Neidio i'r cynnwys

PENNOD 13

Amddiffyn yr Hawl i Bregethu yn y Llys

Amddiffyn yr Hawl i Bregethu yn y Llys

FFOCWS Y BENNOD

Fel y rhagfynegodd Iesu, mae gwaith ei ddisgyblion yn cael ei herio yn y llysoedd

1, 2. (a) Beth a wnaeth yr arweinwyr crefyddol am y gwaith pregethu, a beth oedd ymateb yr apostolion? (b) Pam gwrthododd yr apostolion ufuddhau i’r gorchymyn i beidio â phregethu?

YCHYDIG ar ôl Pentecost 33 OG, roedd y gynulleidfa yn Jerwsalem newydd ei sefydlu. Gwelodd Satan ei gyfle i ddifa’r gynulleidfa cyn iddi fagu traed. Aeth ati i ddylanwadu ar yr arweinwyr crefyddol fel eu bod nhw’n gwahardd y gwaith pregethu. Ond roedd yr apostolion yn dal ati’n ddewr, ac o ganlyniad “roedd mwy a mwy o bobl yn dod i gredu yn yr Arglwydd.”—Act. 4:18, 33; 5:14.

Roedd yr apostolion yn llawen, gan “ei chyfri hi’n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu”

2 Wedi gwylltio, tarodd eu gelynion eto, gan daflu’r apostolion i’r carchar. Ond yn ystod y nos, anfonodd Jehofa angel i agor y drysau, a fore trannoeth roedd yr apostolion yn pregethu unwaith eto! Cawson nhw eu harestio am yr ail dro, eu dwyn gerbron y llys, a’u cyhuddo o dorri’r gorchymyn i beidio â phregethu. Atebodd yr apostolion: “Mae’n rhaid i ni ufuddhau i Dduw, dim i ddynion meidrol fel chi!” Roedd y llywodraethwyr yn gandryll ac yn dymuno lladd yr apostolion. Ond dyma Gamaliel, athro uchel ei barch, yn rhybuddio’r llywodraethwyr: “Rhaid meddwl yn ofalus . . . Peidiwch gwneud dim gyda nhw. Gadewch lonydd iddyn nhw.” Er mawr syndod i’r apostolion, derbyniodd y llys ei gyngor a’u rhyddhau. Beth a wnaeth yr apostolion nesaf? Yn hollol benderfynol, “roedden nhw’n dal ati i ddysgu’r bobl a chyhoeddi’r newyddion da mai Iesu ydy’r Meseia.”—Act. 5:17-21, 27-42; Diar. 21:1, 30.

3, 4. (a) Pa ddull effeithiol mae Satan wedi ei ddefnyddio dro ar ôl tro i ymosod ar bobl Dduw? (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried yn y bennod hon?

3 Yr achos hwnnw oedd y tro cyntaf i’r gynulleidfa Gristnogol gael ei herio yn y llys, ond nid y tro olaf. (Act. 4:5-8; 16:20; 17:6, 7) Heddiw, mae Satan yn dal i ysgogi pobl i ddylanwadu ar yr awdurdodau i wahardd ein gwaith pregethu. Mae gwrthwynebwyr wedi cyhuddo pobl Dduw o dorri’r gyfraith mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys tarddu ar heddwch y gymuned, tanseilio awdurdod y llywodraeth, ac elwa’n ariannol o’n gwaith pregethu. Pan fu’n addas, mae ein brodyr wedi mynd i’r llys i brofi bod y cyhuddiadau hyn yn anghywir. Beth sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r achosion hyn? Sut mae dyfarniadau’r llysoedd hyn, ddegawdau yn ôl, yn effeithio arnoch chi heddiw? Gadewch inni ystyried ychydig o achosion llys i weld sut maen nhw wedi helpu i amddiffyn ein hawl i gyhoeddi’r newyddion da.—Phil. 1:7.

4 Nesaf, byddwn ni’n trafod sut rydyn ni wedi amddiffyn ein hawl i bregethu. Rydyn ni hefyd wedi mynd i’r llys i amddiffyn ein hawl i beidio â bod yn rhan o’r byd ac i fyw yn ôl safonau Duw.

Creu Helynt Neu Gefnogi Teyrnas Dduw?

5. Yn y 1930au hwyr, pam cafodd pobl oedd yn pregethu am y Deyrnas eu harestio a beth a wnaeth y rhai oedd yn arwain y ffordd?

5 Yn hwyr yn y 1930au, roedd dinasoedd a thaleithiau yn Unol Daleithiau America yn ceisio gorfodi Tystion Jehofa i gael trwydded er mwyn cymryd rhan yn eu gweinidogaeth. Ond penderfynodd y brodyr beidio â rhoi cais am drwyddedau. Iesu a roddodd y gorchymyn i bregethu’r newyddion da, ac felly nid oes gan neb yr hawl i ddweud a ydyn ni’n cael pregethu neu beidio. (Marc 13:10) O ganlyniad, cafodd cannoedd o Dystion Jehofa eu harestio. Felly fe wnaeth y rhai a oedd yn arwain y ffordd yn y gyfundrefn baratoi ar gyfer mynd i’r llys. Roedden nhw’n gobeithio y byddai’r llys yn dweud bod y cyfyngiadau ar waith pregethu’r Tystion yn anghyfreithlon. Ac ym 1938 digwyddodd rywbeth a oedd yn arwain at achos llys pwysig iawn. Beth ddigwyddodd?

6, 7. Beth ddigwyddodd i’r teulu Cantwell?

6 Ym 1938, roedd Newton Cantwell yn 60 oed. Roedd ef a’i wraig Esther, a’u meibion Henry, Russell, a Jesse, i gyd yn arloeswyr arbennig. Fore dydd Mawrth, 26 Ebrill, cychwynnon nhw ar siwrnai i New Haven, Connecticut ar gyfer diwrnod o bregethu. Roedden nhw’n hanner disgwyl bod oddi gartref am fwy na diwrnod. Pam felly? Roedden nhw wedi cael eu harestio sawl gwaith o’r blaen ac felly roedden nhw’n gwybod bod hyn yn gallu digwydd eto. Ond er gwaethaf hyn, roedd y teulu Cantwell yn dal yn awyddus i bregethu neges y Deyrnas. Cyrhaeddon nhw New Haven mewn dau gar. Roedd Newton yn gyrru car y teulu gyda llwyth o gyhoeddiadau am y Beibl a sawl ffonograff, tra bod Henry, a oedd yn 22 oed, yn gyrru car sain. Fel roedden nhw’n disgwyl, o fewn oriau, cawson nhw eu stopio gan yr heddlu.

7 Cafodd Russell, a oedd yn 18 oed, ei arestio yn gyntaf, ac yna Newton ac Esther. O bell, gwelodd Jesse, a oedd yn 16 oed, yr heddlu yn mynd a’i rieni a’i frawd i ffwrdd. Roedd Henry yn pregethu mewn rhan arall o’r dref, felly roedd Jesse ar ei ben ei hun. Ond, cododd ei ffonograff a pharhau i bregethu. Fe wnaeth dau ddyn Catholig adael i Jesse chwarae recordiad o’r Brawd Rutherford yn rhoi anerchiad gyda’r teitl “Enemies.” Gwrandawon nhw am sbel, ond roedd y neges yn eu gwylltio nhw cymaint nes eu bod nhw’n bygwth curo Jesse. Cerddodd Jesse i ffwrdd yn dawel, ond yn fuan wedyn, cafodd ei stopio gan heddwas. Cafodd Jesse hefyd ei gymryd i’r ddalfa. Ni chafodd Esther Cantwell ei chyhuddo, ond fe gyhuddwyd y Brawd Cantwell a’i feibion. Sut bynnag, cawson nhw eu rhyddhau ar fechnïaeth yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw.

8. Pam cafwyd Jesse Cantwell yn euog o greu helynt?

8 Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach, ym mis Medi 1938, ymddangosodd y teulu Cantwell o flaen y llys yn New Haven. Cafwyd Newton, Russell, a Jesse yn euog o ofyn am gyfraniadau ariannol heb drwydded. Er gwaethaf apêl i Oruchaf Lys Connecticut, cafwyd Jesse yn euog o dorheddwch a chreu helynt. Pam? Roedd y ddau ddyn Catholig a wrandawodd ar y recordiad wedi dweud wrth y llys bod yr anerchiad wedi sarhau eu crefydd a’u gwylltio. Penderfynodd rhai brodyr cyfrifol yn ein cyfundrefn herio’r dyfarniad drwy gyflwyno apêl i Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau, sef llys uchaf y wlad.

9, 10. (a) Beth oedd dyfarniad Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn achos y teulu Cantwell? (b) Sut mae’r dyfarniad hwnnw yn gwneud gwahaniaeth i ni heddiw?

9 Ar 29 Mawrth, 1940, dechreuodd y Prif Ustus Charles E. Hughes ac wyth ustus cysylltiol wrando ar y dadleuon roedd y Brawd Hayden Covington, cyfreithiwr ar gyfer Tystion Jehofa, yn eu cyflwyno. * Pan gyflwynodd cyfreithiwr talaith Connecticut ddadleuon i geisio profi bod y Tystion yn creu helynt, gofynnodd un ustus: “Onid yw’n wir bod neges Iesu Grist yn amhoblogaidd yn ei ddydd?” Atebodd cyfreithiwr y dalaith: “Oedd. Ac os ydw i’n cofio’n iawn, mae’r Beibl hefyd yn disgrifio beth ddigwyddodd i Iesu am iddo gyflwyno’r neges honno.” Heb sylweddoli, roedd y twrnai wedi rhoi’r Tystion ar ochr Iesu a’r dalaith ar ochr y rhai a’i cafodd yn euog! Ar 20 Mai, 1940, penderfynodd y Llys yn unfryd o blaid y Tystion.

Hayden Covington (ar flaen y grŵp, yn y canol), Glen How (ar y chwith) ac eraill yn gadael llys ar ôl ennill buddugoliaeth.

10 Beth roedd penderfyniad y Llys yn ei olygu? Amddiffynnodd yr hawl i rywun ymarfer ei grefydd fel na allai’r llywodraeth gyfyngu arno. Dywedodd y Llys nad oedd ymddygiad Jesse “yn fygythiad i drefn gyhoeddus a heddwch y gymuned.” Dangosodd y dyfarniad yn glir nad yw Tystion Jehofa yn troseddu yn erbyn y drefn gyhoeddus. Roedd hyn yn fuddugoliaeth gyfreithiol enfawr i weision Duw! Sut mae’n effeithio arnon ni heddiw? Dywed un cyfreithiwr sy’n Dyst: “Fel Tystion heddiw, mae’r hawl i ymarfer ein crefydd heb rwystrau annheg yn caniatáu inni rannu neges o obaith yn ein cymunedau.”

Enllibio’r Llywodraeth Neu Gyhoeddi’r Gwir?

Quebec’s Burning Hate for God and Christ and Freedom Is the Shame of All Canada

11. Pa ymgyrch arbennig a drefnwyd gan y brodyr yng Nghanada, a pham?

11 Yn y 1940au, roedd Tystion Jehofa yng Nghanada yn cael eu gwrthwynebu’n chwyrn. Felly, ym 1946, er mwyn tynnu sylw at agwedd y llywodraeth tuag at ryddid i addoli, trefnodd y brodyr ymgyrch dros 16 diwrnod i ddosbarthu traethodyn gyda’r teitl Quebec’s Burning Hate for God and Christ and Freedom Is the Shame of All Canada. Roedd y traethodyn yn dangos yn eglur sut roedd y clerigwyr yn annog trais torfol ac yn dylanwadu ar yr heddlu ac eraill i erlid ein brodyr. Dywedodd y traethodyn “Mae Tystion Jehofa yn parhau i gael eu harestio yn anghyfreithlon. Yn ardal Montreal, mae tua 800 o gyhuddiadau yn erbyn Tystion Jehofa erbyn hyn.”

12. (a) Beth oedd ymateb y gwrthwynebwyr i’r ymgyrch gyda’r traethodyn arbennig? (b) Cafodd ein brodyr eu cyhuddo o ba drosedd? (Gweler hefyd y troednodyn.)

12 Ymateb Prif Weinidog Cwebéc, Maurice Duplessis, a oedd yn cydweithio’n agos â’r Cardinal Villeneuve yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig, oedd cyhoeddi “rhyfel heb drugaredd” yn erbyn y Tystion. Cododd y nifer o gyhuddiadau o 800 i 1,600. Dywedodd un arloeswraig: “Fe wnaeth yr heddlu ein harestio ni gymaint o weithiau nes inni golli cyfrif.” Cyhuddwyd y Tystion a gafodd eu dal yn dosbarthu’r traethodyn o enllibio’r llywodraeth drwy annog gwrthryfel. *

13. Pwy oedd y rhai cyntaf i fynd i’r llys wedi eu cyhuddo o enllibio’r llywodraeth, a beth oedd dyfarniad y llys?

13 Ym 1947, y Brawd Aimé Boucher a’i ferched Gisèle, 18 oed, a Lucille, 11 oed, oedd y rhai cyntaf i gael eu cyhuddo yn y llys o enllibio’r llywodraeth. Roedden nhw wedi bod yn dosbarthu’r traethodyn Quebec’s Burning Hate yn yr ardal o gwmpas eu fferm ger Dinas Cwebéc, ond prin y byddai rhywun yn eu disgrifio nhw fel troseddwyr. Roedd y Brawd Boucher yn ddyn diymhongar a oedd yn gweithio’n dawel ar ei fferm a defnyddio ceffyl a thrap o bryd i’w gilydd i fynd i’r dref. Ond roedd rhai o’r pethau a ddisgrifiwyd yn y traethodyn wedi digwydd i’w deulu ef. Roedd y barnwr yn casáu’r Tystion, ac fe wrthododd glywed unrhyw dystiolaeth a fyddai’n profi bod y teulu Boucher yn ddieuog. Yn lle hynny, derbyniodd ddadl yr erlyniaeth bod y traethodyn yn annog drwgdeimlad ac felly y dylid cael y teulu Boucher yn euog. Felly, yn y bôn, agwedd y barnwr oedd mai trosedd yw dweud y gwir! Cafwyd Aimé a Gisèle yn euog o enllibio’r llywodraeth a threuliodd hyd yn oed Lucille fach ddau ddiwrnod yn y carchar. Apeliodd y brodyr i Oruchaf Lys Canada a gytunodd i glywed yr achos.

14. Sut ymatebodd y brodyr yn Cwebéc i’r erledigaeth?

14 Yn y cyfamser, roedd ein brodyr a chwiorydd yn Cwebéc yn parhau i gyhoeddi neges y Deyrnas yn ddewr er gwaethaf ymosodiadau di-baid, ac roedd eu gwaith yn dwyn ffrwyth. Dros y pedair blynedd ar ôl dechrau’r ymgyrch gyda’r traethodyn ym 1946, roedd nifer y Tystion yn Cwebéc wedi codi o 300 i 1,000! *

15, 16. (a) Beth oedd dyfarniad Goruchaf Lys Canada yn achos y teulu Boucher? (b) Pa effaith gafodd y fuddugoliaeth hon ar ein brodyr ac eraill?

15 Ym mis Mehefin 1950, roedd naw ustus Goruchaf Lys Canada yn bresennol i glywed achos Aimé Boucher. Chwe mis yn ddiweddarach, ar 18 Rhagfyr, 1950, penderfynodd y Llys o blaid y Tystion. Pam? Esboniodd cyfreithiwr ar gyfer y Tystion, y Brawd Glen How, fod y Llys wedi derbyn dadl y Tystion bod “enllibio’r llywodraeth” yn golygu annog trais neu wrthryfel yn erbyn y llywodraeth. Nid oedd dim o hyn yn y traethodyn ac felly nid oedd yr hyn a wnaeth y Brawd Boucher yn drosedd. Dywedodd y Brawd How: “Gwelais â fy llygaid fy hun, sut roedd Jehofa wedi rhoi’r fuddugoliaeth.” *

16 Roedd penderfyniad y Goruchaf Lys yn fuddugoliaeth ysgubol i Deyrnas Dduw. O ganlyniad, dilewyd 122 o achosion yn erbyn Tystion Jehofa yn Cwebéc. Roedd dyfarniad y Llys hefyd yn rhoi i bobl Canada a’r Gymanwlad Brydeinig yr hawl i leisio eu pryderon am y modd y mae’r llywodraeth yn gweithredu. Roedd y fuddugoliaeth hon hefyd yn torri cefn ymosodiadau’r eglwys a’r llywodraeth ar ryddid Tystion Jehofa yn Cwebéc.

Gwneud Arian Neu Gyhoeddi Teyrnas Dduw yn Selog?

17. Sut mae rhai llywodraethau yn ceisio rheoli ein gweinidogaeth?

17 Fel y Cristnogion cynnar, dydy Tystion Jehofa “ddim yn pedlera neges Duw i wneud arian.” (Darllenwch 2 Corinthiaid 2:17) Ond mae rhai llywodraethau yn dal i geisio rheoli ein gweinidogaeth drwy ddeddfau sy’n ymwneud â masnach. Dewch inni edrych ar ddau achos llys a oedd yn ystyried a yw Tystion Jehofa yn fasnachwyr neu’n weinidogion.

18, 19. Beth a wnaeth yr awdurdodau yn Nenmarc i geisio rhwystro’r gwaith pregethu?

18 Denmarc. Ar 1 Hydref, 1932, cyflwynwyd cyfraith a wnaeth hi’n anghyfreithlon i werthu deunydd printiedig heb drwydded. Ond penderfynodd ein brodyr beidio â gwneud cais am drwydded. Y diwrnod wedyn, aeth pump o Dystion i bregethu mewn tref o’r enw Roskilde, a oedd tua 20 milltir i’r gorllewin o’r brif ddinas, Copenhagen. Ar ddiwedd y dydd, roedd un o’r brodyr, August Lehmann, ar goll. Roedd wedi cael ei arestio am werthu deunydd heb drwydded.

19 Ar 19 Rhagfyr, 1932, ymddangosodd August Lehmann o flaen y llys. Tystiodd ei fod wedi galw ar bobl â chynnig cyhoeddiadau am y Beibl, ond gwadodd ei fod yn pedlera. Cytunodd y llys, gan ddweud: “Mae’r diffynnydd . . . yn gallu cynnal ei hun yn ariannol, ac nid yw wedi elwa’n ariannol nac yn bwriadu elwa, ond yn wir mae ei waith pregethu wedi costio iddo.” Penderfynodd y llys o blaid y Tystion, gan ddweud: “Ni ellir disgrifio gweithgareddau Lehmann fel rhai masnachol.” Ond roedd rhai pobl yn benderfynol o rwystro’r gwaith pregethu. (Salm 94:20) Apeliodd yr erlynydd cyhoeddus bob cam nes cyrraedd Goruchaf Lys y wlad. Beth oedd ymateb ein brodyr?

20. Beth oedd dyfarniad Goruchaf Lys Denmarc, a beth oedd ymateb ein brodyr?

20 Yn ystod yr wythnos cyn y gwrandawiad yn y Goruchaf Lys, roedd y Tystion yn gwneud mwy nag erioed yn y gwaith pregethu. Ar 3 Hydref, 1933, cafwyd dyfarniad y Goruchaf Lys. Cytunodd â phenderfyniad y llys cyntaf nad oedd Lehmann wedi torri’r gyfraith. Roedd hyn yn golygu bod y Tystion yn gallu parhau i bregethu heb rwystr. I ddangos eu bod nhw’n ddiolchgar i Jehofa am y fuddugoliaeth, aeth y brodyr a chwiorydd ati i bregethu hyd yn oed yn fwy selog. Ers y dyfarniad hwnnw, mae ein brodyr yn Nenmarc wedi bod yn rhydd i bregethu heb ymyrraeth gan y llywodraeth.

Tystion dewr yn Nenmarc yn y 1930au

21, 22. Beth benderfynodd Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn achos y Brawd Murdock?

21 Yr Unol Daleithiau. Ddydd Sul, 25 Chwefror, 1940, cafodd yr arloeswr Robert Murdock, a saith o Dystion eraill eu harestio tra oedden nhw’n pregethu mewn dinas o’r enw Jeanette yn Pittsburgh, yn nhalaith Pennsylvania. Fe’u cafwyd yn euog o fethu prynu trwydded i gynnig cyhoeddiadau. Ar ôl apêl, cytunodd Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau i glywed yr achos.

22 Ar 3 Mai, 1943, cyhoeddwyd penderfyniad y Goruchaf Lys o blaid y Tystion. Dywedodd y llys mai anghyfreithlon fyddai gofyn i rywun gael trwydded i ddosbarthu cyhoeddiadau crefyddol. Dywedodd hefyd na allai’r ddinas greu deddf a fyddai’n rhwystro pobl rhag cyhoeddi eu barn a rhag ymarfer eu crefydd. Wrth ddatgan barn y llys, dywedodd yr Ustus William O. Douglas fod gweithredoedd Tystion Jehofa “yn fwy na phregethu ac yn fwy na dosbarthu cyhoeddiadau crefyddol, mae’n gyfuniad o’r ddau.” Ychwanegodd: “Mae gweithgareddau crefyddol fel hyn yr un mor bwysig â’r addoliad a’r pregethu sy’n digwydd mewn eglwysi.”

23. Pam mae’r buddugoliaethau a gafwyd yn y llysoedd ym 1943 yn bwysig i ni heddiw?

23 Roedd y dyfarniad hwn gan y Goruchaf Lys yn fuddugoliaeth hynod o bwysig i bobl Dduw. Cadarnhaodd mai gweinidogion Cristnogol ydyn ni, nid gwerthwyr masnachol. Ar y diwrnod cofiadwy hwnnw ym 1943, enillodd Tystion Jehofa 12 o’r 13 achos o flaen y Goruchaf Lys, gan gynnwys achos Murdock. Mae’r penderfyniadau pwysig hyn wedi creu cynsail ar gyfer achosion diweddarach sydd wedi herio ein hawl i bregethu am y Deyrnas yn gyhoeddus ac o dŷ i dŷ.

“Rhaid Ufuddhau i Dduw yn Hytrach Nag i Ddynion”

24. Sut rydyn ni’n ymateb pan fydd llywodraeth yn ein gwahardd ni rhag pregethu?

24 Rydyn ni, weision Jehofa, yn ddiolchgar iawn pan fydd llywodraethau yn caniatáu inni gyhoeddi neges y Deyrnas heb rwystr. Ond pan fydd llywodraethau yn gwahardd ein gwaith pregethu, rydyn ni’n newid ein dulliau a pharhau gyda’r gwaith mewn unrhyw ffordd bosib. Rydyn i’n teimlo fel yr apostolion, a ddywedodd: “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.” (Act. 5:29, BCND; Math. 28:19, 20) Ar yr un pryd, rydyn ni’n apelio at y llysoedd i godi’r gwaharddiad. Ystyriwch ddwy esiampl.

25, 26. Beth a ddigwyddodd yn Nicaragwa a arweiniodd at achos yn y Goruchaf Lys yno, a beth oedd y canlyniad?

25 Nicaragwa. Ym 1952, roedd Donovan Munsterman yn genhadwr ac yn arolygwr y gangen yn Nicaragwa. Ar 19 Tachwedd, aeth i’r Swyddfa Ymfudo yn y brif ddinas, Managua. Roedd wedi cael gorchymyn i fynd i weld y Capten Arnoldo García, pennaeth y swyddfa. Dywedodd y capten wrth Donovan nad oedd Tystion Jehofa yn Nicaragwa “yn cael pregethu nac hyrwyddo eu crefydd bellach.” Pan ofynnwyd iddo esbonio pam, dywedodd y Captain Garcia nad oedd y Tystion wedi cael caniatâd gan y llywodraeth i bregethu a’u bod nhw’n cael eu cyhuddo o fod yn gomiwnyddion. Pwy oedd yn cyhuddo’r Tystion? Offeiriaid yr Eglwys Gatholig.

Brodyr yn Nicaragwa yng nghyfnod y gwaharddiad

26 Apeliodd y Brawd Munsterman yn syth at y Weinyddiaeth Llywodraeth a Chrefydd, a hefyd at y Llywydd Anastasio Somoza García, ond yn ofer. Felly caeodd y brodyr Neuadd y Deyrnas, a dechrau cyfarfod mewn grwpiau bach. Wnaethon nhw stopio pregethu ar y stryd, ond roedden nhw’n dal i gyhoeddi neges y Deyrnas. Ar yr un pryd, cyflwynon nhw gais i Oruchaf Lys Nicaragwa yn gofyn iddyn nhw godi’r gwaharddiad. Roedd adroddiadau helaeth am y gwaharddiad a’r cais yn y wasg, a chytunodd y Goruchaf Lys i glywed yr achos. Beth ddigwyddodd? Ar 19 Mehefin, 1953, cyhoeddwyd dyfarniad unfryd y Goruchaf Lys o blaid y Tystion. Dyfarnodd y llys fod y gwaharddiad yn anghyfreithlon. Gorchmynnodd hefyd i’r llywodraeth ganiatáu i’r Tystion ymgynnull a phregethu fel roedden nhw cyn y gwaharddiad.

27. Pam roedd penderfyniad y Llys yn synnu pobl Nicaragwa, a beth oedd y brodyr yn ei feddwl am y fuddugoliaeth honno?

27 Roedd pobl Nicaragwa yn synnu bod y Goruchaf Lys wedi dyfarnu o blaid y Tystion. Hyd hynny, roedd dylanwad clerigwyr yr eglwys mor gryf nes bod y Llys yn osgoi mynd yn eu herbyn. Hefyd, oherwydd grym swyddogion y llywodraeth, pur anaml byddai’r llys yn dyfarnu yn eu herbyn. Roedd ein brodyr yn ffyddiog mai Jehofa oedd wedi rhoi’r fuddugoliaeth iddyn nhw a hynny oherwydd eu bod nhw wedi dal ati i bregethu.—Act 1:8.

28, 29. Yng nghanol y 1980au, sut newidiodd pethau’n annisgwyl yn Saïr?

28 Saïr. Yng nghanol y 1980au, roedd tua 35,000 o Dystion yn Saïr, sydd bellach yn cael ei alw’n Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Oherwydd y twf, roedd y gangen yn adeiladu swyddfeydd newydd. Ym mis Rhagfyr 1985, cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol yn y brif ddinas, Kinshasa, gyda 32,000 o gynadleddwyr yn bresennol o wahanol rannau o’r byd. Ond ar ôl hyn, dechreuodd bethau newid i weision Jehofa. Beth ddigwyddodd?

29 Yn gwasanaethu yn Saïr bryd hynny oedd y Brawd Marcel Filteau, cenhadwr o Cwebéc, Canada, a oedd wedi cael profiad o erledigaeth yng nghyfnod Duplessis. Dyma ei ddisgrifiad o’r hyn a ddigwyddodd: “Ar 12 Mawrth, 1986, derbyniodd y brodyr lythyr yn dweud bod cymdeithas Tystion Jehofa yn Saïr bellach yn anghyfreithlon.” Llofnodwyd y gwaharddiad gan lywydd y wlad, Mobutu Sese Seko.

30. Pa benderfyniad anodd a wynebodd Pwyllgor y Gangen, a beth a wnaethon nhw?

30 Y diwrnod wedyn, dywedodd cyhoeddiad ar y radio: “Ni wnawn ni glywed am Dystion Jehofa yn [Saïr] byth eto.” Dechreuodd erledigaeth yn syth ar ôl hyn. Roedd Neuaddau’r Deyrnas yn cael eu dinistrio, a’r brodyr yn cael eu harestio, eu carcharu, a’u curo. Roedd hyd yn oed plant y Tystion yn cael eu carcharu. Ar 12 Hydref, 1988, cymerodd y llywodraeth eiddo ein cyfundrefn, a symudodd y fyddin i mewn i swyddfeydd y gangen. Cyflwynodd y brodyr apêl i’r Llywydd Mobutu, ond chawson nhw ddim ateb. Roedd Pwyllgor y Gangen yn gorfod gwneud penderfyniad anodd, “A ddylen ni apelio at y Goruchaf Lys, neu a ddylen ni aros?” Mae Timothy Holmes, a oedd yn genhadwr ac yn gydlynydd Pwyllgor y Gangen ar y pryd, yn cofio, “Roedden ni’n troi at Jehofa am ddoethineb ac arweiniad.” Ar ôl gweddïo a phwyso a mesur yn ofalus, penderfynodd y pwyllgor nad dyna oedd yr amser cywir i gymryd camau cyfreithiol. Yn lle hynny, canolbwyntion nhw ar ofalu am y brodyr a chwiorydd, a chanfod ffyrdd i barhau i bregethu.

“Pan aethon ni â’r apêl i’r llys, fe welon ni sut roedd Jehofa yn gallu newid pethau”

31, 32. Beth oedd penderfyniad syfrdanol Goruchaf Lys Saïr, a pha effaith gafodd hyn ar ein brodyr?

31 Aeth nifer o flynyddoedd heibio. Roedd y pwysau ar y Tystion yn lleihau, ac roedd mwy o barch at hawliau dynol yn y wlad. Penderfynodd Pwyllgor y Gangen fod yr amser wedi dod i herio’r gwaharddiad drwy apelio at Oruchaf Lys Cyfiawnder Saïr. Er syndod i bawb, cytunodd y Goruchaf Lys i glywed yr achos. Yna, ar 8 Ionawr, 1993, saith mlynedd ar ôl i’r llywydd arwyddo’r gwaharddiad, barnodd y Llys bod y camau a gymerodd y llywodraeth yn erbyn y Tystion yn anghyfreithlon, a chafodd y gwaharddiad ei godi. Ystyriwch beth roedd hynny yn ei olygu! Roedd y barnwyr wedi mentro eu bywydau drwy ddiddymu penderfyniad llywydd y wlad. Dywed y Brawd Holmes, “Pan aethon ni â’r apêl i’r llys, fe welon ni sut roedd Jehofa yn gallu newid pethau.” (Dan. 2:21) Roedd y fuddugoliaeth yn cryfhau ffydd ein brodyr. Roedden nhw’n teimlo bod y Brenin Iesu wedi helpu ei bobl i wybod pryd a sut i weithredu.

Tystion yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn hapus i gael rhyddid i addoli Jehofa

32 Ar ôl codi’r gwaharddiad, roedd swyddfa’r gangen yn gallu dod â chenhadon i’r wlad, adeiladu swyddfeydd newydd, a mewnforio cyhoeddiadau am y Beibl. * Roedd gweld y ffordd mae Jehofa yn amddiffyn ei bobl yn ysbrydol yn calonogi ei weision drwy’r byd.—Esei. 52:10.

Jehofa “Sy’n Fy Helpu i”

33. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o edrych ar hanes yr achosion hyn?

33 Mae edrych ar hanes y brwydrau cyfreithiol hyn yn profi bod Iesu wedi cadw ei addewid: “Bydda i’n rhoi’r geiriau iawn i chi. Fydd gan y rhai sy’n eich gwrthwynebu chi ddim ateb!” (Darllenwch Luc 21:12-15) Ar adegau, mae Jehofa wedi defnyddio barnwyr a chyfreithwyr i amddiffyn ei bobl yn yr un ffordd ag y defnyddiodd Gamaliel. Diolch i Jehofa, roedd arfau ein gwrthwynebwyr yn aneffeithiol. (Darllenwch Eseia 54:17) Ni all neb rwystro gwaith Duw.

34. Beth sydd mor rhyfeddol am ein buddugoliaethau yn y llysoedd, a beth maen nhw’n ei brofi? (Gweler hefyd y blwch “ Buddugoliaethau yn yr Uchel Lys Sydd Wedi Hyrwyddo’r Gwaith Pregethu.”)

34 Pam mae ein buddugoliaethau mor rhyfeddol? Ystyriwch hyn: Nid yw Tystion Jehofa yn bobl flaenllaw neu ddylanwadol. Nid ydyn ni’n pleidleisio, yn cefnogi pleidiau gwleidyddol, nac yn ceisio dylanwadu ar wleidyddion. Ar ben hynny, ar y cyfan, pobl ‘gyffredin ddi-addysg’ yw’r rhai ohonon ni sy’n cael ein tynnu i mewn i achosion yn yr uchel lysoedd. (Act. 4:​13) Felly o safbwynt dynol, nid oes fawr o reswm gan y llysoedd i ddyfarnu yn erbyn ein gwrthwynebwyr crefyddol a gwleidyddol. Serch hynny, dro ar ôl tro, mae’r llysoedd wedi dyfarnu o blaid y Tystion! Mae ein buddugoliaethau yn y llysoedd yn profi ein bod ni’n cerdded “yng ngŵydd Duw, yng Nghrist.” (2 Cor. 2:17, BCND) Felly fel yr apostol Paul, gallwn ni ddweud mai Jehofa “ydy’r un sy’n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn.”—Heb. 13:6.

^ Par. 9 Fe wnaeth y Brawd Hayden Covington amddiffyn y brodyr o flaen Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau 43 o weithiau. Cantwell v. State of Connecticut oedd y cyntaf o’r achosion hyn. Bu farw y Brawd Covington ym 1978. Roedd ei weddw, Dorothy, yn gwasanaethu’n ffyddlon nes iddi farw yn 2015 yn 92 oed.

^ Par. 12 Roedd y cyhuddiad, sef “seditious libel,” yn seiliedig ar ddeddf a grëwyd ym 1606 a oedd yn caniatáu i reithgor gael rhywun yn euog petaen nhw’n teimlo ei fod wedi dweud rhywbeth a fyddai’n creu anghydfod—hyd yn oed petai’n dweud y gwir.

^ Par. 14 Ym 1950, roedd 164 o weinidogion llawn amser ymhlith Tystion Jehofa yn Cwebéc—gan gynnwys 63 o raddedigion Ysgol Gilead a oedd wedi mynd yno o’u gwirfodd, er gwaethaf y gwrthwynebiad ffyrnig yno.

^ Par. 15 Roedd y Brawd W. Glen How yn dwrnai dewr a medrus. Rhwng 1943 a 2003, cynrychiolodd Tystion Jehofa mewn cannoedd o achosion llys yng Nghanada a gwledydd eraill.

^ Par. 32 Yn y diwedd, gadawodd y fyddin swyddfeydd y gangen ond adeiladwyd swyddfeydd newydd wedyn mewn ardal arall.