Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 14

Teyrnas a Fydd yn Rheoli’r Holl Ddaear

Teyrnas a Fydd yn Rheoli’r Holl Ddaear

Elli di feddwl am ba Deyrnas rydyn ni’n sôn amdani?— Ie, Teyrnas Dduw. Bydd y Deyrnas yn gwneud yr holl ddaear yn baradwys. A fyddi di’n hoffi dysgu mwy am y Deyrnas hon?—

Mae gan bob teyrnas frenin sy’n rheoli dros y bobl sy’n byw ynddi. Wyt ti’n gwybod pwy yw Brenin Teyrnas Dduw?— Ie, Iesu Grist. Mae’n byw yn y nefoedd. Cyn bo hir, fe fydd yn Frenin dros bawb ar y ddaear! Wyt ti’n meddwl y byddwn ni’n hapus pan fydd Iesu yn Frenin dros y ddaear i gyd?—

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato ym Mharadwys?

Fe fyddwn ni’n hapus iawn! Ym Mharadwys, ni fydd pobl byth eto yn ffraeo nac yn mynd i ryfel. Bydd pawb yn caru ei gilydd. Ni fydd neb yn mynd yn sâl nac yn marw. Bydd y dall yn gweld, y byddar yn clywed, a’r rhai nad yw’n gallu cerdded yn rhedeg ac yn neidio. Bydd digonedd o fwyd i bawb. Bydd yr anifeiliaid yn ffrindiau gyda’i gilydd a hefyd gyda ni. Bydd y bobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Bydd llawer o’r dynion a’r merched rwyt ti wedi dysgu amdanyn nhw yn y llyfryn hwn yn dod yn ôl yn fyw hefyd, rhai fel Rebeca, Rahab, Dafydd, ac Elias. Hoffet ti eu cyfarfod nhw pan ddôn nhw’n ôl?—

Mae Jehofa yn dy garu di ac eisiau iti fod yn hapus. Os wyt ti’n dal ati i ddysgu am Jehofa, a bod yn ufudd iddo, gelli di fyw am byth mewn paradwys hardd! Ai dyma beth wyt ti eisiau?—

DARLLENA YN DY FEIBL