Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 4

Gwnaeth ei Thad a Jehofa yn Hapus

Gwnaeth ei Thad a Jehofa yn Hapus

Pa addewid mae Jefftha yn ei wneud i Jehofa?

Er nad oedd yn hawdd, fe wnaeth merch Jefftha yr hyn a addawodd ei thad

Weli di’r ferch yn y llun?— Merch dyn o’r enw Jefftha yw hi. Nid yw’r Beibl yn dweud beth oedd ei henw, ond rydyn ni’n gwybod ei bod hi wedi gwneud ei thad a Jehofa yn hapus. Gad inni ddysgu amdani hi a’i thad, Jefftha.

Dyn da oedd Jefftha a threuliodd lawer o amser yn dysgu ei ferch am Jehofa. Roedd hefyd yn ddyn cryf ac yn arweinydd da. Felly, gofynnodd yr Israeliad iddo eu harwain nhw i ymladd yn erbyn eu gelynion.

Gweddïodd Jefftha ar Dduw am ei help i ennill. Fe wnaeth Jefftha addewid i Jehofa. Petai’n ennill y rhyfel, byddai’n rhoi i Jehofa y person cyntaf a ddaeth allan o’r tŷ. Byddai’r person yma yn treulio gweddill ei oes yn nhabernacl Duw. Dyna lle roedd pobl yn addoli Duw yn y dyddiau hynny. Wel, enillodd Jefftha y rhyfel! Pan gyrhaeddodd adref, pwy ddaeth allan o’r tŷ yn gyntaf?—

Ie, merch Jefftha, ei unig ferch! A nawr roedd rhaid i Jefftha ei hanfon i ffwrdd. Roedd hyn yn ei wneud yn drist iawn. Ond cofia, roedd wedi gwneud addewid i Jehofa. Dywedodd ei ferch ar unwaith: ‘Fy Nhad, rydych chi wedi addo i Jehofa, rhaid i chi gadw eich addewid.’

Aeth ffrindiau merch Jefftha i’w gweld hi bob blwyddyn

Roedd merch Jefftha yn drist hefyd. Yn y tabernacl, doedd hi ddim yn cael priodi na chael plant. Ond yn fwy na dim, roedd hi eisiau cadw addewid ei thad a gwneud Jehofa yn hapus. Roedd hyn yn bwysicach iddi hi na phriodi a chael plant. Symudodd allan o’i thŷ a byw gweddill ei hoes yn y tabernacl.

Wyt ti’n meddwl ei bod hi wedi plesio Jehofa a’i thad trwy’r hyn a wnaeth hi?— Do, fe wnaeth! Os wyt ti’n ufudd ac os wyt ti’n caru Jehofa, fe elli di fod fel merch Jefftha. Byddi di hefyd yn gwneud dy rieni a Jehofa yn hapus iawn.

DARLLENA YN DY FEIBL