oed. Maen nhw’n cael y cyfle i feithrin priodoleddau ysbrydol a dysgu sgiliau a fydd yn eu helpu i wasanaethu Jehofa a’i gyfundrefn yn fwy effeithiol.

Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower: Yn Hebraeg, mae’r gair “Gilead” yn golygu “Carnedd y dystiolaeth.” Mae Ysgol Gilead wedi bod yn llwyddiant mawr. Er 1943, mae mwy nag 8,000 o genhadon Gilead wedi cael eu hanfon i dystiolaethu “hyd eithaf y ddaear.” (Actau 13:47) Cyn i genhadon gyrraedd Periw, doedd dim un gynulleidfa yno, ond heddiw mae mwy na 1,000 ohonyn nhw. Pan ddechreuodd ein cenhadon wasanaethu yn Japan, llai na deg Tyst oedd yno. Heddiw, mae mwy na 200,000. Mae Ysgol Gilead yn para am bum mis ac yn ystod y cwrs mae myfyrwyr yn astudio Gair Duw yn drwyadl. Mae arloeswyr arbennig, cenhadon yn y maes, y rhai sy’n gweithio mewn swyddfeydd cangen, arolygwyr cylchdaith a’u gwragedd yn cael gwahoddiad i’r ysgol hon. Yno, maen nhw’n derbyn hyfforddiant arbennig i’w helpu nhw i sefydlu a chryfhau y gwaith byd-eang.

  • Beth yw bwriad yr Ysgol Arloesi?

  • Pwy sy’n cael mynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas?