Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 6

Nid Oedd Ofn ar Dafydd

Nid Oedd Ofn ar Dafydd

Beth rwyt ti’n ei wneud pan wyt ti’n teimlo’n ofnus?— Efallai dy fod yn mynd at dad a mam i gael help. Ond, mae yna rywun arall sydd hefyd yn gallu dy helpu. Mae’n fwy pwerus nag unrhyw un arall. Wyt ti’n gwybod am bwy ydyn ni’n sôn?— Ie, Jehofa Dduw. Gad inni siarad am fachgen ifanc yn y Beibl o’r enw Dafydd. Roedd yn gwybod y byddai Jehofa bob amser yn ei helpu, felly doedd dim ofn arno o gwbl.

Ers i Dafydd gael ei eni, fe gafodd ei ddysgu gan ei rieni i garu Jehofa. Roedd hyn yn helpu Dafydd i beidio â bod yn ofnus hyd yn oed pan ddigwyddodd pethau a all godi ofn ar rywun. Roedd yn gwybod bod Jehofa yn ffrind iddo ac fe fyddai yn ei helpu. Ar un adeg, pan oedd Dafydd yn gofalu am rai o’i ddefaid, daeth llew mawr a chipio dafad yn ei geg! Wyt ti’n gwybod beth wnaeth Dafydd? Rhedodd ar ôl y llew a chydiodd yn ei farf a’i ladd. Wedyn, pan ymosododd arth ar un o’i ddefaid, lladdodd Dafydd yr arth hefyd! Pwy wyt ti’n meddwl helpodd Dafydd?— Ie, Jehofa.

Ar adeg arall roedd Dafydd yn ddewr iawn. Roedd yr Israeliaid yn ymosod yn erbyn pobl a oedd yn cael eu galw’n Philistiaid. Roedd un o filwyr y Philistiaid yn glamp o ddyn, yn gawr! Ei enw oedd Goliath. Roedd y cawr yn gwneud hwyl am ben milwyr yr Israeliaid ac am ben Jehofa. Heriodd Goliath filwyr yr Israeliaid i frwydro yn ei erbyn. Ond roedd gormod o ofn ar y milwyr i frwydro yn erbyn y cawr. Pan glywodd Dafydd yr hanes, dywedodd wrth Goliath: ‘Mi wna’ i frwydro yn dy erbyn! Bydd Jehofa yn fy helpu, ac mi wna’ i dy guro di!’ Beth wyt ti yn ei feddwl, oedd Dafydd yn ddewr?— Oedd, roedd yn ddewr iawn. Wyt ti eisiau gwybod beth ddigwyddodd nesaf?

Roedd gan Dafydd ffon dafl, sef rhywbeth sy’n cael ei ddefnyddio i daflu cerrig. Aeth â’i ffon dafl a phum carreg esmwyth gydag ef i ymladd yn erbyn y cawr. Pan welodd Goliath mai bachgen ifanc oedd Dafydd, gwnaeth hwyl am ei ben! Ond dywedodd Dafydd wrtho: ‘Rwyt ti’n dod ata’ i â chleddyf, ond dw i’n dod atat ti yn enw Jehofa!’ Rhoddodd y garreg yn y ffon dafl, rhedodd nerth ei draed tuag at Goliath, a thaflodd y garreg yn syth tuag ato. Tarodd y garreg Goliath rhwng ei lygaid! Disgynnodd y cawr i’r llawr yn farw! Roedd cymaint o ofn ar y Philistiaid nes iddyn nhw i gyd redeg i ffwrdd. Sut roedd bachgen ifanc fel Dafydd yn gallu curo’r cawr?— Fe wnaeth Jehofa helpu Dafydd, ac roedd Jehofa yn llawer mwy pwerus na’r cawr!

Nid oedd ofn ar Dafydd oherwydd roedd yn gwybod y byddai Jehofa yn ei helpu

Beth gelli di ei ddysgu oddi wrth stori Dafydd?— Mae Jehofa yn fwy pwerus nag unrhyw un arall. Ac mae’n Ffrind i ti. Felly, y tro nesaf rwyt ti’n teimlo’n ofnus, cofia, gall Jehofa dy helpu di i fod yn ddewr!

DARLLENA YN DY FEIBL