Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD NAW

A Yw Diwedd y Byd yn Agos?

A Yw Diwedd y Byd yn Agos?

1. Ble gallwn ni ddysgu am y dyfodol?

YDYCH chi erioed wedi edrych ar y newyddion a gofyn, ‘A all pethau fynd yn waeth?’ Gyda chymaint o dristwch a chreulondeb yn y byd, mae rhai yn meddwl bod diwedd y byd yn agos. A yw hynny’n wir? A oes modd inni wybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol? Mae’n amhosib i fodau dynol weld y dyfodol, ond nid yw’n amhosib i Dduw. Yn y Beibl, mae Duw yn datgelu’r dyfodol ar gyfer y ddaear a’r bobl arni.—Eseia 46:10; Iago 4:14.

2, 3. Beth ofynnodd disgyblion Iesu, a sut aeth Iesu ati i’w hateb?

2 Pan gyfeiria’r Beibl at ddiwedd y byd, nid diwedd y ddaear sydd dan sylw ond diwedd drygioni. Dywedodd Iesu Grist y byddai Teyrnas Dduw yn rheoli’r ddaear. (Luc 4:43) Roedd ei ddisgyblion eisiau gwybod pryd byddai Teyrnas Dduw yn dod, a gofynnon nhw i Iesu: “Pryd mae beth oeddet ti’n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di’n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?” (Mathew 24:3) Yn lle rhoi dyddiad, disgrifiodd Iesu beth a fyddai’n digwydd yn y cyfnod cyn diwedd y byd. Ac mae’r pethau hynny yn digwydd heddiw.

3 Yn y bennod hon, byddwn yn ystyried y dystiolaeth ein bod ni’n byw yn y cyfnod sy’n arwain at ddiwedd y byd. Ond yn gyntaf, er mwyn inni ddeall pam mae’r sefyllfa ar y ddaear mor ddrwg, mae angen inni ddysgu am ryfel a ddigwyddodd yn y nef.

RHYFEL YN Y NEF

4, 5. (a) Beth ddigwyddodd yn y nefoedd yn fuan ar ôl i Iesu ddod yn Frenin? (b) Yn ôl Datguddiad 12:12, ar ôl i Satan gael ei fwrw i lawr, beth fyddai’n digwydd ar y ddaear?

4 Ym Mhennod 8, dysgon ni fod Iesu wedi dod yn Frenin yn y nefoedd ym 1914. (Daniel 7:13, 14) Mae llyfr Datguddiad yn disgrifio beth ddigwyddodd: “Yna dyma ryfel yn cychwyn yn y nefoedd. Roedd Michael [sef Iesu] a’i angylion yn ymladd yn erbyn y ddraig [Satan]. Roedd y ddraig a’i hangylion yn ymladd yn ôl.” * Colli’r frwydr a wnaeth Satan a’i gythreuliaid a chael eu bwrw i lawr i’r ddaear. Dychmygwch lawenydd yr angylion! Ond beth am y bobl ar y ddaear? Mae’r Beibl yn dweud y byddai cyfnod cythryblus i’r ddynoliaeth yn dilyn. Pam felly? Oherwydd bod y Diafol wedi gwylltio, “am ei fod yn gwybod mai ychydig amser sydd ganddo ar ôl.”—Datguddiad 12:7, 9, 12.

5 Mae’r Diafol yn gwneud popeth yn ei allu i greu helynt ar y ddaear. Mae’n gandryll oherwydd dim ond ychydig o amser sydd ar ôl cyn y bydd Duw yn cael gwared arno. Dewch inni edrych ar y pethau a ragfynegodd Iesu ar gyfer y dyddiau olaf.—Gweler Ôl-nodyn 24.

Y DYDDIAU OLAF

6, 7. Beth yw’r ffeithiau am ryfel a newyn heddiw?

6 Rhyfel. Dywedodd Iesu: “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd.” (Mathew 24:7) Mae mwy o bobl wedi eu lladd mewn rhyfeloedd ers 1914 nag yn ystod unrhyw gyfnod arall mewn hanes. Yn ôl un adroddiad gan y Worldwatch Institute, mae mwy na 100 miliwn wedi cael eu lladd mewn rhyfeloedd ers 1914. Bu farw mwy na theirgwaith cymaint o bobl mewn rhyfeloedd yn yr ugeinfed ganrif nag yn yr 19 canrif cyn hynny. Mae’n anodd dychmygu’r gofid a’r tristwch y mae rhyfeloedd wedi eu hachosi i filiynau o bobl!

7 Newyn. Dywedodd Iesu: “Bydd newyn mewn gwahanol leoedd.” (Mathew 24:7) Er ein bod yn cynhyrchu mwy o fwyd nag erioed, mae llawer o bobl heb ddigon i’w fwyta. Pam? Oherwydd nad oes ganddyn nhw bres i brynu bwyd, na thir i’w dyfu. Mae tua 10 y cant o bobl y byd yn byw mewn tlodi enbyd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn dweud bod miliynau o blant yn marw bob blwyddyn oherwydd nad oes ganddyn nhw ddigon o fwyd i’w cadw yn iach.

8, 9. Beth sy’n dangos bod proffwydoliaethau Iesu ynglŷn â daeargrynfeydd a chlefydau wedi dod yn wir?

8 Daeargrynfeydd. Dywedodd Iesu: “Bydd daeargrynfeydd mawr.” (Luc 21:11) Mae daeargrynfeydd mawr yn llawer mwy cyffredin erbyn hyn. Ers 1900, mae mwy na dwy filiwn o bobl wedi marw o achos daeargrynfeydd. Ac er bod technoleg yn medru canfod daeargrynfeydd yn gynt, mae pobl yn dal i farw.

9 Clefydau. Rhybuddiodd Iesu am “heintiau.” Byddai clefydau peryglus yn lledaenu’n gyflym ac yn lladd llawer. (Luc 21:11) Er bod meddygon wedi dysgu sut i drin llawer o glefydau, mae rhai nad oes modd eu gwella. Yn wir, mae un adroddiad yn esbonio bod miliynau yn marw bob blwyddyn o glefydau fel y diciâu, malaria, a cholera. Ar ben hynny, yn y deugain mlynedd diwethaf mae meddygon wedi darganfod mwy na 30 o glefydau newydd, rhai ohonyn nhw na ellir mo’u trechu.

POBL YN Y DYDDIAU OLAF

10. Sut mae 2 Timotheus 3:1-5 yn cael ei gyflawni heddiw?

10 Yn 2 Timotheus 3:1-5, mae’r Beibl yn dweud: “Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn.” Disgrifiodd yr apostol Paul y ffordd byddai llawer yn ymddwyn yn ystod y dyddiau olaf. Dywedodd y byddai pobl

  • yn hunanol

  • yn caru arian

  • yn anniolchgar

  • yn anufudd i’w rhieni

  • yn ddiserch tuag at eu teuluoedd

  • yn afreolus

  • yn filain ac yn greulon

  • yn caru pleser yn lle Duw

  • yn ymddangos yn dduwiol ond yn anufudd i Dduw

11. Yn ôl Salm 92:7, beth fydd yn digwydd i bobl ddrwg?

11 Ydy pobl wedi dechrau ymddwyn fel hyn yn eich ardal chi? Y mae wedi digwydd mewn llawer o wledydd. Ond yn fuan, bydd Duw yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Mae’n addo: “Mae pobl ddrwg yn llwyddo—ond maen nhw fel glaswellt. Er bod y rhai sy’n gwneud drwg fel petaen nhw’n blodeuo, byddan nhw’n cael eu dinistrio am byth!”—Salm 92:7.

NEWYDDION DA YN Y DYDDIAU OLAF

12, 13. Pa bethau mae Jehofa wedi ein helpu ni i’w deall yn ystod y dyddiau olaf?

12 Rhagwelodd y Beibl y byddai’r byd yn llawn poen a dioddefaint yn y dyddiau olaf. Ond mae’r Beibl hefyd yn dweud y byddai pethau da yn digwydd.

“Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd.”—Mathew 24:14

13 Deall y Beibl. Ysgrifennodd y proffwyd Daniel am y dyddiau olaf. Dywedodd y byddai pobl ddoeth “yn deall beth sy’n digwydd.” (Daniel 12:9, 10) Byddai Duw yn helpu ei bobl i ddeall y Beibl yn well. Mae Jehofa wedi gwneud hyn yn enwedig ers 1914. Er enghraifft, y mae wedi ein dysgu ni am bwysigrwydd ei enw, am ei bwrpas ar gyfer y ddaear, am y pridwerth, am beth sy’n digwydd ar ôl inni farw, ac am yr atgyfodiad. Rydyn ni wedi dysgu mai dim ond Teyrnas Dduw all ddatrys ein problemau. Rydyn ni hefyd wedi dysgu sut i fod yn hapus a sut i fyw mewn ffordd sy’n plesio Duw. Ond beth mae gweision Duw yn ei wneud gyda’r wybodaeth hon? Mae proffwydoliaeth arall yn rhoi’r ateb.—Gweler Ôl-nodiadau 2125.

14. Lle mae’r neges am Deyrnas Dduw yn cael ei chyhoeddi, a phwy sy’n ei chyhoeddi?

14 Cyhoeddi’r newyddion da drwy’r byd. Wrth drafod y dyddiau olaf, dywedodd Iesu: “Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd.” (Mathew 24:3, 14) Heddiw, mae Tystion Jehofa ‘o bob cenedl a llwyth’ yn cyhoeddi’r newyddion da mewn 240 o wledydd ac mewn mwy na 900 o ieithoedd. Maen nhw’n helpu pobl i ddeall beth yw Teyrnas Dduw a sut mae’n mynd i helpu’r ddynoliaeth. (Datguddiad 7:9) Ac maen nhw’n gwneud hyn am ddim! Er bod llawer yn eu casáu a’u herlid, nid oes dim a all atal y gwaith pregethu, yn union fel y proffwydodd Iesu.—Luc 21:17.

BETH WNEWCH CHI?

15. (a) Ydych chi’n credu ein bod yn byw yn y dyddiau olaf, ac os felly, pam? (b) Beth fydd yn digwydd i’r rhai sy’n ufuddhau i Jehofa a’r rhai sy’n gwrthod ufuddhau iddo?

15 Ydych chi’n credu ein bod yn byw yn y dyddiau olaf? Mae llawer o broffwydoliaethau’r Beibl am y dyddiau olaf yn cael eu cyflawni. Yn fuan, bydd Jehofa yn dod â’r gwaith o gyhoeddi’r newyddion da i ben ac yna bydd “y diwedd yn dod.” (Mathew 24:14) Beth yw’r diwedd? Dyma Armagedon, pan fydd Duw yn dileu pob drygioni. Bydd Jehofa yn defnyddio Iesu a’i angylion nerthol i ddinistrio unrhyw un sy’n gwrthod ufuddhau iddo Ef neu i’w Fab. (2 Thesaloniaid 1:6-9) Ar ôl hynny, ni fydd Satan a’i gythreuliaid yn camarwain neb. A bydd pawb sydd eisiau ufuddhau i Dduw a chefnogi ei Deyrnas yn gweld pob un o addewidion Duw yn cael eu gwireddu.—Datguddiad 20:1-3; 21:3-5.

16. Gan fod y diwedd mor agos, beth ddylech chi ei wneud?

16 Mae’r byd o dan reolaeth Satan ar fin dod i ben. Felly, mae’n bwysig inni ofyn i’n hunain, ‘Beth ddylwn i ei wneud?’ Mae Jehofa am ichi ddysgu cymaint ag y gallwch am y Beibl. Ewch ati o ddifri i’w astudio. (Ioan 17:3) Bob wythnos, mae Tystion Jehofa yn cynnal cyfarfodydd sy’n helpu pobl i ddeall y Beibl. Gwnewch ymdrech i fynd i’r cyfarfodydd hynny yn rheolaidd. (Darllenwch Hebreaid 10:24, 25.) Os gwelwch fod angen gwneud newidiadau yn eich bywyd, peidiwch ag ofni gwneud hynny. Wedyn, bydd eich perthynas â Jehofa yn gryfach byth.—Iago 4:8.

17. Pam bydd y rhan fwyaf o bobl yn synnu pan ddaw’r diwedd?

17 Esboniodd yr apostol Paul y bydd diwedd ar ddrygioni yn dod “yn gwbl annisgwyl” i’r rhan fwyaf o bobl, “fel mae lleidr yn dod yn y nos.” (1 Thesaloniaid 5:2) Dywedodd Iesu y byddai llawer yn dewis anwybyddu’r dystiolaeth ein bod ni’n byw yn y dyddiau olaf. Dywedodd: “Bydd hi yr un fath ag oedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. Yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i’r arch. Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd [“ni thalon nhw ddim sylw,” NW] nes i’r llifogydd ddod a’u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd!”—Mathew 24:37-39.

18. Pa rybudd roddodd Iesu inni?

18 Rhybuddiodd Iesu na ddylen ni adael i “joio, meddwi a phoeni am bethau materol” dynnu ein holl sylw. Dywedodd y bydd y diwedd yn dod yn sydyn fel trap yn cau. Ychwanegodd: “Cadwch eich llygaid yn agored! Gweddïwch y byddwch chi’n gallu osgoi’r pethau ofnadwy sy’n mynd i ddigwydd, ac y cewch chi sefyll o flaen Mab y Dyn.” (Luc 21:34-36) Pam mae gwrando ar rybudd Iesu mor bwysig? Oherwydd yn fuan iawn caiff byd drwg Satan ei ddinistrio. Dim ond y rhai y mae Jehofa a Iesu yn eu cymeradwyo fydd yn goroesi’r diwedd ac yn byw am byth yn y byd newydd.—Ioan 3:16; 2 Pedr 3:13.

^ Par. 4 Enw arall ar Iesu Grist yw Michael. Am fwy o wybodaeth, gweler Ôl-nodyn 23.