Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIWN 4

Ydw i’n Barod i Gyfaddef?

Ydw i’n Barod i Gyfaddef?

PAM MAE’N BWYSIG?

Drwy gyfaddef dy fod ti’n gwneud camgymeriadau, byddi di’n dod yn ddibynadwy ac yn fwy aeddfed.

BETH BYDDET TI’N EI WNEUD?

Dychmyga hyn: Wrth chwarae â’i ffrindiau, mae Tim yn taflu pêl ac yn torri ffenestr y tŷ drws nesaf.

Os oeddet ti yn esgidiau Tim, beth byddet ti’n ei wneud?

ARHOSA A MEDDYLIA!

MAE GEN TI DRI OPSIWN:

  1. Rhedeg.

  2. Rhoi’r bai ar rywun arall.

  3. Dweud beth ddigwyddodd wrth berchennog y tŷ, a chynnig talu’r costau i’w thrwsio.

Efallai byddet ti eisiau dewis Opsiwn A. Ond mae yna resymau da iti gyfaddef dy gamgymeriadau—un ai torri ffenestr neu rywbeth arall.

TRI RHESWM I GYFADDEF DY GAMGYMERIADAU

  1. Dyna’r peth iawn i’w wneud.

    Dywed y Beibl: “Ein bod yn dymuno ymddwyn yn iawn ym mhob peth.”—Hebreaid 13:18.

  2. Mae pobl yn fwy tebygol o faddau i’r rhai sy’n cyfaddef eu camgymeriadau.

    Dywed y Beibl: “Fydd y sawl sy’n cuddio’i feiau ddim yn llwyddo; yr un sy’n cyfaddef ac yn stopio gwneud pethau felly sy’n cael trugaredd.”—Diarhebion 28:13, beibl.net.

  3. Yn bwysicaf oll, mae’n plesio Duw.

    Dywed y Beibl: “Mae’n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy’n twyllo, ond mae ganddo berthynas glòs gyda’r rhai sy’n onest.”—Diarhebion 3:32, beibl.net.

Roedd Karina, 20 oed, yn ceisio cuddio tocyn o’i thad am yrru’n rhy gyflym. Ond, roedd yn amhosib i’w guddio am byth! “Tua blwyddyn yn hwyrach,” dywedodd Karina, “sylweddolodd fy nhad fod tocyn gyrru yn fy enw i. Roedd yna helynt fawr!”

Beth yw’r wers? Dywedodd Karina: “Mae cuddio camgymeriadau dim ond yn gwaethygu’r sefyllfa. Byddi di’n talu amdano’n hwyrach!”

SUT I DDYSGU O’TH GAMGYMERIADAU

Dywed y Beibl: “Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau.” (Iago 3:2, beibl.net) Ac, fel y dysgon ni’n gynt, mae cyfaddef dy gamgymeriadau, a gwneud hynny’n syth bin, yn dystiolaeth dy fod ti’n ostyngedig ac yn aeddfed.

Y cam nesaf yw dysgu o’th gamgymeriadau. Dywedodd geneth o’r enw Vera: “Dw i’n ceisio dysgu gwers o bob un o fy nghamgymeriadau. Dw i’n edrych am bethau a fydd yn fy helpu i fod yn berson gwell neu a fydd yn fy helpu i ymateb yn wahanol mewn sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol.” Gad inni weld sut y gelli di wneud hynny.

Rwyt ti’n benthyg beic dy dad a’i falu. Beth rwyt ti’n ei wneud nesaf?

  • Dweud dim, a gobeithio na fydd dy dad yn sylwi.

  • Dweud wrth dy dad yn union beth ddigwyddodd.

  • Dweud wrth dy dad beth ddigwyddodd, ond rhoi’r bai ar rywun arall.

Rwyt ti’n methu mewn prawf oherwydd nad wyt wedi adolygu. Beth rwyt ti’n ei wneud nesaf?

  • Rhoi’r bai ar y prawf.

  • Derbyn y cyfrifoldeb am dy farciau isel.

  • Cwyno bod gan yr athro rywbeth yn dy erbyn.

Mae troi a throsi am gamgymeriadau yn y gorffennol yn debyg i yrru car wrth syllu yn y drych

Nawr, edrycha ar y sefyllfaoedd gynt a cheisia ddychmygu mai ti yw (1) dy dad, a (2) dy athro. Beth fydd dy dad a’th athro yn meddwl os wyt ti’n cyfaddef yn syth bin? Beth fyddan nhw’n meddwl os wyt ti’n ceisio cuddio dy gamgymeriad?

Nawr, meddylia am gamgymeriad wnest ti yn y flwyddyn diwethaf, ac ateba’r cwestiynau canlynol.

Beth oedd y camgymeriad? Sut gwnest ti ddelio â’r sefyllfa?

  • Fe wnes i lwyddo i’w guddio.

  • Rhoddais y bai ar rywun arall.

  • Fe wnes i gyfaddef yn syth.

Os na wnest ti gyfaddef dy gamgymeriad, sut roeddet ti’n teimlo?

  • Grêt—Wnes i osgoi’r gosb!

  • Euog—Dylwn i wedi dweud y gwir.

A oedd ffordd well o ddelio â’r sefyllfa?

Beth ddysgest ti o’th gamgymeriad?

BETH YW DY FARN DI?

Pam mae rhai yn cilio’n ôl rhag cyfaddef eu camgymeriadau?

Beth bydd pobl yn ei feddwl ohonot ti os wyt ti wastad yn ceisio cuddio dy gamgymeriadau, ond beth byddan nhw’n ei feddwl ohonot ti os wyt ti’n cyfaddef dy gamgymeriadau?—Luc 16:10.