Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Yw Pwrpas Duw ar Ein Cyfer?

Beth Yw Pwrpas Duw ar Ein Cyfer?

AR Y TELEDU, ar y radio, neu ar y We, mae’r newyddion yn llawn hanesion am drosedd, rhyfel, a therfysgaeth. Efallai bod salwch neu brofedigaeth yn achosi poen i chi.

Gofynnwch i chi’ch hun:

  • Ydy Duw am inni ddioddef fel hyn?

  • Lle caf help i ymdopi â’m problemau?

  • A welwn ni wir heddwch ryw ddydd?

Mae’r Beibl yn rhoi atebion clir i’r cwestiynau hyn.

MAE’R BEIBL YN DYSGU Y BYDD DUW YN GWNEUD PETHAU RHYFEDDOL AR Y DDAEAR.

  • Ni fydd neb yn dioddef, nac yn heneiddio na marw.—Datguddiad 21:4

  • “Bydd y cloff yn neidio fel hydd.”—Eseia 35:6

  • “Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor.”—Eseia 35:5

  • Bydd y meirw yn dod yn ôl yn fyw.—Ioan 5:28, 29

  • Ni fydd neb yn sâl.—Eseia 33:24

  • Bydd digonedd o fwyd i bawb ar y ddaear.—Salm 72:16

ELWA AR YR HYN MAE’R BEIBL YN EI DDYSGU

Hawdd fyddai meddwl mai breuddwyd yw’r hyn rydych chi wedi ei ddarllen ar y tudalennau blaenorol. Ond mae Duw wedi addo gwneud y newidiadau hyn ar y ddaear yn fuan iawn, ac mae’r Beibl yn egluro sut bydd hynny’n digwydd.

Ond mae’r Beibl yn gwneud mwy. Mae’n esbonio sut y gallwn fod yn hapus a mwynhau ein bywydau heddiw. Meddyliwch am eiliad am y pethau sy’n eich poeni chi. Efallai bydd arian, problemau teuluol, salwch, neu brofedigaeth ar eich rhestr. Gall y Beibl eich helpu i ymdopi â phroblemau, a gall roi cysur ichi drwy ateb y cwestiynau canlynol:

Mae’r ffaith eich bod yn darllen y llyfr hwn yn dangos eich bod chi eisiau gwybod beth mae’r Beibl yn ei ddysgu. Bydd y llyfr hwn yn eich helpu. Ar gyfer pob paragraff fe welwch gwestiynau a fydd yn eich helpu chi i ddeall y Beibl yn well. Mae miliynau o bobl wedi mwynhau trafod y Beibl gyda Thystion Jehofa. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi hefyd yn cael hwyl arni. Boed i Dduw eich bendithio wrth ichi ddarganfod beth mae’r Beibl yn ei ddysgu!