Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD SAITH

Bydd Atgyfodiad!

Bydd Atgyfodiad!

1-3. Beth sydd yn ein dal ni i gyd yn garcharorion, a sut bydd Jehofa yn ein rhyddhau?

DYCHMYGWCH eich bod wedi cael eich carcharu am oes, a chithau’n hollol ddieuog. Does dim gobaith y cewch chi byth eich rhyddhau. Mae’r dyfodol yn dywyll a does dim byd y gallwch chi ei wneud am y peth. Rydych chi’n digalonni’n llwyr, ond yna, yn clywed am rywun sydd â’r gallu i’ch rhyddhau, ac sydd wedi addo eich helpu! Sut byddech chi’n teimlo?

2 Mae marwolaeth yn dal pob un ohonon ni yn garcharor. Ni waeth beth rydyn ni’n ei wneud, does dim dianc. Ond mae gan Jehofa y gallu i’n rhyddhau ni oddi wrth farwolaeth. Ac mae wedi addo: “A’r gelyn olaf i gael ei ddinistrio fydd marwolaeth.”—1 Corinthiaid 15:26.

3 Dychmygwch y rhyddhad o beidio â gorfod poeni am farw! Ond bydd Jehofa yn gwneud mwy na dileu marwolaeth. Bydd yn dod â’r rhai sydd wedi marw yn ôl yn fyw. Ystyriwch beth bydd hynny yn ei olygu i chi. Mae Duw yn addo: “Bydd dy feirw di yn dod yn fyw!” (Eseia 26:19) Dyna beth mae’r Beibl yn ei feddwl wrth sôn am yr atgyfodiad.

PAN GOLLWN ANWYLIAID

4. (a) Beth all roi cysur inni pan gollwn aelod teulu neu ffrind? (b) Pwy oedd ymhlith ffrindiau agos Iesu?

4 Pan gollwn aelod o’n teulu neu ffrind agos, gall y poen a’r galar fod yn ofnadwy. Teimlwn mor ddiymadferth. Nid oes dim y gallwn ni ei wneud i ddod â nhw yn ôl. Ond mae’r Beibl yn cynnig cysur inni. (Darllenwch 2 Corinthiaid 1:3, 4.) Dewch inni ystyried un esiampl sy’n dangos faint mae Jehofa a Iesu yn dymuno dod â’n hanwyliaid yn ôl yn fyw. Pan oedd Iesu ar y ddaear, roedd yn mynd yn aml i weld Lasarus a’i ddwy chwaer, Martha a Mair. Roedden nhw’n ffrindiau agos. Dywed y Beibl: “Roedd Iesu’n hoff iawn o Martha a’i chwaer a Lasarus.”—Ioan 11:3-5.

5, 6. (a) Beth oedd ymateb Iesu pan welodd deulu Lasarus a’i ffrindiau yn galaru? (b) Pam mae’n gysur inni wybod sut roedd Iesu yn teimlo am farwolaeth?

5 Un diwrnod, bu farw Lasarus. Aeth Iesu i gysuro Martha a Mair. Pan glywodd Martha fod Iesu yn dod, aeth i’w gyfarfod. Roedd hi’n hapus i weld Iesu, ond dywedodd wrtho: “Taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.” Roedd Martha yn meddwl bod Iesu yn rhy hwyr i helpu. Wedyn, gwelodd Iesu Mair yn wylo. Roedd Iesu yn ei ddagrau hefyd pan welodd eu tristwch. (Ioan 11:21, 33, 35) Roedd Iesu, fel ninnau, yn teimlo poen y golled i’r byw.

6 Mae gwybod bod Iesu yn teimlo’r un ffordd â ni am farwolaeth yn rhoi cysur inni. Ac mae Iesu yr un fath â’i Dad. (Ioan 14:9) Mae gan Jehofa y gallu i ddileu marwolaeth am byth, ac yn fuan iawn dyna a wna.

“LASARUS, TYRD ALLAN!”

7, 8. Pam nad oedd Martha eisiau iddyn nhw symud y garreg, ond beth wnaeth Iesu?

7 Pan ddaeth Iesu at y bedd, roedd carreg fawr wedi’i gosod dros geg yr ogof lle roedd corff Lasarus yn gorwedd. Dywedodd Iesu: “Symudwch y garreg.” Ond roedd Martha yn anfodlon. Roedd corff Lasarus wedi bod yn y bedd ers pedwar diwrnod. (Ioan 11:39) Ni wyddai beth roedd Iesu ar fin ei wneud i helpu ei brawd.

Atgyfododd Elias fab gwraig weddw.—1 Brenhinoedd 17:17-24

8 Dywedodd Iesu wrth Lasarus: “Tyrd allan!” Roedd yr hyn a welodd Martha a Mair nesaf yn gwbl syfrdanol. “Dyma’r dyn oedd wedi marw’n dod allan. Roedd ei freichiau a’i goesau wedi eu rhwymo gyda stribedi o liain.” (Ioan 11:43, 44) Dyma Lasarus wedi dod yn ôl yn fyw! Roedd ei deulu a’i ffrindiau yn gallu siarad ag ef, cyffwrdd ag ef, a’i gofleidio. Am wyrth! Roedd Iesu wedi atgyfodi Lasarus.

“COD AR DY DRAED, FERCH FACH!”

9, 10. (a) Pwy roddodd i Iesu’r nerth i atgyfodi pobl? (b) Pam mae hanesion am yr atgyfodiad yn werthfawr inni?

9 Ai yn ei nerth ei hun roedd Iesu yn atgyfodi pobl? Nage. Gweddïodd Iesu, a Jehofa a roddodd y nerth iddo atgyfodi Lasarus. (Darllenwch Ioan 11:41, 42.) Nid Lasarus oedd yr unig un i gael ei atgyfodi. Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni am ferch ddeuddeg mlwydd oed a oedd yn sâl iawn. Roedd ei thad, Jairus, yn anobeithio, ac erfyniodd ar Iesu i’w hiacháu. Hi oedd ei unig blentyn. Tra ei fod yn siarad â Iesu, daeth dynion ato a dweud: “Mae dy ferch wedi marw, felly does dim pwynt poeni’r athro ddim mwy.” Ond dywedodd Iesu wrth Jairus: “Paid bod ofn; dalia i gredu, a bydd hi’n cael ei hiacháu.” Cerddodd Iesu gyda Jairus i’w dŷ. Roedd pobl yno yn wylo. Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Stopiwch y sŵn yma, . . . dydy hi ddim wedi marw—cysgu mae hi!” Mae’n rhaid bod y rhieni wedi meddwl, ‘Beth yw ystyr geiriau Iesu?’ Gofynnodd Iesu i bawb ymadael â’r tŷ, ac aeth â Jairus a’i wraig i’r ystafell lle roedd eu merch fach yn gorwedd. Gafaelodd yn dyner yn ei llaw a dweud: “Cod ar dy draed, ferch fach!” Dychmygwch lawenydd y rhieni pan gododd hi ar ei thraed a cherdded! Roedd Iesu wedi atgyfodi eu merch. (Marc 5:22-24, 35-42; Luc 8:49-56) Fydden nhw byth yn anghofio beth roedd Jehofa wedi’i wneud drostyn nhw drwy Iesu. *

10 Yn y pen draw, bu farw’r rhai roedd Iesu wedi’u hatgyfodi. Er hynny, mae’r hanesion hyn yn werthfawr oherwydd eu bod yn rhoi gobaith inni. Mae Jehofa yn dymuno atgyfodi pobl, a dyna a wna.

YSTYR HANESION YR ATGYFODIAD

Atgyfododd yr apostol Pedr Gristion o’r enw Dorcas.—Actau 9:36-42

Dychmygwch y llawenydd pan gafodd Lasarus ei atgyfodi!—Ioan 11:38-44

11. Beth mae Pregethwr 9:5 yn ein dysgu am Lasarus?

11 Mae’r Beibl yn dweud yn glir: “Dydy’r meirw’n gwybod dim byd!” Roedd hynny’n wir am Lasarus. (Pregethwr 9:5) Yn ôl Iesu, roedd fel pe bai Lasarus wedi bod yn cysgu. (Ioan 11:11) Yn y bedd, nid oedd Lasarus yn “gwybod dim byd.”

12. Sut rydyn ni’n gwybod bod atgyfodiad Lasarus yn ffaith?

12 Gwelodd llawer o bobl atgyfodiad Lasarus. Roedd hyd yn oed gelynion Iesu yn gwybod ei fod wedi gwneud y wyrth hon. Roedd Lasarus yn fyw, ac roedd hynny’n profi bod yr atgyfodiad yn ffaith. (Ioan 11:47) Hefyd aeth llawer o bobl i weld Lasarus ac o ganlyniad, daethon nhw i gredu bod Iesu wedi ei anfon gan Dduw. Roedd hyn yn digio gelynion Iesu, ac felly fe wnaethon nhw gynllunio i ladd Iesu a Lasarus hefyd.—Ioan 11:53; 12:9-11.

13. Pam gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa yn atgyfodi’r meirw?

13 Dywedodd Iesu y bydd “pawb sy’n eu beddau” yn cael eu hatgyfodi. (Ioan 5:28) Mae hyn yn golygu y bydd pawb sydd yng nghof Jehofa yn dod yn ôl yn fyw. Ond er mwyn atgyfodi rhywun, bydd yn rhaid i Jehofa gofio pob dim am y person hwnnw. A all Jehofa wneud hynny? Wel, mae biliynau o sêr yn y bydysawd, ac mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn gwybod enw pob un. (Darllenwch Eseia 40:26.) Os yw Jehofa yn gallu cofio enw pob seren, yn sicr mae’n gallu cofio’r manylion sydd eu hangen i ddod â phobl yn ôl yn fyw. Yn bwysicach fyth, Jehofa a greodd bob peth, felly rydyn ni’n gwybod bod y gallu ganddo i ddod â phobl yn ôl yn fyw.

14, 15. Beth mae geiriau Job yn ei ddysgu inni am yr atgyfodiad?

14 Roedd y dyn ffyddlon Job yn credu yn yr atgyfodiad. Gofynnodd: “Ar ôl i rywun farw, fydd e’n cael byw eto?” Yna dywedodd wrth Jehofa: “Byddet ti’n galw, a byddwn innau’n dod; byddet yn hiraethu am waith dy ddwylo.” Roedd Job yn gwybod bod Jehofa yn edrych ymlaen at atgyfodi’r meirw.—Job 14:13-15.

15 Sut mae gobaith yr atgyfodiad yn gwneud ichi deimlo? Efallai y byddwch chi’n gofyn, ‘A fydd fy nheulu a’m ffrindiau innau yn cael eu hatgyfodi?’ Mae gwybod bod Jehofa eisiau atgyfodi’r meirw yn rhoi cysur inni. Dewch inni weld beth mae’r Beibl yn ei ddweud am bwy a gaiff ei atgyfodi a lle byddan nhw’n byw.

“CLYWED LLAIS MAB DUW AC YN DOD ALLAN”

16. Pa fath o fywyd gaiff y rhai sy’n cael eu hatgyfodi i fywyd ar y ddaear?

16 Yn y gorffennol, daeth y rhai a gafodd eu hatgyfodi yn ôl at eu teuluoedd a’u ffrindiau yma ar y ddaear. Dyna fydd yn digwydd eto yn y dyfodol, ond fe fydd yn well fyth. Pam? Oherwydd bydd y rhai sy’n cael eu hatgyfodi i’r ddaear yn cael y cyfle i fyw am byth. Byddan nhw’n byw mewn byd sy’n wahanol iawn i’r byd presennol. Fydd dim rhyfeloedd, dim trosedd, a dim salwch.

17. Pwy a gaiff ei atgyfodi?

17 Pwy a gaiff ei atgyfodi? Dywedodd Iesu y bydd “pawb sy’n eu beddau yn clywed llais Mab Duw ac yn dod allan.” (Ioan 5:28, 29) Ac mae Datguddiad 20:13 yn dweud: “Dyma’r môr yn rhoi yn ôl y bobl oedd wedi marw ynddo, a dyma Marwolaeth a Byd y Meirw yn rhoi’r bobl oedd ynddyn nhw yn ôl.” Felly bydd biliynau o bobl yn dod yn ôl yn fyw. Dywedodd yr apostol Paul hefyd y bydd pobl gyfiawn a phobl ddrwg yn cael eu hatgyfodi. (Darllenwch Actau 24:15.) Beth mae hynny’n ei feddwl?

Yn y Baradwys, bydd y meirw yn cael eu hatgyfodi a dod yn ôl at eu hanwyliaid

18. Pwy yw’r cyfiawn a fydd yn cael eu hatgyfodi?

18 Mae’r cyfiawn yn cynnwys gweision ffyddlon Jehofa, oedd yn byw cyn i Iesu ddod i’r ddaear. Er enghraifft, bydd Noa, Abraham, Sara, Moses, Ruth, ac Esther yn cael eu hatgyfodi i fywyd ar y ddaear. Gallwch ddarllen am rai o’r bobl hynny yn Hebreaid pennod 11. Beth am weision ffyddlon Jehofa sy’n marw heddiw? Maen nhw hefyd yn gyfiawn, felly cân nhw eu hatgyfodi.

19. Pwy yw’r ‘bobl ddrwg’? Pa gyfle bydd Jehofa yn ei roi iddyn nhw?

19 Mae’r ‘bobl ddrwg’ yn cynnwys biliynau o bobl na chafodd y cyfle i ddod i adnabod Jehofa. Maen nhw wedi marw, ond nid yw Jehofa wedi anghofio amdanyn nhw. Fe fydd yn eu hatgyfodi, er mwyn iddyn nhw gael y cyfle i ddysgu amdano a’i wasanaethu.

20. Pwy na fydd yn cael ei atgyfodi?

20 A yw hyn yn golygu y bydd pawb sydd wedi marw yn cael eu hatgyfodi? Nac ydy. Dywedodd Iesu na fyddai’r rhai sydd yn “Gehenna” yn cael eu hatgyfodi. Mae’r gair Gehenna yn cael ei gyfieithu’n “uffern” yn y Beibl Cymraeg. (Luc 12:5) Pwy fydd yn penderfynu a gaiff rywun ei atgyfodi neu beidio? Jehofa yw’r Barnwr uchaf oll, ac mae wedi rhoi awdurdod i Iesu i farnu “pawb sy’n fyw a phawb sydd wedi marw.” (Actau 10:42) Ni fydd atgyfodiad i’r rhai sy’n cael eu barnu’n ddrwg ac sy’n anfodlon newid.—Gweler Ôl-nodyn 19.

ATGYFODIAD I’R NEFOEDD

21, 22. (a) Pa fath o gorff bydd gan y rhai sy’n cael eu hatgyfodi i’r nef? (b) Pwy oedd yr un cyntaf i gael ei atgyfodi i’r nef?

21 Mae’r Beibl hefyd yn dweud y bydd rhai pobl yn mynd i’r nefoedd. Pan gaiff rhywun ei atgyfodi i’r nefoedd, nid yw’n dod yn ôl i fywyd dynol gyda chorff dynol. Mae’n cael ei atgyfodi i fywyd fel ysbryd yn y nef.

22 Iesu oedd yr un cyntaf i gael y math hwn o atgyfodiad. (Ioan 3:13) Dri diwrnod ar ôl i Iesu gael ei ladd, cafodd ei atgyfodi gan Jehofa. (Salm 16:10; Actau 13:34, 35) Ni chafodd Iesu gorff dynol pan gafodd ei atgyfodi. Mae’r apostol Paul yn esbonio mai corff ysbrydol a gafodd. Mae Iesu yn ysbryd pwerus. (1 Corinthiaid 15:3-6, 44, 45) Ond nid Iesu fyddai’r unig un i gael atgyfodiad o’r fath.

23, 24. Pwy sy’n perthyn i’r ‘praidd bychan’ y soniodd Iesu amdano, a faint ohonyn nhw sydd?

23 Cyn iddo farw, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion ffyddlon: “Dw i’n mynd yno i baratoi lle ar eich cyfer chi.” (Ioan 14:2) Mae hyn yn golygu y bydd rhai o’i ddilynwyr yn cael eu hatgyfodi i fod gydag ef yn y nefoedd. Ond faint? Dywedodd Iesu mai ‘praidd bach’ fydden nhw. (Luc 12:32) Datgelodd yr apostol Ioan faint yn union. Fe welodd Iesu yn sefyll ar Fynydd Seion ac ysgrifennodd: “Roedd cant pedwar deg pedwar mil o bobl gydag e.”—Datguddiad 14:1.

24 Pryd byddai’r 144,000 o Gristnogion hyn yn cael eu hatgyfodi? Dywed y Beibl y byddai hyn yn digwydd ar ôl i Grist ddechrau teyrnasu yn y nef. (1 Corinthiaid 15:23) Rydyn ni’n byw yn yr amser hwnnw nawr, ac mae’r rhan fwyaf o’r 144,000 eisoes wedi eu hatgyfodi i’r nefoedd. Bydd y rhai sy’n dal ar y ddaear ac sy’n marw yn ein hamser ni, yn cael eu hatgyfodi’n syth i fywyd yn y nef. Sut bynnag, bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu hatgyfodi yn y dyfodol i fyw yn y Baradwys ar y ddaear.

25. Beth fyddwn ni’n ei ddysgu yn y bennod nesaf?

25 Yn fuan iawn, bydd Jehofa yn rhyddhau’r ddynoliaeth oddi wrth farwolaeth, a bydd marwolaeth yn diflannu am byth! (Darllenwch Eseia 25:8.) Ond beth fydd y rhai sy’n mynd i’r nefoedd yn ei wneud yno? Mae’r Beibl yn esbonio y byddan nhw’n teyrnasu gyda Iesu mewn llywodraeth nefol. Byddwn yn dysgu mwy am y llywodraeth honno yn y bennod nesaf.

^ Par. 9 Mae hanesion eraill yn y Beibl yn disgrifio’r hen a’r ifanc, dynion a merched, pobl o genedl Israel ac o genhedloedd eraill yn cael eu hatgyfodi. Gallwch eu darllen yn 1 Brenhinoedd 17:17-24; 2 Brenhinoedd 4:32-37; 13:20, 21; Mathew 28:5-7; Luc 7:11-17; 8:40-56; Actau 9:36-42; 20:7-12.