Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD DEG

Y Gwir am yr Angylion

Y Gwir am yr Angylion

1. Pam mae’n bwysig inni ddysgu am yr angylion?

MAE Jehofa yn dymuno inni adnabod ei deulu. Mae’r angylion yn rhan o deulu Duw. Mae’r Beibl yn eu galw nhw’n “feibion Duw.” (Job 38:7, BC) Beth mae’r angylion yn ei wneud? Sut maen nhw wedi helpu pobl yn y gorffennol? Ydyn nhw’n gallu ein helpu ni heddiw?—Gweler Ôl-nodyn 8.

2. Pwy a greodd yr angylion, a faint ohonyn nhw sydd?

2 I ddechrau, mae angen inni wybod pwy a greodd yr angylion. Yn ôl Colosiaid 1:16, ar ôl i Jehofa greu Iesu, crëwyd “popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear.” Mae hyn yn cynnwys yr angylion. Faint ohonyn nhw sydd? Mae’r Beibl yn dweud bod cannoedd o filiynau o angylion.—Salm 103:20; Datguddiad 5:11.

3. Beth mae Job 38:4-7 yn ei ddweud am yr angylion?

3 Mae’r Beibl hefyd yn dweud bod Jehofa wedi creu’r angylion cyn iddo greu’r ddaear. Sut roedden nhw’n teimlo pan welon nhw’r ddaear? Mae llyfr Job yn disgrifio eu llawenydd. Roedden nhw’n deulu agos yn gwasanaethu Jehofa gyda’i gilydd.—Job 38:4-7.

ANGYLION YN HELPU POBL DDUW

4. Sut rydyn ni’n gwybod bod yr angylion â diddordeb yn y teulu dynol?

4 Mae’r angylion wastad wedi bod â diddordeb yn y teulu dynol ac ym mwriad Duw ar gyfer y ddaear a’r ddynoliaeth. (Diarhebion 8:30, 31; 1 Pedr 1:11, 12) Mae’n rhaid bod yr angylion wedi teimlo’n drist pan wrthryfelodd Adda ac Efa, ac yn dristach byth o weld y rhan fwyaf o bobl yn anufudd i Jehofa. Ond mae’r angylion yn llawenhau o weld pobl yn edifarhau ac yn dod yn ôl at Dduw. (Luc 15:10) Mae’r angylion yn barod iawn i helpu’r rhai sy’n addoli Jehofa. (Hebreaid 1:7, 14) Dewch inni edrych ar esiamplau o hyn.

“Mae fy Nuw wedi anfon ei angel i gau cegau’r llewod.”—Daniel 6:22

5. Sut mae angylion wedi helpu gweision Duw yn y gorffennol?

5 Anfonodd Jehofa ddau angel i achub Lot a’i deulu o ddinistr Sodom a Gomorra. (Genesis 19:15, 16) Gannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd Daniel ei daflu i ffau’r llewod, ond ni chafodd ei niweidio, oherwydd anfonodd Duw “ei angel i gau cegau’r llewod.” (Daniel 6:22) Anfonodd Jehofa angel i ryddhau Pedr o’r carchar. (Actau 12:6-11) Roedd yr angylion yn helpu Iesu hefyd pan oedd ef ar y ddaear. Er enghraifft, ar ôl iddo gael ei fedyddio “roedd yno angylion yn gofalu amdano.” (Marc 1:13) A chyn i Iesu gael ei ddienyddio, daeth angel i’w annog a’i gryfhau.—Luc 22:43.

6. (a) Sut rydyn ni’n gwybod bod yr angylion yn helpu pobl Dduw heddiw? (b) Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hateb nesaf?

6 Heddiw, dydy angylion ddim yn ymddangos i bobl. Ond mae Jehofa yn dal i’w defnyddio i helpu ei weision. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae angel yr ARGLWYDD fel byddin yn amddiffyn y rhai sy’n ei ddilyn yn ffyddlon, ac mae’n eu hachub nhw.” (Salm 34:7) Pam mae angen inni gael ein hamddiffyn? Oherwydd bod gelynion pwerus yn ceisio ein niweidio. Pwy ydyn nhw? O ble maen nhw’n dod? Sut maen nhw’n ceisio ein niweidio? Er mwyn ateb y cwestiynau hynny, dewch inni weld beth ddigwyddodd yn fuan ar ôl i Dduw greu Adda ac Efa.

GELYNION ANWELADWY

7. Beth mae pobl wedi ei wneud oherwydd twyll Satan?

7 Ym Mhennod 3, dysgon ni fod angel drwg wedi gwrthryfela yn erbyn Duw ac yn dymuno rheoli dros eraill. Mae’r Beibl yn ei enwi’n Satan y Diafol. (Datguddiad 12:9) Roedd Satan yn awyddus i bobl wrthryfela yn erbyn Duw. Llwyddodd i dwyllo Efa, ac ers hynny y mae wedi twyllo y rhan fwyaf o bobl. Ond, ymhlith y rhai a arhosodd yn ffyddlon i Jehofa oedd Abel, Enoch, a Noa.—Hebreaid 11:4, 5, 7.

8. (a) Sut daeth rhai o’r angylion i fod yn gythreuliaid? (b) Beth a wnaeth y cythreuliaid er mwyn goroesi’r Dilyw?

8 Yn adeg Noa, gwrthryfelodd rhai o’r angylion a gadael eu lle yn y nefoedd er mwyn byw fel dynion ar y ddaear a chymryd gwragedd. (Darllenwch Genesis 6:2.) Ond doedd hi ddim yn iawn i’r angylion wneud hynny. (Jwdas 6) Yn debyg i’r angylion drwg, roedd y rhan fwyaf o bobl hefyd yn ddrwg ac yn dreisgar. Penderfynodd Jehofa ddinistrio’r bobl ddrwg drwy foddi’r holl ddaear. Ond fe achubodd ei weision ffyddlon. (Genesis 7:17, 23) Er mwyn goroesi, aeth yr angylion drwg yn ôl i’r nefoedd. Mae’r Beibl yn galw’r angylion drwg hynny yn gythreuliaid. Dewison nhw ochri gyda Satan, a daeth yntau’n Dywysog arnyn nhw.—Mathew 9:34.

9. (a) Beth ddigwyddodd i’r cythreuliaid ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i’r nefoedd? (b) Beth fyddwn ni’n ei ddysgu nesaf?

9 Gwrthryfelwyr oedd y cythreuliaid, ac felly ni wnaeth Jehofa eu derbyn nhw’n ôl i’w deulu. (2 Pedr 2:4) Ni all y cythreuliaid newid i fod yn ddynion bellach, ond hyd heddiw maen nhw’n “twyllo’r byd i gyd.” (Datguddiad 12:9; 1 Ioan 5:19) Dewch inni ddysgu sut maen nhw’n llwyddo i wneud hynny.—Darllenwch 2 Corinthiaid 2:11.

TRICIAU SLEI’R CYTHREULIAID

10. Sut mae’r cythreuliaid yn twyllo pobl?

10 Mae’r cythreuliaid yn twyllo pobl mewn sawl ffordd. Gall rhywun gysylltu â’r cythreuliaid naill ai’n uniongyrchol neu drwy gyfrwng rhywun arall. Gelwir cysylltiad â’r cythreuliaid yn ysbrydegaeth neu ddewiniaeth. Ond mae’r Beibl yn dweud y dylen ni gadw draw oddi wrth unrhyw beth sy’n ymwneud â’r cythreuliaid. (Galatiaid 5:19-21) Pam? Fel y mae heliwr yn gosod maglau i ddal anifeiliaid, felly y mae’r cythreuliaid yn defnyddio twyll i faglu pobl ac i ddylanwadu arnyn nhw.—Gweler Ôl-nodyn 26.

11. Beth yw un o driciau slei’r cythreuliaid, a pham mae’n beryglus?

11 Un o’u triciau slei yw denu pobl i geisio cael gwybod am y dyfodol drwy ffyrdd goruwchnaturiol. Efallai bydd rhai yn darllen y sêr neu’r horosgop, yn dweud ffortiwn, yn darllen cardiau, crisial, neu ddwylo. Mae rhai yn gweld y pethau hyn yn ddigon diniwed, ond dydy hynny ddim yn wir. Maen nhw’n beryglus iawn. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dangos bod pobl sy’n dweud ffortiwn yn gweithio law yn llaw â’r cythreuliaid. Yn Actau 16:16-18, darllenwn am ferch yr oedd ysbryd “yn ei galluogi i ragweld y dyfodol.” Ar ôl i’r apostol Paul orchymyn i’r ysbryd drwg ddod allan ohoni, collodd y ferch ei gallu i ddweud ffortiwn.

12. (a) Pam mae ceisio siarad â’r meirw yn beryglus? (b) Pam nad yw gweision Duw byth yn cymryd rhan mewn arferion sy’n gysylltiedig â’r cythreuliaid?

12 Mae’r cythreuliaid yn defnyddio tric arall i ddal pobl yn eu magl. Maen nhw’n ceisio gwneud inni gredu bod y meirw yn fyw, bod modd siarad â nhw, a’u bod nhw’n gallu cyfathrebu â ni a’n helpu. Er enghraifft, efallai bydd rhywun sydd wedi colli ffrind annwyl neu aelod teulu yn mynd at gyfryngwr sy’n dweud ei fod yn gallu siarad â’r meirw. Efallai bydd y cyfryngwr yn rhannu manylion diddorol am yr un sydd wedi marw neu hyd yn oed yn dynwared ei lais. (1 Samuel 28:3-19) Sail nifer o arferion a welir mewn angladdau mewn rhai gwledydd yw’r gred bod y meirw yn dal yn fyw yn rhywle. Pan nad yw Cristion yn dilyn arferion o’r fath, efallai bydd y teulu neu’r gymuned yn ei farnu, ei fychanu, neu’n gwrthod siarad ag ef. Ond mae Cristnogion yn gwybod nad yw’r meirw yn byw yn rhywle arall. Mae’n amhosib cyfathrebu â nhw, ac ni allan nhw ein helpu na’n niweidio. (Salm 115:17) Rhaid bod yn ofalus. Peidiwch byth â cheisio siarad â’r meirw neu â’r cythreuliaid, a pheidiwch byth â chymryd rhan mewn arferion sy’n gysylltiedig â’r cythreuliaid.—Darllenwch Deuteronomium 18:10, 11; Eseia 8:19.

13. Beth mae pobl a oedd ar un adeg yn ofni’r cythreuliaid wedi llwyddo i’w wneud?

13 Mae’r cythreuliaid yn twyllo pobl ac yn codi ofn arnyn nhw. Heddiw, mae Satan a’r cythreuliaid yn “gwybod mai ychydig amser” sydd ar ôl cyn y bydd Duw yn cael gwared arnyn nhw, ac felly maen nhw’n fwy milain nag erioed. (Datguddiad 12:12, 17) Sut bynnag, mae miloedd a oedd ar un adeg yn ofni’r cythreuliaid wedi llwyddo i drechu eu hofn. Sut maen nhw wedi gwneud hynny?

TORRI’N RHYDD O DDYLANWAD Y CYTHREULIAID

14. Fel y Cristnogion yn y ganrif gyntaf, sut gallwn ni dorri’n rhydd o ddylanwad y cythreuliaid?

14 Mae’r Beibl yn esbonio sut y gallwn ni wrthwynebu’r cythreuliaid a thorri’n rhydd o’u dylanwad. Er enghraifft, cyn i bobl Effesus ddysgu’r gwir, roedd rhai mewn cysylltiad â’r cythreuliaid. Sut gwnaethon nhw dorri’n rhydd? Dywed y Beibl: “Roedd nifer ohonyn nhw wedi bod yn medlan gyda dewiniaeth, a dyma nhw’n dod â’r llyfrau oedd ganddyn nhw ar y pwnc ac yn eu llosgi yn gyhoeddus.” (Actau 19:19) Oherwydd eu bod nhw’n dymuno bod yn Gristnogion, dyma nhw’n llosgi pob llyfr ar ddewiniaeth oedd ganddyn nhw. Mae angen inni wneud rhywbeth tebyg heddiw. Os dymunwn wasanaethu Jehofa, mae’n rhaid inni gael gwared ar bob dim sy’n ymwneud â’r cythreuliaid. Mae hyn yn cynnwys llyfrau, cylchgronau, horosgopau, ffilmiau, cerddoriaeth, gemau, a hyd yn oed posteri sy’n gwneud i ddewiniaeth, cythreuliaid, neu’r goruwchnaturiol edrych yn ddiniwed neu’n gyffrous. Mae hefyd yn cynnwys gemwaith y bydd pobl yn ei wisgo i’w hamddiffyn yn erbyn drwg.—1 Corinthiaid 10:21.

15. Beth arall sy’n rhaid i ni ei wneud er mwyn gwrthsefyll dylanwad Satan a’r cythreuliaid?

15 Flynyddoedd ar ôl i’r Cristnogion yn Effesus losgi eu llyfrau ar ddewiniaeth, ysgrifennodd yr apostol Paul fod y frwydr “yn erbyn y bodau ysbrydol sy’n llywodraethu” yn parhau. (Effesiaid 6:12) Er eu bod nhw wedi llosgi’r llyfrau, roedd y cythreuliaid yn dal yn ceisio eu niweidio. Felly, beth arall roedd yn rhaid iddyn nhw ei wneud? Dywedodd Paul wrthyn nhw: “Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser—byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi.” (Effesiaid 6:16) Yn debyg i darian sy’n amddiffyn milwr yn ystod rhyfel, mae ein ffydd yn ein hamddiffyn ni. Os ydyn ni’n hollol sicr y bydd Jehofa yn ein hamddiffyn, byddwn yn gallu gwrthsefyll dylanwad Satan a’r cythreuliaid.—Mathew 17:20.

16. Sut gallwn ni gryfhau ein ffydd yn Jehofa?

16 Sut gallwn ni gryfhau ein ffydd yn Jehofa? Mae’n rhaid inni ddarllen y Beibl bob dydd a dysgu sut i ddibynnu ar Dduw i’n hamddiffyn. Os ydyn ni’n rhoi ein ffydd yn Jehofa, ni fydd Satan a’r cythreuliaid yn gallu gwneud unrhyw niwed inni.—1 Ioan 5:5.

17. Beth arall fydd yn ein hamddiffyn rhag dylanwad y cythreuliaid?

17 Beth arall roedd yn rhaid i’r Cristnogion yn Effesus ei wneud? Roedden nhw’n byw mewn dinas llawn demoniaeth. Felly dywedodd Paul wrthyn nhw: “Gweddïwch bob amser.” (Effesiaid 6:18) Roedd yn rhaid iddyn nhw ofyn i Jehofa eu hamddiffyn. Beth amdanon ni? Rydyn ni hefyd yn byw mewn byd sy’n llawn demoniaeth. Mae’n rhaid i ni hefyd ofyn i Jehofa ein hamddiffyn, ac mae’n bwysig inni ddefnyddio ei enw wrth weddïo arno. (Darllenwch Diarhebion 18:10.) Os ydyn ni’n dal ati i ofyn i Jehofa ein hachub ni rhag dylanwad Satan, bydd Jehofa yn ateb ein gweddïau.—Salm 145:19; Mathew 6:13, BCND.

18, 19. (a) Sut gallwn ni ennill y frwydr yn erbyn Satan a’r cythreuliaid? (b) Pa gwestiwn bydd y bennod nesaf yn ei ateb?

18 Os dibynnwn yn llwyr ar Jehofa a chael gwared ar bopeth yn ein bywyd sy’n ymwneud â demoniaeth, byddwn yn medru torri’n rhydd o ddylanwad Satan a’r cythreuliaid. Does dim angen inni eu hofni. (Darllenwch Iago 4:7, 8.) Mae Jehofa yn llawer cryfach na’r cythreuliaid. Cosbodd Duw y cythreuliaid yn nyddiau Noa, a bydd yn eu dinistrio nhw yn y dyfodol. (Jwdas 6) Cofiwch, nid ydyn ni ar ein pennau ein hunain. Mae Jehofa yn defnyddio ei angylion i’n hamddiffyn. (2 Brenhinoedd 6:15-17) Gallwn fod yn hyderus y bydd Jehofa yn ein helpu i ennill y frwydr yn erbyn Satan a’r cythreuliaid.—1 Pedr 5:6, 7; 2 Pedr 2:9.

19 Ond, os mai Satan a’r cythreuliaid sy’n achosi’r holl boen yn y byd, pam nad yw Duw wedi eu dinistrio nhw? Bydd y bennod nesaf yn rhoi’r ateb.