Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PENNOD UN DEG CHWECH

Eich Dewis i Addoli Duw

Eich Dewis i Addoli Duw

1, 2. Pa gwestiwn mae’n rhaid inni ei ofyn i ni’n hunain, a pham mae’n bwysig?

DRWY astudio’r Beibl, rydych chi wedi gweld bod llawer sy’n honni eu bod nhw’n addoli Duw yn credu neu’n gwneud pethau mae Duw yn eu casáu. (2 Corinthiaid 6:17) Dyna pam mae Jehofa yn dweud wrthon ni am adael Babilon Fawr, sef gau grefydd. (Datguddiad 18:2, 4) Beth fyddwch chi’n ei wneud? Mae gan bob un ddewis, ond mae’n rhaid gofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i eisiau addoli yn y ffordd y mae Duw yn dymuno, neu yn y ffordd rydw i wedi gwneud erioed?’

2 Os ydych chi eisoes wedi gadael gau grefydd, mae hynny’n beth da. Ond efallai bod rhai o’r arferion sy’n perthyn i gau grefydd yn dal yn apelio atoch chi. Dewch inni drafod rhai o’r arferion hynny a gweld pam mae mor bwysig inni edrych arnyn nhw o safbwynt Jehofa.

DELWAU AC ADDOLI HYNAFIAID

3. (a) Pam mae’n anodd i rai beidio â defnyddio delwau wrth addoli Duw? (b) Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ddefnyddio delwau wrth addoli Duw?

3 Mae rhai wedi arfer defnyddio delwau neu wedi gwneud cysegrfan yn eu cartrefi er mwyn addoli Duw. Gall addoli Duw heb y pethau hyn deimlo’n ddiarth iddyn nhw, neu’n anghywir hyd yn oed. Ond Jehofa sy’n dweud wrthon ni sut y dylen ni ei addoli. Ac mae’r Beibl yn dweud yn glir nad yw Jehofa eisiau inni ddefnyddio delwau i’w addoli.—Darllenwch Exodus 20:4, 5; Salm 115:4-8; Eseia 42:8; 1 Ioan 5:21, BCND.

4. (a) Pam na ddylen ni addoli ein hynafiaid? (b) Pam dywedodd Jehofa wrth ei bobl am beidio â cheisio siarad â’r meirw?

4 Mewn rhai gwledydd mae pobl yn treulio amser ac egni yn ceisio plesio perthnasau sydd wedi marw. Mae rhai hyd yn oed yn eu haddoli. Ond rydyn ni wedi dysgu nad yw’r meirw yn gallu ein helpu na’n niweidio. Nid ydyn nhw’n byw yn rhywle arall. Mae ceisio siarad â’r meirw yn beryglus. Y gwir yw mai’r cythreuliaid sydd y tu ôl i unrhyw neges sy’n edrych fel petai’n dod oddi wrth y meirw. Dyna pam gorchmynnodd Jehofa i’r Israeliaid beidio â cheisio siarad â’r meirw, nac ymwneud ag unrhyw fath o ddewiniaeth.—Deuteronomium 18:10-12; gweler Ôl-nodiadau 2631.

5. Beth all eich helpu chi i roi’r gorau i ddefnyddio delwau wrth addoli Duw neu i beidio ag addoli eich hynafiaid?

5 Beth all eich helpu i roi’r gorau i ddefnyddio delwau wrth addoli Duw neu i beidio ag addoli eich hynafiaid? Mae angen ichi ddarllen y Beibl ac ystyried safbwynt Jehofa tuag at y pethau hyn. Yn ei olwg ef maen nhw “yn hollol ffiaidd.” (Deuteronomium 27:15) Gweddïwch ar Jehofa bob dydd am help i weld pethau fel y mae ef yn eu gweld, ac am help i’w addoli mewn ffordd sy’n ei blesio. (Eseia 55:9) Gallwch fod yn ffyddiog y bydd Jehofa yn rhoi ichi’r nerth sydd ei angen i gael gwared ag unrhyw beth yn eich bywyd sy’n perthyn i gau grefydd.

A DDYLEN NI DDATHLU’R NADOLIG?

6. Pam dewiswyd 25 Rhagfyr ar gyfer dathlu genedigaeth Iesu?

6 Y Nadolig yw un o’r gwyliau mwyaf poblogaidd yn y byd, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu mai dathlu genedigaeth Iesu yw pwrpas yr ŵyl. Ond gŵyl baganaidd yw’r Nadolig yn y bôn. Dywed un gwyddoniadur fod paganiaid Rhufeinig yn arfer dathlu pen-blwydd yr haul ar 25 Rhagfyr. Roedd arweinwyr yr eglwys eisiau i fwy o baganiaid droi’n Gristnogion, felly penderfynon nhw ddathlu genedigaeth Iesu ar 25 Rhagfyr er nad hwnnw oedd dyddiad ei eni. (Luc 2:8-12) Nid oedd disgyblion Iesu yn dathlu’r Nadolig. Yn ôl un cyfeirlyfr, am 200 mlynedd ar ôl i Iesu gael ei eni, “nid oedd neb yn gwybod, a fawr o neb yn poeni, am bryd yn union y cafodd Iesu ei eni.” (Sacred Origins of Profound Things) Dechreuodd dathliadau’r Nadolig sawl canrif ar ôl i Iesu gael ei eni.

7. Pam nad yw gwir Gristnogion yn dathlu’r Nadolig?

7 Mae llawer yn gwybod bod gwreiddiau paganaidd i’r Nadolig a’r traddodiadau, partis ac anrhegion sy’n perthyn iddo. Er enghraifft, yn Lloegr a rhannau o America, cafodd dathliadau’r Nadolig eu gwahardd ar un adeg oherwydd ei gwreiddiau paganaidd. Cafodd pobl eu cosbi am gadw’r ŵyl. Ond ymhen amser, dechreuodd pobl ddathlu unwaith eto. Pam nad yw gwir Gristnogion yn dathlu’r Nadolig? Oherwydd eu bod nhw eisiau plesio Duw ym mhob peth maen nhw’n ei wneud.

A DDYLEN NI DDATHLU PENBLWYDDI?

8, 9. Pam nad oedd y Cristnogion cynnar yn dathlu penblwyddi?

8 Peth arall y mae llawer yn ei ddathlu yw pen-blwydd. A ddylai Cristnogion ddathlu penblwyddi? Yr unig ddathliadau pen-blwydd y mae sôn amdanyn nhw yn y Beibl yw’r rhai a drefnwyd gan bobl nad oedden nhw’n addoli Jehofa. (Genesis 40:20; Marc 6:21) Cynhaliwyd dathliadau pen-blwydd i anrhydeddu gau dduwiau. Dyna pam roedd y Cristnogion cynnar “yn ystyried dathlu genedigaeth yn arferiad paganaidd.”—The World Book Encyclopedia.

9 Roedd y Rhufeiniaid a’r Groegiaid gynt yn credu bod pob genedigaeth yn cyd-daro â phen-blwydd un o’r duwiau. Roedd ysbryd gyda chysylltiad â’r duw hwnnw yn bresennol yn yr enedigaeth. Er mwyn i’r ysbryd hwnnw amddiffyn y person weddill ei oes, roedd yn rhaid dathlu’r pen-blwydd.

10. Pam na ddylai Cristnogion heddiw ddathlu penblwyddi?

10 Ydych chi’n meddwl bod dathliadau sy’n gysylltiedig â gau grefydd yn plesio Jehofa? (Eseia 65:11, 12) Nac ydyn. Dyna pam nad ydyn ni’n dathlu penblwyddi nac unrhyw wyliau eraill sy’n gysylltiedig â gau grefydd.

YDY HI’N BWYSIG?

11. Pam mae rhai yn dathlu’r Nadolig a gwyliau eraill? Beth sydd bwysicaf i chi?

11 Mae rhai pobl yn gwybod am wreiddiau paganaidd y Nadolig a gwyliau eraill, ond maen nhw’n dal yn dathlu. Maen nhw’n teimlo bod y gwyliau yn gyfle da i gael amser gyda’r teulu. Ai dyna sut rydych chi’n teimlo? Peth naturiol yw dymuno cael amser gyda’r teulu. Jehofa a greodd y teulu, ac y mae am inni fwynhau perthynas dda gyda nhw. Ond mae angen inni gofio bod ein perthynas â Jehofa yn bwysicach na phlesio’r teulu drwy ddathlu gwyliau gau grefydd. Dyna pam dywedodd yr apostol Paul: “Gwnewch beth sy’n plesio’r Arglwydd.”—Effesiaid 5:10.

12. Pa fath o wyliau sy’n annerbyniol gan Jehofa?

12 Mae llawer yn teimlo nad yw gwreiddiau’r ŵyl yn bwysig, ond nid dyna’r ffordd mae Jehofa yn teimlo. Nid yw gwyliau sy’n gysylltiedig â gau grefydd neu sy’n mawrygu bodau dynol neu symbolau cenedlaethol yn plesio Jehofa. Er enghraifft, roedd yr Eifftiaid yn cynnal llawer o wyliau ar gyfer eu gau dduwiau. Ar ôl i’r Israeliaid ddianc o’r Aifft, fe wnaethon nhw fenthyg un o’r gwyliau paganaidd a’i galw’n ŵyl i Jehofa. Ond fe wnaeth Jehofa eu cosbi. (Exodus 32:2-10) Fel y dywedodd y proffwyd Eseia: “Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan!”—Darllenwch Eseia 52:11.

BYDDWCH YN GAREDIG

13. Pa gwestiynau all godi pan fydd rhywun yn penderfynu peidio â dathlu gwyliau?

13 Pan fyddwch yn penderfynu rhoi’r gorau i ddathlu gwyliau, efallai bydd gennych chi lawer o gwestiynau. Er enghraifft: Beth ddylwn i ei wneud os bydd pobl yn y gwaith yn gofyn pam nad ydw i’n dathlu’r Nadolig? Beth os bydd rhywun yn rhoi anrheg Nadolig imi? Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy ngŵr neu fy ngwraig yn disgwyl imi ddathlu? Sut gallaf helpu fy mhlant i beidio â theimlo’n drist pan na fyddwn ni’n dathlu’r Nadolig neu benblwyddi?

14, 15. Beth allwch chi ei wneud os bydd rhywun yn dymuno Nadolig llawen ichi, neu’n rhoi anrheg ichi?

14 Mae’n rhaid bod yn gall wrth bwyso a mesur beth fyddwch yn ei ddweud a’i wneud ym mhob sefyllfa. Er enghraifft, os bydd rhywun yn dymuno “Nadolig llawen” i chi, nid oes rhaid ei anwybyddu. Fe allwch ddiolch iddo. Ond mewn sefyllfa lle mae rhywun eisiau gwybod mwy, efallai byddwch yn dewis esbonio pam nad ydych yn dathlu. Ond cofiwch fod yn garedig ac yn barchus. Mae’r Beibl yn dweud: “Byddwch yn serchog wrth siarad â nhw a pheidio bod yn ddiflas. A gwnewch eich gorau i ateb cwestiynau pawb yn y ffordd iawn.” (Colosiaid 4:6) Gallwch esbonio eich bod yn mwynhau cael cwmni eich ffrindiau a rhoi anrhegion, ond yn dewis peidio â gwneud hynny fel rhan o’r gwyliau hyn.

15 Beth ddylech chi ei wneud os bydd rhywun yn rhoi anrheg ichi? Nid yw’r Beibl yn rhoi rhestr o reolau, ond mae’n dweud y dylen ni gadw ein cydwybod yn lân. (1 Timotheus 1:18, 19) Efallai nad yw’r un sy’n rhoi’r anrheg yn gwybod nad ydych chi’n dathlu’r ŵyl. Neu fe all dweud: “Dw i’n gwybod dydych chi ddim yn dathlu’r Nadolig, ond hoffwn ichi gael hwn.” Yn y naill achos neu’r llall, eich penderfyniad chi yw derbyn yr anrheg neu beidio. Ond beth bynnag a benderfynwch, cofiwch gadw eich cydwybod yn lân. Fydden ni byth eisiau gwneud dim a fyddai’n niweidio ein perthynas â Jehofa.

YN Y TEULU

Mae pobl sy’n gwasanaethu Jehofa yn hapus

16. Beth ddylech chi ei wneud os bydd eich teulu yn dymuno dathlu’r gwyliau?

16 Beth ddylech chi ei wneud os bydd eich teulu yn dymuno dathlu? Does dim angen ffraeo. Cofiwch fod ganddyn nhw bob hawl i benderfynu beth maen nhw eisiau ei wneud. Byddwch yn garedig a pharchu eu dewis fel y dymunwch iddyn nhw barchu eich dewis chithau. (Darllenwch Mathew 7:12.) Beth ddylech chi ei wneud os bydd y teulu yn gofyn ichi fynd atyn nhw dros y gwyliau? Gweddïwch ar Jehofa am help i benderfynu’n iawn. Meddyliwch am y sefyllfa a gwnewch ymchwil. Cofiwch, byddwch chi eisiau plesio Jehofa bob amser.

17. Beth allwch chi ei wneud i helpu eich plant i beidio â theimlo’n genfigennus o weld pobl eraill yn dathlu’r gwyliau?

17 Beth allwch chi ei wneud i helpu eich plant pan fyddan nhw’n gweld pobl eraill yn dathlu? Wel, o bryd i’w gilydd fe allwch chi drefnu gwneud rhywbeth arbennig. Gallwch roi anrhegion ar adegau annisgwyl. Un o’r anrhegion gorau y gallwch ei rhoi i’ch plant yw eich amser a’ch cariad.

ADDOLI JEHOFA YN Y FFORDD IAWN

18. Pam dylen ni fynd i’r cyfarfodydd?

18 I blesio Jehofa, mae angen inni gefnu ar gau grefydd ynghyd â’r arferion a’r gwyliau sy’n perthyn iddi. Ond mae angen inni hefyd fynd ati i addoli Jehofa yn y ffordd iawn. Sut? Un ffordd yw drwy fynychu cyfarfodydd Cristnogol. (Darllenwch Hebreaid 10:24, 25.) Mae’r cyfarfodydd yn rhan bwysig o’n haddoliad. (Salm 22:22; 122:1) Pan awn ni i’r cyfarfodydd, gallwn galonogi ein gilydd.—Rhufeiniaid 1:12.

19. Pam mae’n bwysig ichi ddweud wrth eraill am yr hyn rydych chi wedi ei ddysgu yn y Beibl?

19 Ffordd arall y gallwch ddewis addoli Jehofa yw drwy siarad ag eraill am yr hyn rydych chi wedi ei ddysgu yn y Beibl. Mae llawer o bobl yn gofidio am y pethau drwg sy’n digwydd yn y byd. Efallai eich bod chi’n adnabod rhai sy’n teimlo fel hynny. Dywedwch wrthyn nhw am eich gobaith. Wrth ichi fynychu cyfarfodydd a dweud wrth eraill am neges y Beibl, byddwch chi’n colli unrhyw awydd i fod yn rhan o gau grefydd a’i harferion. Gallwch fod yn hyderus y byddwch yn hapus ac y bydd Jehofa yn eich bendithio’n fawr wrth ichi ddewis ei addoli yn y ffordd gywir.—Malachi 3:10.