Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG PEDWAR

Gallwch Fod yn Deulu Hapus

Gallwch Fod yn Deulu Hapus

1, 2. Beth mae Jehofa yn ei ddymuno ar gyfer pob teulu?

JEHOFA DDUW a drefnodd y briodas gyntaf. Mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa wedi creu Efa, y ddynes gyntaf, a “dod â hi at y dyn.” Roedd Adda wrth ei fodd a dywedodd: “O’r diwedd! Un sydd yr un fath â fi! Asgwrn o’m hesgyrn, a chnawd o’m cnawd.” (Genesis 2:22, 23) Mae hyn yn dangos bod Jehofa eisiau i bobl briod fod yn hapus.

2 Sut bynnag, nid pawb sy’n cael bywyd teuluol hapus. Ond, mae’r Beibl yn cynnig egwyddorion a all helpu pob aelod o’r teulu i gyfrannu at fywyd teuluol hapus ac i fwynhau cwmni ei gilydd.—Luc 11:28.

BETH MAE DUW’N EI OFYN GAN WŶR?

3, 4. (a) Sut dylai gŵr drin ei wraig? (b) Pam mae’n bwysig i ŵr a gwraig faddau i’w gilydd?

3 Mae’r Beibl yn dweud y dylai’r gŵr garu ei wraig a’i thrin â pharch. Darllenwch Effesiaid 5:25-29. Bydd y gŵr bob amser yn trin ei wraig yn garedig. Fe fydd yn ei hamddiffyn, ac yn edrych ar ei hôl. Ni fydd byth yn gwneud dim i’w niweidio.

4 Ond beth ddylai gŵr ei wneud pan fydd ei wraig yn gwneud camgymeriad? Mae’r Beibl yn ateb: “Rhaid i chi’r gwŷr garu’ch gwragedd a pheidio byth bod yn gas wrthyn nhw.” (Colosiaid 3:19) Cofiwch eich bod chi wŷr hefyd yn gwneud camgymeriadau. Os ydych chi am i Dduw faddau i chi, rhaid i chi faddau i’ch gwraig. (Mathew 6:12, 14, 15) Bydd gŵr a gwraig sy’n barod i faddau i’w gilydd yn hapus.

5. Pam dylai’r gŵr barchu ei wraig a gofalu amdani?

5 Mae Jehofa yn disgwyl i’r gŵr drin ei wraig â pharch. Dylai’r gŵr ystyried anghenion corfforol ac emosiynol ei wraig yn ofalus. Mae hwn yn fater difrifol. Os na fydd gŵr yn gofalu am ei wraig, mae’n bosib na fydd Jehofa yn gwrando ar ei weddïau. (1 Pedr 3:7) Mae Jehofa’n trysori pawb sydd yn ei garu. Nid yw’n gweld dynion yn well na merched.

6. Beth mae bod yn un “uned” yn ei olygu i ŵr a gwraig?

6 Esboniodd Iesu nad “dau berson ar wahân” yw gŵr a gwraig, ond un “uned.” (Mathew 19:6) Maen nhw’n ffyddlon i’w gilydd. (Diarhebion 5:15-21; Hebreaid 13:4) Dylai gŵr a gwraig ofalu am anghenion rhywiol ei gilydd mewn modd anhunanol. (1 Corinthiaid 7:3-5) Gan mai un “uned” ydyn nhw, dylai’r gŵr gofio’r cyngor: “Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain—maen nhw’n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw.” Felly dylai’r gŵr garu ei wraig a gofalu amdani. Yn fwy na dim, mae gwraig eisiau i’w gŵr fod yn garedig ac yn gariadus wrthi.—Effesiaid 5:29.

BETH MAE DUW’N EI OFYN GAN WRAGEDD?

7. Pam mae angen pen ar bob teulu?

7 Mae angen pen ar bob teulu, sef rhywun fydd yn arwain y teulu fel bod pawb yn cydweithio. Mae’r Beibl yn dweud: “Ond yr wyf am ichwi wybod mai pen pob gŵr yw Crist, ac mai pen y wraig yw’r gŵr, ac mai pen Crist yw Duw.”—1 Corinthiaid 11:3, BCND.

8. Sut gall gwraig ddangos parch at ei gŵr?

8 Mae pob gŵr yn gwneud camgymeriadau. Ond pan fydd gwraig yn cefnogi penderfyniadau ei gŵr ac yn cydweithio yn hapus ag ef, mae’r teulu cyfan yn elwa. (1 Pedr 3:1-6) Mae’r Beibl yn dweud y dylai’r wraig ‘barchu ei gŵr.’ (Effesiaid 5:33) Ond, beth os nad yw’r gŵr yn credu’r un fath â’i wraig? Mae hi’n dal i’w barchu. Mae’r Beibl yn dweud: “Dylech chi’r gwragedd priod ymostwng i’ch gwŷr. Wedyn bydd y dynion hynny sy’n gwrthod credu neges Duw yn cael eu hennill gan y ffordd dych chi’n ymddwyn, heb i chi orfod dweud gair. Byddan nhw’n dod i gredu wrth weld eich bywydau duwiol a glân chi.” (1 Pedr 3:1, 2) Bydd esiampl dda y wraig yn helpu’r gŵr i ddeall ac i barchu ei ffydd.

9. (a) Beth ddylai gwraig ei wneud os nad ydy hi’n cyd-weld â’i gŵr? (b) Pa gyngor i wragedd sydd yn Titus 2:4, 5?

9 Beth all wraig ei wneud os nad yw hi’n cyd-weld â’i gŵr? Dylai hi leisio ei barn mewn modd parchus. Er enghraifft, dywedodd Sara rywbeth nad oedd Abraham yn ei hoffi, ond dywedodd Jehofa y dylai wrando arni. (Genesis 21:9-12) Pan fydd gŵr yn gwneud penderfyniad nad yw’n groes i’r Beibl, dylai ei wraig ei gefnogi. (Actau 5:29; Effesiaid 5:24) Bydd gwraig dda yn gofalu am y teulu. (Darllenwch Titus 2:4, 5.) O weld ei gwaith caled, bydd y gŵr a’r plant yn ei charu a’i pharchu yn fwy byth.—Diarhebion 31:10, 28.

Sut mae Sara yn esiampl dda ar gyfer gwragedd?

10. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am wahanu ac ysgaru?

10 Weithiau mae pobl yn rhy gyflym i wahanu neu ysgaru. Ond mae’r Beibl yn dweud: “Ddylai gwraig ddim gadael ei gŵr. . . . A ddylai dyn ddim ysgaru ei wraig chwaith.” (1 Corinthiaid 7:10, 11) Mewn rhai amgylchiadau hynod o anodd, caiff cwpl wahanu, ond penderfyniad difrifol iawn yw hwn. Beth am ysgaru? Yr unig reswm dilys ar gyfer ysgaru, yn ôl y Beibl, yw petai’r gŵr neu’r wraig yn cael rhyw â rhywun arall.—Mathew 19:9.

BETH MAE DUW’N EI OFYN GAN RIENI?

Mae Iesu yn esiampl dda ar gyfer pob aelod o’r teulu

11. Beth sydd ei angen ar blant yn fwy na dim?

11 Rieni, treuliwch gymaint o amser â phosib gyda’ch plant. Mae eich sylw yn hanfodol i’ch plant, ac yn fwy na dim, mae angen ichi eu dysgu am Jehofa.—Deuteronomium 6:4-9.

12. Beth ddylai rhieni ei wneud i amddiffyn eu plant?

12 Mae byd Satan yn mynd o ddrwg i waeth, ac mae rhai pobl eisiau niweidio ein plant, a hyd yn oed eu cam-drin yn rhywiol. Gall fod yn anodd i rieni drafod hyn â’u plant. Ond mae angen i rieni rybuddio eu plant a dysgu iddyn nhw sut mae osgoi pobl o’r fath. Rieni, mae’n rhaid ichi amddiffyn eich plant. *1 Pedr 5:8.

13. Sut dylai rhieni ddysgu eu plant?

13 Cyfrifoldeb rhieni yw dysgu eu plant i ymddwyn yn dda. Sut gallwch chi wneud hynny? Mae angen hyfforddi eich plant, ond ni ddylech chi byth eu cywiro mewn modd creulon neu frwnt. (Jeremeia 30:11) Felly peidiwch byth â disgyblu eich plant a chithau mewn pwl o dymer. Ni fyddech chi byth eisiau brifo eich plant gyda geiriau sydd “fel cleddyf yn trywanu.” (Diarhebion 12:18) Helpwch eich plant i ddeall pam mae angen bod yn ufudd.—Effesiaid 6:4; Hebreaid 12:9-11; gweler Ôl-nodyn 30.

BETH MAE DUW’N EI OFYN GAN BLANT?

14, 15. Pam dylai plant fod yn ufudd i’w rhieni?

14 Roedd Iesu bob amser yn ufudd i’w Dad, hyd yn oed pan oedd hynny’n anodd. (Luc 22:42; Ioan 8:28, 29) Mae Jehofa yn disgwyl i blant fod yn ufudd i’w rhieni.—Effesiaid 6:1-3.

15 Blant, os ydych chi’n ei chael hi’n anodd bod yn ufudd i’ch rhieni, cofiwch fod ufudd-dod yn plesio Jehofa ac yn plesio eich rhieni. *Diarhebion 1:8; 6:20; 23:22-25.

Beth fydd yn helpu pobl ifanc i aros yn ffyddlon i Dduw a pheidio ag ildio i demtasiwn?

16. (a) Sut mae Satan yn ceisio temtio pobl ifanc i wneud drwg? (b) Pam mae’n bwysig dewis ffrindiau sy’n caru Jehofa?

16 Gall y Diafol ddefnyddio eich ffrindiau a phobl ifanc eraill i’ch temtio chi i wneud pethau drwg. Mae’n gwybod pa mor anodd yw gwrthsefyll pwysau fel hyn. Er enghraifft, roedd gan Dina, merch Jacob, ffrindiau nad oedd yn caru Jehofa. Achosodd hyn lawer o helynt iddi hi ac i’w theulu. (Genesis 34:1, 2) Os nad yw eich ffrindiau’n caru Jehofa, efallai byddan nhw’n rhoi pwysau arnoch chi i wneud rhywbeth y mae Jehofa yn ei gasáu, a bydd hynny’n eich brifo chi a’ch teulu, ac yn brifo Duw hefyd. (Diarhebion 17:21, 25) Dyna pam mae mor bwysig ichi gael ffrindiau sy’n caru Jehofa.—1 Corinthiaid 15:33.

GALLWCH FOD YN DEULU HAPUS

17. Pa gyfrifoldeb sydd gan bob aelod o’r teulu?

17 Pan fydd pawb yn y teulu’n dilyn cyngor Duw, maen nhw’n osgoi llawer o broblemau. Felly, os ydych chi’n ŵr, carwch eich gwraig a’i thrin yn garedig. Os ydych chi’n wraig, dangoswch barch i’ch gŵr ac ymostwng iddo. Byddwch fel y wraig a ddisgrifir yn Diarhebion 31:10-31. Os ydych chi’n rhiant, dysgwch eich plant i garu Duw. (Diarhebion 22:6) Os ydych chi’n dad, rhowch arweiniad caredig i’ch teulu. (1 Timotheus 3:4, 5; 5:8) A chi blant, byddwch yn ufudd i’ch rhieni. (Colosiaid 3:20) Cofiwch fod pawb yn y teulu yn gwneud camgymeriadau, felly byddwch yn ostyngedig a gofynnwch i eraill faddau i chi. Yn wir, yn y Beibl ceir cyngor Jehofa ar gyfer pob aelod o’r teulu.

^ Par. 12 Ceir mwy o wybodaeth am ffyrdd i amddiffyn eich plant yng ngwers 17 yn y gyfres fideo Dod yn Ffrind i Jehofa a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

^ Par. 15 Nid oes rhaid i blentyn ufuddhau i rieni sy’n gofyn iddo wneud rhywbeth sy’n groes i gyfraith Duw.—Actau 5:29.